LLB

Cyfraith Droseddol

Mae rheolaeth y gyfraith yn sylfaenol i gymdeithas deg a sifil, a gall astudio'r Gyfraith roi i chi’r gallu i wneud gwahaniaeth. Cyflwynir y cwrs gradd LLB Cyfraith Droseddol ym Mhrifysgol Aberystwyth gan Adran y Gyfraith a Throseddeg, adran a chanddi hanes hir o gynnig rhaglenni gradd yn y Gyfraith. Mae rhai o'r cyfreithwyr, y gwleidyddion a’r academyddion mwyaf nodedig yng Nghymru, Prydain a thu hwnt wedi astudio yma. Ar ein gradd LLB Cyfraith Droseddol cewch gyfle i astudio agweddau ar y system cyfraith trosedd mewn manylder, gan gynnwys agweddau fel rheoleiddio ymddygiad troseddol ac effeithiolrwydd mecanweithiau cosbi ac adsefydlu. Bydd ein gradd LLB Cyfraith Droseddol yn rhoi ichi sylfaen werthfawr ar gyfer gyrfa ym maes cyfraith trosedd, naill ai fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr, a bydd hefyd yn eich paratoi ar gyfer gwaith mewn meysydd eraill yn y system cyfiawnder troseddol gan gynnwys yr heddlu, y gwasanaeth carchardai a'r gwasanaeth prawf.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae hon yn rhaglen radd LLB ar gyfer yn yr unfed ganrif ar hugain ac mae’n berffaith ar gyfer y rhai sydd â diddordeb byw mewn cyfiawnder troseddol. Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn archwilio troseddu, cyfraith trosedd a'r system cyfiawnder troseddol a bydd gennych ddigon o gyfleoedd i ymgymryd â phrofiad gwaith gwerthfawr. 

Mae LLB Cyfraith Droseddol yn rhaglen ymarferol a gynlluniwyd i ateb gofynion cyflogwyr, ac fe’i haddysgir gan academyddion a gweithwyr proffesiynol profiadol ym maes y gyfraith sy'n gweithio gyda sefydliadau mawr e.e. GRETA, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, a Swyddfa Uchel Gomisiynydd Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. 

Byddwch yn astudio’r egwyddorion cyfraith trosedd y mae’r rhan fwyaf o droseddau yn seiliedig arnynt, a'r meini prawf allweddol ar gyfer adnabod y troseddau mwyaf difrifol. Byddwch hefyd yn archwilio'r prif achosion a'r ddeddfwriaeth sy'n llywodraethu ar gyfraith trosedd ac yn archwilio safbwyntiau damcaniaethol allweddol sy'n helpu i esbonio troseddu ac anhrefn gymdeithasol mewn cymdeithas. Bydd hyn yn rhoi cyfle i chi archwilio safbwyntiau troseddegol o fewn eu cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol. 

Bydd modd i chi fanteisio ar gyfleoedd cymdeithasol a phroffesiynol rhagorol, er enghraifft ymweliadau â Ffeiriau'r Gyfraith ac Ysbytyau’r Brawdlys (Inns of Court) yn Llundain. 

Mae LLB Cyfraith Droseddol yn cynnig nifer o bosibiliadau, gan gynnwys cyfle i wneud modiwl lleoliad gwaith mewn gwahanol feysydd o'r gyfraith, neu i astudio dramor yn yr ail flwyddyn yn un o'r nifer o bartner brifysgolion sydd gennym yn Ewrop, UDA, Canada, ac Awstralia. 

Cewch gyfle i gyfoethogi’ch astudiaethau trwy gymryd rhan yn ein Cymdeithas Ymryson Cyfreitha, sy'n cystadlu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol, er mwyn datblygu'ch sgiliau allweddol wrth gyfreitha ac eirioli. Hefyd, i fyfyrwyr sy'n dymuno ymrysona trwy gyfrwng y Gymraeg, rydyn ni’n cynnig cystadleuaeth Ymryson trwy’r Gymraeg. 

Ein Staff

Mae gan staff Adran y Gyfraith a Throseddeg gan mwyaf naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu mae ganddynt brofiad proffesiynol a chymwysterau fel cyfreithwyr wrth eu gwaith. Mae gan lawer o'r staff hefyd gymhwyster dysgu uwchraddedig (Addysg Uwch).

Modiwlau Dechrau medi - 2026

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contract Law LC13820 20
Criminal Law LC10520 20
Cyfraith Gyhoeddus CT10620 20
Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol CT10420 20
System Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol CT10120 20
Tort LC11120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Equity and Trusts LC24920 20
European Law LC20720 20
Land Law LC24820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Climate Change and Environmental Law LC27720 20
Commercial Law LC26220 20
Crime and the Media LC24320 20
Cyflwyniad i Droseddeg CT22220 20
Employment Law LC26820 20
Family and Child Law LC26420 20
Humanitarian Law LC27620 20
Intellectual Property Law LC28620 20
International Law LC26920 20
Introduction to Criminology LC22220 20
Medicine Ethics and the Law LC26720 20
Principles of Evidence LC26520 20
Psychological Explanations of Criminal Behaviour LC28120 20
Sports Law and Society LC27920 20
Treatment and Rehabilitation of Offenders LC29120 20
Troseddau & Chyfiawnder Ieuenctid CT26120 20
Youth Crime and Justice LC26120 20

Gyrfaoedd

Wrth gwblhau’r radd LLB Cyfraith Droseddol yn Aberystwyth, bydd gennych allu i’w ddefnyddio yn y byd go-iawn, a fydd yn eich galluogi i lywio eich dyfodol a datblygu gyrfa deilwng. Yn ogystal â rhoi sylfaen werthfawr i chi ar gyfer gyrfa ym maes cyfraith trosedd fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr, bydd y radd hon yn eich paratoi ar gyfer gwaith mewn meysydd eraill yn y system cyfiawnder troseddol gan gynnwys yr heddlu, y gwasanaeth carchardai a'r gwasanaeth prawf. Mae graddedigion diweddar y cwrs gradd LLB Cyfraith Droseddol yn Aberystwyth wedi mynd ymlaen i yrfaoedd yn adrannau cynghori'r llywodraeth, ymchwilio i gyfiawnder a chymorth i ddioddefwyr, plismona, y gwasanaeth carchardai a'r gwasanaeth prawf.  

 Mae eich dyfodol yn bwysig i ni, a bydd ein cyrsiau gradd yn rhoi'r canlynol i chi: 

  • hyder i ddewis a defnyddio'r ystod fwyaf priodol o fethodolegau cyfreithiol 
  • gallu i ysgrifennu ac i gyfathrebu ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan werthuso a threfnu gwybodaeth 
  • gallu i gasglu, dosbarthu a dehongli cyfoeth o wybodaeth gyfreithiol yn gyflym a chywir 
  • gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar 
  • gallu i ddatrys problemau a meddwl creadigol effeithiol 
  • gallu i weithio'n annibynnol 
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys gallu gweithio i derfynau amser 
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i’ch ysgogi eich hun 
  • gallu i weithio mewn tîm ac i drafod cysyniadau mewn grwpiau, gan roi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb 
  • sgiliau ymchwil. 

Cyfleoedd datblygu gyrfa wrth i chi astudio  

Dysgwch fwy am y cyfleoedd amrywiol y mae Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch rhagolygon am swydd gyda GO Wales a’n Cynllun Blwyddyn Mewn Gwaith (BMG) sy'n cael eu rheoli gan ein Gwasanaeth Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech fod yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn eich blwyddyn gyntaf:

  • byddwch yn cael hyfforddiant craidd mewn nifer o bynciau, e.e Cyfraith Contractau, Cyfraith Droseddol a Chyfraith Camwedd, y mae'n rhaid eu hastudio a'u pasio er mwyn cael eich eithrio o gam cyntaf arholiadau proffesiynol y gyfraith.
  • byddwch yn edrych ar strwythur a datblygiad system gyfreithiol Cymru a Lloegr
  • byddwch yn astudio’r berthynas rhwng cynsail farnwrol a'r gyfundrefn lysoedd
  • byddwch yn dadansoddi'r broses o greu deddfwriaeth a sut y caiff ei dehongli gan farnwyr.

Yn eich ail a'ch trydedd flwyddyn, mae’n bosibl y byddwch yn cael cyflwyniad i’r canlynol:

  • Cyfraith yr UE
  • Cyfraith Gyhoeddus
  • Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau a Chyfraith Tir. 

Hefyd, bydd modd i chi deilwra'ch astudiaeth trwy ddewis yn ofalus o blith nifer o fodiwlau dewisol.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

  • Byddwch yn cael eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau blaengar a safonol a fydd yn eich cynorthwyo i wireddu eich potensial.
  • I Yn eich darlithoedd cewch eich cyflwyno i gysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol a pherthnasol. Byddwch hefyd yn gallu defnyddio fersiynau wedi'u recordio o'r darlithoedd.
  • Mae ein tiwtorialau a'n seminarau yn gyfle i chi drafod themâu neu bynciau cyfreithiol penodol, ac i gloriannu a chael adborth ar eich dysgu unigol, gan wella'ch dull o lunio dadleuon cyfreithiol ar yr un pryd. 
  • Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau, arholiadau, cofnodion astudio neu bortffolios, a chyflwyniadau llafar, gan gynnwys ymarferion ymrysona.
  • Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo ar eich cyfer trwy gydol eich cwrs. Eich tiwtor personol fydd y cyswllt allweddol os oes angen help arnoch gydag unrhyw beth yn ystod eich gradd tair blynedd, boed yn academaidd neu’n fugeiliol.
  • Byddwch hefyd yn cael cyfle i wneud Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth.  Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain trywydd eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol.  Drwy gofnodi’ch perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych eisoes a'r rhai y bydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r medrau angenrheidiol i chi allu cynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau astudio llwyddiannus, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Dw i wrth fy modd bod dewis mor eang o fodiwlau ar gael, sy'n ei gwneud hi'n bosib i fi ddarganfod pa feysydd cyfreithiol sydd o ddiddordeb i fi. Dw i'n hoffi'r ffaith bod darlithwyr a thiwtoriaid seminar yn wybodus y tu allan i'w harbenigedd, sy'n eich galluogi i werthfawrogi'r gorgyffwrdd rhwng modiwlau. Christopher Dunn

Fe wnes i ddewis astudio gradd LLB y Gyfraith gan fy mod am fynd ymlaen i hyfforddi fel cyfreithiwr. Un o'r pethau gwych am y radd yw'r ystod eang o fodiwlau opsiynol y gallwch eu dewis, ac os nad ydyn nhw'n cael eu cynnig bob blwyddyn - sy'n wir am ambell un - maen nhw'n cael eu cynnal bob yn ail flwyddyn, felly rydych yn sicr o gael cyfle i astudio'r rhai rydych chi eisiau. Hefyd, mae'r staff yn gyfeillgar iawn ac yn hawdd siarad â nhw, sy'n golygu y bydd unrhyw broblemau, materion neu gwestiynau sydd gennych yn cael eu hateb yn gyflym ac yn hawdd. Er bod y cwrs yn golygu llawer o waith caled, fel sy'n wir am unrhyw radd, mae'n werth chweil yn y pen draw, a byddwch yn siŵr o gael hwyl ac ennill profiad ar yr un pryd! Katie Jayne Mansell

Mae'r cyfuniad o gwrs gwych gyda thref hardd yn berffaith. Dw i wedi mwynhau astudio'r Gyfraith yn Aberystwyth dros y tair blynedd diwethaf. Er ei fod wedi bod yn waith caled a blinedig, mae wedi bod yn wefreiddiol ac yn heriol hefyd. Mae'r holl ddarlithwyr, tiwtoriaid a staff yn hynod gyfeillgar a chymwynasgar ac yn ymfalchïo yn yr adran a'r ffordd caiff modiwlau eu haddysgu. Mae gan Lyfrgell y Gyfraith bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich gradd, felly does dim angen i chi fynd yn bell. Mae'r cwrs yn denu cymaint o wahanol bersonoliaethau a myfyrwyr o wahanol gefndiroedd, ac mae treulio tair blynedd gyda nhw yn wych. Mae'r modiwlau'n cynnig dewis gwych. William Pryce

Mae'r gyfraith yn bwnc heriol sy'n fy ymestyn bob dydd - a dyna'n union pam dw i'n ei fwynhau! Diolch i'r staff gwych a'r adnoddau helaeth sydd ar gael i fyfyrwyr, mae'r her wedi parhau i fod o fewn fy nghyrraedd. Mae Aberystwyth ei hun yn dref wych, yn ddelfrydol ar gyfer amrywiaeth o fyfyrwyr. Mae ganddi rywbeth i'w chynnig i bawb, a does unman gwell er mwyn gwneud ffrindiau agos. Mae'r dref yn hamddenol ac yn groesawgar iawn, a phan fydd hi'n braf, does unman gwell i fod. Andrew James Hall

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 104

Safon Uwch ABB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|