LLB

Cyfraith Busnes

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae rheolaeth y gyfraith yn sylfaenol i gymdeithas deg a sifil, a gall astudio'r Gyfraith roi i chi’r gallu i wneud gwahaniaeth. Nod y cwrs gradd LLB Cyfraith Busnes ym Mhrifysgol Aberystwyth, a addysgir yn Adran y Gyfraith hynaf a mwyaf hirsefydlog Cymru, yw cyflwyno’r wybodaeth ffurfiol fydd ei hangen arnoch er mwyn adeiladu gyrfa gyfreithiol lwyddiannus yn yr unfed ganrif ar hugain, a’ch galluogi i feithrin gwybodaeth arbenigol ym maes Cyfraith Busnes yr un pryd. 

Mae sylfaen yn y gyfraith yn hanfodol ar gyfer rhedeg unrhyw fusnes yn llwyddiannus. P'un a ydych yn bwriadu rhedeg eich busnes eich hun, neu gynghori'r sector masnachol, mae'r radd Cyfraith Busnes yn gyfle i ddeall pynciau cyfreithiol sy'n ymwneud â'r byd busnes. Os mai bod yn weithiwr cyfreithiol proffesiynol sy’n mynd â’ch bryd neu os hoffech ystyried dewisiadau eraill, y rhaglen radd hon yw’r cam cyntaf ar eich taith i yrfa werth chweil.  

Trosolwg o'r Cwrs

Mae M140 Cyfraith Busnes yn rhaglen ymarferol a gynlluniwyd i fodloni anghenion cyflogwyr, ac fe’i haddysgir gan academyddion a gweithwyr proffesiynol profiadol ym maes y gyfraith. 

Fe’i haddysgir gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda sefydliadau mawr e.e. GRETA, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, a Swyddfa Uchel Gomisiynydd Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. 

Mae pob un o’n graddau LLB yn rhoi sylfaen ardderchog i'r rhai sy'n bwriadu cymhwyso'n gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. 

Bydd modd i chi fanteisio ar gyfleoedd cymdeithasol a phroffesiynol rhagorol, er enghraifft ymweliadau â Ffeiriau'r Gyfraith ac Ysbytyau’r Brawdlys (Inns of Court) yn Llundain. 

Cewch gyfle i gymryd rhan yn ein menter 'GwobrCaisDyfeisio' - ein cystadleuaeth entrepreneuriaeth i fyfyrwyr yn arddull Dragon's Den. Mae’r WobrCaisDyfeisio yn gyfle i fyfyrwyr mentergar gyflwyno eu syniadau i banel o gyn-fyfyrwyr amlwg Prifysgol Aberystwyth. Dyfernir gwobr ariannol i’r cais llwyddiannus i’w fuddsoddi'r mewn offer, cyfleusterau neu wasanaethau proffesiynol er mwyn gwireddu’r syniad am ddyfais neu fusnes newydd. 

Mae LLB Cyfraith Busnes yn cynnig nifer o bosibiliadau, gan gynnwys cyfle i wneud modiwl lleoliad gwaith mewn gwahanol feysydd o'r gyfraith, ac i astudio dramor yn yr ail flwyddyn yn un o'r nifer o bartner brifysgolion sydd gennym yn Ewrop, UDA, Canada, ac Awstralia. 

Cewch gyfle i gymryd rhan yn ein Cymdeithas Ymryson Cyfreitha, sy'n cystadlu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol, er mwyn datblygu'ch sgiliau allweddol wrth gyfreitha ac eirioli. Rydyn ni’n cynnig cystadleuaeth Ymryson trwy’r Gymraeg i fyfyrwyr sy'n dymuno ymrysona trwy gyfrwng y Gymraeg.  

Ein Staff

Mae gan staff Adran y Gyfraith a Throseddeg gan mwyaf naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu mae ganddynt brofiad proffesiynol a chymwysterau fel cyfreithwyr wrth eu gwaith. Mae gan lawer o'r staff hefyd gymhwyster dysgu uwchraddedig (Addysg Uwch).

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contract Law LC13820 20
Cyfraith Droseddol CT10520 20
Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol CT10420 20
System Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol CT10120 20
Tort LC11120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cyflwyniad i Droseddeg CT12220 20
Cyflwyniad i Droseddeg CT12220 20
Law in Action LC13220 20
Y Gyfraith ar Waith CT13220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Law and Criminology Dissertation LC39020 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Business Law and Practice and Solicitors Accounts LC31420 20
Climate Change and Environmental Law LC37720 20
Commercial Law LC36220 20
Community Justice LC30320 20
Company Law LC37220 20
Contemporary Issues in Criminology LC34220 20
Criminal Law and Practice LC31620 20
Critical and Radical Criminology LC37120 20
Cyflwyniad i Droseddeg CT32220 20
Cyfraith a Pholisi Cymru CT30820 20
Dispute Resolution in Contract and Tort LC31520 20
Drugs and Crime LC38220 20
Employability Skills for Professionals LC36620 20
Family and Child Law LC36420 20
Human Rights LC35220 20
Humanitarian Law LC37620 20
Intellectual Property Law LC38620 20
International Law LC36920 20
Introduction to Criminology LC32220 20
Labour Law LC36820 20
Medicine Ethics and the Law LC36720 20
Police, Policing and Society LC31020 20
Principles of Evidence LC36520 20
Principles of Professional Conduct, Public & Administrative Law, Legal System of England & Wales & L LC31320 20
Property Law and Practice LC31820 20
Psychological Explanations of Criminal Behaviour LC38120 20
Psychopathology LC39220 20
Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol CT36620 20
Sports Law and Society LC37920 20
Technology, Artificial Intelligence and the Law LC32420 20
Treatment and Rehabilitation of Offenders LC39120 20
Trosedd & Chyfiawnder Ieuenctid CT36120 20
Trosedd yn y Gymru Gyfoes CT30220 20
Troseddeg Feirniadol a Radical CT37120 20
Trusts, Wills and the Administration of Trusts and Estates LC31720 20
Youth Crime and Justice LC36120 20
Yr Heddlu, Plismona a'r Gymdeithas CT31020 20
Cyfraith Tir CT34820 20
Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau CT34920 20
Equity and Trusts * LC34920 20
Land Law * LC34820 20

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Mae eich gradd LLB Cyfraith Busnes yn cynnig ystod o gyfleoedd cyffrous i chi. Byddwch yn ymgeisydd cryf ar gyfer hyfforddiant i ddod yn fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr. 

Mae eich gradd LLB Cyfraith Busnes yn cynnig posibilrwydd i chi lwyddo mewn llawer o wahanol feysydd, gan gynnwys:

  • troseddeg
  • rheoli ariannol 
  • busnes
  • adnoddau dynol 
  • cysylltiadau rhyngwladol 
  • newyddiaduraeth
  • addysg.

Mae eich dyfodol yn bwysig i ni, a bydd ein cwrs gradd yn rhoi'r sgiliau canlynol i chi: 

  • yr hyder i ddewis a defnyddio'r ystod fwyaf priodol o fethodolegau cyfreithiol
  • y gallu i ysgrifennu ac i gyfathrebu gydag amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan werthuso a threfnu gwybodaeth
  • y gallu i gasglu, dosbarthu a dehongli cyfoeth o wybodaeth gyfreithiol yn gyflym ac yn gywir
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • sgiliau ymchwil.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Mae ein gradd LLB Cyfraith Busnes yn radd thematig. Bydd y flwyddyn astudio gyntaf yr un peth â’r radd M100 LLB yn y Gyfraith a bydd yr ail a’r drydedd flwyddyn yn canolbwyntio’n fwy penodol ar Gyfraith Busnes - cyfraith fasnachol, cyfraith cwmnïau, ac atebolrwydd corfforaethol yn benodol. 

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf byddwch yn cael hyfforddiant craidd mewn nifer o bynciau cyfreithiol safonol. 

Byddwch yn dysgu am y gofynion cyffredinol ar gyfer contract cyfreithiol dilys, yn edrych ar annhegwch gweithdrefnol a'r partïon i'r contract, ac yn astudio gwahanol agweddau ar delerau'r contract.

Cewch gyfle i ddeall ac archwilio'n feirniadol y dystiolaeth, y cysyniadau, y trafodaethau a'r pynciau llosg sy'n gysylltiedig ag astudio cyfraith trosedd. 

Byddwch yn dysgu am sgiliau cyfreithiol ac ymchwil ac yn cael sylfaen drylwyr yn y sgiliau sydd eu hangen i astudio'r gyfraith, gan gynnwys dadansoddi beirniadol, darllen deddfwriaeth, ffynonellau'r gyfraith, defnyddio cronfeydd data cyfreithiol, rhesymu cyfreithiol, ysgrifennu traethodau a phapurau cyfreithiol. 

Byddwch yn astudio elfennau’r system gyfreithiol sy’n hanfodol i radd gymhwysol yn y gyfraith, ac yn cael trosolwg cynhwysfawr o’r system cyfiawnder troseddol. Byddwch hefyd yn archwilio’r berthynas rhwng y ddwy system, a sut y maent yn rhyngweithio â’i gilydd. 

Byddwch yn archwilio egwyddorion sylfaenol camwedd, hynny yw, hawl unigolion i geisio rhwymedïau cyfreithiol preifat am gamweddau y maent wedi’u dioddef gan eraill, naill ai’n fwriadol neu trwy esgeuluster. 

Byddwch yn ystyried safbwyntiau damcaniaethol allweddol sy’n helpu i esbonio troseddu ac anhrefn gymdeithasol mewn cymdeithas. Cewch eich cyflwyno i safbwyntiau troseddegol yn eu cyd-destunau cymdeithasol a gwleidyddol.  

Byddwch yn cael trosolwg cynhwysfawr a rhyngweithiol o sut mae’r gyfraith yn gweithredu mewn cymdeithas, trwy edrych ar y modd y’i defnyddir mewn materion a digwyddiadau cyfoes. 

Yn eich ail flwyddyn a'ch blwyddyn olaf byddwch yn astudio nifer fach o bynciau cyfreithiol craidd ac yn teilwra eich astudiaethau drwy ddewis yn ofalus o blith amrywiaeth o fodiwlau dewisol. 

Gradd thematig yw hon a byddwch yn cael eich cyfeirio gan yr Adran tuag at fodiwlau sy'n berthnasol i thema'r cynllun. Bydd y traethawd hir hefyd yn berthnasol i themâu penodol y cynllun. 

Sut fydda i'n cael fy nysgu? 

  • Byddwch yn cael eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau blaengar a safonol a fydd yn eich cynorthwyo i wireddu eich potensial. 
  • Yn eich darlithoedd, cewch eich cyflwyno i gysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol a pherthnasol. Byddwch hefyd yn gallu defnyddio fersiynau wedi'u recordio o'r darlithoedd. 
  • Mae ein tiwtorialau a'n seminarau yn gyfle i chi drafod themâu neu bynciau cyfreithiol penodol, ac i werthuso a chael adborth ar eich dysgu unigol, gan wella'ch dull o lunio dadleuon cyfreithiol ar yr un pryd. 
  • Byddwch yn cael eich asesu trwy amryw ddulliau, traethodau, arholiadau, log neu bortffolio astudio, a chyflwyniadau llafar, gan gynnwys ymarferion ymrysona. 
  • Bydd gennych diwtor personol trwy gydol eich amser yn Ysgol y Gyfraith Aberystwyth, ac ef neu hi fydd eich prif gyswllt os bydd gennych broblem neu ymholiad. 
  • Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol. 

 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae'r gyfraith yn bwnc heriol sy'n fy ymestyn bob dydd - a dyna'n union pam dw i'n ei fwynhau! Diolch i'r staff gwych a'r adnoddau helaeth sydd ar gael i fyfyrwyr, mae'r her wedi parhau i fod o fewn fy nghyrraedd. Mae Aberystwyth ei hun yn dref wych, yn ddelfrydol ar gyfer amrywiaeth o fyfyrwyr. Mae ganddi rywbeth i'w chynnig i bawb, a does unman gwell er mwyn gwneud ffrindiau agos. Mae'r dref yn hamddenol ac yn groesawgar iawn, a phan fydd hi'n braf, does unman gwell i fod. Andrew James Hall

Fe wnes i ddewis astudio gradd LLB y Gyfraith gan fy mod am fynd ymlaen i hyfforddi fel cyfreithiwr. Un o'r pethau gwych am y radd yw'r ystod eang o fodiwlau opsiynol y gallwch eu dewis, ac os nad ydyn nhw'n cael eu cynnig bob blwyddyn - sy'n wir am ambell un - maen nhw'n cael eu cynnal bob yn ail flwyddyn, felly rydych yn sicr o gael cyfle i astudio'r rhai rydych chi eisiau. Hefyd, mae'r staff yn gyfeillgar iawn ac yn hawdd siarad â nhw, sy'n golygu y bydd unrhyw broblemau, materion neu gwestiynau sydd gennych yn cael eu hateb yn gyflym ac yn hawdd. Er bod y cwrs yn golygu llawer o waith caled, fel sy'n wir am unrhyw radd, mae'n werth chweil yn y pen draw, a byddwch yn siŵr o gael hwyl ac ennill profiad ar yr un pryd! Katie Jayne Mansell

Mae'r cyfuniad o gwrs gwych gyda thref hardd yn berffaith. Dw i wedi mwynhau astudio'r Gyfraith yn Aberystwyth dros y tair blynedd diwethaf. Er ei fod wedi bod yn waith caled a blinedig, mae wedi bod yn wefreiddiol ac yn heriol hefyd. Mae'r holl ddarlithwyr, tiwtoriaid a staff yn hynod gyfeillgar a chymwynasgar ac yn ymfalchïo yn yr adran a'r ffordd caiff modiwlau eu haddysgu. Mae gan Lyfrgell y Gyfraith bopeth sydd ei angen arnoch ar gyfer eich gradd, felly does dim angen i chi fynd yn bell. Mae'r cwrs yn denu cymaint o wahanol bersonoliaethau a myfyrwyr o wahanol gefndiroedd, ac mae treulio tair blynedd gyda nhw yn wych. Mae'r modiwlau'n cynnig dewis gwych. William Pryce

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 104

Safon Uwch ABB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|