MSc

Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Gofynion Mynediad 2:2 Bachelors (Honours) degree in criminology or a related subject area, or equivalent.  Non-graduates will be considered individually based on relevant work experience.

Gofynion Iaith Saesneg IELTS 6.5 gydag o leiaf 5.5 ym mhob cydran, neu gyfatebol

Gofynion Eraill Anogir ymgeiswyr i gyflwyno eu CV diweddaraf yn rhan o'u cais.

Yn ôl i'r brig

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Adran y Gyfraith a Throseddeg yn darparu awyrgylch ysgogol o ymholi ac ymgysylltu academaidd trylwyr lle gall myfyrwyr ddatblygu eu diddordebau a'u sgiliau troseddegol eu hunain. Mae'r MSc Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol yn seiliedig ar gred graidd ym mhwysigrwydd cymhwyso damcaniaeth i ymarfer, a defnyddio tystiolaeth empirig gadarn i werthuso'r canlyniadau. Bydd myfyrwyr ar y rhaglen hon yn cael cyfle i astudio sut mae cymhwyso damcaniaeth troseddegol i gyd-destunau troseddau bywyd go iawn, problemau cymdeithasol a'u rheolaeth a'u hataliad. Bydd y radd yn darparu cyfle ardderchog i feistroli gwybodaeth a sgiliau sy'n addas ar gyfer amgylcheddau proffesiynol a gyrfaoedd, gan gynnwys ymchwil a’r byd academaidd, adrannau'r llywodraeth, asiantaethau cyfiawnder troseddol, a sefydliadau gwirfoddol yn y sector cyfiawnder troseddol.

Ynglŷn â’r Cwrs Yma

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Bydd graddedigion o'r radd hon yn gadael gyda'r wybodaeth a'r gallu proffesiynol i ymarfer yn annibynnol, myfyrio, adolygu ac adeiladu ar arbenigedd a barn disgyblaethol. Mae addysgu, dysgu ac asesu'r rhaglen yn gofyn i fyfyrwyr ddatblygu sgiliau moesegol, sgiliau dadansoddi beirniadol, sgiliau ymchwil a sgiliau cyflwyno a fydd yn eich galluogi i rannu eich arbenigedd troseddegol mewn lleoliadau academaidd a phroffesiynol.

Mae gyrfaoedd posibl yn cynnwys:

  • adrannau'r llywodraeth ac asiantaethau cyfiawnder troseddol
  • mudiadau gwirfoddol / mudiadau anllywodraethol ym maes trosedd a chyfiawnder
  • sefydliadau rhyngwladol, megis y Cenhedloedd Unedig
  • ymchwil a'r byd academaidd.

Dysgu ac Addysgu

Byddwch yn cael amgylchedd dysgu ysgogol, gyda grwpiau dysgu bach, sy'n addas ar gyfer profiad dysgu clir a phersonol. Drwy gydol y cynllun, mae’r pwyslais ar ddysgu hunangyfeiriedig, ymgysylltu â damcaniaeth a dadleuon troseddegol clasurol a chyfoes, a chymhwyso safbwyntiau ac egwyddorion troseddegol craidd i feysydd penodol i'w hystyried.

Cyflawnir y canlyniadau dysgu (gwybodaeth a sgiliau) drwy raglen integredig o ddarlithoedd, seminarau, goruchwyliaeth, sesiynau ymarferol, gwaith grŵp a darllen annibynnol, dan arweiniad a'ch ymdrechion ymchwil eich hun. Mae darlithoedd yn cyflwyno meysydd eang o ddamcaniaeth a gwybodaeth, y byddwch yn adeiladu arnynt wrth baratoi ar gyfer seminarau a chymryd rhan ynddynt. Mae'r seminarau hyn yn rhoi cyfle i chi ddysgu sut i ymgysylltu â'ch modiwlau a myfyrio arnynt mewn amgylchedd dysgu cefnogol. Gallwch ddefnyddio'r profiad hwn wrth baratoi a chwblhau asesiadau. Cewch eich cefnogi yn eich dysgu drwy gyfarfodydd cynnydd academaidd gyda'ch tiwtor personol, yn ogystal â derbyn adborth ar gynnydd gan diwtoriaid pwnc.

|