LLB

Hawliau Dynol

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae rheolaeth y gyfraith yn sylfaenol i gymdeithas deg a sifil, a gall astudio'r Gyfraith neu agwedd benodol o’r Gyfraith roi i chi’r gallu i wneud gwahaniaeth. Cyflwynir ein cwrs gradd LLB Hawliau Dynol ym Mhrifysgol Aberystwyth gan Adran y Gyfraith a Troseddeg, adran a chanddi hanes hir o gynnig rhaglenni gradd yn y Gyfraith. Mae rhai o'r cyfreithwyr, y gwleidyddion a’r academyddion mwyaf nodedig yng Nghymru, Prydain a thu hwnt wedi astudio yma. Drwy ddewis ein gradd LLB Hawliau Dynol byddwch yn gallu canolbwyntio ar faterion sy'n ymwneud â diogelu hawliau dynol, ac effeithiolrwydd mecanweithiau rhyngwladol yn y maes hwn. Byddwch hefyd yn ystyried sut mae Hawliau Dynol yn aml yn codi uwchlaw ffiniau cenedlaethol ac weithiau’n gallu gwrthdaro â syniadau gwladwriaethau unigol o'r hyn yw hawl y dylid ei amddiffyn. Gall y radd hon gynnig boddhad a heriau, ac os ydych chi am wneud gwahaniaeth yn y byd, gall gradd mewn Hawliau Dynol arwain at yrfa werth chweil. 

Trosolwg o'r Cwrs

Mae hon yn rhaglen radd LLB ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain. Mae’n cwmpasu nifer o bynciau traddodiadol a chyfoes yn y gyfraith, a bydd yn dysgu'r sgiliau a'r cymwyseddau a fydd yn eich gwneud yn 'barod am yrfa' ac yn gyflogadwy mewn cyd-destun cyfreithiol. 

Mae LLB Hawliau Dynol yn rhaglen ymarferol a gynlluniwyd i ateb gofynion cyflogwyr, ac fe’i haddysgir gan academyddion a gweithwyr proffesiynol profiadol ym maes y gyfraith sy'n gweithio gyda sefydliadau mawr e.e. GRETA, y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid, a Swyddfa Uchel Gomisiynydd Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig. 

Mae pob un o’n graddau LLB yn rhoi sylfaen ardderchog i'r rhai sy'n bwriadu cymhwyso'n gyfreithiwr neu'n fargyfreithiwr yng Nghymru a Lloegr. 

Bydd modd i chi fanteisio ar gyfleoedd cymdeithasol a phroffesiynol rhagorol, er enghraifft ymweliadau â Ffeiriau'r Gyfraith ac Ysbytyau’r Brawdlys (Inns of Court) yn Llundain.  

Mae LLB Hawliau Dynol yn cynnig nifer o bosibiliadau, gan gynnwys cyfle i wneud modiwl lleoliad gwaith mewn gwahanol feysydd o'r gyfraith, neu i astudio dramor yn yr ail flwyddyn yn un o'r nifer o bartner brifysgolion sydd gennym yn Ewrop, UDA, Canada, ac Awstralia. 

Cewch gyfle i gyfoethogi’ch astudiaethau trwy gymryd rhan yn ein Cymdeithas Ymryson Cyfreitha, sy'n cystadlu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol, er mwyn datblygu'ch sgiliau allweddol wrth gyfreitha ac eirioli. Hefyd, i fyfyrwyr sy'n dymuno ymrysona trwy gyfrwng y Gymraeg, rydyn ni’n cynnig cystadleuaeth Ymryson trwy’r Gymraeg. 

Ein Staff

Mae gan staff Adran y Gyfraith a Throseddeg gan mwyaf naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu mae ganddynt brofiad proffesiynol a chymwysterau fel cyfreithwyr wrth eu gwaith. Mae gan lawer o'r staff hefyd gymhwyster dysgu uwchraddedig (Addysg Uwch).

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contract Law LC13820 20
Cyfraith Droseddol CT10520 20
Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol CT10420 20
System Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol CT10120 20
Tort LC11120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cyflwyniad i Droseddeg CT12220 20
Cyflwyniad i Droseddeg CT12220 20
Law in Action LC13220 20
Y Gyfraith ar Waith CT13220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Law and Criminology Dissertation * LC39020 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Business Law and Practice and Solicitors Accounts LC31420 20
Climate Change and Environmental Law LC37720 20
Commercial Law LC36220 20
Community Justice LC30320 20
Company Law LC37220 20
Contemporary Issues in Criminology LC34220 20
Criminal Law and Practice LC31620 20
Critical and Radical Criminology LC37120 20
Cyflwyniad i Droseddeg CT32220 20
Cyfraith a Pholisi Cymru CT30820 20
Dispute Resolution in Contract and Tort LC31520 20
Drugs and Crime LC38220 20
Employability Skills for Professionals LC36620 20
Family and Child Law LC36420 20
Human Rights LC35220 20
Humanitarian Law LC37620 20
Intellectual Property Law LC38620 20
International Law LC36920 20
Introduction to Criminology LC32220 20
Labour Law LC36820 20
Medicine Ethics and the Law LC36720 20
Police, Policing and Society LC31020 20
Principles of Evidence LC36520 20
Principles of Professional Conduct, Public & Administrative Law, Legal System of England & Wales & L LC31320 20
Property Law and Practice LC31820 20
Psychological Explanations of Criminal Behaviour LC38120 20
Psychopathology LC39220 20
Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol CT36620 20
Sports Law and Society LC37920 20
Technology, Artificial Intelligence and the Law LC32420 20
Treatment and Rehabilitation of Offenders LC39120 20
Trosedd & Chyfiawnder Ieuenctid CT36120 20
Trosedd yn y Gymru Gyfoes CT30220 20
Troseddeg Feirniadol a Radical CT37120 20
Trusts, Wills and the Administration of Trusts and Estates LC31720 20
Youth Crime and Justice LC36120 20
Yr Heddlu, Plismona a'r Gymdeithas CT31020 20
Cyfraith Tir CT34820 20
Ecwiti a Chyfraith Ymddiriedolaethau CT34920 20
Equity and Trusts LC34920 20
Land Law LC34820 20

Gyrfaoedd

Bydd gradd LLB Hawliau Dynol o Aberystwyth yn eich gwneud yn ymgeisydd cryf am hyfforddiant i fod yn fargyfreithiwr neu'n gyfreithiwr, os mai dyna'r llwybr a ddewiswch. Bydd hefyd yn rhoi sylfaen ardderchog i chi ar gyfer pob math o feysydd gyrfaol eraill. Bydd y radd LLB Hawliau Dynol yn agor drysau gyrfaoedd cenedlaethol a rhyngwladol yn y proffesiwn cyfreithiol a phroffesiynau sy’n ymwneud â hawliau. Byddwch yn meithrin sgiliau i gael swyddi mewn sefydliadau anllywodraethol, elusennau a chyrff eraill yn y gymdeithas sifil. Mae graddedigion diweddar wedi cael gwaith ym meysydd eiriolaeth hawliau dynol, hawliau mewnfudo a diogelu cydraddoldeb. 

Mae eich dyfodol yn bwysig i ni a bydd ein cyrsiau gradd yn rhoi'r canlynol i chi: 

  • hyder i ddewis a defnyddio'r ystod fwyaf priodol o fethodolegau cyfreithiol 
  • gallu i ysgrifennu ac i gyfathrebu ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd, gan werthuso a threfnu gwybodaeth 
  • gallu i gasglu, dosbarthu a dehongli cyfoeth o wybodaeth gyfreithiol yn gyflym a chywir 
  • gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar 
  • gallu i ddatrys problemau a meddwl creadigol effeithiol 
  • gallu i weithio'n annibynnol 
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys gallu gweithio i derfynau amser 
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i’ch ysgogi eich hun 
  • gallu i weithio mewn tîm ac i drafod cysyniadau mewn grwpiau, gan roi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb 
  • sgiliau ymchwil. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Ar y radd thematig hon, bydd y flwyddyn astudio gyntaf yr un peth â’r radd M100 LLB yn y Gyfraith a bydd yr ail flwyddyn a’r flwyddyn olaf yn canolbwyntio’n fwy penodol ar y gyfraith yng nghyswllt Hawliau Dynol.

 Yn ystod eich blwyddyn gyntaf byddwch yn cael hyfforddiant craidd mewn nifer o bynciau cyfreithiol safonol. 

Byddwch yn dysgu am y gofynion cyffredinol ar gyfer contract cyfreithiol dilys, yn edrych ar annhegwch gweithdrefnol a'r partïon i'r contract, ac yn astudio gwahanol agweddau ar delerau'r contract. 

Cewch gyfle i ddeall ac archwilio'n feirniadol y dystiolaeth, y cysyniadau, y trafodaethau a'r pynciau llosg sy'n gysylltiedig ag astudio cyfraith trosedd. 

Byddwch yn dysgu am sgiliau cyfreithiol ac ymchwil ac yn cael sylfaen drylwyr yn y sgiliau sydd eu hangen i astudio'r gyfraith, gan gynnwys dadansoddi beirniadol, darllen deddfwriaeth, ffynonellau'r gyfraith, defnyddio cronfeydd data cyfreithiol, rhesymu cyfreithiol, ysgrifennu traethodau a phapurau cyfreithiol. 

Byddwch yn astudio elfennau’r system gyfreithiol sy’n hanfodol i radd gymhwysol yn y gyfraith, ac yn cael trosolwg cynhwysfawr o’r system cyfiawnder troseddol. Byddwch hefyd yn archwilio’r berthynas rhwng y ddwy system, a sut y maent yn rhyngweithio â’i gilydd. 

Byddwch yn archwilio egwyddorion sylfaenol camwedd, hynny yw, hawl unigolion i geisio rhwymedïau cyfreithiol preifat am gamweddau y maent wedi’u dioddef gan eraill, naill ai’n fwriadol neu trwy esgeuluster. 

Byddwch yn ystyried safbwyntiau damcaniaethol allweddol sy’n helpu i esbonio troseddu ac anhrefn gymdeithasol mewn cymdeithas. Cewch eich cyflwyno i safbwyntiau troseddegol yn eu cyd-destunau cymdeithasol a gwleidyddol.  

Byddwch yn cael trosolwg cynhwysfawr a rhyngweithiol o sut mae’r gyfraith yn gweithredu mewn cymdeithas, trwy edrych ar y modd y’i defnyddir mewn materion a digwyddiadau cyfoes.  

Yn eich ail flwyddyn a'ch blwyddyn olaf byddwch yn astudio nifer fach o bynciau cyfreithiol craidd ac yn teilwra eich astudiaethau drwy ddewis yn ofalus o blith amrywiaeth o fodiwlau dewisol. 

Gradd thematig yw hon a byddwch yn cael eich cyfeirio gan yr Adran tuag at fodiwlau sy'n berthnasol i thema'r cynllun. Bydd y traethawd hir hefyd yn berthnasol i themâu penodol y cynllun. 

Sut fydda i'n cael fy nysgu? 

Cewch eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau blaengar a safonol. 

Bydd ein darlithoedd yn eich cyflwyno i gysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol a pherthnasol. Byddwch hefyd yn gallu defnyddio fersiynau wedi'u recordio o'r darlithoedd. 

Mae ein tiwtorialau a'n seminarau yn gyfle i chi drafod themâu neu bynciau cyfreithiol penodol, ac i gloriannu a chael adborth ar eich dysgu unigol, gan wella'ch dull o lunio dadleuon cyfreithiol ar yr un pryd. 

Sut fydda i’n cael fy asesu? 

Byddwch yn cael eich asesu trwy amryw ddulliau, traethodau, arholiadau, log neu bortffolio astudio, a chyflwyniadau llafar, gan gynnwys ymarferion ymrysona. 

Bydd gennych diwtor personol trwy gydol eich cwrs gradd, ac ef neu hi fydd eich prif gyswllt os bydd gennych broblem neu ymholiad. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Os ydych chi'n angerddol am hawliau dynol ac yn dymuno cael gradd gymhwyso yn y gyfraith, yna yn sicr y radd Hawliau Dynol (M990) yw'r un i chi. Er y gallech astudio gradd 'syth' yn y gyfraith a dewis modiwlau hawliau dynol, gallaf ddweud â llaw ar fy nghalon nad ydy hynny yr un peth ag astudio'r radd thematig a gaiff ei theilwra'n awtomatig i rywun sydd ag angerdd am hawliau dynol, fel fi. Fel unigolyn sydd am ddilyn gyrfa yn y dyfodol ym maes hawliau dynol, rwy'n teimlo y bydd cael gradd arbenigol yn fan cychwyn da iawn yn y byd go iawn, gan eich bod chi'n cael dealltwriaeth go iawn nid yn unig o'r gefnogaeth ddamcaniaethol a'r feirniadaeth o hawliau dynol, ond hefyd effeithiolrwydd y gwaith gorfodi ar lefel domestig a rhyngwladol. Yn sicr, dw i ddim yn difaru dewis M990. Benjamin Cartwright

Mae M990 Hawliau Dynol yn gwrs cyffrous sy'n pryfocio'r meddwl. Nid yn unig rydych chi'n dysgu'r un egwyddorion cyfraith ag y mae myfyrwyr M100 yn ei wneud, ond gallwch fod yn fodlon bod eich cwrs wedi'i deilwra'n uniongyrchol i'ch diddordeb mewn Hawliau Dynol. Mae popeth wedi'i gynllunio ar eich cyfer chi, ond mae'n dal modd i chi ddewis modiwlau gwahanol sydd o ddiddordeb i chi. Roedd y lefel o gynllunio gofalus yn mynd mor bell â sicrhau bod fy nhiwtor personol yn un o ddarlithwyr Hawliau Dynol yr adran. Mae'n gwrs anhygoel, gyda rhai o ddarlithwyr Hawliau Dynol mwyaf cymwys Prydain. Rebecca Sian Davies

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 128 - 104

Safon Uwch ABB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|