BSc

Troseddeg a Seicoleg Droseddol

Troseddeg a Seicoleg Droseddol Cod M9C6 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Cyflwynir y cwrs BSc Troseddeg a Seicoleg Droseddol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn adran y Gyfraith hynaf Cymru. Y mae’n bwnc hynod ddiddorol sy'n canolbwyntio ar agweddau sylfaenol Troseddeg, ond yn rhoi pwyslais arbennig ar y dulliau seicolegol o ddeall ymddygiad dynol a throseddoldeb. Byddwch yn astudio achosion troseddu ac effaith troseddu ar unigolion, cymunedau a chymdeithasau, ac yn archwilio esboniadau seicolegol ar ymddygiad troseddol a rheoli troseddwyr. Bydd modiwlau am ddulliau ymchwil troseddeg yn rhoi'r sgiliau technegol a dadansoddol allweddol sydd eu hangen arnoch i gymryd rhan mewn trafodaethau cyfoes ynghylch polisïau ac arferion a gynlluniwyd i atal troseddu. Ar ôl cwblhau eich gradd BSc Troseddeg a Seicoleg Droseddol, bydd gennych sgiliau sy'n hanfodol ar gyfer dilyn gyrfa broffesiynol mewn meysydd fel plismona, carchardai a chyfiawnder ieuenctid.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r radd BSc Troseddeg a Seicoleg Droseddol yn rhoi sylw cytbwys i faterion damcaniaeth, polisi ac ymarfer wrth astudio troseddeg a chyfiawnder troseddol. Mae'r cwrs yn defnyddio damcaniaethau cymdeithasegol, seicolegol a chyfreithiol ac enghreifftiau o'r byd go iawn i archwilio achosion troseddu, sut y diffinnir troseddu, a pham yr ystyrir bod rhai ymddygiadau penodol yn droseddol. Mae'n ystyried amrywiaeth eang o safbwyntiau troseddegol, yn amrywio o ddechreuadau Troseddeg Glasurol, yr holl ffordd i feysydd newydd sy'n dod yn fwyfwy blaenllaw mewn troseddeg, megis troseddau gwyrdd a throseddau bywyd gwyllt. 

Mae'r tîm addysgu presennol yn cynnwys staff a chanddynt arbenigedd yn y prif ddisgyblaethau sy'n llywio astudiaethau troseddegol, megis seicoleg, cymdeithaseg, a'r gyfraith, a byddwch yn cael eich addysgu gan droseddegwyr sy'n ymwneud yn weithredol ag ymchwil. Mae gennym berthynas waith ragorol ag asiantaethau cyfiawnder troseddol yn lleol a bydd cyfleoedd ichi wneud lleoliad gwaith yn gysylltiedig â chyfiawnder troseddol. Gallwch hefyd ymgymryd ag ymchwil troseddegol annibynnol dan oruchwyliaeth. 

Caiff ein modiwlau eu diwygio a'u diweddaru'n gyson er mwyn adlewyrchu newidiadau diweddar ym mhatrymau ymddygiad troseddol ac ymatebion polisi trosedd. Mae nifer o fodiwlau allweddol yn canolbwyntio ar ddangos sut y gellir defnyddio theori, dulliau a thechnegau seicolegol i ddeall ymddygiad troseddol. 


Ein Staff

Mae gan staff Adran y Gyfraith a Throseddeg gan mwyaf naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu mae ganddynt brofiad proffesiynol a chymwysterau fel cyfreithwyr wrth eu gwaith. Mae gan lawer o'r staff hefyd gymhwyster dysgu uwchraddedig (Addysg Uwch).

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Rheoli ac Atal Troseddu CT10320 20
Essential Skills for Criminologists * LC13120 20
Foundations of Psychology LC13620 20
Cyflwyniad i Droseddeg CT12220 20
System Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol CT10120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cyfraith Droseddol CT10520 20
Criminology in Action LC14120 20
Cyfraith Droseddol CT10520 20
Troseddeg ar Waith CT14120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Psychopathology LC39220 20
Psychology and Crime LC34020 20
Treatment and Rehabilitation of Offenders LC39120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Empirically Based Criminology Dissertation LC30140 40
Law and Criminology Dissertation * LC39020 20
Traethawd Estynedig Empeiraidd Troseddeg CT30140 40
Traethawd Estynedig y Gyfraith a Throseddeg CT39020 20
Climate Change and Environmental Law LC37720 20
Community Justice LC30320 20
Contemporary Issues in Criminology LC34220 20
Crime & Punishment in Historical Perspective LC33020 20
Criminal Justice Placement LC32520 20
Criminal Law LC30520 20
Critical Perspectives on Imprisonment LC32020 20
Critical and Radical Criminology LC37120 20
Cybercrime and Cybersecurity LC31920 20
Cyfraith Troseddol CT30520 20
Drugs and Crime LC38220 20
Employability Skills for Professionals LC36620 20
Family and Child Law LC36420 20
Human Rights LC35220 20
Humanitarian Law LC37620 20
Lleoliad Gwaith Cyfiawnder Troseddol CT32520 20
Medicine Ethics and the Law LC36720 20
Police, Policing and Society LC31020 20
Principles of Evidence LC36520 20
Sgiliau Cyflogadwyedd ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol CT36620 20
Sports Law and Society LC37920 20
Trosedd & Chyfiawnder Ieuenctid CT36120 20
Trosedd a Chosb o Safbwynt Hanesyddol CT33020 20
Trosedd yn y Gymru Gyfoes CT30220 20
Troseddeg Feirniadol a Radical CT37120 20
Wrongful convictions in criminological context LC32320 20
Youth Crime and Justice LC36120 20
Yr Heddlu, Plismona a'r Gymdeithas CT31020 20

Gyrfaoedd

Mae BSc Troseddeg a Seicoleg Droseddol yn rhoi sylfaen academaidd ardderchog ar gyfer gyrfaoedd yn y sector cyfiawnder troseddol, gan gynnwys yr Heddlu a’r Gwasanaeth Carchardai, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, Asiantaeth Ffiniau’r DU, a dadansoddi cudd-wybodaeth i ddibenion diogelwch.  

 Mae eich dyfodol yn bwysig yn ein golwg, a bydd ein cyrsiau gradd yn rhoi'r canlynol i chi: 

·      gallu i gyfathrebu'n glir ac yn gryno ar ffurf ysgrifenedig a llafar 

·      gallu i ddatrys problemau a meddwl creadigol effeithiol 

·      gallu gweithio'n annibynnol ac yn rhan o dîm 

·      gallu rheoli’ch amser a gwneud trefniadau 

·      hunanddibyniaeth a'r gallu i’ch ysgogi eich hun 

·      sgiliau ymchwil. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Mae'r rhaglen addysgu wedi'i chynllunio i roi golwg fanwl i chi ar natur ac achosion troseddu ac i'ch cynorthwyo i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o swyddogaeth seicoleg wrth astudio trosedd a dulliau o drin troseddwyr. 

Yn eich blwyddyn gyntaf cewch eich cyflwyno i: ddulliau cymdeithasegol a seicolegol o astudio ymddygiad troseddol; cyfraith trosedd a gwaith y gyfundrefn cyfiawnder troseddol; a sgiliau ymchwil sylfaenol mewn troseddeg. 

Yn yr ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf cewch gyfle i: ddatblygu eich dealltwriaeth o'r berthynas rhwng damcaniaeth, ymchwil ac ymarfer ym maes cyfiawnder troseddol; gwella eich sgiliau ymchwil mewn troseddeg; ehangu eich dealltwriaeth o swyddogaeth seicoleg wrth esbonio ymddygiad troseddol; cynnal ymchwil annibynnol ar bwnc o'ch dewis eich hun; a chymryd lleoliad gwaith gwirfoddol yn gysylltiedig â chyfiawnder troseddol.  

Byddwch hefyd yn dewis o blith rhestr hir o fodiwlau ychwanegol, gan gynnwys esboniadau seicolegol ar ymddygiad troseddol; seicopatholeg; seicoleg a throseddu; a thrin ac adsefydlu troseddwyr. 

Sut fydda i'n cael fy nysgu? 

Cewch eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau blaengar a safonol. 

Bydd ein darlithoedd yn eich cyflwyno i gysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol a pherthnasol. Byddwch hefyd yn gallu defnyddio fersiynau wedi'u recordio o'r darlithoedd. 

Mae ein tiwtorialau a'n seminarau yn gyfle i chi drafod themâu neu bynciau cyfreithiol penodol, ac i werthuso a chael adborth ar eich dysgu unigol, gan wella'ch dull o lunio dadleuon cyfreithiol ar yr un pryd. 

Sut fydda i’n cael fy asesu? 

Cewch eich asesu trwy amryw ddulliau, traethodau, arholiadau, log neu bortffolio astudio, a chyflwyniadau llafar, gan gynnwys ymarferion ymrysona. 

Bydd gennych diwtor personol trwy gydol eich cwrs gradd, ac ef neu hi fydd eich prif gyswllt os bydd gennych broblem neu ymholiad. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|