BSc

Troseddeg a Chymdeithaseg

Cyflwynir y cwrs BSc Troseddeg a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Aberystwyth gan adran y Gyfraith hynaf Cymru. Y mae’n bwnc hynod ddiddorol a fydd yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o gymdeithas a throsedd. Bydd BSc Troseddeg a Chymdeithaseg yn rhoi darlun i chi ar droseddeg o safbwynt cymdeithasegol. Cewch eich cyflwyno i safbwyntiau newydd ar anghydraddoldeb cymdeithasol a newidiadau cymdeithasol sy'n digwydd ar lefel leol a rhyngwladol. Byddwch yn datblygu’r wybodaeth arbenigol a’r galluoedd dadansoddi sydd eu hangen i weithio yn y sectorau cyhoeddus a chymdeithasol, yn ogystal â'r gyfundrefn cyfiawnder troseddol, neu fel arall mae'n fan cychwyn gwych ar gyfer astudiaethau pellach. 

Trosolwg o'r Cwrs

Dysgir y cwrs rhwng dwy adran, Adran y Gyfraith a Throseddeg a'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Mae'r timau addysgu yn cynnwys staff sydd ag arbenigedd yn y ddwy brif ddisgyblaeth, gan roi dealltwriaeth eang i fyfyrwyr o droseddeg a chymdeithaseg a chyfleoedd i ymddiddori mewn pynciau fel y gyfraith, daearyddiaeth ddynol, a seicoleg droseddol. 

Trwy ddewis y cwrs hwn cewch ymchwilio'n ddyfnach i'r cysyniadau allweddol a'r dulliau damcaniaethol sy'n datblygu'n barhaus ym meysydd Troseddeg a Chymdeithaseg. Byddwch hefyd yn astudio'r cysylltiadau pwysig rhwng y ddwy ddisgyblaeth. Bydd y dull unigryw o ddysgu Cymdeithaseg a ddefnyddir yn Aberystwyth, dull seiliedig ar waith maes, yn gymorth i ddeall arwyddocâd gofod a lle wrth astudio trosedd. Ar yr un pryd, mae Troseddeg fel disgyblaeth yn rhoi golwg arbennig ar natur anghydffurfiaeth gymdeithasol, ac felly gall ddarparu dulliau newydd o astudio cysyniadau cymdeithasegol allweddol, gan gynnwys haenau cymdeithasol, integreiddio, gwrthdaro ac anghydraddoldeb. 

Mae elfen Troseddeg y cwrs yn rhoi sylw cytbwys i faterion damcaniaeth, polisi ac ymarfer wrth astudio troseddeg a chyfiawnder troseddol, a rhoddir cyfle i holl fyfyrwyr yr Adran gymryd lleoliad profiad gwaith yn gysylltiedig â chyfiawnder troseddol. Mae elfen Cymdeithaseg y cwrs yn canolbwyntio’n helaeth, gydag agwedd seiliedig ar ddamcaniaeth, ar strwythurau cymdeithasol, sefydliadau, a gweithredwyr grŵp, ac mae'n darparu ffordd effeithiol o roi cyd-destun mwy cymhwysol i bynciau troseddegol. 

Ein Staff

Mae gan staff Adran y Gyfraith a Throseddeg gan mwyaf naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu mae ganddynt brofiad proffesiynol a chymwysterau fel cyfreithwyr wrth eu gwaith. Mae gan lawer o'r staff hefyd gymhwyster dysgu uwchraddedig (Addysg Uwch).

Yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: mae gan bob un o'r darlithwyr gymhwyster hyd at safon PhD neu maent yn gweithio tuag at PhD.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Rheoli ac Atal Troseddu CT10320 20
Essential Skills for Criminologists * LC13120 20
Cyflwyniad i Droseddeg CT12220 20
Key Concepts in Sociology GS16120 20
Place and Identity GS14220 20
Thinking Sociologically GS15120 20

Gyrfaoedd

Bydd gradd mewn Troseddeg a Chymdeithaseg yn eich helpu i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy allweddol sy'n bwysig ar gyfer cyflogaeth yn gyffredinol. Mae BSc Troseddeg a Chymdeithaseg yn rhoi sylfaen academaidd ardderchog ar gyfer gyrfaoedd yn y sector cyfiawnder troseddol, gan gynnwys yr heddlu, gwasanaeth Carchardai EM, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol, a Chyfiawnder Ieuenctid. Gall cwblhau'r radd hefyd gynnig cyfleoedd i weithio ym maes dadansoddi troseddau neu gudd-wybodaeth, gofal cymunedol a gwaith cymdeithasol, yn ogystal â gweithio i asiantaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol.

Mae eich dyfodol yn bwysig yn ein golwg, a bydd ein cyrsiau gradd yn rhoi'r canlynol i chi: 

  • gallu i gyfathrebu'n glir ac yn gryno ar ffurf ysgrifenedig a llafar 
  • gallu i ddatrys problemau a meddwl creadigol effeithiol 
  • gallu gweithio'n annibynnol ac yn rhan o dîm 
  • gallu rheoli’ch amser a gwneud trefniadau 
  • mwy o hunanddibyniaeth a gallu i’ch ysgogi eich hun yn well 
  • sgiliau trosglwyddadwy megis cymhwysedd cyfrifiadurol a sgiliau ymchwil allweddol      sy'n ymwneud â dulliau ansoddol a meintiol o gasglu a dadansoddi data

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Mae'r rhaglen addysgu wedi'i chynllunio i roi golwg fanwl i chi ar natur ac achosion troseddu a'ch cynorthwyo i ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o wleidyddiaeth polisi cyfiawnder troseddol. 

Cewch gyfle i archwilio a darganfod y berthynas rhwng unigolion, grwpiau a strwythurau cymdeithasol; amrywiaeth cymdeithasol, anghydraddoldebau a gwyredd; swyddogaeth sefydliadau wrth gyfryngu bywyd cymdeithasol ac wrth ddiffinio a rheoli troseddu a gwyredd; cymeriad neilltuol Troseddeg a Chymdeithaseg mewn perthynas â mathau eraill o ddealltwriaeth; y berthynas rhwng dadansoddi tystiolaeth a dadleuon troseddegol/cymdeithasegol; a phwysigrwydd materion moesegol ym mhob math o ddulliau o gasglu, dadansoddi a thrafod data troseddegol a chymdeithasegol. 

Yn eich blwyddyn gyntaf cewch eich cyflwyno i: ddulliau cymdeithasegol a seicolegol o astudio ymddygiad troseddol; y darlun mae ymddygiad troseddol yn gallu ei roi o gysyniadau cymdeithasegol allweddol; cysyniadau allweddol mewn Cymdeithaseg; cyfraith trosedd a gwaith y gyfundrefn cyfiawnder troseddol; a sgiliau ymchwil sylfaenol mewn troseddeg. 

 Yn yr ail flwyddyn a'r flwyddyn olaf cewch gyfle i: ddatblygu eich dealltwriaeth o'r berthynas rhwng damcaniaeth gymdeithasegol a throseddegol; ymchwil ac ymarfer ym maes cyfiawnder troseddol; gwella eich sgiliau ymchwil mewn troseddeg a chymdeithaseg; cynnal ymchwil annibynnol ar bwnc o'ch dewis eich hun; a chymryd lleoliad gwaith gwirfoddol yn gysylltiedig â chyfiawnder troseddol. 

Byddwch hefyd yn dewis o blith rhestr hir o fodiwlau ychwanegol. 

Sut fydda i'n cael fy nysgu? 

Cewch eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, tiwtorialau a seminarau blaengar a safonol. 

Bydd ein darlithoedd yn eich cyflwyno i gysyniadau allweddol a gwybodaeth gyfredol a pherthnasol. Byddwch hefyd yn gallu defnyddio fersiynau wedi'u recordio o'r darlithoedd. 

Mae ein tiwtorialau a'n seminarau yn gyfle i chi drafod themâu neu bynciau cyfreithiol penodol, ac i werthuso a chael adborth ar eich dysgu unigol, gan wella'ch dull o lunio dadleuon cyfreithiol ar yr un pryd. 

 Sut fydda i’n cael fy asesu? 

Cewch eich asesu trwy amryw ddulliau, traethodau, arholiadau, log neu bortffolio astudio, a chyflwyniadau llafar, gan gynnwys ymarferion ymrysona. 

 Bydd gennych diwtor personol trwy gydol eich cwrs gradd, ac ef neu hi fydd eich prif gyswllt os bydd gennych broblem neu ymholiad. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|