Y Gyfraith a Throseddeg
LLB Y Gyfraith a Throseddeg Cod MM91 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrPrif Ffeithiau
MM91-
Tariff UCAS
128 - 104
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
-
Cyfrwng Cymraeg
81%
Ar gael ar gyfer Dechrau Medi 2025
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrCyflwynir y cwrs LLB Cyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth gan Adran y Gyfraith a Throseddeg, adran a chanddi hanes hir o gynnig graddau yn y Gyfraith. Ychwanegwyd Troseddeg at yr arlwy yn 2006. Mae ein gradd LLB Cyfraith a Throseddeg yn berffaith ar gyfer y rhai sydd â’u bryd ar yrfa uchelgeisiol yn y gyfraith yn yr 21ain ganrif. Mae'n gwrs heriol a diddorol a fydd yn eich cyflwyno i hanfodion y Gyfraith ochr yn ochr â modiwlau Troseddeg sy'n archwilio'r damcaniaethau a'r trafodaethau’n ymwneud â throseddu, gwyredd, natur bod yn ddioddefwr, y gyfraith a chosb. Mae'r cyfuniad o fodiwlau Cyfraith a Throseddeg yn siŵr o’ch ysgogi a’ch helpu i anelu at eich nod. Wrth gwblhau’r radd hon, bydd gennych allu i’w ddefnyddio yn y byd go-iawn, a fydd yn eich galluogi i lywio eich dyfodol a datblygu gyrfa deilwng.
Trosolwg o'r Cwrs
Modiwlau Dechrau Medi - 2025
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Rheoli ac Atal Troseddu | CT10320 | 20 |
Cyfraith Droseddol | CT10520 | 20 |
Cyflwyniad i Droseddeg | CT12220 | 20 |
Sgiliau ac Ymchwil Cyfreithiol | CT10420 | 20 |
System Cyfreithiol a Chyfiawnder Troseddol | CT10120 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Contract Law | LC13820 | 20 |
Criminology in Action | LC14120 | 20 |
Cyfraith Camwedd | CT11120 | 20 |
Cyfraith Cytundebau | CT13820 | 20 |
Foundations of Psychology | LC13620 | 20 |
Tort | LC11120 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Law and Criminology Dissertation | LC39020 | 20 |
Opsiynau
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 128 - 104
Safon Uwch ABB-BCC
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|