BSc

Busnes a Rheolaeth (Ategol)

Busnes a Rheolaeth (Ategol) Cod N12T Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Y radd Busnes a Rheolaeth (Ategol) un flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth, o fewn Ysgol Fusnes Aberystwyth, yw’r paratoad perffaith ar gyfer eich gyrfa yn y byd busnes. Mae'r cwrs wedi'i lunio ar gyfer myfyriwr sydd am ragori a llwyddo i lefel uchaf ymarfer rheoli busnes byd-eang ac sydd eisoes wedi cyflawni safon dysgu cydnabyddedig mewn pwnc perthnasol.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae byd menter yn addasu o hyd. Gall effaith newidiadau yn yr amgylchedd busnes o ran digwyddiadau economaidd, newidiadau mewn arferion cyfrifeg, newidiadau o ran rheoleiddio a’r amgylchedd cyfreithiol, penderfyniadau marchnata a datblygu strategaethau busnes olygu’r gwahaniaeth rhwng llwyddo a methu i gwmni. 

Yn Ysgol Fusnes Aberystwyth, byddwch yn dysgu sut i ymateb i'r digwyddiadau hyn drwy ddatblygu eich gwybodaeth am elfennau hanfodol busnes gan gynnwys rheoli adnoddau dynol, ymddygiad sefydliadol, strategaeth a gweithrediadau busnes, marchnata a dadansoddeg data busnes. Bydd ein tîm o academyddion arbenigol yn datblygu eich dealltwriaeth o reolaeth yn y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector (menter gymdeithasol). Yn ystod y cwrs, byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth o'r heriau sy'n wynebu rheolaeth, ac effaith gyfunol y materion economaidd, ariannol, dynol a chyfreithiol y mae rheolwyr yn ymdrin â hwy o ddydd i ddydd. Byddwch hefyd yn datblygu'r sgiliau i ddadansoddi materion rheoli o ran blaenoriaethau'r cwmni, ffactorau allanol ac arferion da cyfredol. 

Ein Staff

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Effective Academic and Professional Communication 2 IC37820 20
Financial Strategy AB31720 20
Global Logistics AB35320 20
Global Marketing AB37320 20
Organizational Psychology AB35420 20
Strategic Leadership * AB35120 20

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Rheolaeth a Busnes?

Bydd gradd mewn Busnes a Rheolaeth yn eich galluogi i ddethol o amrywiaeth o opsiynau gyrfa drwy’r byd busnes, diwydiant a masnach, neu i weithio yn y sector cyhoeddus. Mae llawer o’n graddedigion yn dod o hyd i gyflogaeth lwyddiannus fel rheolwyr iau mewn sefydliadau rhyngwladol neu gwmnïau amlwladol fel Goldman Sachs, Pricewaterhouse Coopers, Llywodraeth Cymru a Marks & Spencer.

Mae ein graddedigion yn gweithio ac yn llwyddiannus mewn nifer o sectorau:

  • Cyfrifo Siartredig
  • Bancio Buddsoddi
  • Yswirio
  • Gwarantu
  • Rheoli Risg
  • Rheoli Marchnata
  • Rheoli Masnachol
  • Rheoli Logisteg a Dosbarthu.

Pa sgiliau fydda i'n eu cael o'r radd hon? 

Bydd astudio ein gradd mewn Rheolaeth a Busnes yn rhoi'r sgiliau canlynol i chi:

  • sgiliau rhifedd gwell a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio data busnes ac ariannol
  • y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau effeithiol
  • sgiliau dadansoddi a meddwl yn greadigol
  • gwneud penderfyniadau
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau trefnu a rheoli amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Byddwch yn ymdrin â’r canlynol:

  • Dulliau creadigol o lunio strategaeth fusnes
  • Sut i wneud penderfyniadau strategol effeithiol a gwybodus, arwain newid, a chreu a chynnal mantais gystadleuol
  • Rheoli logisteg a chadwyni cyflenwi modern
  • Rôl strategaeth ariannol yn y penderfyniadau buddsoddi, ariannu a chlustnodi adnoddau o fewn sefydliad
  • Strwythur sefydliadau a chyflogaeth, a'u goblygiadau ar gyfer strategaeth reoli ac ymddygiad gweithwyr.
  • Pwysigrwydd rheoli newid ar gyfer perfformiad a datblygiad sefydliadol.
  • Marchnata Byd-eang
  • Effaith yr amgylchedd byd-eang ar farchnata strategol.

Sut fydda i’n cael fy nysgu?

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno drwy raglen o ddarlithoedd, seminarau a sesiynau tiwtora. Cewch eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys adroddiadau ysgrifenedig, traethodau, astudiaethau achos ac arholiadau.

Asesu

Cewch eich asesu mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys trwy adroddiadau ysgrifenedig, traethodau, astudiaethau achos ac arholiadau.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Entry qualifications will be assessed on a case-by-case basis and in relation to the respective country’s academic programmes and how the candidate’s modules match with our programme. Entry will normally be accepted with a correctly matched: Diploma of Higher Education (DipHE); Level 5 Foundation Degree; Level 5 Higher National Diploma (HND); Level 5 Award; Level 5 Certificate; Level 5 Diploma; Level 5 NVQ; International equivalents, such as Advanced or Higher Diplomas or Associate Degrees; Completion of two years of a relevant BA (Hons) degree from a recognised institution.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):

Diploma Cenedlaethol BTEC:

Bagloriaeth Ryngwladol:

Bagloriaeth Ewropeaidd:

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|