BSc

Busnes a Rheolaeth (Ategol)

Busnes a Rheolaeth (Ategol) Cod N12T Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Y radd Busnes a Rheolaeth (Ategol) un flwyddyn ym Mhrifysgol Aberystwyth, o fewn Ysgol Fusnes Aberystwyth, yw’r paratoad perffaith ar gyfer eich gyrfa yn y byd busnes. Mae'r cwrs wedi'i lunio ar gyfer myfyriwr sydd am ragori a llwyddo i lefel uchaf ymarfer rheoli busnes byd-eang ac sydd eisoes wedi cyflawni safon dysgu cydnabyddedig mewn pwnc perthnasol.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae byd menter yn addasu o hyd. Gall effaith newidiadau yn yr amgylchedd busnes o ran digwyddiadau economaidd, newidiadau mewn arferion cyfrifeg, newidiadau o ran rheoleiddio a’r amgylchedd cyfreithiol, penderfyniadau marchnata a datblygu strategaethau busnes olygu’r gwahaniaeth rhwng llwyddo a methu i gwmni.

Yn Ysgol Fusnes Aberystwyth, byddwch yn dysgu sut i ymateb i'r digwyddiadau hyn drwy ddatblygu eich gwybodaeth am elfennau hanfodol busnes gan gynnwys rheoli adnoddau dynol, ymddygiad sefydliadol, strategaeth a gweithrediadau busnes, marchnata a dadansoddeg data busnes. Bydd ein tîm o academyddion arbenigol yn datblygu eich dealltwriaeth o reolaeth yn y sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector (menter gymdeithasol). Yn ystod y cwrs, byddwch yn datblygu ymwybyddiaeth o'r heriau sy'n wynebu rheolaeth, ac effaith gyfunol y materion economaidd, ariannol, dynol a chyfreithiol y mae rheolwyr yn ymdrin â hwy o ddydd i ddydd. Byddwch hefyd yn datblygu'r sgiliau i ddadansoddi materion rheoli o ran blaenoriaethau'r cwmni, ffactorau allanol ac arferion da cyfredol.

Ein Staff

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Effective Academic and Professional Communication 2 IC37820 20
Financial Strategy AB31720 20
Global Logistics AB35320 20
Global Marketing AB37320 20
Organizational Psychology AB35420 20
Strategic Leadership * AB35120 20

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud gyda gradd mewn Rheolaeth a Busnes?

Bydd gradd mewn Busnes a Rheolaeth yn eich galluogi i ddethol o amrywiaeth o opsiynau gyrfa drwy’r byd busnes, diwydiant a masnach, neu i weithio yn y sector cyhoeddus. Mae llawer o’n graddedigion 

yn dod o hyd i gyflogaeth lwyddiannus fel rheolwyr iau mewn sefydliadau rhyngwladol neu gwmnïau amlwladol fel Goldman Sachs, Pricewaterhouse Coopers, Llywodraeth Cymru a Marks & Spencer.

Mae ein graddedigion yn gweithio ac yn llwyddiannus mewn nifer o sectorau:

  • Cyfrifo Siartredig
  • Bancio Buddsoddi
  • Yswirio
  • Gwarantu
  • Rheoli Risg
  • Rheoli Marchnata
  • Rheoli Masnachol
  • Rheoli Logisteg a Dosbarthu.

Pa sgiliau fydda i'n eu cael o'r radd hon? 

Bydd astudio ein gradd mewn Rheolaeth a Busnes yn rhoi'r sgiliau canlynol i chi:

  • dealltwriaeth o strwythur ac ymddygiad sefydliadol
  • sgiliau rhifedd gwell a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio data busnes ac ariannol
  • dealltwriaeth fanwl o achosion ac effeithiau newidiadau economaidd a newidiadau allanol eraill
  • y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau effeithiol
  • sgiliau dadansoddi a meddwl yn greadigol
  • gwneud penderfyniadau
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau trefnu a rheoli amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Byddwch yn ymdrin â’r canlynol:

·      Dulliau creadigol o lunio strategaeth fusnes

·      Sut i wneud penderfyniadau strategol effeithiol a gwybodus, arwain newid, a chreu a chynnal mantais gystadleuol

·      Rheoli logisteg a chadwyni cyflenwi modern

·      Rôl strategaeth ariannol yn y penderfyniadau buddsoddi, ariannu a chlustnodi adnoddau o fewn sefydliad

·      Strwythur sefydliadau a chyflogaeth, a'u goblygiadau ar gyfer strategaeth reoli ac ymddygiad gweithwyr.

·      Pwysigrwydd rheoli newid ar gyfer perfformiad a datblygiad sefydliadol.

·      Marchnata Byd-eang

·      Effaith yr amgylchedd byd-eang ar farchnata strategol.

Sut fydda i’n cael fy nysgu?

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno drwy raglen o ddarlithoedd, seminarau a sesiynau tiwtora.

Cewch eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys adroddiadau ysgrifenedig, traethodau, astudiaethau achos ac arholiadau.

Asesu

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno drwy raglen o ddarlithoedd, seminarau mewn grwpiau bach a dosbarthiadau tiwtorial. Mae ein holl fodiwlau ar gael ar-lein ar ôl y ddarlith neu’r seminar i chi eu gwylio ar adeg sy’n gyfleus i chi.

Tiwtor Personol

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi, a hwy fydd eich prif gyswllt trwy gydol eich amser gyda ni. Gall eich tiwtor personol eich helpu i ymgartrefu pan fyddwch yn cyrraedd gyntaf, a bydd wrth law i’ch helpu gyda materion academaidd neu faterion personol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Entry qualifications will be assessed on a case-by-case basis and in relation to the respective country’s academic programmes and how the candidate’s modules match with our programme. Entry will normally be accepted with a correctly matched: Diploma of Higher Education (DipHE); Level 5 Foundation Degree; Level 5 Higher National Diploma (HND); Level 5 Award; Level 5 Certificate; Level 5 Diploma; Level 5 NVQ; International equivalents, such as Advanced or Higher Diplomas or Associate Degrees; Completion of two years of a relevant BA (Hons) degree from a recognised institution.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):

Diploma Cenedlaethol BTEC:

Bagloriaeth Ryngwladol:

Bagloriaeth Ewropeaidd:

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|