BSc

Cyfrifeg a Chyllid (Ategol)

Cyfrifeg a Chyllid (Ategol) Cod N40T Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Bydd y radd BSc Cyfrifeg a Chyllid (Ategol) un flwyddyn o hyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, o fewn Ysgol Fusnes Aberystwyth, yn eich paratoi ar gyfer gyrfa broffesiynol ym maes cyfrifeg neu wasanaethau ariannol, a dyma’r opsiwn delfrydol i fyfyrwyr sydd eisoes wedi cyflawni safon gydnabyddedig o ddysgu mewn pwnc perthnasol.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae byd menter yn addasu ac yn esblygu’n gyson. Gall effaith newidiadau yn yr amgylchedd busnes o ran digwyddiadau economaidd, newidiadau yn yr amgylchedd rheoleiddio a chyfreithiol, technolegau cyllid a datblygu strategaethau cyfrifeg olygu’r gwahaniaeth rhwng llwyddiant a methiant cwmni.

Yn eich blwyddyn gyda ni byddwch yn astudio cyfrifeg ariannol, cyfrifeg reoli, buddsoddiadau a fintech. Bydd gennych yr opsiwn i ymgymryd ag archwilio a threthu.

Bydd ein staff sy’n weithgar ym maes ymchwil yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth eang o’r cyd-destun gweithredol, ac effaith mesur a datgelu gwybodaeth ariannol ar lif arian, polisïau mewnol, a systemau ariannol. Bydd hyn yn gwella eich dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio data ariannol er mwyn dylanwadu ar reolwyr, buddsoddwyr a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau, a sut y gall y modd y caiff gwybodaeth ariannol ei chyflwyno effeithio ar hirhoedledd (a phroffidioldeb / cynaliadwyedd) cwmni neu sefydliad sector cyhoeddus.

Ein Staff

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Financial Accounting AB31120 20
Advanced Management Accounting AB31220 20
Effective Academic and Professional Communication 2 IC37820 20
Financial Technology and Business Success AB31820 20
Investments and Financial Instruments AB31320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
The Role and Practice of Auditing AB31620 20

Gyrfaoedd

Mae llawer o fanteision i astudio gradd Cyfrifeg a Chyllid. Bydd yn darparu hyblygrwydd gyrfaol, gan eich galluogi i ymgymryd â rolau ym maes cyfrifeg, archwilio, dadansoddi ariannol, bancio buddsoddi, cyllid corfforaethol a mwy. Mae ganddi berthnasedd byd-eang - mae eich gradd yn rhoi sgiliau a chyfleoedd i chi ymarfer eich proffesiwn yn fyd-eang. Mae galw mawr am raddedigion sydd â graddau Cyfrifeg a Chyllid ac mae ganddynt sicrwydd swydd rhagorol. Mae sefydliadau’n galw am gyflenwad rheolaidd o dalent Cyfrifeg/Cyllid i’w helpu i wneud penderfyniadau busnes gwybodus. Rydym wedi meithrin cysylltiadau gyda’r prif gyflogwyr Cyfrifeg a Chyllid. Yn ogystal â lleoli ein myfyrwyr mewn cwmnïau cyfrifeg traddodiadol gan gynnwys Deloitte, PwC, E&Y, a KPMG, mae ein graddedigion mwyaf diweddar wedi dod o hyd i waith gyda sefydliadau adnabyddus eraill megis Barclays, y BBC, Lidl, y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae gyrfaoedd graddedigion yn cynnwys:

  • Cyfrifydd Siartredig
  • Cyfrifydd Ardystiedig Siartredig
  • Cyfrifydd Rheoli Siartredig
  • Cyfrifydd Cyllid Cyhoeddus Siartredig.

Mae rhai o’n graddedigion hefyd wedi archwilio llwybrau gyrfa eraill gan gynnwys:

  • Cynghorydd Treth
  • Archwiliwr
  • Dadansoddwr Buddsoddi
  • Masnachwr Ariannol
  • Banciwr Manwerthu
  • Economegydd
  • Actiwari.  

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Byddwch yn ymdrin â’r canlynol:

  • swyddogaeth y system fancio fodern
  • sut mae technoleg ariannol ac arloesedd yn creu gwerth busnes
  • heriau arloesi Fintech
  • sut i baratoi cyfrifon cyfunol ac adrodd ar berfformiad ariannol
  • arfer cyfrifeg reoli, gan gynnwys rôl cyfrifeg reoli, rheoli costau, cyllidebu, gwerthuso a rheoli perfformiad a chyfrifeg reoli strategol
  • offer buddsoddi allweddol; y broblem fuddsoddi a’r broses o wneud penderfyniadau buddsoddi; a rheoli risg buddsoddiadau
  • dulliau o brisio asedau buddsoddi a mathau / ffurfiau o effeithlonrwydd y farchnad.

Sut fydda i’n cael fy nysgu?

Yn ogystal â chael eich addysgu a’ch mentora gan staff sy’n weithgar ym maes ymchwil, byddwch yn cael eich cefnogi gan gyfrifwyr cymwys a chydnabyddedig sydd â chyfoeth o brofiad academaidd ac yn y diwydiant.

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno drwy raglen o ddarlithoedd, seminarau mewn grwpiau bach a dosbarthiadau tiwtorial. Mae ein holl fodiwlau ar gael ar-lein ar ôl y ddarlith neu’r seminar i chi eu gwylio ar adeg sy’n gyfleus i chi.

Asesu

Cewch eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys adroddiadau ysgrifenedig, traethodau, gwaith grŵp, cyflwyniadau ac arholiadau.

Tiwtor Personol

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi, a hwy fydd eich prif gyswllt trwy gydol eich amser gyda ni. Gall eich tiwtor personol eich helpu i ymgartrefu pan fyddwch yn cyrraedd gyntaf, a bydd wrth law i’ch helpu gyda materion academaidd neu faterion personol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Entry qualifications will be assessed on a case by case basis and in relation to the respective country’s academic programmes and how the candidate’s modules match with our programme. Entry will normally be accepted with a correctly matched: Diploma of Higher Education (DipHE); Level 5 Foundation Degree; Level 5 Higher National Diploma (HND); Level 5 Award; Level 5 Certificate; Level 5 Diploma; Level 5 NVQ; International equivalents, such as Advanced or Higher Diplomas or Associate Degrees; Completion of two years of a relevant BA (Hons) degree from a recognised institution.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):

Diploma Cenedlaethol BTEC:

Bagloriaeth Ryngwladol:

Bagloriaeth Ewropeaidd:

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|