BA

Astudiaethau'r Cyfryngau a Chyfathrebu

BA Astudiaethau'r Cyfryngau a Chyfathrebu Cod P300 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Os hoffech chi wybod pwy sy'n rheoli ac sy'n berchen ar ein cyfryngau, sut y caiff y cynnwys ei gynhyrchu, a pha fath o efaith y mae'r cyfryngau'n ei chael arnom ni fel cynulleidfaoedd, mae ein cwrs Astudiaethau'r Cyfryngau a chyfathrebu yn berffaith ar eich cyfer. Ymunnwch â ni yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn Aberystwyth ar y cwrs cyffrous hwn, ac fe gewch eich cyflwyno i rai o brif ddamcaniaethwyr y cyfryngau a chyfathrebu, a byddwn yn eich annog i ystyried sut gallwch gymhwyso eu ffordd nhw o feddwl i'ch astudiaeth o'r cyfryngau a chyfathrebu.

Trwy ein dull

amlddisgyblaethol o ddysgu'r pwnc, byddwch yn meithrin dealltwriaeth ddeinamig

o natur y berthynas rhwng testunau, cynulleidfaoedd a chynhyrchwyr y cyfryngau.

Nod y radd hon yw caniatáu i chi ddatblygu eich sgiliau creadigol, beirniadol a

thechnegol drwy waith ymarferol blaengar, ac ymchwiliadau ysgolheigaidd heriol

mewn meysydd megis polisi a hanes y cyfryngau, hysbysebu, diwylliannau

ieuenctid, cyfraith y cyfryngau, rhywedd a'r cyfryngau, gemau cyfrifiadurol, a

diwylliant digidol. Bydd eich tair blynedd ar y cwrs yn ddeinamig ac yn eich

bywhau a'ch ysgogi. Sgroliwch i lawr i ganfod mwy!

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Astudiaethau'r Cyfryngau a Chyfathrebu ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Byddwch yn cael eich addysgu a'ch mentora gan staff sy'n arbenigwyr ym maes y Cyfryngau a Chyfathrebu, sydd â chysylltiadau ardderchog â'r diwydiant, sy'n cyfrannu at drafodaethau cenedlaethol ar y cyfryngau, ac sy'n ymchwilwyr blaengar yn y maes.
  • Bydd gan fyfyrwyr ar y cwrs hwn ddealltwriaeth ddyfnach o gymdeithaseg, seicoleg, astudiaethau diwylliannol, hanes, athroniaeth, ieithyddiaeth a marchnata.
  • Bydd myfyrwyr yn cael eu haddysgu mewn cyfleusterau addysgu bywiog, modern a dynamig, sy'n cynnwys labordy cyfrifiaduron newydd sbon wedi'i ddylunio i adlewyrchu diwydiant y cyfryngau digidol, ystafelloedd golygu a chynhyrchu digidol.
  • Mae ein cysylltiadau â'r diwydiant wrth galon yr adran, ac mae swyddfa ranbarthol a safle darlledu BBC Cymru wrth y fynedfa.
  • Gall myfyrwyr fanteisio ar fynediad llawn at Archif Sgrin a Sain Cymru, sydd dafliad carreg o gampws Penglais.
Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Making Short Films 1 FM11420 20
Studying Communication FM10720 20
Studying Media FM10620 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Making Short Films 2 FM11240 40
Movements in Film History FM11120 20
Studying Film FM10120 20
Studying Television FM10220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advertising FM21920 20
Digital Culture FM25520 20
Media, Politics and Power FM22620 20
Youth Cultures FM22320 20
Art Cinema FM24420 20
Creative Documentary FM26520 20
Creative Studio FM25420 20
Film Stardom and Celebrity FM21520 20
LGBT Film & Television FM20120 20
The Story of Television FM20420 20
Work in the Film & Television Industries FM23820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advertising FM31920 20
Gender and the Media FM38320 20
Independent Research Project FM36040 40
Media Law and Regulation FM36720 20
Media Semiotics FM34120 20
Videogame Theories FM38420 20
Contemporary Film and the Break-Up of Britain FM30020 20
Contemporary TV FM30320 20
Cult Cinema: Texts, Histories and Audiences FM38220 20
Documentary Production FM33740 40
Experimental Cinema FM34520 20
Experimental Media Production FM33540 40
Screening the Brave New World: television in 20th-century Britain FM31020 20

Gyrfaoedd

Pa gyfleoedd sydd ar gael i fi?

Mae llawer o'n graddedigion wedi dilyn gyrfaoedd sy'n cynnwys:

  • y cyfryngau darlledu
  • rheolwyr llawr
  • gweithredwyr camera
  • cynhyrchwyr a chyfarwyddwyr
  • marchnata
  • cynllunio'r cyfryngau
  • addysg
  • cysylltiadau cyhoeddus.

Beth fydda i'n ei gael o fy ngradd?

Mae cyflogadwyedd wrth galon ein haddysgu. Rydyn ni'n annog myfyrwyr drwy wneud y canlynol:

  • gwahodd siaradwyr gwadd i'n campws
  • cymryd rhan mewn gweithgareddau gan BAFTA a chyrff eraill y cyfryngau
  • cael profiad gwaith gyda'r BBC, Tinopolis a sefydliadau eraill yn y cyfryngau.

Ar ôl cwblhau'r radd hon, byddwch yn hyderus yn y meysydd canlynol: 

  • cyfathrebu effeithiol
  • gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • defnyddio cyfleusterau ac offer proffesiynol, gan gynnwys offer sain a chamerâu proffesiynol, meddalwedd safonol y diwydiant, stiwdio deledu broffesiynol, labordy golygu, ystafelloedd ôl-gynhyrchu, sinema, ystafelloedd graddio a throsleisio, tair stiwdio ymarfer, a chyfleusterau gwisgoedd.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales and BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu? 

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, gallech archwilio:

  • y berthynas rhwng ffurfiau'r cyfryngau, sefydliadau'r cyfryngau a chymdeithas
  • y cysylltiadau rhwng theori sefydledig y cyfryngau ac ymagweddau cyfoes tuag at y cyfryngau newydd
  • y cysylltiadau rhwng trafodaethau clasurol a chyfoes ar gyfathrebu
  • yr ymchwil sy'n ymwneud â ffyrdd o gyfathrebu rhwng y radio, y wasg, hysbysebu, technolegau ffonau symudol a'r rhyngrwyd
  • cysyniadau a thechnegau allweddol ar gyfer cynhyrchu'r cyfryngau, cyfarwyddo, sinematograffiaeth, golygu.

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech ddarganfod: 

  • hanes, traddodiadau a rolau penodol i bob cyfrwng
  • cynhyrchu teledu
  • hanes darlledu
  • cynhyrchu cyfryngau arbrofol
  • newyddiaduraeth
  • hysbysebu
  • gemau fideo
  • sgriptio.

Yn ystod eich blwyddyn olaf, gallech ddewis:

  • cyflawni ymchwil annibynnol yn arwain at draethawd hir 
  • cynhyrchu ffilmiau dogfennol neu arbrofol 
  • astudio gemau fideo, teledu, rhywedd, cyfraith y cyfryngau, semioteg neu sinema arbrofol.

Sut bydda i'n cael fy nysgu?

Addysgir ein rhaglen drwy weithdy-ddarlithoedd, gan ganiatáu ar gyfer rhyngweithio ardderchog ac ymgysylltu gweithredol. Yn ogystal, rydym yn darparu'r rhaglen hon ar ffurf seminarau, gwaith prosiect mewn grwpiau, dangosiadau ac arddangosiadau technegol.

Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf:

  • prosiectau fideo a ffilm, yn unigol ac mewn grŵp
  • prosiectau ymchwil
  • dyddiaduron cynhyrchu, cofnodion myfyriol, a blogiau
  • cyflwyniadau a chynigion mewn seminarau.

Rhagor o wybodaeth

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Dewisais i'r cwrs hwn gan fod diddordeb wedi bod gen i erioed yn y cyfryngau byd-eang a chysylltiadau rhyngwladol. Mae astudio'r Cyfryngau ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi datblygu fy nealltwriaeth o'r meysydd diddorol yma. Diolch i'r rhaglen gymhleth yma, sy'n trafod pynciau amrywiol yn ymwneud â'r cyfryngau a'r byd cyfathrebu, dw i wedi gwella fy sgiliau ym maes gohebu a hysbysebu. Aeth yr oriau hir a dreuliwyd yn ymchwilio ar gyfer traethodau ddim yn wastraff. Roedd modiwlau fel Hysbysebu yn hollol anhygoel o ran ehangu fy nealltwriaeth o'r maes cyffrous yma, a datblygu fy nghreadigrwydd wrth gynllunio ymgyrchoedd hysbysebu. Roedd y cwrs yma'n bleser, yn hytrach na dyletswydd, i fi. Mae'n berffaith ar gyfer pobl sy'n cael 100 syniad y funud. Mae'r agwedd tuag at fyfyrwyr yn anghonfensiynol yma - meddwl yn glyfar sy'n bwysig! Agata Monika Kielek

Mae cyfathrebu yn gwrs diddorol, er ei fod yn swnio braidd yn ddiflas efallai. Drwy'r darlithoedd rydyn ni'n siarad am bethau sy'n gwneud i chi glicio'ch bysedd a dweud: 'Roedd hynna mor amlwg, ond eto doedd neb yn ymwybodol ohono'. Dw i wrth fy modd â'r ffaith bod modd i ni ddadansoddi'r ffordd mae ein llygaid yn symud pan gaiff cwestiwn am lun ei ofyn i ni. Am beth mae'r llygad yn chwilio pan mae rhywun yn gofyn: 'Pryd gafodd y llun yma ei dynnu?'. Mae'n swnio'n syml, ond mae'n ffordd hollol newydd o weld pethau cyffredin. Ar y cyfan, mae'r cwrs yn anhygoel, mae'r athro'n anhygoel ac yn gwneud popeth yn rhyngweithiol. Fel myfyriwr rhyngwladol, ro'n i'n gallu ei ddeall a'r neges roedd e'n ceisio'i chyfleu i'w fyfyrwyr bob wythnos. Gallwn i alw'r cwrs yma'n syml, ond yn gymhleth; neu mewn un gair, hyfryd. Andrada Florentina Dumitrescu

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|