BA

Gwneud Ffilm

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Ydych chi wedi gofyn erioed sut mae ffilmiau'n cael eu creu? Oes diddordeb gyda chi mewn canfod mwy am waith y cyfarwyddwr a'r cynhyrchydd, a nodau'r stiwdio ffilmiau a'r arianwyr? Ydych chi'n credu bod gennych yr hyn sydd ei angen i gael dylanwad yn y diwydiant ffilm? Os ydych, mae'n bosib mai'r cwrs gradd Creu Ffilm a gynigir gan yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth yw'r cwrs i chi. Cewch wireddu'ch potensial gyda'r cwrs cyffrous ac arloesol hwn ac ennill dealltwriaeth ymarferol o'r modd y mae'r byd ffilm yn gweithio. Erbyn diwedd y radd, byddwch yn deall proses hir a chymhleth creu ffilm, o'r syniad gwreiddiol i'r cyllido, y ffilmio, y cwblhau a'r dosbarthu.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio BA Creu Ffilm ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Bydd y radd gyffrous hon mewn Creu Ffilm yn archwilio’r broses o sut y caiff ffilm ei datblygu o’r syniad gwreiddiol, a sut y caiff ffilm ei hariannu, ei ffilmio, ei chwblhau a’i dosbarthu. Nod y radd yw cyflwyno gwybodaeth a datblygu eich dealltwriaeth with ichi astudio pob agwedd ar gynhyrchu ffilm.

Fel y mae’r enw’n awgrymu, mae hon yn radd ymarferol gydag ethos galwedigaethol cryf. Wrth gynhyrchu ffilmiau gwreiddiol ac wrth weithio gyda’r offer camera, sain ac ôl-gynhyrchu yn yr adran, byddwch yn ennill profiad ymarferol gwerthfawr a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa o fewn y diwydiant arbennig hwn.

Mae’r radd wedi’i sefydlu gan staff â phrofiad helaeth gyda dros 35 mlynedd o brofiad o gwblhau a chyflwyno ffilmiau o fewn y diwydiant ffilm, ac mae’r radd ymhlith yr ychydig rai sydd â pherthynas broffesiynol gyda’r Production Guild of Great Britain.

Yn fyfyrwyr Creu Ffilm yn Aberystwyth cewch fanteisio ar:

  • ein staff dysgu ac iddynt broffil rhyngwladol gyda’u hystod eang o arbenigedd ym maes hanes, theori ac ymarfer yn y diwydiant ffilm a theledu
  • ein cysylltiadau â phartneriaid allweddol yn y diwydiant megis y BBC, S4C, Bafta Cymru, Tribeca Film Festival (Efrog Newydd), Fiction Factory, Tinopolis, Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Caeredin, Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru
  • ein cyfleusterau ac adnoddau gwych: stiwdio deledu a galeri gyda sgrin werdd ac auto-cue; stiwdio sain ddigidol lle mae cyfarpar recordio aml-drac uwch; sinema bwrpasol, ystafell graddio lliwiau a dybio; 10 ystafell olygu bwrpasol gyda meddalwedd Avid Media Composer ac Adobe Premiere Pro; labordy golygu a gweithdy â 12 gweithfan; 50 camera Manylder Uwch, yn cynnwys offer recordio sain Sony a Canon; offer recordio sain Sennheiser, Rode, Tascam a Marantz; cyfarpar ffilmio 16mm ac ystafell dywyll
  • ein cysylltiadau agos â Chanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, sy’n cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau megis Gŵyl Ffilmiau Arswyd ‘Abertoir’, Gŵyl Ffilm WOW ‘Cymru a’r byd yn un’, a’r Noson Ffilmiau Cwlt.

Gan fanteisio ar hyn oll, byddwch yn gallu creu ffilmiau i safon broffesiynol.

Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Introduction to Film Production FM17620 20
Introduction to Post-Production and Editing FM10820 20
Making Short Films 1 FM11420 20
Making Short Films 2 FM11240 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Studying Film FM10120 20
Studying Media FM10620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Film Craft 1 FM22820 20
Film Craft 2 FM22920 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Art Cinema FM24420 20
Creative Documentary FM26520 20
Directing and Producing FM22440 40
LGBT Screens FM20120 20
Stardom and Celebrity FM21520 20
Writing for Film and Television FM21620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Fiction Film Production FM34240 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Cinematography and Production Design FM37520 20
Advanced Editing FM30920 20
Advanced Sound FM30820 20
Contemporary Film and the Break-Up of Britain FM30020 20
Cult Cinema: Texts, Histories and Audiences FM38220 20
Experimental Cinema FM34520 20
Gender and the Media FM38320 20
Media Law FM36720 20
Sales and Distribution FM39820 20
Scriptwriting 1 FM37020 20
Scriptwriting 2 FM37120 20

Gyrfaoedd

Cefnogir y cwrs gan banel o'r diwydiant - pobl sydd â phrofiad helaeth o'u pwnc.

Pa ddewisiadau cyflogaeth fydd ar gael i mi?

Gall myfyrwyr sy’n dilyn y radd hon ganfod gwaith ym maes:

  • cynhyrchu
  • cyfarwyddo
  • cyfarwyddo cynorthwyol
  • gwaith camera
  • gwaith ôl-gynhyrchu
  • tîm technegol.

Pa gyfleoedd am brofiad gwaith fydd ar gael yn ystod y cwrs?

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Ceir trawsdoriad isod o'r hyn y mae'n bosib y byddwch yn ei astudio yn ystod y cwrs gradd tair blynedd hwn.

Yn y flwyddyn gyntaf cewch eich cyflwyno i'r canlynol:

  • creu ffilmiau
  • creu ffilmiau byr
  • ôl-gynhyrchu a golygu.

Erbyn diwedd y flwyddyn gyntaf byddwch yn gwybod am y cylch creu ffilm yn ogystal â'r prosesau technegol sy'n sail i greu ffilmiau.

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn adeiladu ar yr wybodaeth a ddysgwyd yn y flwyddyn gyntaf ac fe gewch eich annog i ddechrau gweithio yn eich maes arbenigol.

Bydd semester cyntaf yr ail flwyddyn yn canolbwyntio ar hanfodion y pynciau canlynol:

  • sinematograffiaeth - cyfarwyddo
  • recordio sain - golygu.

Bydd yr ail semester yn canolbwyntio ar brosiect creu ffilm.

Cewch gyfle i gymhwyso'ch gwybodaeth yn eich dewis faes a ffurfio timoedd cynhyrchu i greu ffilm fer 10 munud o hyd.

Yn y drydedd flwyddyn byddwch yn parhau i adeiladu ar yr arbenigedd a ddysgwyd yn y blynyddoedd blaenorol, gyda thri modiwl ychwanegol:

  • gwerthiant a dosbarthu
  • dylunio sain a dybio - VFX a graddio lliwiau
  • prosiect ffilm ffuglen.

Mae'r adran yng nghanol adeiladu theatr gwylio, dybio a graddio a fydd yn rhoi'r cyfle ichi gwblhau a dangos eich ffilmiau mewn amgylchedd proffesiynol.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Cewch eich dsygu ar ffurf darlithoedd, seminarau, dangos ffilmiau, arddangosiadau technegol a gwaith prosiect ar y cyd. Mae cynnal gweithgareddau amrywiol yn rhan hanfodol o'n hathroniaeth, ac yn creu amgylchedd dysgu cyffrous a chynhyrchiol.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Fe'ch asesir ar sail:

  • cynyrchiadau ar y cyd
  • prosiectau ffilm a fideo unigol
  • dadansoddi ymarferol
  • cadw dyddiadur cynhyrchu a sgriptio creadigol
  • traethodau ac arholiadau ffurfiol
  • cyfnodolion myfyriol, blogiau a Wikis
  • cyflwyno seminarau.

Gall asesiadau eraill gynnwys:

  • byrddau storïau
  • sgriptiau ffilm
  • hyrwyddo eich ffilmiau.

Gallech ddefnyddio'r holl ddulliau hyn i greu portffolio i'w gyflwyno i ddarpar gyflogwyr.

Rhagor o wybodaeth:

Fe ddynodir diwtor personol ichi ar gyfer tair blynedd y cwrs. Gall y tiwtor eich helpu gydag unrhyw broblemau neu gwestiynau, ar sail academaidd neu bersonol. Gallwch gysylltu â'r tiwtor am gymorth neu gyngor ar unrhyw adeg.

Cewch hefyd gyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hyn yn broses strwythurol o hunan-werthuso, myfyrio, a chynllunio a fydd yn eich galluogi i lunio eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich amser yn y brifysgol. Drwy recordio'ch perfformiad academaidd a phwysleisio'r sgiliau yr ydych wedi eu meithrin, yn ogystal â'r rhai y bydd eu hangen arnoch yn eich gyrfa, bydd y porffolio hwn yn rhoi ichi'r offer sy'n angenrheidiol i gynllunio'n effeithiol, astudio'n llwyddiannus, ac ystyried eich dewisiadau a dyheadau gyrfaol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|