BA

Ysgrifennu ar gyfer Darlledu, Cyfryngau a Pherfformio

BA Ysgrifennu ar gyfer Darlledu, Cyfryngau a Pherfformio Cod P302 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Pa un a oes gennych ddiddordeb mewn ysgrifennu ar gyfer y teledu, radio neu theatr fyw, nod y radd Ysgrifennu ar gyfer Darlledu, Cyfryngau a Pherfformio ym Mhrifysgol Aberystwyth yw datblygu eich sgiliau ysgrifennu ymarferol mewn amgylchedd bywiog a chefnogol.

Ymunwch â ni yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu a byddwch yn derbyn sylfaen gref ym maes ysgrifennu ar gyfer gwahanol lwyfannau a chynulleidfaoedd, yn datblygu eich dealltwriaeth o dechnegau sylfaenol, ac yn meithrin eich hyder. Bydd ein tîm o arbenigwyr yn tanio’ch dychymyg, yn gwella’ch gallu i feddwl yn feirniadol ac yn eich paratoi am yrfa fel awdur proffesiynol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio BA Ysgrifennu ar gyfer Darlledu, Cyfryngau a Pherfformio ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Byddwch yn ymuno ag adran fyrlymus a chreadigol lle daw theatr, ffilm, teledu, y cyfryngau a drama ynghyd.
  • Cewch eich dysgu gan staff a gydnabyddir yn rhyngwladol, ac y mae eu harbenigedd eang yn cynnwys: enw da iawn yn broffesiynol am ysgrifennu dramâu teledu parhaus (ee Hollyoaks a Doctors), dramâu radio, addasiadau ac ysgrifennu dramâu, ynghyd ag arbenigedd ym myd drama Prydain ac Iwerddon.
  • Cewch eich dysgu trwy gyfuniad unigryw o ddulliau creadigol a beirniadol.
  • Mae gennym berthynas weithgar â phartneriaid allweddol yn y diwydiant megis y BBC, S4C, Gŵyl Ffilmiau Caeredin, Cwmni Theatr Lurking Truth, Gŵyl Ffilmiau Ffresh, BAFTA, Avid, Fiction Factory, Arad Goch, a Theatr Genedlaethol Cymru.
  • Mae gan y brifysgol berthynas agos â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth - un o'r canolfannau mwyaf o'i bath yn Nghymru - lle cyflwynir gwaith theatr a dawns cenedlaethol a rhyngwladol.
  • Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy'n cynnwys Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, gerllaw.
Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Studying Film FM10120 20
Studying Television FM10220 20
Theatre in Context 1 TP11020 20
Theatre in Context 2 TP11320 20
Writing Continuing TV Drama FM17320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Making Short Films 1 FM11520 20
Movements in Film History FM11120 20
Site-Specific Performance Project TP11420 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Writing Audio Drama FM27120 20
Writing for Film and Television FM21620 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Art Cinema FM24420 20
Creative Documentary FM26520 20
Creative Fiction: Horror FM20920 20
Digital Culture FM25520 20
Directors' Theatre TP21820 20
Film Stardom and Celebrity FM21520 20
LGBT Film & Television FM20120 20
New Media Performance TP23820 20
Shakespeare in Performance TP23220 20
The Story of Television FM20420 20
Theatre and Contemporary Society TP20820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Playwriting TP33340 40
Scriptwriting 1 FM37020 20
Scriptwriting 2 FM37120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contemporary Drama TP30020 20
Contemporary Film and the Break-Up of Britain FM30020 20
Contemporary TV FM30320 20
Cult Cinema: Texts, Histories and Audiences FM38220 20
Experimental Cinema FM34520 20
Gender and the Media FM38320 20
Independent Research Project FM36040 40
Musical Theatre Dramaturgies TP39020 20
Performance and Architecture TP33420 20
Performance and Disability TP30320 20
Videogame Theories FM38420 20

Gyrfaoedd

Mae llawer o’n graddedigion wedi dod o hyd i waith sy’n cynnwys gweithio ym meysydd:

  • y cyfryngau darlledu
  • cynhyrchu a chyfarwyddo
  • sgriptio
  • marchnata a chysylltiadau cyhoeddus
  • cynllunio cyfryngol
  • addysg.

Pa sgiliau y byddaf yn eu meithrin ar y radd hon?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein holl weithgareddau.

Wrth astudio'r cwrs hwn, byddwch yn meithrin y sgiliau gwerthfawr y mae cyflogwyr yn edrych amdanynt, gan cynnwys:

  • gweithio'n effeithiol mewn sefyllfaoedd grŵp yn cynnwys datblygu, ymarfer a chynhyrchu digwyddiadau byw
  • cymhwyso sgiliau creadigol, dychmygol a datrys problemau mewn sawl cyd-destun
  • ymchwilio, gwerthuso a threfnu gwybodaeth
  • trefnu a cyfathrebu syniadau yn effeithio mewn sawl cyd-destun a gan ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau
  • gweithio'n annibynnol ac ar y cyd
  • trefnu amser a chymhwyso sgiliau yn effeithiol
  • cymryd sylw o gyngor beirniadol a gweithredu arno
  • hunanysgogi a hunan-ddisgyblaeth
  • defnyddio amrywiaeth o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth
  • defnyddio mentergarwch wrth ddatblygu prosiectau diwylliannol.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Ceir rhestr isod o'r modiwlau y mae’n bosibl y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs gradd tair blynedd hwn.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Theatre in context
  • Studying Film
  • Writing for Television Drama
  • Studying Television.

Yr ail flwyddyn:

  • Writing for both Film and Television
  • Acting: Process and Performance
  • Shakespeare in Performance
  • Media Industries: History and Policy
  • Contemporary Television Drama
  • Theatre and Contemporary Society.

Y drydedd flwyddyn:

  • Scriptwriting
  • Contemporary British and Irish Drama
  • Place, Space and Landscape
  • Children and the Media
  • Stardom and Celebrity
  • Media in Wales.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Cewch eich addysgu mewn darlithoedd, seminarau, gweithdai a thiwtorialau. Mae'n bosbil y bydd disgwyl ichi wneud gwaith ymarferol hefyd.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Cewch eich asesu ar ffurf gwaith cwrs, gwaith ymarferol, ac arholiadau.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|