BA

Creu Cyfryngau

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Wrth ddewis astudio BA Creu Cyfryngau ym Mhrifysgol Aberystwyth, cewch brofiad creadigol a bywiog heb ei ail. Byddwch yn astudio mewn adeilad modern sy’n cynnig cyfleusterau gwych, a staff brwdfrydig fydd yn eich ysbrydoli. Cewch ymwneud â phartneriaid megis y BBC, S4C, Boom, Fiction Factory, Theatr Genedlaethol Cymru, Cwmni Theatr Arad Goch a llu o rai eraill.

Mae’r cwrs yma wedi ei ddylunio i sicrhau bod cydbwysedd rhwng profiad beirniadol a chreadigol, ac fe gewch chi'r cyfle i ddatblygu eich sgiliau deallusol, creadigol a thechnegol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Creu Cyfryngau yn Aberystwyth?

  • Adran egnïol a chreadigol lle daw drama a theatr, ffilm a’r cyfryngau, a senograffeg a dylunio theatr ynghyd.
  • Cyfuniad unigryw o ddulliau creadigol a beirniadol o ymdrin â’r pwnc.
  • Staff dysgu rhagorol ag ystod eang o arbenigedd ym maes ymchwil a chreu cyfryngau yn broffesiynol.
  • Cysylltiadau â phartneriaid allweddol yn y diwydiant fel BBC, S4C, BAFTA Cymru, Gŵyl Ffilm Tribeca (Efrog Newydd), Fiction Factory, Tinopolis, Gŵyl Ffilm Rhyngwladol Caeredin, Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Avid. Mae'r partneriaid hyn yn rhoi cyfle gwych i chi rwydweithio a chysylltu â'r diwydiant cyn graddio.
  • Cyfleusterau ac adnoddau rhagorol ar gyfer gwaith ymarferol: tair stiwdio ymarfer, pob un ag adnoddau technegol hyblyg; dwy stiwdio fawr ag offer o safon broffesiynol a rigiau goleuadau digidol a reolir drwy ETC Congo a phaneli rheoli Strand Lighting, offer PA Yamaha a Soundcraft, systemau clyweledol Sanyo a goleuadau Strand, a dau NXAMP; yn ogystal â chyfleusterau gwisgoedd a wardrob.
  • Cysylltiadau agos â Chanolfan y Celfyddydau ar y campws, sef un o’r canolfannau celfyddydau mwyaf yng Nghymru, sy’n cyflwyno gwaith theatr a dawns cenedlaethol a rhyngwladol yn rheolaidd.
  • Cymdeithasau drama egnïol myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
  • Lleoliad daearyddol unigryw.

Cyfleoedd cyfnewid cyffrous yn Ewrop ac yn rhyngwladol. Os ydych chi'n chwilio am brofiad y tu hwnt i Aberystwyth, cewch gymryd mantais o'r cyfle i gymryd rhan mewn lleoliad astudio dramor gydag un o'n Prifysgolion partner ar draws y byd, diolch i'n Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol i fyfyrwyr.


Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Creu Cynyrchiadau Amlgyfrwng TC11320 20
Creu Ffilm TC10520 20
Cydweithio Ensemble TC10820 20
Gweithio ar Gamera TC10720 20
Gweithio yn y Diwydiannau Creadigol TC10620 20
Sylfeini Perfformio: Corff, Cymeriad a Thestun TC11220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Ymarfer Cynhyrchu 1: Cyfryngau TC21120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
'Arwyr': Dogfennu Gyrfaoedd yn y Diwydiannau Creadigol TC27020 20
Ffilm a Theatr Americanaidd TC29920 20
Sylfeini Hunan-Gyflwyno TC20320 20
Theatr a Ffilm Gyfoes: Cymru a'r Byd TC20620 20
Ymarfer Cynhyrchu: Gorffen TC21220 20
Ymchwil Creadigol Ymarferol TC21420 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Prosiect Ymchwil Creadigol TC36140 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Ffilm a Theatr Americanaidd TC39920 20
Theatr a Ffilm Gyfoes: Cymru a'r Byd TC30620 20
Ymarfer Cynhyrchu 2: Cyfryngau TC31120 20
Ymarfer Cynhyrchu 2: Gorffen TC31220 20

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud â gradd mewn Creu Cyfryngau?

Mae llawer o’n graddedigion wedi dod o hyd i swyddi yn y meysydd hyn:

  • ymchwilio, golygu, rheoli llawr, trin camera, dylunio a chyfarwyddo ar gyfer cwmnïau ffilm a theledu
  • gweithio’n llawrydd ar draws y cyfryngau
  • sgriptio
  • dysgu ac addysg
  • gweinyddu’r celfyddydau
  • marchnata a chysylltiadau cyhoeddus
  • hysbysebu
  • trefnu a rhaglennu gwyliau.

Pa sgiliau fydda i’n eu dysgu ar y cwrs?

Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o’n holl weithgareddau. 

Yn fyfyriwr ar y cwrs Creu Cyfryngau, byddwch yn dysgu sgiliau gwerthfawr y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr. Yn eu plith mae:

  • gweithio’n effeithiol mewn grŵp i ddatblygu, ymarfer a chynhyrchu deunydd cyfryngol a digwyddiadau byw
  • defnyddio sgiliau creadigol, dyfeisgar a datrys problemau mewn amryw o sefyllfaoedd
  • ymchwilio, a chloriannu a threfnu gwybodaeth
  • saernïo a chyfleu syniadau’n effeithiol mewn amryw o sefyllfaoedd ac mewn amryw o ffyrdd
  • gweithio’n annibynnol a gydag eraill
  • trefnu'ch amser a defnyddio'ch sgiliau’n effeithiol
  • gwrando ar gyngor beirniadol a’i ddefnyddio
  • eich cymell eich hun ac arfer hunanddisgyblaeth
  • defnyddio amryw o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth
  • dangos mentergarwch wrth ddatblygu prosiectau diwylliannol.

A fydd cyfleoedd i ennill profiad gwaith wrth astudio?

Mae gan yr adran bartneriaethau a chysylltiadau cryf â llawer o sefydliadau y mae ein myfyrwyr wedi cael cynnig lleoliadau gwaith gyda nhw. Ymhlith y rhain mae'r BBC, Tinopolis a Gŵyl Ffilm Ryngwladol Caeredin.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn darganfod:

  • egwyddorion a sgiliau pob cam o'r broses gynhyrchu: sgriptio, ffilmio, cyfarwyddo a golygu
  • dulliau cyfoes o greu ffilmau a fideo, ynghyd â gwaith aml-gyfryngol byw
  • amodau gwaith a heriau cyfoes i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt
  • sut i greu cwmni creadigol ar gyfer cyflwyno gwaith ensemble
  • datblygiadau allweddol yn hanes, theori a dadansoddiad ffilm a theledu.

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn archwilio:

  • dulliau cyfoes o greu a chyflwyno traethodau fideo
  • gwaith cynhyrchu ar raddfa lawn dan gyfarwyddyd aelodau staff
  • technegau cynhyrchu, gwneud ffilmiau dogfennol ac ysgrifennu ar gyfer ffilm a theledu
  • agweddau ar hanes ffilm, teledu a’r diwydiannau creadigol yn Nghymru ac ar draws y byd
  • agweddau ar berthynas y cyfryngau â’r gymdeithas gyfoes.

Yn y flwyddyn olaf, cewch gyfle:

  • i greu gwaith creadigol annibynnol
  • i gwblhau prosiect ymchwil mawr ac astudiaethau damcaniaethol uwch
  • i fireinio sgiliau mewn prosiectau cynhyrchu unigol ac mewn grŵp
  • i ddatblygu sgiliau mentergarwch drwy archwilio cyflwr cyfoes y diwydiannau creadigol
  • i sgriptio ar gyfer cynyrchiadau cyfryngol ac amlgyfrwng llawn
  • i baratoi a chynllunio gyrfa greadigol.

Sut gaf i fy nysgu?

Cewch eich dysgu drwy weithdai ymarferol, seminarau mewn grwpiau bach, darlithoedd, prosiectau cynhyrchu a gwaith prosiect mewn grwpiau.

Yn aml byddwn yn cyfuno sawl dull o ddysgu, gan bwyso a mesur damcaniaethau drwy ymchwil ymarferol a thrwy groesi ffiniau disgyblaethol.

Sut gaf i fy asesu?

Rydym yn asesu ein myfyrwyr trwy:

  • brosiectau ffilm a fideo unigol a grŵp
  • gwaith ar gynyrchiadau amlgyfrwng byw
  • dyddiaduron cynhyrchu ac ysgrifennu sgriptiau
  • cyfnodolion a blogiau myfyriol
  • traethodau fideo ac ysgrifennu beirniadol traddodiadol
  • cyflwyniadau seminar.

Gellir defnyddio'r holl ddeunyddiau hyn i gynhyrchu portffolio o waith i'w gyflwyno i ddarpar gyflogwyr.

Mwy o wybodaeth:

Bydd tiwtor personol wedi’i neilltuo ichi drwy gydol eich cwrs gradd, a fydd yn gallu eich helpu ag unrhyw broblemau neu gwestiynau, boed yn academaidd neu’n bersonol. Fel myfyriwr cyfrwng-Cymraeg, mae gennych hawl i diwtor personol sy’n siarad Cymraeg. Mae croeso ichi gysylltu â'ch tiwtor personol unrhyw bryd i gael cymorth a chyngor.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|