BA

Ieithoedd Modern

Aberystwyth yw un o lond llaw yn unig o brifysgolion yn y DU i gynnig cyfle i fyfyrwyr astudio cyfuniad o dair iaith, a chewch ddechrau astudio dwy ohonynt heb fod wedi gwneud hynny o’r blaen. Cewch ddewis o blith Ffrangeg, Eidaleg, Almaeneg, a Sbaeneg.

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â Blwyddyn Dramor, gan gynnig cyfle i chi fyw, astudio neu weithio, yng ngwledydd eich prif iaith neu ieithoedd astudio.

Nid yn unig byddwch yn magu gwybodaeth ymarferol am dair iaith a rhuglder yn yr ieithoedd hynny, ond byddwch hefyd yn dysgu deall sefyllfa’r ieithoedd hyn mewn cyd destun byd-eang ehangach.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio BA Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth?  

Credwn y dylai ein myfyrwyr gael eu trochi'n llawn yn yr ieithoedd y maent yn eu hastudio. Mae ein cymuned ryngwladol glos yn annog ein myfyrwyr i ddefnyddio'r ieithoedd hyn yn eu bywydau bob dydd, ac rydym hefyd yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr astudio dramor. 

Cewch ddewis o blith Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg ac Eidaleg.

Ar eich Blwyddyn Dramor, rhennir eich amser fel arfer rhwng dwy wlad i sicrhau eich bod yn cael eich torchi’n llwyr mewn mwy nag un iaith a diwylliant. Rydym wedi ymrwymo i gynnig cyfleoedd i chi ddatblygu eich sgiliau iaith, a dysgu am, mwynhau a chofleidio diwylliannau'r gwledydd lle siaredir yr ieithoedd yr ydych yn eu hastudio. Bydd y Flwyddyn Dramor yn eich galluogi i feistroli'r ieithoedd rydych chi wedi'u dewis a bydd o bosibl yn golygu blwyddyn orau eich bywyd! 

Bydd y cwrs hwn hefyd yn rhoi cyfle i chi astudio ystod eang o fodiwlau arbenigol mewn llenyddiaeth a diwylliant, yn ogystal ag iaith. 

Ein Staff

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o'n haddysgu. Bydd yr hyn a ddysgwn i chi yn eich paratoi’n dda ar gyfer eich gyrfa yn y dyfodol, gyda'n modiwlau wedi'u teilwra i ddarparu'r sgiliau cyflogadwyedd y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt i fyfyrwyr. Mae’r Flwyddyn Dramor hefyd yn helpu i sicrhau bod ein graddedigion yn sefyll allan, gan fod y myfyrwyr yn dychwelyd gyda set o sgiliau cynyddol, cymwyseddau iaith cryfach a’r gallu i addasu i unrhyw sefyllfa. 

Rydym yn falch iawn o gyfradd lwyddiant ein graddedigion wrth ddod o hyd i waith ar ôl graddio. Dyma rai o'r meysydd a ddewiswyd gan ein myfyrwyr: 

  • cyfieithu a dehongli 
  • darlledu 
  • addysg 
  • marchnata 
  • Adnoddau Dynol 
  • datblygu gwefannau 
  • bancio rhyngwladol 
  • y Gwasanaeth Sifil. 

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG).

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd. 

Yn ystod eich pedair blynedd, bydd gennych bedair awr o waith iaith bob wythnos, a fydd yn cynnwys: 

  • siarad 
  • ysgrifennu 
  • gwrando 
  • cyfieithu. 

Yn ogystal â'ch gwaith iaith, yn eich blwyddyn gyntaf gallwch hefyd ddarganfod: 

  • Hanes a llenyddiaeth Ffrainc
  • Ffilm Ewropeaidd 
  • Materion hunaniaeth, cenedligrwydd ac iaith
  • Hanes a diwylliant y Byd Sbaeneg.

Yn eich ail flwyddyn, mae’n bosibl y byddwch yn ystyried: 

  • Avant-garde Sbaeneg 
  • Sinema Ciwba 
  • Eidal yr 20fed Ganrif
  • Hiwmor ac ysgrifennu comig.

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch blwyddyn dramor, yn gweithio neu'n astudio mewn gwlad dramor sy’n berthnasol i’ch dewis ieithoedd. 

Yn eich blwyddyn olaf, gallwch ddewis o opsiynau megis: 

  • Rhyw yn niwylliant Ffrainc
  •  Ffoaduriaid sy'n siarad Almaeneg
  •  Sinema Ffrangeg
  •  Llenyddiaeth Sbaeneg y 19eg ganrif.

Sut fydda i'n cael fy nysgu? 

Defnyddir amrywiaeth o fformatau addysgu yn y dosbarth. Bydd darlithoedd yn eich cyflwyno i bynciau, ond mewn seminarau bydd disgwyl i chi ddatblygu eich gwybodaeth mewn meysydd penodol a chymryd rhan mewn trafodaethau dosbarth. 

Byddwch yn dysgu addasu i unrhyw sefyllfa a byddwch yn cael yr adnoddau angenrheidiol i allu rhoi cyflwyniadau llafar (yn unigol ac mewn grwpiau), sefyll profion gwrando, ysgrifennu adroddiadau a gwneud cyfieithiadau cynyddol gymhleth mewn dosbarthiadau iaith, yn ogystal â sefyll arholiadau llafar ac ysgrifenedig. Mewn modiwlau cynnwys, byddwch yn datblygu'r sgiliau angenrheidiol i ysgrifennu traethodau, ymgymryd â phrosiectau ymchwil, rhoi cyflwyniadau llafar, neu sefyll arholiadau. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|