BA

Gwleidyddiaeth a Hanes Modern

BA Gwleidyddiaeth a Hanes Modern Cod V135 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae'r cynllun gradd Gwleidyddiaeth a Hanes Modern yn gyfuniad perffaith i fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn deall damcaniaeth wleidyddol a'r gorffennol diweddar. Mae'n cyfuno arbenigedd haneswyr a gwyddonwyr gwleidyddol mewn strwythur cwrs integredig, sy'n cynnig rhyddid sylweddol wrth ddewis modiwlau hanes a gwleidyddiaeth. Bydd yr addysgu'n cael ei rannu rhwng yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol a'r Adran Hanes a Hanes Cymru.

Yn rhan o'r cwrs gradd hwn, byddwch yn archwilio themâu allweddol megis pŵer, trais, economeg a chymdeithas yn ogystal â'r modd y mae'r grymoedd hyn wedi siapio ein byd modern. Byddwch hefyd yn dysgu am sut mae meddylfryd ym meysydd gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol wedi effeithio ar y syniadau sydd wedi llunio'r strwythurau gwleidyddol yr ydym yn byw oddi mewn iddynt.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Gwleidyddiaeth a Hanes Modern yn Aberystwyth?

  • Byddwch yn cael eich addysgu mewn dwy adran hir-sefydlog ac uchel eu bri. Dysgir Hanes yn Aberystwyth ers 1872, a'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn Aberystwyth oedd yr adran wleidyddiaeth gyntaf yn y byd pan y sefydlwyd hi yn 1919.
  • Byddwch yn cael eich tywys a'ch mentora gan ddarlithwyr brwdfrydig, sy'n ymroddedig i ddarparu amgylchedd dysgu arloesol a dynamig i chi.
  • Mae un o lyfrgelloedd mwya'r byd, sef Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ar garreg ein drws. Mae'r sefydliad hawlfraint hwn yn cael copi o bob llyfr a gaiff ei gyhoeddi yn y DU.
  • Cewch gyfleoedd i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau allgyrsiol yn ystod eich cwrs gradd. Yn yr adran Hanes, cewch y cyfle i ymuno â Chymdeithas Hanes Prifysgol Aberystwyth a chymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol ac ymweliadau ag amgueddfeydd ac orielau a lleoliadau eraill sy'n gyfoeth o hanes. Yn yr adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, cewch y cyfle i fod yn rhan o'n cynllun Lleoliadau Seneddol clodfawr, ochr yn ochr ag Aelod Senedd Cymru (Senedd Cymru, Caerdydd) neu Aelod Seneddol (Tŷ'r Cyffredin, San Steffan), ac i fod yn gyfranogwyr gweithgar i Interstate', sef y cyfnodolyn hynaf gan fyfyrwyr ar Wleidyddiaeth Ryngwladol yn y DU.
Ein Staff

Mae staff yr Adran Hanes a Hanes Cymru yn ymchwilwyr gweithgar ac yn arbenigwyr yn eu meysydd Hanes. Mae’r mwyafrif wedi cymhwyso gyda PhD ac mae ganddynt TUAAU hefyd. I ganfod mwy am ein staff, ewch i’n tudalen staff yr adran.

Mae pob un o ddarlithwyr yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ymchwilwyr gweithgar ac mae ganddynt gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y rhan fwyaf hefyd TUAAU.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Llunio Hanes HA20120 20
People and Power: Understanding Comparative Politics Today IQ23920 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP28320 20
African-American History, 1808 to the Present HY28320 20
Capitalism and International Politics IQ22820 20
Climate Change Politics IP21420 20
Climate Change and International Politics in the Anthropocene IP20720 20
Contemporary Latin America IP28720 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 WH23420 20
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417 HC20120 20
Cysylltiadau Rhyngwladol: Safbwyntiau a Thrafodaethau GW20120 20
Datganoli a Chymru GW25020 20
Devolution and Wales IP25020 20
Germany since 1945 HY29620 20
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol GQ23720 20
International Politics and Global Development IP29220 20
International Relations: Perspectives and Debates IP20120 20
Intervention and Humanitarianism IQ20220 20
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze HY25920 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY27520 20
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society IP20820 20
Political Theory IP22220 20
Politics in Diverse Societies IQ23720 20
Questions of International Politics IP26820 20
Rhyfel Cartref America HA26820 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ24920 20
Science, Religion and Magic HY28620 20
Science, Technology, and International Relations IP23020 20
Southeast Asia at the crossroads (c.1400 to the present) HY29920 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA28120 20
Strategy, Intelligence and Security in International Politics IQ25120 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP24520 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY29720 20
The BRICS in World Politics IQ20320 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP23820 20
The Governance of Climate Change: Simulation Module IP22320 20
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300 HY25720 20
The Second World War in Europe IP26420 20
The Tudors: A European Dynasty? HY20920 20
Total War, Total Peace IQ23420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ21620 20
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850 HC23420 20
War Crimes IQ25720 20
Warfare after Waterloo: Military History 1815-1918 IP25320 20
Y Meddwl Cymreig mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ20920 20
Gwrando ar Hanes: Y mudiad Hawliau Sifil yn America HA24720 20
Interdisciplinary and decolonial history HY24320 20
Memory, Myth and History: Investigating Medieval Chronicles, c. 1000-1250 HY24120 20
Recounting Racism: Oral History and Modern American Race Relations. HY25020 20
Victorian Visions: Exploring Nineteenth-Century Exhibitions HY24620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
A War on the Mind: Propaganda and Secret Intelligence from the Great War to the 21st Century IP38320 20
African-American History, 1808 to the Present HY38820 20
Capitalism and International Politics IQ32820 20
Climate Change Politics IP31420 20
Contemporary Latin America IP38720 20
Crime, Riot and Morality in Wales 1750-1850 WH33420 20
Cymru a Brenhinoedd Prydain: Gwrthdaro, Grym a Hunaniaeth yn Ynysoedd Prydain, 1039-1417 HC30120 20
Datganoli a Chymru GW35020 20
Devolution and Wales IP35020 20
Germany since 1945 HY39620 20
Gwleidyddiaeth mewn Cymdeithasau Amrywiaethol GQ33720 20
Intervention and Humanitarianism IQ30220 20
Magic in the Middle Ages: From Antiquity to the Eve of the Witch Craze HY35920 20
Media and Society in Twentieth Century Britain HY37520 20
Militaries and Crisis: Where Strategy Meets Society IP30820 20
Political Theory IP32220 20
Politics in Diverse Societies IQ33720 20
Questions of International Politics IP36820 20
Rhyfel Cartref America HA36820 20
Russian intelligence from Lenin to Putin IQ34920 20
Science, Religion and Magic HY38620 20
Science, Technology, and International Relations IP33020 20
Southeast Asia at the crossroads (c. 1400 to the present) HY39920 20
Stori yr Unol Daleithiau ar Ffilm a Theledu, 1865-2008 HA38120 20
Terrorism & Counter Terrorism in the Modern World: Policing, Intelligence & War IP34520 20
The Atlantic World, 1492-1825 HY39720 20
The BRICS in World Politics IQ30320 20
The European Union: Politics, Policies, Problems IP33820 20
The Making of Europe: Christendom and beyond, c. 1000-1300 HY35720 20
The Second World War in Europe IP36420 20
The Tudors: A European Dynasty? HY30920 20
Total War, Total Peace IQ33420 20
Trade Wars and the Liberal Order IQ31620 20
Trosedd, Terfysg a Moesoldeb yng Nghymru 1750-1850 HC33420 20
War Crimes IQ35720 20
Y Meddwl Cymreig Mewn Syniadaeth Ryngwladol GQ30920 20
Cathedrals in Medieval England and Wales Part 1 HQ33320 20
Cathedrals in Medieval England and Wales Part 2 HQ33420 20
Dissertation HY30340 40
Dulliau Ymchwil + Traethawd Estynedig GW30040 40
From Burma to Myanmar (Part I): colonial Burma under British rule (1824-1941) HQ39220 20
From Burma to Myanmar (Part II): Challenges for a young nation state since 1942 HQ39320 20
Gwrthryfel Glyndŵr 1: Hynt a Helynt y Gwrthryfel HP33120 20
Gwrthryfel Glyndŵr 2: Cwestiynau Allweddol HP33220 20
The English Reformation, 1520-58: Revolution and Counter Revolution HQ35020 20
The English Reformation, 1558-1648: Consolidation and Conflict HQ35620 20
The Invisible Empires: The First Ku Klux Klan and American Society, 1865-1915 HQ39620 20
The Invisible Empires: The Second Ku Klux Klan and American Society, 1915-1944 HQ39720 20
Traethawd Estynedig HA30340 40

Gyrfaoedd

Beth mae ein graddedigion yn ei wneud erbyn hyn? 

Mae graddedigion o'n hadran wedi dilyn gyrfaoedd yn y meysydd canlynol: 

  • y Gwasanaeth Sifil
  • gwasanaethau diogelwch
  • adrannau ymchwil y llywodraeth
  • Materion Cyhoeddus
  • addysg
  • ymchwil gymdeithasol.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i mi wrth astudio yn y Brifysgol?

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein haddysgu. Rydym yn addysgu ein myfyrwyr i anelu am yr yrfa maen nhw'n dymuno ei chael, ac nid y swydd y gallan nhw ei chael.

  • Cynllun Lleoliadau Seneddol - Mae'r cynllun clodfawr hwn sy'n cael ei redeg gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn eich galluogi i gael profiad gwaith gwerthfawr gydag Aelod Senedd Cymru (Senedd Cymru, Caerdydd) neu Aelod Seneddol (Tŷ'r Cyffredin, San Steffan) am gyfnod o 4-6 wythnos yn ystod yr haf. Yn ystod y cyfnod hwn, byddwch yn llunio adroddiadau ac areithiau, yn cyflawni prosiectau ymchwil, ac yn ymateb i faterion yn yr etholaeth. Mae'n bosib y bydd cyfleoedd pellach i chi gymryd rhan mewn etholiadau a materion rhyngwladol amrywiol.
  • Lleoliadau gwaith i fyfyrwyr yn y sector treftadaeth - Mae gan yr Adran Hanes a Hanes Cymru gysylltiadau cryf gyda'r sector treftadaeth, a phortffolio sefydledig o leoliadau myfyrwyr. Yn y gorffennol, mae myfyrwyr wedi treulio hyd at dair wythnos yn y Llyfrgell Genedlaethol (gan gynnwys cyfleoedd drwy gyfrwng y Gymraeg), Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, a Chymdeithas Hynafiaethwyr Llundain. Mae'r lleoliadau hyn yn rhoi cyfle i gael profiad ymarferol a chipolwg o'r sector treftadaeth, ac maent yn werthfawr iawn ar gyfer y CV!
  • Interstate - Mae'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn gartref i'r cyfnodolyn hynaf gan fyfyrwyr ar wleidyddiaeth ryngwladol yn y DU, sy'n rhoi cyfle unigryw i chi gyhoeddi eich gwaith (sy'n arbennig o fanteisiol os byddwch yn dymuno cyflawni astudiaeth ôl-raddedig) neu i gael profiad gwerthfawr yn gweithio fel rhan o'r tîm golygyddol. Mae cymdeithasau myfyrwyr cyffrous yn meithrin ymdeimlad cryf o gymuned yn yr adran, gan gynnig rhaglen o ddadleuon gwleidyddol, siaradwyr gwadd, cynadleddau a gweithdai, ochr yn ochr â gweithgareddau cymdeithasol niferus fel y ddawns flynyddol.

Pa sgiliau fydda i'n eu cael os bydda i'n astudio Gwleidyddiaeth a Hanes Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Bydd astudio am radd mewn Gwleidyddiaeth a Hanes Modern yn rhoi ystod o sgiliau trosglwyddadwy i chi sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau effeithiol mewn datrys problemau a meddwl yn greadigol
  • gwneud cyflwyniadau effeithiol
  • sgiliau ymchwil
  • y gallu i lunio dadleuon gwybodus o dan gyfyngiadau amser
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • defnyddio'r adnoddau a'r platfformau digidol diweddaraf.

Cyfleoedd rhyngwladol

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cyfle oes i chi astudio, gwirfoddoli neu weithio mewn gwlad arall, am flwyddyn academaidd, semester sengl neu ychydig wythnosau yn y gwyliau. Archwiliwch ddiwylliannau eraill, heriwch eich hun a chasglwch brofiadau a fydd yn helpu gyda'ch gyrfa. Gall yr amser a dreulir yn archwilio gwlad a diwylliant newydd hogi'ch sgiliau rhyngbersonol, gwella'ch gallu iaith, ac ehangu eich meddylfryd rhyngwladol. Canfod ble gallwch chi fynd.

Sgyrsiau graddedig a mentora gan gyn-fyfyrwyr

Mae’r cynllun e-Fentora yn gyfle i chi gysylltu â chyn-fyfyrwyr o amrywiaeth o yrfaoedd, a hynny mewn amgylchedd diogel a chefnogol. Bydd hyn yn rhoi’r cyfle ichi ganfod beth oedd eu llwybr nhw i’w swyddi presennol a pha wybodaeth y gallant ei rhannu wrth i chi feddwl am eich camau nesaf. Mae’r Adran Hanes a Hanes Cymru’n cydweithio â’r Gwasanaeth Gyrfaoedd gyda’r bwriad o drefnu sgyrsiau gan gyn-fyfyrwyr ar wahanol adegau yn eu gyrfaoedd, megis y sgwrs lwyddiannus: ‘O’r brifysgol i yrfa ym maes treftadaeth ddiwylliannol: y camau cyntaf’, a gyflwynwyd gan un o’n graddedigion diweddar a lwyddodd i gael lle ar raglen uchel ei bri i hyfforddai yn Oriel y Tate.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio? 

Dysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Cyfleoedd Rhyngwladol

Ceir gwybodaeth am gyfleoedd i dreulio amser dramor yn ystod eich gradd o dan 'Astudio dramor' yn y brif fwydlen ochr-chwith ar dudalen gartref y ddwy adran.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio:

  • sgiliau hanesyddol
  • dulliau a chyfnodau newydd
  • gwaith gwleidyddol a hanesyddol diweddar a chyffrous
  • datblygiad a hynt cysylltiadau rhyngwladol yn ystod yr ugeinfed ganrif
  • ystod o safbwyntiau ac ymagweddau tuag at astudio gwleidyddiaeth ryngwladol.

Yn ystod eich ail a'ch trydedd flwyddyn, byddwch yn archwilio pynciau fel:

  • dull hanesyddol
  • damcaniaeth wleidyddol
  • modernedd cynnar yn Ewrop
  • rhyfel a chymdeithas mewn Hanes
  • esblygiad rhyfela ers Napoleon
  • Cymru ramantaidd
  • rhywedd mewn Hanes
  • cymdeithas Prydain a'r chwyldro Ffrengig
  • Napoleon
  • Prydain yn rhyfela
  • Y drydedd Reich
  • rhyfel Fietnam
  • defod, brenhiniaeth a grym yn Lloegr Normanaidd ac Angevin
  • agweddau gwleidyddol a hanesyddol ar y Rhyfel Oer
  • cudd-wybodaeth a diogelwch yn yr ugeinfed ganrif
  • rôl rhyfela yn hanes gwladwriaethau a rhanbarthau allweddol (fel yr UDA, Rwsia, y Deyrnas Unedig ac Iwerddon, a'r Dwyrain Canol).

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir y radd hon ar ffurf darlithoedd a seminarau.

Byddwn yn dynodi tiwtor personol i chi a fydd gyda chi drwy gydol eich gradd. Bydd yn eich helpu gydag unrhyw broblemau, boed yn faterion academaidd neu bersonol.

Rydym yn asesu ein myfyrwyr ar ffurf traethodau, adroddiadau, arholiadau, adolygiadau llyfr, logiau dysgu a chyflwyniadau.

Rydym yn annog ein myfyrwyr i gymryd rhan yn y Gemau Argyfwng, sef gweithgaredd preswyl blynyddol i ffwrdd o Aberystwyth. Mae'r Gemau Argyfwng wedi bod yn seiliedig ar argyfyngau dyngarol ac amgylcheddol, proses heddwch Gogledd Iwerddon, etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, rhyfel rhwng Rwsia a Georgia, rhaglen niwclear Iran, a Brecsit. Bydd y Gemau Argyfwng yn caniatáu i chi ddysgu am agweddau ar wleidyddiaeth ryngwladol na ellir eu haddysgu mewn darlithoedd a seminarau, yn enwedig y cyfyngiadau mae arweinwyr gwleidyddol yn eu hwynebu wrth ymateb i argyfyngau amrywiol. Yn ddi-os, dyma uchafbwynt y flwyddyn. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Rhoddodd y cwrs Gwleidyddiaeth a Hanes Modern ym Mhrifysgol Aberystwyth gyfle ardderchog i fi brofi arbenigedd dwy adran wych. Mae cwrs V135 wedi'i deilwra'n arbennig i fyfyrwyr sydd â diddordeb yn sut mae'r byd wedi newid dros amser, ac elfennau gwleidyddol pwysig y newid hwnnw. Gan ein bod ni'n gallu dewis o blith rhestr hir o fodiwlau yn y ddwy adran, rydw i wedi gallu canolbwyntio ar yr agweddau ar newid hanesyddol a gwleidyddol rwy'n ymddiddori ynddyn nhw fwyaf. Hefyd, mae'r staff a'u harbenigedd wedi rhoi profiad dysgu eithriadol a chefnogaeth ragorol i fi.

Alan Donaldson

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|