BA

Hanes Celf

Yn fyfyriwr Hanes Celf, byddwch yn archwilio cynnyrch diwylliannau, yn olrhain eu gwreiddiau, yn mapio eu datblygiad ac yn trafod eu harwyddocâd. At y diben hwn, mae ein gradd BA Hanes Celf ym Mhrifysgol Aberystwyth yn hyrwyddo’r gallu i feddwl yn feirniadol ac yn dysgu sgiliau hanfodol ym maes ymchwil ac ysgrifennu. Byddwch yn ennill gwybodaeth werthfawr, ond yn fwy na hynny yn gallu cymhwyso’r wybodaeth honno.

Trosolwg o'r Cwrs

Mae ein cynllun Hanes Celf yn eich cyflwyno i hanfodion ymchwil, dadansoddi ac ymresymu. Mae’n rhoi cyfleoedd prin ichi wneud gwaith ymchwil gwreiddiol gan ddefnyddio casgliadau helaeth ein hamgueddfa o gelfyddyd gain ac addurnol.

Yn ogystal ag adolygu celfyddyd Orllewinol o gyfnod y Dadeni hyd heddiw, mae’r cynllun gradd yn cynnig ystod o fodiwlau dewisol megis Art in Wales, Gothic Imagination, Rethinking Impressionism, a Curating an Exhibition. Cewch gyfle i ymchwilio a chynnal arddangosfa ar gyfer ein horielau cyhoeddus, ac i gael profiad ymarferol o arferion creadigol yn rhan o’r modiwl Methods and Materials for Art Historians. Ni yw’r unig sefydliad yng Nghymru sy’n cynnig graddau israddedig mewn Hanes Celf.

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Hanes Celf yn Aberystwyth:

  • gwaith datblygu sgiliau a hyfforddiant ymchwil wedi’i deilwra i gyd-fynd â’ch diddordebau personol chi
  • hyfforddiant sydd â’i sail yn hanfodion ymchwil, dadansoddi ac ymresymu
  • modiwlau galwedigaethol ac astudio celf yn guradurol
  • mynediad i gasgliadau ein hamgueddfa o gelfyddyd gain ac addurnol - casgliadau sydd ag enw da yn rhyngwladol.
Ein Staff

Drwy ymwneud yn weithredol ag ymarfer, hanes a churadu celf, mae staff yr Ysgol Gelf yn ceisio darparu amgylchedd dysgu cyfoethog i'r myfyrwyr. Mae eu profiad fel artistiaid sy'n arddangos eu gwaith, haneswyr celf sy'n cyhoeddi eu gwaith, a churaduriaid gweithredol yn llywio eu gwaith dysgu.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Mewn byd fel hwn lle mae delweddau’n chwarae rhan mor bwysig, mae’r gallu i ddeall iaith y diwylliant gweledol yn dod yn fwyfwy pwysig. Mae sawl modd o ddefnyddio astudiaethau hanes celf yn ymarferol. Mae’n rhoi sylfaen gadarn ar gyfer gyrfaoedd ym maes addysg, cyhoeddi a hysbysebu, yn ogystal ag ym maes curadu, cadwraeth a gweinyddu’r celfyddydau. Ymhlith cyflogwyr ein cyn-fyfyrwyr mae Cyngor y Celfyddydau, Academi Frenhinol y Celfyddydau, Tate, Amgueddfa’r Victoria and Albert ac Ymddiriedolaeth y Casgliadau Brenhinol.

Dysgu ac Addysgu

Dyma'r modiwlau y mae'n bosibl y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs hwn.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Pleasure, Power, and Profit: Art in the Long Eighteenth Century
  • Looking into Landscape: Reading, Researching, Responding
  • Art in Europe 2: Revolutions and Modernities 1814-1900
  • Representing the Body.

Yr ail flwyddyn:

  • Methods and Materials for Art Historians
  • Modernisms: Art in the Early Twentieth Century
  • Dissertation Preparation and Professional Practice for Students of Art History
  • Postmodernism and Contemporary Art.

Y flwyddyn olaf:

  • Methods and Materials for Art Historians
  • Dissertation.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|