BA

Celfyddyd Gain

Bydd Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth yn galluogi i chi ddatblygu sgiliau newydd neu ehangu a dyfnhau sgiliau cyfredol mewn peintio, gwneud printiau, arlunio, ffotograffiaeth, darlunio, ffilm arbrofol, gosodiadau celf a pherfformiadau mewn safleoedd penodol. 

Mae ein rhaglen Celfyddyd Gain yn cynnig hyfforddiant sy'n cysylltu sgiliau traddodiadol ag arferion a damcaniaethau cyfoes. Ar ôl cwblhau'r radd hon, bydd gennych alluoedd yn barod ar gyfer y byd go iawn ac a fydd yn eich galluogi i ddilyn gyrfa fel artist, curadur neu addysgwr.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Wrth astudio yn yr Ysgol Gelf, gallwch fanteisio ar gasgliad o gelf ac arteffactau sydd o fri rhyngwladol. Mae ein casgliad yn cynnwys tua 20,000 o brintiau, ffotograffau, darluniau, paentiadau a serameg. Rydym yn defnyddio'r gweithiau celf gwreiddiol hyn i feithrin gwybodaeth ymarferol am hanes celf. 
  • Mae'r Ysgol Gelf yn amgueddfa gelf a achredwyd gan y llywodraeth ac mae hi’n rhedeg ei horielau ei hun. Dim ond dwy ysgol o'r fath sydd yn y Deyrnas Unedig. Oherwydd hyn mae myfyrwyr yn cael cyfle i astudio celf yn gwbl ymarferol mewn amgylchedd amgueddfa. Mae'n rhoi cyfle i ymwneud yn greadigol â hanes celf trwy guradu gweithiau o'n casgliad yn rhan o'ch cynllun gradd. Am enghreifftiau o arddangosfa wedi'i churadu gan fyfyrwyr, ewch i'n blog Amgueddfa ac Orielau. 
  • Wrth astudio yma, byddwch yn ymuno ag adran gelf yn y rheng uchaf yn y Deyrnas Gyfunol am foddhad ei myfyrwyr ac am ei llwyddiant wrth baratoi myfyrwyr i fod yn gyflogadwy. 
  • Mae ein staff yn weithgar o ran ymchwil, ac mae eu canfyddiadau yn llywio ein haddysgu yn yr Ysgol Gelf. Mae ein tîm o arbenigwyr yn cynnwys haneswyr celf adnabyddus, curaduron wrth eu gwaith ac artistiaid sy’n arddangos eu gwaith. 
  • Yn ystod eich amser yn yr Ysgol Gelf, cewch gyfle i weithio gyda, ac astudio, ein casgliad o brintiau, ffotograffau, paentiadau a serameg sy'n enwog yn rhyngwladol. 
  • Gall pob myfyriwr yn ein hysgol ddefnyddio ein cyfleusterau addysgu sy'n cynnwys ystafell MAC, stiwdios a mannau dysgu. 
  • Yr uchafbwynt i bob myfyriwr yn ein hadran yw curadu arddangosfa yn ein horielau yn rhan o'u cynllun gradd. 
  • Ar stepen ein drws ceir Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint yn y Deyrnas Unedig, mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth yn dal dros chwe miliwn o lyfrau, mapiau, printiau a llawysgrifau, ac mae ganddi gasgliad rhagorol o baentiadau a gweithiau ar bapur. 
  • Mae'r cwrs hwn ar gael i fyfyrwyr sydd wedi cwblhau cwrs sylfaen mewn Celf. 
Ein Staff

Drwy ymwneud yn weithredol ag ymarfer, hanes a churadu celf, mae staff yr Ysgol Gelf yn ceisio darparu amgylchedd dysgu cyfoethog i'r myfyrwyr. Mae eu profiad fel artistiaid sy'n arddangos eu gwaith, haneswyr celf sy'n cyhoeddi eu gwaith, a churaduriaid gweithredol yn llywio eu gwaith dysgu.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Cyfleoedd Gyrfaol 

Dengys ymchwil fod y rhan fwyaf o'n graddedigion yn creu gyrfaoedd yn y maes o'u dewis. Mae ein graddedigion yn eu sefydlu eu hunain yn haneswyr celf, curadwyr a gweinyddwyr proffesiynol. Mae cyflogwyr yn cynnwys: 

  • Cyngor y Celfyddydau 
  • BBC 
  • Y Cyngor Dylunio 
  • Papur Newydd Yr Observer 
  • Academi Frenhinol y Celfyddydau 
  • Ymddiriedolaeth y Casgliadau Brenhinol 
  • Oriel Saatchi 
  • Oriel Tate 
  • Amgueddfa Victoria ac Albert 

Mae ein graddedigion yn: 

  • addysgwyr prifysgol 
  • athrawon ysgolion uwchradd 
  • rheolwyr orielau celf 
  • curaduron amgueddfeydd neu arddangosfeydd 
  • newyddiadurwyr 
  • cyfarwyddwyr celf ym maes cyhoeddi 
  • gwarchodwyr paentio îsl, serameg a gweithiau ar bapur. 

Bob blwyddyn mae nifer sylweddol o'n graddedigion yn cofrestru ar gynlluniau gradd Meistr yn y Celfyddydau ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mewn lleoedd eraill i wella eu cyfleoedd gyrfa ymhellach. 

Sgiliau Trosglwyddadwy  

Mae astudio Celf nid yn unig yn ddeallusol ysgogol ac yn rhoi boddhad personol, ond mae iddo hefyd lawer o fanteision ymarferol. Mae’n hyrwyddo agwedd gadarnhaol tuag at ddatrys problemau, yn datblygu doniau rhyngbersonol ac yn gwella eich gallu i lwyddo mewn byd cyfnewidiol. Mae galw mawr am y sgiliau trosglwyddadwy hyn yn y farchnad swyddi heddiw, a dyna pam eu bod yn cael eu hyrwyddo'n weithredol gennym ni yn ystod eich astudiaethau yn yr Ysgol Gelf. Maent yn cynnwys y gallu i: 

  • ymchwilio i ffeithiau a dehongli gwybodaeth 
  • gallu cyfathrebu syniadau'n effeithiol, ar lafar ac yn ysgrifenedig. 
  • cysylltu damcaniaeth ag ymarfer a datblygu meddwl rhyngddisgyblaethol 
  • y gallu i weithio'n annibynnol neu’n rhan o dîm creadigol 
  • cadw ffocws, cymhelliant a chanolbwyntio ar y nod. 

Profiad Gwaith 

Mae llawer o gyfleoedd i feithrin profiad proffesiynol yn ystod eich astudiaethau. I gael gwybodaeth benodol ewch i ymweld â’n Gwasanaeth Gyrfaoedd 

Gallwch wella eich rhagolygon am swydd ymhellach gyda GO Wales a thrwy ein Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith. Mae'r ddau yn cael eu rheoli gan ein tîm Gwasanaeth Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech fod yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.  

Yn eich blwyddyn gyntaf, drwy feithrin sgiliau technegol sylfaenol, byddwch yn ystyried: 

  • Lluniadu a Phaentio 
  • Darlunio llyfrau 
  • Gwneud printiau 
  • Ffotograffiaeth 
  • Meddwl ac ymarfer rhyngddisgyblaethol 
  • Astudiaethau ystafell fywyd 
  • ⁠Hanes Celf 
  • Sgiliau ysgrifennu academaidd Cyflwyniad i ddealltwriaeth feirniadol o Gelfyddyd Gain 

Yn eich ail flwyddyn, byddwch yn: 

  • Arbenigo yn eich dewis ddisgyblaeth(au) 
  • Dyfnhau eich syniadau a dangos hyfedredd technegol 
  • Datblygu rhaglen o ymarfer ac ymchwil hunangyfeiriedig dan arweiniad tiwtoriaid sy'n dangos ymagwedd arbrofol ac sy'n rhoi mynegiant i'ch llais personol fel artist 
  • Datblygu dull hunan-feirniadol o weithio’n greadigol a dulliau proffesiynol 
  • Gosod eich gwaith celf o fewn cyd-destunau cyfoes a thraddodiadau hanesyddol. 

Yn ystod eich trydedd flwyddyn bydd disgwyl i chi: 

  • Gynhyrchu corff o waith sy'n dangos cydlyniad cysyniadol a thechnegol 
  • Mynegi dimensiynau beirniadol a chyd-destunol eang eich disgyblaeth 
  • Dangos gwybodaeth am arferion hanesyddol, cyfoes a newydd sy'n berthnasol i'ch maes astudio 
  • Ymrwymo i bwnc am gyfnod hir 
  • Cynhyrchu syniadau'n annibynnol neu ar y cyd mewn ymateb i aseiniadau a osodwyd neu ymarfer y byddwch yn sefydlu eich hunan 
  • Datblygu ymateb personol, unigol a llawn dychymyg i'r pwnc o'ch dewis 
  • Cyfuno sgiliau, pynciau a chysyniadau a ddatblygwyd dros dair blynedd i gynhyrchu corff o waith ansoddol ar gyfer arddangosfa gyhoeddus 
  • Datblygu proffil neu hunaniaeth broffesiynol fel artist. 

Sut fydda i'n cael fy nysgu? 

Mae'r radd hon yn cael ei chyflwyno drwy gyfrwng gweithdai, dosbarthiadau tiwtorial, arddangosiadau, sesiynau ymarferol, darlithoedd a theithiau maes. 

Asesu 

Cewch eich asesu trwy gyfrwng gwaith cwrs, gan gynnwys portffolios, arddangosfeydd, traethodau, dyddiaduron myfyriol, adolygiadau o lyfrau, prosiectau ymchwil a chyflwyniadau. 

Tiwtor Personol 

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi, a’r person hwn fydd eich prif gyswllt trwy gydol eich astudiaethau. Bydd eich tiwtor personol yno i’ch helpu i ymgartrefu pan fyddwch yn cyrraedd gyntaf, a bydd wrth law i’ch helpu gyda materion academaidd neu faterion personol. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae'r darlithwyr yn frwdfrydig ac yn wybodus iawn am gelf a'u disgyblaeth eu hunain. Rwy'n teimlo fy mod yn tyfu ac yn gwella fel artist oherwydd bod fy nhiwtor yn cymryd amser i roi adborth adeiladol i mi. Amelia Jenkinson

Rwy'n dwlu ar yr amrywiaeth a geir ym maes Celfyddyd Gain. Does dim rheolau pendant ar gyfer y gwaith y gallwch ei greu ac fe gewch bob rhyddid i fynegi eich syniadau ym mha bynnag ffordd yr ydych yn dymuno. Mae'r tiwtoriaid yn cynnig cymorth ac anogaeth ac mae rhywun ar gael i gynnig arweiniad bob amser, yn aelod staff neu'n un o'r myfyrwyr eraill. Jamie Carpenter-White

Mae pawb yn dweud faint rydw i wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf a gallaf weld hynny drosof fy hun hefyd. Rydw i wedi dysgu cymaint yn ystod fy amser yn y brifysgol - yn enwedig sut i ymdrin â beirniadaeth adeiladol a'i defnyddio i'm helpu! Trwy gydol fy mlynyddoedd TGAU a Safon Uwch ni chefais lawer o feirniadaeth mewn gwirionedd, roedd fy athrawon bob amser yn cael argraff dda o’m gwaith, ac felly ni wnes i erioed wthio fy hun i'r lefel nesaf. O ganlyniad roeddwn wedi arfer cael canmoliaeth, roedd hi’n sioc enfawr ar y dechrau dod i'r brifysgol a mynd o'r brig yn fy nosbarth yn yr ysgol i ddim ond un ymhlith cymaint o fyfyrwyr talentog. Ac er ei fod yn rhwystredig cael beirniadaeth adeiladol ar y dechrau, rwy'n ei gwerthfawrogi gymaint nawr, pe na bawn i'n cael gwybod y gwir ac yn cael fy ngwthio i fod y gorau y gallaf fod, ni fyddwn i wedi gwella o gwbl. Diolch o galon! Rwy'n gobeithio y byddaf yn parhau i wella a chyflawni pethau! Maria Tilt 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Celf neu bwnc perthnasol, a phortffolio boddhaol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM, plus satisfactory portfolio

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28, plus satisfactory portfolio

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall, plus satisfactory portfolio

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|