Celfyddyd Gain
BA Celfyddyd Gain Cod W100 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrRydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024
Prif Ffeithiau
W100-
Tariff UCAS
120 - 104
-
Hyd y cwrs
3 blynedd
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrMae ein gradd Celfyddyd Gain wedi ei chynllunio mewn modd a fydd yn datblygu, ehangu a dyfnhau’ch sgiliau mewn amrywiol gyfryngau. Mae’r disgyblaethau a ddysgir yn yr Ysgol Gelf yn cynnwys peintio, gwneud printiau, lluniadu, ffotograffiaeth, darlunio llyfrau, creu ffilmiau, sain, a gosodiadau arbrofol, a pherfformiadau safle-benodol. Mae ein cynllun gradd ar sail modiwlau yn caniatáu ichi symud o un cyfrwng i’r llall a dewis llwybrau, cwricwla, dulliau asesu a chyfleoedd dysgu sy’n gweddu orau i’ch diddordebau a’ch gallu chi.
Yn ogystal â chynnig sylfaen gadarn mewn technegau a chyfryngau, mae’r cynllun hwn yn annog ailystyried sgiliau traddodiadol yng nghyd-destun arferion cyfoes, cysyniadol. Bydd darlunio’n rhan hanfodol o’ch hyfforddiant. O’r herwydd, mae’n cael lle canolog yn y cwricwlwm, yn enwedig ym mlwyddyn gyntaf yr astudiaethau. I’r sawl sy’n dewis cofrestru ar eu cyfer, cynhelir dosbarthiadau darlunio ffigyrau bob wythnos ar bob lefel astudio.
Mae eich gallu i ddefnyddio eich gwybodaeth a’ch sgiliau yn bwysig i ni. Wedi sylfaen gadarn mewn deunyddiau a thechnegau yn y flwyddyn gyntaf ceir llwybr arbenigol neu un ehangach ei gwmpas trwy’r cynllun. Bydd hyn yn eich cynorthwyo i archwilio eich diddordebau a sefydlu eich hun fel ymarferydd celf yn y farchnad sydd ohoni heddiw. Bydd eich arferion celf yn seiliedig ar hanes celf. Yn ogystal, mae’r gwaith dysgu yn yr Ysgol yn gwneud defnydd helaeth o gasgliadau ein hamgueddfa ac arddangosfeydd teithiol i ddatblygu eich dealltwriaeth o’r byd celf cyfoes.
Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Celfyddyd Gain yn Aberystwyth:
- y gallu i ddechrau ar y cynllun gradd yn syth o’r ysgol neu o gwrs sylfaen celf
- hyfforddiant sy’n cysylltu sgiliau traddodiadol ag arferion a damcaniaethau cyfoes
- dilyn modiwlau galwedigaethol ac ymwneud ag astudio celf yn guradurol
- mynediad i gasgliadau ein hamgueddfa o gelfyddyd gain ac addurnol
- cyfrannu at arddangosfeydd cyhoeddus yn rhan o’ch cynllun gradd.
Trosolwg o'r Cwrs
Modiwlau Dechrau Medi - 2024
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Drawing: Extended Practice | AR11320 | 20 |
Drawing: Looking, Seeing, Thinking | AR11120 | 20 |
Painting: Extended Practice | AR11420 | 20 |
Painting: Looking, Seeing, Thinking | AR11220 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Exploring the School of Art Collections: Research and Museums | AH11220 | 20 |
Looking into Landscape: Reading, Researching, Responding | AH11520 | 20 |
Photography Begins | AH11820 | 20 |
Pleasure, Power, and Profit: Art in the Long Eighteenth Century | AH11320 | 20 |
Representing the Body | AH11720 | 20 |
Revolutions & Modernities: Art in the Nineteenth Century | AH11420 | 20 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Professional Practice for Students of Art | AR23210 | 10 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Art in Wales | AH23720 | 20 |
Drawn to Order: British Illustration since 1800 | AH23620 | 20 |
Gothic Imagination | AH23420 | 20 |
Modernisms: Art in the Early Twentieth Century | AH20520 | 20 |
Postmodernism and Contemporary Art | AH20620 | 20 |
Rethinking Impressionism | AH20720 | 20 |
Thinking Photography | AH22820 | 20 |
Book Illustration 1 | AR21820 | 20 |
Book Illustration 2 | AR21930 | 30 |
Interdisciplinary Practice 3 | AR25320 | 20 |
Interdisciplinary Practice 4 | AR25420 | 20 |
Life Studies 1 | AR22110 | 10 |
Life Studies 2 | AR22210 | 10 |
Painting 1 | AR20120 | 20 |
Painting 2 | AR20230 | 30 |
Painting 3 | AR20920 | 20 |
Painting 4 | AR21030 | 30 |
Photography 1 | AR20720 | 20 |
Photography 2 | AR20830 | 30 |
Photography 3 | AR21620 | 20 |
Photography 4 | AR21730 | 30 |
Printmaking 1: Etching and Relief Printing | AR22320 | 20 |
Printmaking 2: Etching and Relief Printing | AR22430 | 30 |
Printmaking 3: Screenprinting, lithography & hybrid printing | AR22520 | 20 |
Printmaking 4: Screenprinting, lithography & hybrid printing | AR22630 | 30 |
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Exhibition 2: Graduation Show | AR32540 | 40 |
Research and Process in Practice | AR30620 | 20 |
Opsiynau
Teitl y Modiwl | Cod y Modiwl | Gwerth Credyd |
---|---|---|
Art in Wales | AH33720 | 20 |
Curating an Exhibition: Researching, Interpreting and Displaying | AH32720 | 20 |
Drawn to Order: British Illustration since 1800 | AH33620 | 20 |
Gothic Imagination | AH33420 | 20 |
Rethinking Impressionism | AH30720 | 20 |
Thinking Photography | AH30820 | 20 |
Book Illustration 3 | AR32330 | 30 |
Book Illustration 4 | AR32440 | 40 |
Interdisciplinary Practice 5 | AR35320 | 20 |
Interdisciplinary Practice 6 | AR35420 | 20 |
Painting 5 - Paint Directed Practice | AR31730 | 30 |
Painting 6 Paint Directed Practice | AR31840 | 40 |
Photography 5 - Photo Directed Practice | AR32130 | 30 |
Photography 6 - Photo Directed Practice | AR32240 | 40 |
Printmaking 5 - Print Directed Practice | AR31930 | 30 |
Printmaking 6 - Print Directed Practice | AR32040 | 40 |
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Tystiolaeth Myfyrwyr
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Tariff UCAS 120 - 104
Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Celf neu bwnc perthnasol, a phortffolio boddhaol.
Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg
Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM, plus satisfactory portfolio
Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28, plus satisfactory portfolio
Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall, plus satisfactory portfolio
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|