BA

Creu Perfformio

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Wrth ddewis astudio BA Creu Perfformio ym Mhrifysgol Aberystwyth cewch brofiad creadigol a bywiog heb ei ail. Byddwch yn astudio mewn adeilad modern sy’n cynnig cyfleusterau gwych, a staff brwdfrydig fydd yn eich ysbrydoli. Cewch ymwneud â phartneriaid megis y BBC, S4C, Boom, Fiction Factory, Theatr Genedlaethol Cymru, Cwmni Theatr Arad Goch a llu o rhai eraill. Mae’r cwrs yma wedi ei ddylunio i sicrhau fod cydbwysedd rhwng profiad beirniadol a chreadigol, ac fe fydd yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau deallusol, perfformiadol a thechnegol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Creu Perfformio yn Aberystwyth?

  • Adran egnïol a chreadigol lle daw drama a theatr, ffilm a’r cyfryngau, a senograffeg a dylunio theatr ynghyd.
  • Cyfuniad unigryw o ddulliau creadigol a beirniadol o ymdrin â’r pwnc.
  • Staff dysgu rhagorol ag ystod eang o arbenigedd ym maes ymchwil a chreu theatr yn broffesiynol.
  • Cysylltiadau â phartneriaid allweddol yn y diwydiant fel National Theatre Wales, Music Theatre Wales, Cwmni Theatr Quarantine a Theatr Genedlaethol Cymru.
  • Cyfleusterau ac adnoddau rhagorol ar gyfer gwaith ymarferol: tair stiwdio ymarfer, pob un ag adnoddau technegol hyblyg; dwy stiwdio fawr ag offer o safon broffesiynol a rigiau goleuadau digidol a reolir drwy ETC Congo a phaneli rheoli Strand Lighting, offer PA Yamaha a Soundcraft, systemau clyweledol Sanyo a goleuadau Strand, a dau NXAMP; yn ogystal â chyfleusterau gwisgoedd a wardrob.
  • Cysylltiadau agos â Chanolfan y Celfyddydau ar y campws, sef un o’r canolfannau celfyddydau mwyaf yng Nghymru, sy’n cyflwyno gwaith theatr a dawns cenedlaethol a rhyngwladol yn rheolaidd.
  • Cymdeithasau drama egnïol myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth.
  • Lleoliad daearyddol unigryw.
  • Cyfleoedd cyfnewid cyffrous yn Ewrop ac yn rhyngwladol.
Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Creu Cynyrchiadau Amlgyfrwng TC11320 20
Creu Ffilm TC10520 20
Cydweithio Ensemble TC10820 20
Gweithio ar Gamera TC10720 20
Gweithio yn y Diwydiannau Creadigol TC10620 20
Sylfeini Perfformio: Corff, Cymeriad a Thestun TC11220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Ymarfer Cynhyrchu 1: Perfformio TC21020 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Ffilm a Theatr Americanaidd TC29920 20
Sylfeini Hunan-Gyflwyno TC20320 20
Theatr a Ffilm Gyfoes: Cymru a'r Byd TC20620 20
Ymarfer Cynhyrchu: Gorffen TC21220 20
Ymchwil Creadigol Ymarferol TC21420 20
'Arwyr': Dogfennu Gyrfaoedd yn y Diwydiannau Creadigol TC27020 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Prosiect Ymchwil Creadigol TC36140 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
'Arwyr': Dogfennu Gyrfaoedd yn y Diwydiannau Creadigol TC37020 20
Ffilm a Theatr Americanaidd TC39920 20
Theatr a Ffilm Gyfoes: Cymru a'r Byd TC30620 20
Ymarfer Cynhyrchu 2: Cyfryngau TC31120 20
Ymarfer Cynhyrchu 2: Gorffen TC31220 20
Ymarfer Cynhyrchu 2: Perfformio TC31020 20

Gyrfaoedd

Beth alla i ei wneud â gradd mewn Creu Perfformio?

Mae llawer o’n graddedigion wedi dod o hyd i swyddi yn y meysydd hyn:

  • actio a pherfformio
  • cyfarwyddo
  • dylunio
  • sgriptio
  • dysgu ac addysg
  • gweinyddu’r celfyddydau
  • marchnata
  • rheoli
  • cysylltiadau cyhoeddus.

Pa sgiliau fydda i’n eu dysgu ar y cwrs?

Mae cyflogadwyedd yn rhan annatod o’n holl weithgareddau. 

Mae myfyrwyr Creu Perfformio yn dysgu sgiliau gwerthfawr y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr. Yn eu plith mae:

  • gweithio’n effeithiol mewn grŵp i ddatblygu, ymarfer a chynhyrchu digwyddiadau byw
  • defnyddio sgiliau creadigol, dyfeisgar a datrys problemau mewn amryw o sefyllfaoedd
  • ymchwilio, a chloriannu a threfnu gwybodaeth
  • saernïo a chyfleu syniadau’n effeithiol mewn amryw o sefyllfaoedd ac mewn amryw o ffyrdd
  • gweithio’n annibynnol a gydag eraill
  • trefnu'ch amser a defnyddio'ch sgiliau’n effeithiol
  • gwrando ar gyngor beirniadol a’i ddefnyddio
  • eich cymell eich hun ac arfer hunanddisgyblaeth
  • defnyddio amryw o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth
  • dangos mentergarwch wrth ddatblygu prosiectau diwylliannol.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallwch ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn darganfod:

  • egwyddorion perfformio trwy gyfrwng dosbarthiadau ymarferol wythnosol
  • dulliau cyfoes o greu theatr fyw mewn awyrgylch aml-gyfryngol
  • amodau gwaith a heriau cyfoes i’r diwydiannau creadigol yng Nghymru a thu hwnt
  • sut i greu cwmni creadigol ar gyfer cyflwyno gwaith ensemble.

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn archwilio:

  • dulliau cyfoes o greu a chyflwyno traethodau fideo
  • gwaith cynhyrchu ar raddfa lawn dan gyfarwyddyd aelodau staff
  • actio, cyfarwyddo, dyfeisio, a dylunio ar gyfer y theatr gyfoes
  • agweddau ar hanes theatr a pherfformio
  • agweddau ar berthynas theatr a’r gymdeithas gyfoes
  • y cyfryngau newydd ac ysgrifennu ar gyfer perfformio.

Yn y flwyddyn olaf, cewch gyfle i:

  • greu gwaith creadigol annibynnol
  • cwblhau prosiect ymchwil mawr ac astudiaethau damcaniaethol uwch
  • mireinio sgiliau mewn prosiectau cynhyrchu unigol ac mewn grŵp
  • datblygu sgiliau mentergarwch drwy archwilio cyflwr cyfoes y diwydiannau creadigol
  • sgriptio ar gyfer perfformiadau a chynyrchiadau llawn
  • paratoi a chynllunio gyrfa greadigol.

Sut gaf i fy nysgu?

Cewch eich dysgu drwy weithdai ymarferol, seminarau mewn grwpiau bach, darlithoedd, prosiectau cynhyrchu a gwaith prosiect mewn grwpiau.

Yn aml byddwn yn cyfuno sawl dull o ddysgu, gan bwyso a mesur damcaniaethau drwy ymchwil ymarferol a thrwy groesi ffiniau disgyblaethol.

Cewch eich asesu drwy draethodau ffurfiol, pherfformiadol a chyfryngol, cyflwyniadau ymarferol, portffolios beirniadol a chreadigol, cynyrchiadau amlgyfrwng, cyflwyniadau seminar a gweithgareddau grŵp.

Bydd tiwtor personol wedi’i neilltuo ich drwy gydol eich cwrs gradd, a fydd yn gallu eich helpu ag unrhyw broblemau neu gwestiynau, boed yn academaidd neu’n bersonol. Mae croeso ichi gysylltu â'ch tiwtor personol unrhyw bryd i gael cymorth a chyngor.

Tystiolaeth Myfyrwyr

O dan adain tiwtoriaid cefnogol yr adran llwyddais i ddatblygu fel actor yn enwedig yn y modiwlau perfformio ar ddiwedd yr ail a’r drydedd flwyddyn a bu hyn yn help o mi ennill lle ar gwrs actio uwchraddedig Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Erbyn hyn rwyf wedi cwblhau’r cwrs hwnnw ac yn gweithio fel actor proffesiynol.

Gwawr Loader

Pan ddechreuais fy ngradd yn Aberystwyth nid oeddwn yn sicr pa agwedd o ddrama a theatr i ddewis fel gyrfa. Roedd y cyfle i ddewis amrywiaeth o fodiwlau ee actio, sgriptio, senograffi, a chyda cydbwysedd da o ddamcaniaeth ag ymarfer yn cyfrannu’n fawr at ddatblygiad fy nealltwriaeth o ddrama a theatr. Cefais fy mlas gyntaf o gyfarwyddo yn ystod yr ail flwyddyn wrth wneud y modiwl cyfarwyddo. Yn fy nhrydedd flwyddyn fe wnes i gyd-gyfarwyddo, dyfeisio a theithio darn o theatr mewn addysg. Gydag angor fawr y profiadau yma cefais ofal a chefnogaeth fy narlithwyr a darganfyddais fy mrwdfrydedd ar gyfer cyfarwyddo.

Ar ôl graddio teimlais fy mod i’n gallu camu allan i’r byd ‘real’ i barhau a’m siwrne dysgu. Fe wnes i gwblhau cwrs blwyddyn yn hyfforddi fel cyfarwyddwr theatr gyda Living Pictures a Sherman Cymru. Ers hynny dwi wedi bod yn gweithio gyda nifer o wahanol sefydliadau fel cyfarwyddwr llawrydd ee Theatr Genedlaethol Cymru, Sherman Cymru a Mess Up the Mess. Cefais Wobr Artist Sy'n Datblygu gan Theatr Iolo a dychwelais i Aberystwyth i weithio fel Cyfarwyddwr sy'n Datblygu i National Theatre Wales a Rimini Protokoll o’r Almaen. Dwi ar hyn o bryd yn gweithio fel Cynorthwyydd Llenyddol a Thiwtor i Theatr Ieuenctid Sherman Cymru, a dwi hefyd yn gweithio fel tiwtor i Brifysgol Morgannwg ac fel hyrwyddwraig drama mewn ysgolion.

Sarah Bickerton

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|