BA

Ffilm a Theledu

P’un a ydych â diddordeb mewn delweddau symudol fel ffurf gelfyddydol neu ddiwydiant, bydd ein gradd fywiog mewn Ffilm a Theledu yn gyfle ichi archwilio agweddau technegol a beirniadol ar y pwnc mewn amgylchedd creadigol. Yma yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn cynnig hyfforddiant arbenigol ym maes cynhyrchu ffilmiau dogfen, ffilmiau ffuglenol ac arbrofol, gwaith stiwdio a sgriptio. Byddwch hefyd yn archwilio ffilmiau celf, arswyd a chwlt, Hollywood,astudiaethau rhywedd, genrau ac estheteg teledu, y diwylliant digidol, a gemau fideo.

Gyda'r nod o roi cyfuniad o sgiliau ymarferol, hyder creadigol ac ymwybyddiaeth beirniadol i chi, bydd y cwrs hyblyg hwn yn arwain i gyfeiriad sawl llwybr a fydd yn eich tywys i ganol diwydiant hynod gyffrous.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Ffilm a Theledu yn Aberystwyth?

  • Byddwch yn cael eich dysgu gan staff ac iddynt broffil rhyngwladol ac ystod eang o arbenigedd.
  • Rydyn ni'n adran fywiog a chreadigol lle mae drama a theatr, ffilm a'r cyfryngau, a senograffeg a dylunio theatr yn dod ynghyd.
  • Byddwch chi'n gallu manteisio ar ein profiadau dysgu sy'n ategu ei gilydd, a lle mae theori ac ymarfer yn cyd-blethu.
  • Fel adran, byddwch chi, ein myfyrwyr, yn gallu elwa o'n cysylltiadau â phartneriaid allweddol yn y diwydiant megis y BBC, S4C, BAFTA Cymru, Gŵyl Ffilmiau Tribeca (Efrog Newydd), Fiction Factory, Tinopolis, Gŵyl Ffilmiau Caeredin, Archif Ddarlledu Genedlaethol Cymru yn Llygrgell Genedlaethol Cymru ac Avid. Mae'r partneriaid hyn yn cynnig cyfleoedd gwych i rwydweithio ac ymgysylltu â phobl yn y diwydiant cyn i chi raddio.
  • Cewch fynediad at gyfleusterau ac adnoddau gwych ar gyfer gwaith ymarferol: tair stiwdio ymarfer, pob un â chyfleusterau technegol hyblyg; dwy stiwdio fawr gydag offer proffesiynol sy'n cynnwys offer goleuo digidol a reolir drwy ETC Congo a chonsolau Strand Lighting; PAs Yamaha a Soundcraft; systemau AV Sanyo; goleuadau Strand; dau NXAMP; a chyfarpar gwisgoedd a wardrob.
  • Ar ein campws ac wedi'i lleoli drws nesaf i'r Adran mae un o'r canolfannau celfyddydol mwyaf yng Nghymru sy’n cyflwyno ffilmiau, sgyrsiau, dosbarthiadau meistr, arddangosfeydd a gwyliau ffilmiau.
  • Mae Prifysgol Aberystwyth yn adnabyddus am fod yn brifysgol a chanddi nifer fawr o glybiau a chymdeithasau, felly gallwch chi fod yn sicr y byddwch yn ddigon prysur rhwng eich astudiaethau a chymryd rhan yng ngweithgareddau eich dewis glybiau / cymdeithasau.
  • Os ydych chi'n edrych am brofiad y tu hwnt i Aberystwyth, bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn profiad astudio dramor gydag un o'n prifysgolion partner yn Ewrop neu mewn man arall o'r byd trwy ein rhaglen Cyfnewid Rhyngwladol. Canfod ble gall eich antur fynd â chi!
Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Making Short Films 1 FM11420 20
Studying Film FM10120 20
Studying Television FM10220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Making Short Films 2 FM11240 40
Movements in Film History FM11120 20
Studying Communication FM10720 20
Studying Media FM10620 20
Writing Continuing TV Drama FM17320 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Work in the Film & Television Industries FM23820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Art Cinema FM24420 20
Digital Culture FM25520 20
Film Stardom and Celebrity FM21520 20
LGBT Film & Television FM20120 20
Media, Politics and Power FM22620 20
The Story of Television FM20420 20
Creative Documentary FM26520 20
Creative Fiction: Horror FM20920 20
Creative Studio FM25420 20
Writing for Film and Television FM21620 20
Design Project TP22620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contemporary Film and the Break-Up of Britain FM30020 20
Contemporary TV FM30320 20
Cult Cinema: Texts, Histories and Audiences FM38220 20
Experimental Cinema FM34520 20
Independent Research Project FM36040 40
Media Law and Regulation FM36720 20
Screening the Brave New World: television in 20th-century Britain FM31020 20
Videogame Theories FM38420 20
Documentary Production FM33740 40
Experimental Media Production FM33540 40
Fiction Film Production FM34240 40
Scriptwriting 1 FM37020 20
Scriptwriting 2 FM37120 20

Gyrfaoedd

Beth alla i wneud gyda gradd mewn Ffilm a Theledu?

Mae llawer o'n graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn cael swyddi yn y meysydd canlynol:

  • ymchwilio, golygu, gwaith fel rheolwr llawr, gweithredu camera, dylunio neu gyfarwyddo i gwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu
  • dosbarthu ffilmiau
  • gweithio'n llawrydd i greu ffilmiau
  • marchnata a chysylltiadau cyhoeddus
  • rhaglennu gwyliau ffilmiau
  • hysbysebu
  • gweinyddu yn y celfyddydau
  • addysg.

Pa sgiliau bydda i'n eu cael o'r radd?

Byddwch yn meithrin llawer o sgiliau trosglwyddadwy y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • cymhwyso sgiliau creadigol, dychmygus a datrys problemau mewn ystod o sefyllfaoedd
  • ymchwilio, gwerthuso a threfnu gwybodaeth
  • strwythuro a chyfathrebu syniadau yn effeithiol mewn ystod o sefyllfaoedd gan ddefnyddio ystod o ddulliau
  • gweithio'n annibynnol a gydag eraill
  • trefnu eich amser yn effeithiol a defnyddio'ch sgiliau
  • gwrando a gwneud defnydd o gyngor beirniadol
  • ysgogi a disgyblu'ch hunain
  • defnyddio ystod o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth
  • bod yn entrepreneuraidd wrth ddatblygu prosiectau diwylliannol.

Pa gyfleoedd am brofiad gwaith fydd ar gael yn ystod y cwrs?

  • Mae gennym bartneriaethau a chysylltiadau cryf gyda llawer o gwmnïau y mae ein myfyrywr wedi cael cynnig gwaith gyda hwy, er enghraifft y BBC, Tinopolis a Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Caeredin.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Ceir isod amlinelliad o'r hyn y mae'n bosibl y byddwch yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd hwn.

Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio:

  • modiwlau ymarferol sy'n datblygu sgiliau ar draws pob rhan o'r broses gynhyrchu: sgriptio, ffilmio, cyfarwyddol, a golygu
  • modiwlau craidd cyflwyniadol ym meysydd hanes, theori a dadansoddiad o ffilm a theledu
  • modiwlau eraill a ddewisir gennych chi, er enghraifft: Mudiadau Hanes Ffilm, Astudio Cyfathrebu, ac Astudio Cyfryngau.

Yn eich ail flwyddyn byddwch yn cael y cyfle i:

  • ddatblygu sgiliau mewn cynhyrchu mewn stiwido, gwneud ffilmiau dogfen, ac ysgrifennu ar gyfer ffilm a theledu
  • datblygu gwybodaeth am sgiliau beirniadol allweddol mewn ystod o fodiwlau dadansoddol ategol gan gynnwys sinema prif ffrwd, gwneud ffilmiau dogfen, sinema gelf a materion cyfoes ym maes diwylliant digidol
  • gwella eich rhagolygon gyrfaol a'ch sgiliau trosglwyddadwy ar y modiwl lleoliad gwaith craidd.

Yn eich trydedd blwyddyn byddwch yn gallu:

  • arbenigo mewn cynhyrchu rhaglenni dogfen, ffilmiau ffuglenol, cyfryngau arbrofol neu sgriptio ac adeiladu sgiliau uwch yn y meysydd hyn
  • astudio meysydd pwnc arbenigol sy'n ymwneud â ffilmiau cyfoes, hanes technoleg, ffilmiau arbrofol, sinema gwlt, a theledu yn yr 20fed ganrif
  • dechrau ar brosiect ymchwil annibynnol a fydd yn dilyn ymlaen at draethawd hir ar bwnc yn ymwneud â ffilm neu deledu o'ch dewis chi
  • elwa ar gefnogaeth a chyfarwyddyd pa bynnag lwybr y byddwch yn ei ddewis.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Cewch eich dsygu ar ffurf darlithoedd, seminarau, dangos ffilmiau, arddangosiadau technegol a gwaith prosiect ar y cyd. Mae cynnal gweithgareddau amrywiol yn rhan hanfodol o'n hathroniaeth, ac yn creu amgylchedd dysgu cyffrous a chynhyrchiol sy'n unigryw.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Fe'ch asesir ar sail:

  • prosiectau ffilm a fideo unigol ac ar y cyd
  • dyddiaduron cynhyrchu, sgriptiau ffilm a sgriptio
  • cyfnodolion myfyriol a blogiau
  • traethodau traddodiadol ac ar ffurf fideo
  • cyflwyniadau seminar a hyrwyddo eich ffilmiau.

Gallech ddefnyddio'r holl ddulliau hyn i greu portffolio i'w gyflwyno i ddarpar gyflogwyr.

Rhagor o wybodaeth

Fe ddynodir diwtor personol ichi ar gyfer tair blynedd y cwrs. Gall y tiwtor eich helpu gydag unrhyw broblemau neu gwestiynau, ar sail academaidd neu bersonol. Gallwch gysylltu â'r tiwtor am gymorth neu gyngor ar unrhyw adeg.

Cewch hefyd gyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hyn yn broses strwythurol o hunan-werthuso, myfyrio, a chynllunio a fydd yn eich galluogi i lunio eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich amser yn y brifysgol. Drwy recordio'ch perfformiad academaidd a phwysleisio'r sgiliau yr ydych wedi eu meithrin, yn ogystal â'r rhai y bydd eu hangen arnoch yn eich gyrfa, bydd y porffolio hwn yn rhoi ichi'r offer sy'n angenrheidiol i gynllunio'n effeithiol, astudio'n llwyddiannus, ac ystyried eich dewisiadau a dyheadau gyrfaol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Y peth dwi'n ei garu fwyaf am Ffilm a Theledu yw'r staff addysgu. Maent yn unigolion proffesiynol profiadol - yn ddynamig, brwdfrydig, ac yn bwysicaf oll yn hawdd i siarad â nhw. Golyga hyn fod y dysgu'n hwyliog, ac rwyf wedi magu hyder o ganlyniad i hynny. Rwy'n mwynhau'r gwahanol fodiwlau sydd ar gael hefyd. Mae'r sesiynau ymarferol yn grêt gan eu bod yn caniatáu i mi arbrofi gyda fy syniadau fy hun ac maent yn dysgu sgiliau hynod werthfawr i mi yr un pryd. Fy hoff fodiwlau yw Sgriptio ac Ysgrifennu ar gyfer Ffilm a Theledu. Rwyf wrth fy modd yn ysgrifennu'n greadigol ac mae'r modiwlau hyn yn rhoi'r cyfle i mi roi rhywdd wynt i'm dychymyg.

Angela Wendy Rumble

Mae Ffilm a Theledu yn Aberystwyth yn wych. Mae awyrgylch arbennig iawn ar y cwrs sy'n amlwg o'r berthynas agos atoch sy'n bodoli rhwng y myfyrwyr a'r darlithwyr. Mae elfen academaidd y cwrs yn agoriad llygad ac yn mynd i'r afael ag ystod eang o themâu mewn manylder, ac mae hynny'n gweithio'n dda hyd yn oed i fyfyrwyr sydd yn dymuno canolbwyntio ar y modiwlau ymarferol yn bennaf. Mae'r adran hefyd yn cynnig digon o gyfleoedd am brofiad gwaith yn ogystal â chyfleoedd i'r myfyrwyr fireinio'u sgiliau wrth ddefnyddio offer yr adran y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Yn ychwanegol at hynny, ceir cymdeithas ffilmiau sy'n cael llawer o gefnogaeth.

Joe Williams

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|