BA

Astudiaethau Ffilm a Theledu

BA Astudiaethau Ffilm a Theledu Cod W620 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

P’un a ydych â diddordeb mewn delweddau symudol fel ffurf gelfyddydol neu ddiwydiant, bydd ein gradd fywiog mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu yn gyfle ichi archwilio agweddau technegol a beirniadol ar y pwnc mewn amgylchedd creadigol. Yma yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn cynnig hyfforddiant arbenigol ym maes cynhyrchu ffilmiau dogfen, ffilmiau ffuglenol ac arbrofol, gwaith stiwdio a sgriptio. Byddwch hefyd yn archwilio ffilmiau celf, arswyd a chwlt, Hollywood,astudiaethau rhywedd, genrau ac estheteg teledu, y diwylliant digidol, a gemau fideo.

Gyda'r nod o roi cyfuniad o sgiliau ymarferol, hyder creadigol ac ymwybyddiaeth beirniadol i chi, bydd y cwrs hyblyg hwn yn arwain i gyfeiriad sawl llwybr a fydd yn eich tywys i ganol diwydiant hynod gyffrous.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Astudiaethau Ffilm a Theledu yn Aberystwyth?

  • Byddwch yn cael eich dysgu gan staff ac iddynt broffil rhyngwladol ac ystod eang o arbenigedd.
  • Rydyn ni'n adran fywiog a chreadigol lle mae drama a theatr, ffilm a'r cyfryngau, a senograffeg a dylunio theatr yn dod ynghyd.
  • Byddwch chi'n gallu manteisio ar ein profiadau dysgu sy'n ategu ei gilydd, a lle mae theori ac ymarfer yn cyd-blethu.
  • Fel adran, byddwch chi, ein myfyrwyr, yn gallu elwa o'n cysylltiadau â phartneriaid allweddol yn y diwydiant megis y BBC, S4C, BAFTA Cymru, Gŵyl Ffilmiau Tribeca (Efrog Newydd), Fiction Factory, Tinopolis, Gŵyl Ffilmiau Caeredin, Archif Ddarlledu Genedlaethol Cymru yn Llygrgell Genedlaethol Cymru ac Avid. Mae'r partneriaid hyn yn cynnig cyfleoedd gwych i rwydweithio ac ymgysylltu â phobl yn y diwydiant cyn i chi raddio.
  • Cewch fynediad at gyfleusterau ac adnoddau gwych ar gyfer gwaith ymarferol: tair stiwdio ymarfer, pob un â chyfleusterau technegol hyblyg; dwy stiwdio fawr gydag offer proffesiynol sy'n cynnwys offer goleuo digidol a reolir drwy ETC Congo a chonsolau Strand Lighting; PAs Yamaha a Soundcraft; systemau AV Sanyo; goleuadau Strand; dau NXAMP; a chyfarpar gwisgoedd a wardrob.
  • Ar ein campws ac wedi'i lleoli drws nesaf i'r Adran mae un o'r canolfannau celfyddydol mwyaf yng Nghymru sy’n cyflwyno ffilmiau, sgyrsiau, dosbarthiadau meistr, arddangosfeydd a gwyliau ffilmiau.
  • Mae Prifysgol Aberystwyth yn adnabyddus am fod yn brifysgol a chanddi nifer fawr o glybiau a chymdeithasau, felly gallwch chi fod yn sicr y byddwch yn ddigon prysur rhwng eich astudiaethau a chymryd rhan yng ngweithgareddau eich dewis glybiau / cymdeithasau.
  • Os ydych chi'n edrych am brofiad y tu hwnt i Aberystwyth, bydd pob myfyriwr yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn profiad astudio dramor gydag un o'n prifysgolion partner yn Ewrop neu mewn man arall o'r byd trwy ein rhaglen Cyfnewid Rhyngwladol. Canfod ble gall eich antur fynd â chi!
Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Making Short Films 1 FM11420 20
Studying Film FM10120 20
Studying Television FM10220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Making Short Films 2 FM11240 40
Movements in Film History FM11120 20
Studying Communication FM10720 20
Studying Media FM10620 20
Writing Continuing TV Drama FM17320 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Work in the Media Industries FM23820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Art Cinema FM24420 20
Digital Culture FM25520 20
LGBT Screens FM20120 20
Media, Politics and Power FM22620 20
Stardom and Celebrity FM21520 20
Television Genre FM20620 20
Youth Cultures FM22320 20
Creative Documentary FM26520 20
Creative Fiction: Horror FM20920 20
Creative Studio FM25420 20
Writing for Film and Television FM21620 20
Theatre Design Project TP22620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contemporary Film and the Break-Up of Britain FM30020 20
Contemporary TV Drama FM30320 20
Cult Cinema: Texts, Histories and Audiences FM38220 20
Experimental Cinema FM34520 20
Gender and the Media FM38320 20
Independent Research Project FM36040 40
Media Law FM36720 20
Videogame Theories FM38420 20
Documentary Production FM33740 40
Experimental Media Production FM33540 40
Fiction Film Production FM34240 40
Scriptwriting 1 FM37020 20
Scriptwriting 2 FM37120 20

Gyrfaoedd

Beth alla i wneud gyda gradd mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu?

Mae llawer o'n graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn cael swyddi yn y meysydd canlynol:

  • ymchwilio, golygu, gwaith fel rheolwr llawr, gweithredu camera, dylunio neu gyfarwyddo i gwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu
  • dosbarthu ffilmiau
  • gweithio'n llawrydd i greu ffilmiau
  • marchnata a chysylltiadau cyhoeddus
  • rhaglennu gwyliau ffilmiau
  • hysbysebu
  • gweinyddu yn y celfyddydau
  • addysg.

Pa sgiliau bydda i'n eu cael o'r radd?

Byddwch yn meithrin llawer o sgiliau trosglwyddadwy y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • cymhwyso sgiliau creadigol, dychmygus a datrys problemau mewn ystod o sefyllfaoedd
  • ymchwilio, gwerthuso a threfnu gwybodaeth
  • strwythuro a chyfathrebu syniadau yn effeithiol mewn ystod o sefyllfaoedd gan ddefnyddio ystod o ddulliau
  • gweithio'n annibynnol a gydag eraill
  • trefnu eich amser yn effeithiol a defnyddio'ch sgiliau
  • gwrando a gwneud defnydd o gyngor beirniadol
  • ysgogi a disgyblu'ch hunain
  • defnyddio ystod o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth
  • bod yn entrepreneuraidd wrth ddatblygu prosiectau diwylliannol.

Pa gyfleoedd am brofiad gwaith fydd ar gael yn ystod y cwrs?

  • Mae gennym bartneriaethau a chysylltiadau cryf gyda llawer o gwmnïau y mae ein myfyrywr wedi cael cynnig gwaith gyda hwy, er enghraifft y BBC, Tinopolis a Gŵyl Ffilmiau Rhyngwladol Caeredin.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Ceir isod amlinelliad o'r hyn y mae'n bosibl y byddwch yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd hwn.

Yn eich blwyddyn gyntaf byddwch yn astudio:

  • modiwlau ymarferol sy'n datblygu sgiliau ar draws pob rhan o'r broses gynhyrchu: sgriptio, ffilmio, cyfarwyddol, a golygu
  • modiwlau craidd cyflwyniadol ym meysydd hanes, theori a dadansoddiad o ffilm a theledu
  • modiwlau eraill a ddewisir gennych chi, er enghraifft: Mudiadau Hanes Ffilm, Astudio Cyfathrebu, ac Astudio Cyfryngau.

Yn eich ail flwyddyn byddwch yn cael y cyfle i:

  • ddatblygu sgiliau mewn cynhyrchu mewn stiwido, gwneud ffilmiau dogfen, ac ysgrifennu ar gyfer ffilm a theledu
  • datblygu gwybodaeth am sgiliau beirniadol allweddol mewn ystod o fodiwlau dadansoddol ategol gan gynnwys sinema prif ffrwd, gwneud ffilmiau dogfen, sinema gelf a materion cyfoes ym maes diwylliant digidol
  • gwella eich rhagolygon gyrfaol a'ch sgiliau trosglwyddadwy ar y modiwl lleoliad gwaith craidd.

Yn eich trydedd blwyddyn byddwch yn gallu:

  • arbenigo mewn cynhyrchu rhaglenni dogfen, ffilmiau ffuglenol, cyfryngau arbrofol neu sgriptio ac adeiladu sgiliau uwch yn y meysydd hyn
  • astudio meysydd pwnc arbenigol sy'n ymwneud â ffilmiau cyfoes, hanes technoleg, ffilmiau arbrofol, sinema gwlt, a theledu yn yr 20fed ganrif
  • dechrau ar brosiect ymchwil annibynnol a fydd yn dilyn ymlaen at draethawd hir ar bwnc yn ymwneud â ffilm neu deledu o'ch dewis chi
  • elwa ar gefnogaeth a chyfarwyddyd pa bynnag lwybr y byddwch yn ei ddewis.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Cewch eich dsygu ar ffurf darlithoedd, seminarau, dangos ffilmiau, arddangosiadau technegol a gwaith prosiect ar y cyd. Mae cynnal gweithgareddau amrywiol yn rhan hanfodol o'n hathroniaeth, ac yn creu amgylchedd dysgu cyffrous a chynhyrchiol sy'n unigryw.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Fe'ch asesir ar sail:

  • prosiectau ffilm a fideo unigol ac ar y cyd
  • dyddiaduron cynhyrchu, sgriptiau ffilm a sgriptio
  • cyfnodolion myfyriol a blogiau
  • traethodau traddodiadol ac ar ffurf fideo
  • cyflwyniadau seminar a hyrwyddo eich ffilmiau.

Gallech ddefnyddio'r holl ddulliau hyn i greu portffolio i'w gyflwyno i ddarpar gyflogwyr.

Rhagor o wybodaeth

Fe ddynodir diwtor personol ichi ar gyfer tair blynedd y cwrs. Gall y tiwtor eich helpu gydag unrhyw broblemau neu gwestiynau, ar sail academaidd neu bersonol. Gallwch gysylltu â'r tiwtor am gymorth neu gyngor ar unrhyw adeg.

Cewch hefyd gyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hyn yn broses strwythurol o hunan-werthuso, myfyrio, a chynllunio a fydd yn eich galluogi i lunio eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich amser yn y brifysgol. Drwy recordio'ch perfformiad academaidd a phwysleisio'r sgiliau yr ydych wedi eu meithrin, yn ogystal â'r rhai y bydd eu hangen arnoch yn eich gyrfa, bydd y porffolio hwn yn rhoi ichi'r offer sy'n angenrheidiol i gynllunio'n effeithiol, astudio'n llwyddiannus, ac ystyried eich dewisiadau a dyheadau gyrfaol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Y peth dwi'n ei garu fwyaf am Astudiaethau Ffilm a Theledu yw'r staff addysgu. Maent yn unigolion proffesiynol profiadol - yn ddynamig, brwdfrydig, ac yn bwysicaf oll yn hawdd i siarad â nhw. Golyga hyn fod y dysgu'n hwyliog, ac rwyf wedi magu hyder o ganlyniad i hynny. Rwy'n mwynhau'r gwahanol fodiwlau sydd ar gael hefyd. Mae'r sesiynau ymarferol yn grêt gan eu bod yn caniatáu i mi arbrofi gyda fy syniadau fy hun ac maent yn dysgu sgiliau hynod werthfawr i mi yr un pryd. Fy hoff fodiwlau yw Sgriptio ac Ysgrifennu ar gyfer Ffilm a Theledu. Rwyf wrth fy modd yn ysgrifennu'n greadigol ac mae'r modiwlau hyn yn rhoi'r cyfle i mi roi rhywdd wynt i'm dychymyg.

Angela Wendy Rumble

Mae Astudiaethau Ffilm a Theledu yn Aberystwyth yn wych. Mae awyrgylch arbennig iawn ar y cwrs sy'n amlwg o'r berthynas agos atoch sy'n bodoli rhwng y myfyrwyr a'r darlithwyr. Mae elfen academaidd y cwrs yn agoriad llygad ac yn mynd i'r afael ag ystod eang o themâu mewn manylder, ac mae hynny'n gweithio'n dda hyd yn oed i fyfyrwyr sydd yn dymuno canolbwyntio ar y modiwlau ymarferol yn bennaf. Mae'r adran hefyd yn cynnig digon o gyfleoedd am brofiad gwaith yn ogystal â chyfleoedd i'r myfyrwyr fireinio'u sgiliau wrth ddefnyddio offer yr adran y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth. Yn ychwanegol at hynny, ceir cymdeithas ffilmiau sy'n cael llawer o gefnogaeth.

Joe Williams

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|