BA

Ffilm a Theledu

Wrth ddewis astudio'r radd mewn Ffilm a Theledu gyda blwyddyn sylfaen integredig ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn trwytho'ch hun mewn disgyblaeth heriol sy'n plethu elfennau ymarferol a damcaniaethol.

Yma yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn gweithio'n agos gyda'r BBC, S4C a Boomerang+ Pic. Ceir ffocws ar ddatblygu'r galluoedd a'r sgiliau allweddol y mae prif gyflogwyr y diwydiant yn gofyn amdanynt. Cewch hefyd eich dysgu yn un o gadarnleoedd y maes o ran cyfleusterau a staff ymroddgar.

Cynlluniwyd y flwyddyn sylfaen integredig ar gyfer darpar fyfyrwyr nad ydynt yn meddu ar gefndir digonol neu berthnasol, ac mae'n ddewis perffaith i gael mynediad i'r cynllun hynod gyffrous hwn. Yn ystod y Flwyddyn Sylfaen, cewch ddatblygu'r sgiliau academaidd a fydd yn eich paratoi ar gyfer y cynllun llawn o'r ail flwyddyn ymlaen.

Trosolwg o'r Cwrs

Yn dilyn y flwyddyn sylfaen, bydd rhaglen astudio'r cwrs hwn yn union yr un fath â'r cwrs Ffilm a Theledu, W620.

Pam astudio Ffilm a Theledu yn Aberystwyth?

  • Byddwch yn cael eich addysgu a'ch mentora gan dîm o arbenigwyr ac ymarferwyr sy'n adnabyddus yn rhyngwladol.
  • Rydyn ni'n adran fywiog a chreadigol, lle mae drama a theatr, ffilm a'r cyfryngau, a senograffeg a dylunio theatr yn dod ynghyd.
  • Byddwch yn elwa ar ein profiadau dysgu ategol, lle mae damcaniaeth ac arfer wedi'u dylunio i fwydo'i gilydd.
  • Byddwch yn elwa ar ein cysylltiadau gyda phartneriaid allweddol yn y diwydiant, fel y BBC, S4C, BAFTA Cymru, Gŵyl Ffilmiau Tribeca (Efrog Newydd), Fiction Factory, Tinopolis, Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Caeredin, yr Archif Ddarlledu Genedlaethol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac Avid. Mae'r partneriaid hyn yn cynnig cyfle ardderchog i rwydweithio a chysylltu gyda phobl yn y diwydiant cyn graddio.
  • Byddwch yn gallu defnyddio ein cyfleusterau a'n hadnoddau ardderchog ar gyfer gwaith ymarferol: tair stiwdio ymarfer gyda chyfleusterau technegol hyblyg; dwy stiwdio fawr ag offer proffesiynol, gyda rigiau goleuo digidol wedi'u rheoli drwy gonsolau Strand Lighting ac ETC Congo, Systemau Sain Yamaha a Soundcraft, Systemau Clyweledol Sanyo a goleuo Strand, a dau NXAMP; a chyfleusterau gwisgoedd.
  • Ar ein campws, a drws nesaf i Ganolfan y Celfyddydau, mae un o ganolfannau celfyddydau mwyaf Cymru, sy'n cyflwyno dangosiadau, sgyrsiau, dosbarthiadau meistr, arddangosfeydd a gwyliau ffilm yn rheolaidd.
  • Mae Prifysgol Aberystwyth yn adnabyddus am fod â nifer fawr o glybiau a chymdeithasau, felly gallwch fod yn sicr y byddwch yn llenwi'ch amser rhwng eich astudiaethau a chymryd rhan yng ngweithgareddau eich clwb/cymdeithas o ddewis. Mae gan y Brifysgol gymdeithas ddrama fawr, fywiog. Dewch draw i ddweud helô os fyddwch chi'n ymweld ag Aberystwyth.
  • Os ydych chi'n chwilio am brofiad y tu hwnt i Aberystwyth, fe gewch y cyfle i gymryd rhan mewn lleoliad astudio dramor gydag un o'n prifysgolion partner yn Ewrop neu'n bellach i ffwrdd gyda'n Rhaglen Gyfnewid Ryngwladol i Fyfyrwyr. Canfod ble allai eich antur fynd â chi!
Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
How to be a Student 1 GS09520 20
How to be a Student 2 GS09320 20
Information in a Post-Truth World GS01120 20
Introduction to Humanities GS09920 20
Representing the Other: Cultures and Clashes GS09820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
The "Othered" Migrant: Social Science Perspectives GS09620 20
Understanding Change - Environment, People, Places GS00820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Making Short Films 1 FM11420 20
Studying Film FM10120 20
Studying Television FM10220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Making Short Films 2 FM11240 40
Movements in Film History FM11120 20
Studying Communication FM10720 20
Studying Media FM10620 20
Writing Continuing TV Drama FM17320 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Work in the Film & Television Industries FM23820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Art Cinema FM24420 20
Digital Culture FM25520 20
Film Stardom and Celebrity FM21520 20
LGBT Film & Television FM20120 20
Media, Politics and Power FM22620 20
The Story of Television FM20420 20
Creative Documentary FM26520 20
Creative Fiction: Horror FM20920 20
Creative Studio FM25420 20
Writing for Film and Television FM21620 20
Design Project TP22620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contemporary Film and the Break-Up of Britain FM30020 20
Contemporary TV FM30320 20
Cult Cinema: Texts, Histories and Audiences FM38220 20
Experimental Cinema FM34520 20
Independent Research Project FM36040 40
Media Law and Regulation FM36720 20
Screening the Brave New World: television in 20th-century Britain FM31020 20
Videogame Theories FM38420 20
Documentary Production FM33740 40
Experimental Media Production FM33540 40
Fiction Film Production FM34240 40
Scriptwriting 1 FM37020 20
Scriptwriting 2 FM37120 20

Gyrfaoedd

Beth alla i wneud gyda gradd mewn Ffilm a Theledu?

Mae llawer o'n graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn cael swyddi yn y meysydd canlynol:

  • ymchwilio, golygu, gwaith fel rheolwr llawr, gweithredu camera, dylunio neu gyfarwyddo i gwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu
  • dosbarthu ffilmiau
  • gweithio'n llawrydd i greu ffilmiau
  • marchnata a chysylltiadau cyhoeddus
  • rhaglennu gwyliau ffilmiau
  • hysbysebu
  • gweinyddu yn y celfyddydau
  • addysg.

Pa sgiliau bydda i'n eu cael o'r radd?

Mae myfyrwyr yn ein hadran yn meithrin llawer o sgiliau trosglwyddadwy y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • cymhwyso sgiliau creadigol, dychmygus a datrys problemau mewn ystod o sefyllfaoedd
  • ymchwilio, gwerthuso a threfnu gwybodaeth
  • strwythuro a chyfathrebu syniadau yn effeithiol mewn ystod o sefyllfaoedd gan ddefnyddio ystod o ddulliau
  • gweithio'n annibynnol a gydag eraill
  • trefnu eich amser yn effeithiol a defnyddio'ch sgiliau
  • gwrando a gwneud defnydd o gyngor beirniadol
  • ysgogi a disgyblu'ch hunain
  • defnyddio ystod o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth
  • bod yn entrepreneuraidd wrth ddatblygu prosiectau diwylliannol.

Pa gyfleoedd am brofiad gwaith fydd ar gael yn ystod y cwrs?

  • Mae gennym bartneriaethau a chysylltiadau cryf gyda llawer o gwmnïau y mae ein myfyrywr wedi cael cynnig gwaith gyda hwy, er enghraifft y BBC, Fiction Factory a Boom Pictures.
  • Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
  • Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod y flwyddyn sylfaen, cewch eich cyflwyno i astudio academaidd a'ch paratoi ar gyfer gweddill y cwrs. Ar ôl y flwyddyn sylfaen, byddwch yn dilyn yr un rhaglen astudio â'r radd W620.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio:

  • modiwlau cyflwyniadol craidd mewn hanes, theori a dadansoddi ffilm a theledu
  • modiwlau ymarferol sy'n datblygu sgiliau ym mhob cam o'r broses gynhyrchu: sgriptio, saethu, cyfarwyddo a golygu terfynol
  • modiwlau eraill o'ch dewis chi, er enghraifft: edrych ar fudiadau yn hanes ffilm, astudio cyfathrebu, ac astudio'r cyfryngau.

Yn ystod y drydedd flwyddyn, cewch gyfle i gyflawni'r canlynol:

  • datblygu sgiliau cynhyrchu mewn stiwdio, creu ffilmiau dogfennol, ac ysgrifennu ar gyfer ffilm a theledu
  • meithrin dealltwriaeth a sgiliau beirniadol allweddol mewn ystod o fodiwlau damcaniaethol sy'n cyd-fynd ac sy'n cwmpasu sinema prif ffrwd, creu ffilmiau dogfennol, sinema gelf a materion cyfoes mewn diwylliant digidol 
  • cynyddu eich cyflogadwyedd a'ch sgiliau trosglwyddadwy drwy'r modiwl craidd lleoliad gwaith.

Yn ystod y flwyddyn olaf, bydd modd i chi:

  • arbenigo mewn cynhyrchu dogfennol, ffilmiau ffuglennol, cyfryngau arbrofol neu sgriptio, a meithrin sgiliau uwch yn y meysydd hyn
  • astudio meysydd pwnc arbenigol sy'n ymdrin â ffilm gyfoes, hanes technoleg, ffilm arbrofol, sinema cwlt, a theledu'r ugeinfed ganrif
  • dechrau prosiect ymchwil annibynnol, gan arwain at draethawd hir ar bwnc o'ch dewis yn ymwneud â ffilm a theledu 
  • elwa ar gefnogaeth ac arweiniad helaeth waeth pa lwybr rydych chi'n ei ddewis.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy ystod o ddarlithoedd, seminarau, dangosiadau, arddangosiadau technegol a gwaith prosiect grŵp. Mae'r amrywiaeth hon yn y gweithgarwch yn rhan hanfodol o'n hathroniaeth, ac mae'n creu amgylchedd dysgu sy'n gyffrous a chynhyrchiol mewn modd unigryw.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Rydym yn asesu ein myfyrwyr ar sail:

  • cynyrchiadau wedi'u cynllunio ar y cyd
  • prosiectau fideo a ffilm unigol
  • dadansoddiadau ymarferol
  • dyddiaduron cynhyrchu a sgriptio creadigol
  • traethodau ffurfiol ac arholiadau 
  • cyfnodolion myfyriol, blogiau a Wikis
  • cyflwyniadau ar ffurf seminarau.

Gall asesiadau ychwanegol gynnwys:

  • byrddau storïau
  • sgriptiau ffilm
  • cyflwyno er mwyn gwerthu.

Gellid defnyddio'r holl ddeunyddiau hyn i gynhyrchu portffolio gwaith i'w gyflwyno i ddarpar gyflogwyr.

Rhagor o wybodaeth:

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi ar gyfer holl gyfnod eich cynllun gradd. Bydd y tiwtor yn gallu eich helpu gydag unrhyw gwestiynau neu broblemau, boed yn academaidd neu'n bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|