BA

Celfyddyd Gain / Llenyddiaeth Saesneg

BA Celfyddyd Gain / Llenyddiaeth Saesneg Cod WQ13 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Trwy ddewis astudio gradd mewn Celfyddyd Gain a Llenyddiaeth Saesneg (WQ13) ym Mhrifysgol Aberystwyth byddwch yn rhan o un o'r adrannau celf gorau yn y DU. Mae’r Ysgol Gelf yn canolbwyntio ar integreiddio sgiliau traddodiadol gyda damcaniaethau ac ymarfer cyfoes i gynhyrchu myfyrwyr celfyddyd gain o'r radd flaenaf. Rydym yn gosod lluniadu wrth galon profiad y myfyrwyr yng ngoleuni'r adfywiad diweddar yn y diddordeb mewn sgiliau lluniadu traddodiadol; mae’r Ysgol Gelf ar flaen y gad ym maes addysg gelf gyfoes. Byddwch hefyd yn dilyn y maes llafur craidd ar gyfer Llenyddiaeth Saesneg sy'n golygu y byddwch yn cwblhau eich gradd gyda chyfuniad gwych o sgiliau a chymwyseddau.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Celfyddyd Gain gyda Llenyddiaeth Saesneg yn Aberystwyth?

  • Byddwch yn elwa drwy feithrin arbenigedd technegol mewn ffordd ddisgybledig, ffurfio deallusrwydd creadigol, ac ymwybyddiaeth hanesyddol, feirniadol, ddamcaniaethol a chyfoes o arfer Celfyddyd Gain.
  • Mae Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn Statws Amgueddfa Archrededig gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. Mae hyn yn cydnabod ein bod yn arddel y safonau uchaf wrth reoli a gofalu am ein casgliadau. 
  • Gallwch edrych ar y cysylltiadau rhwng meddwl creadigol a beirniadol, a datblygu dealltwriaeth ddofn o'r gydberthynas rhwng arfer proffesiynol a meddwl dychmygus.
  • Cewch eich dysgu gan staff profiadol sy'n artistiaid, awduron, curaduron a haneswyr celf a gydnabyddir yn rhyngwladol.
  • Cymryd rhan yn ein hymweliadau astudio yn y DU neu dramor (mae’r cyrchfannau blaenorol yn cynnwys Madrid, Paris, Rhufain, Amsterdam, Efrog Newydd, Fienna, Barcelona, Fenis, Moscow, St Petersburg, Fflorens, Budapest a Lisbon).
  • Yn ystod eich blwyddyn olaf cewch gyfle i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yng nghanolbarth Cymru - cyfle anhygoel i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu eich prosiectau a'ch traethodau hir, mewn lleoliad gwledig prydferth.
Ein Staff

Drwy ymwneud yn weithredol ag ymarfer, hanes a churadu celf, mae staff yr Ysgol Gelf yn ceisio darparu amgylchedd dysgu cyfoethog i'r myfyrwyr. Mae eu profiad fel artistiaid sy'n arddangos eu gwaith, haneswyr celf sy'n cyhoeddi eu gwaith, a churaduriaid gweithredol yn llywio eu gwaith dysgu.

Mae'r holl staff academaidd yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn ysgolheigion ac arbenigwyr gweithgar yn eu meysydd. Maent naill ai'n gymwys i lefel PhD neu mae ganddynt brofiad cymesur.  Mae gan ein darlithwyr naill ai gymhwyster dysgu Addysg Uwch neu'n maent yn gweithio tuag ato, ac mae gan y rhan fwyaf o’r staff academaidd hefyd Gymrodoriaethau gyda’r Academi Addysg Uwch.  

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Literary Theory: Debates and Dialogues EN20120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Book Illustration 1 AR21820 20
Book Illustration 2 AR21930 30
Interdisciplinary Practice 3 AR25320 20
Interdisciplinary Practice 4 AR25420 20
Introduction to Design and Illustration 1 AR29820 20
Introduction to Design and Illustration 2 AR29930 30
Life Studies 1 AR22110 10
Life Studies 2 AR22210 10
Painting 1 AR20120 20
Painting 2 AR20230 30
Painting 3 AR20920 20
Painting 4 AR21030 30
Photography 1 AR20720 20
Photography 2 AR20830 30
Photography 3 AR21620 20
Photography 4 AR21730 30
Printmaking 1: Etching and Relief Printing AR22320 20
Printmaking 2: Etching and Relief Printing AR22430 30
Printmaking 3: Screenprinting, lithography & hybrid printing AR22520 20
Printmaking 4: Screenprinting, lithography & hybrid printing AR22630 30
Professional Practice for Students of Art AR23210 10
'The lyf so short, the craft so long to lerne': Medieval Models of Literary Production WL23120 20
A Century in Crisis: 1790s to 1890s WL20720 20
Classical Drama and Myth CL20320 20
Contemporary Writing and Climate Crisis EN21120 20
Effective Academic and Professional Communication 1 IC27720 20
In the Olde Dayes: Medieval Texts and Their World EN23120 20
Literary Geographies EN21020 20
Literary Modernisms EN20920 20
Literature and Climate in the Nineteenth Century EN21220 20
Literature since the '60s EN22920 20
Place and Self EN22120 20
TESOL Approaches, Methods and Teaching Techniques IC23420 20
Writing Women for the Public Stage, 1670-1780 EN28720 20

Gyrfaoedd

Pa ragolygon gyrfa fydd gen i?

Mae llawer o'n graddedigion yn awduron llwyddiannus yn y meysydd canlynol:

  • ffuglen
  • ffeithiol
  • barddoniaeth
  • sgriptio
  • radio
  • theatr

Mae rhai o'n graddedigion wedi canfod gyrfaoedd llwyddiannus eraill ym meysydd:

  • cyhoeddi
  • golygu
  • newyddiaduraeth
  • marchnata a chyfathrebu
  • dysgu

Yn ogystal â sefydlu gyrfaoedd fel artistiaid proffesiynol, mae rhai o'n graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio i’r sefydliadau canlynol:

  • Y Cyngor Dylunio
  • Cyngor y Celfyddydau
  • Oriel Tate
  • Amgueddfa Victoria ac Albert
  • Academi Frenhinol y Celfyddydau
  • Cwmni Teledu Carlton
  • The Observer
  • Oriel Saachi
  • Damien Hirst
  • BBC
  • Cylchgrawn Viz
  • Ymddiriedolaeth y Casgliadau Brenhinol

Pa gyfleoedd i wella gyrfa sydd ar gael i fi fel myfyriwr?

Bydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn rhan hanfodol o'ch cyfleoedd dysgu, gan ganiatáu i staff a myfyrwyr ddod ynghyd gyda'r nod o ymgysylltu, gweithio a dysgu mewn diwylliant creadigol ffyniannus a dynamig. Yma gallech arddangos eich gwaith, ymgysylltu a rhwydweithio gydag eraill, a datblygu sgiliau gydol oes sy'n werthfawr i gyflogwyr yn y diwydiannau creadigol a'r tu hwnt.

Bydd ein gradd yn eich galluogi i ddatblygu:

  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth yn effeithiol mewn ystod eang o gyd-destunau
  • sgiliau rhagorol wrth greu, ffurfio a thrin y gair ysgrifenedig
  • tystiolaeth o'ch gallu i ddatrys problemau yn effeithiol
  • meddwl creadigol ardderchog, wedi'i lywio gan fanwl gywirdeb beirniadol
  • y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm
  • sgiliau rheoli amser a threfnu ardderchog, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a’r gallu i ysgogi eich hun, a’r gallu i ddatblygu strategaethau priodol ac effeithiol
  • Sgiliau ymchwil trawsddisgyblaethol gwerthfawr, y bydd modd eu haddasu i unrhyw gyd-destun ymchwil.

Pa gyfleoedd profiad gwaith a geir wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Bydd y radd hon yn eich galluogi i archwilio llenyddiaeth o bob genre ac o bob cyfnod yng nghyd-destun y dehongliad ehangaf posib o lenyddiaeth Saesneg. Byddwch yn meithrin sgiliau dehongli a dadansoddi testunau llenyddol, a byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau beirniadol cyfredol.

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech fod yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn eich blwyddyn gyntaf, gallech ddarganfod:

  • technegau newydd ar gyfer dadansoddi testunau llenyddol
  • rhai ffigurau allweddol o hanes llenyddiaeth (o Shakespeare i’r chwiorydd Brontë)
  • testunau llai adnabyddus, ac awduron sy'n newydd i chi
  • astudiaethau ystafell fywyd 
  • darlunio llyfrau a phaentio 
  • ⁠hanes celf 
  • cyflwyniad i ddealltwriaeth feirniadol o Gelfyddyd Gain
  • amrywiaeth o "ffyrdd o ddarllen" a rhai ymagweddau damcaniaethol tuag at ddadansoddi testunau
  • barddoniaeth, rhyddiaith, drama, llenyddiaeth Americanaidd, addasiadau, llenyddiaeth glasurol, ysgrifennu cyfoes, testunau canoloesol a llawer mwy. 

Yn eich ail flwyddyn, gallech astudio:

  • ymagweddau damcaniaethol tuag at feirniadaeth lenyddol, ac arfer beirniadaeth lenyddol
  • ystod o destunau craidd dethol o'r cyfnod canoloesol hyd at yr unfed ganrif ar hugain
  • eich syniadau a dangos hyfedredd technegol
  • nifer o bynciau arbenigol o'ch dewis chi (gallai'r rhain ganolbwyntio ar genre penodol (fel ffuglen trosedd), cyfnod hanesyddol (fel oes Fictoria), neu thema (fel "lle").
  • eich gwaith celf o fewn cyd-destun cyfoes a thraddodiadau hanesyddol. 

Yn y flwyddyn olaf, gallech feistroli:

  • damcaniaeth lenyddol a chymhwyso safbwyntiau damcaniaethol i ddadansoddi llenyddol
  • gwaith ysgrifennu ac ymchwil annibynnol estynedig yn eich prosiect traethawd hir blwyddyn olaf (ar bwnc a ddewisir ac a ddiffinnir gennych chi)
  • cynhyrchu corff o waith sy'n dangos cydlyniad cysyniadol a thechnegol 
  • eich arbenigeddau eich hun wedi’u dewis o blith ystod amrywiol o fodiwlau dewisol* a ddysgir gan ymchwilwyr yn y meysydd hynny.

*Mae ein modiwlau dewisol yn cynnwys pynciau megis drama yn oes Elizabeth, y stori ysbryd, ffuglen cwiar, ysgrifennu i blant, Rhamantiaeth, a llawer mwy.     

Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn cyfuno’r holl sgiliau rydych wedi’u dysgu yn ystod y radd tair blynedd i greu corff o waith ansoddol ar gyfer arddangosfa gyhoeddus, a chewch gyfle hefyd i gymryd rhan mewn encil ysgrifennu mewn tŷ gwledig yng nghanolbarth Cymru - cyfle anhygoel i dreulio amser gyda chyd-fyfyrwyr a staff, gan ddatblygu eich prosiectau a'ch traethodau hir, mewn lleoliad gwledig prydferth. 

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Caiff ein cwrs gradd ei ddysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau un i un. Rydym hefyd yn annog dysgu hunan-gyfeiriedig, sydd â’r nod o ysgogi eich diddordeb academaidd mewn Llenyddiaeth Saesneg a meithrin eich datblygiad personol a deallusol.

Cewch eich asesu ar ffurf traethodau, arholiadau a chyflwyniadau llafar. Bydd gofyn i chi hefyd gwblhau aseiniadau ychwanegol, nad ydynt yn cael eu hasesu, a gweithio gydag eraill ar dasgau penodol.

Rhagor o Wybodaeth

Wrth i chi astudio, byddwch yn datblygu ystod o sgiliau a fydd yn fanteisiol i chi mewn astudiaethau pellach neu unrhyw weithle i raddedigion. Byddwch yn dysgu i: ddefnyddio technegau beirniadol amrywiol wrth drin testunau; datblygu ymarfer myfyriol mewn darllen ac ysgrifennu; mynegi dadansoddiadau beirniadol manwl o'ch pwnc; ac ymateb i unrhyw dasg gyda chreadigrwydd, steil a dawn.

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo ar eich cyfer a fydd yn eich helpu ag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed academaidd neu fugeiliol. Bydd eich tiwtor personol hefyd yn gyfrifol am gyflwyno tiwtorialau a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau allweddol. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae'r darlithwyr yn hynod frwdfrydig ac yn wybodus iawn ynglŷn â chelf a’u meysydd pwnc. Rwy'n teimlo fy mod i’n tyfu ac yn gwella fel artist drwy’r amser, gan fod fy nhiwtoriaid yn cymryd amser i roi adborth adeiladol i mi. Amelia Jenkinson

Rwyf wrth fy modd â'r amrywiaeth y mae Celfyddyd Gain yn ei chynnig - nid oes rheolau pendant o ran y gwaith y gallwch ei greu, a gallwch roi mynegiant llawn i’ch syniadau ym mha bynnag ffordd y dymunwch. Mae'r tiwtoriaid yn gymwynasgar ac yn gefnogol ac mae rhywun wrth law bob amser i roi cyngor, boed aelodau staff neu fyfyrwyr eraill. Jamie Carpenter-White

Y peth cyntaf i mi sylwi arno wrth astudio Celf Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth oedd yr awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar. Rwyf wrth fy modd â’r ffaith bod fy nghwrs yn cael ei gynnal mewn adeilad â phensaerniaeth mor arbennig, gyda golygfeydd trawiadol dros y môr. Roeddwn i'n teimlo mor gartrefol yn Aberystwyth a buaswn yn argymell y lle i unrhyw un sydd eisiau gwneud gradd mewn Celf. Laura Beryl Eileen Bosley

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Celf, a phortffolio boddhaol

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM, plus satisfactory portfolio

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28, plus satisfactory portfolio

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%, plus satisfactory portfolio

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|