BA

Drama a Saesneg

Os ydych wrth eich bodd â theatr, perfformio a llenyddiaeth, y BA Drama a Saesneg a gynigir gan yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu a'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifsygol Aberystwyth yw'r cwrs i chi. Cewch ymchwilio i ddiwylliant, y byd perfformio a chymdeithas trwy ddadansoddi a llwyfannu testun dramatig a chyfuno ymarfer a theori. Rhowch rwydd hynt i'ch dychymyg wrth archwilio’r ffordd y mae’r diwylliant llenyddol wedi ymgysylltu â chymdeithas a dylanwadu arni yn y gorffennol, a sut mae’n parhau i wneud hynny heddiw. Byddwch hefyd yn arbrofi wrth ysgrifennu, ac yn dod i ddeall gallu gwaith ysgrifenedig i drawsnewid y byd yr ydym yn byw ynddo.

Trwy gydol y cwrs, fe gewch y cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o berfformiadau a chynyrchiadau. Seren y sioe yw ein prosiect Shakespeare i ysgolion, lle byddwch yn datblygu, ymarfer, a llwyfannu perfformiad a gweithdy addysgol i gynulleidfa gyhoeddus o blant ysgolion cynradd ac uwchradd.

Caiff y cwrs cyffrous hwn ei addysgu gan arbenigwyr o'r byd Drama a Llenyddiaeth Saesneg - llawer ohonynt yn awduron ac yn ddramodwyr wrth eu gwaith yn eu priod feysydd. Trwy gwblhau'r BA Drama a Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth, byddwch yn graddio gyda'r wybodaeth arbenigol a'r sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn rhoi dewis eang o yrfaoedd ichi, yn amrywio o waith yn y theatr a'r celfyddydau perfformio i'r byd Hysbysebu neu'r Cyfryngau Newydd.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Drama a Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Byddwch yn ymuno â dwy adran fywiog ac amrywiol lle mae drama, theatr, llenyddiaeth a pherfformio yn dod ynghyd i gynnig cyfres o fodiwlau a chyfleoedd creadigol.
  • Bydd yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu a'r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol yn eich tywys i fyd creadigol sy'n ffynnu ac sydd â hanes hir a llwyddiannus o feithrin doniau newydd uchelgeisiol, er enghraifft Sharon MaGuire a gyyfarwyddodd y ddwy ffilm Bridget Jones, a'r dylunydd ac ysgrifenwr gemau a gafodd ei enwebu gan BAFTA, David Towsey.
  • Byddwch yn ymchwilio i ddiben, swyddogaeth a'r defnydd o destun dramatig mewn perfformiadau theatr a'r berthynas rhwng Drama, Theatr a Llenyddiaeth Saesneg.
  • Byddwch yn datblygu eich gallu i ddadansoddi'n feirniadol ac i ddehongli testun yn greadigol ar gyfer perfformiad.
  • Byddwch yn arbrofi gydag ysgrifennu a datblygu sgiliau ymarferol creu theatr, yn ogystal â dod i ddeall cyd-destun cymdeithasol, hanesyddol a gwleidyddol theatr.
  • Byddwch yn cael defnyddio cyfleusterau ac adnoddau rhagorol i wneud gwaith ymarferol, a chwarae rôl allweddol mewn prosiectau a chynhyrchiadau cyffrous yn ystod y cwrs, yn cynnwys y prosiect Shakespeare i ysgolion.
  • Byddwch yn elwa o'n cysylltiadau â phartneriaid allweddol yn y diwydiant a’n perthynas gydweithredol unigryw â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth - canolfan sy’n un o’r mwyaf o’i bath yng Nghymru.
  • Cewch eich trwytho mewn cymuned gefnogol a bywiog o feddylwyr creadigol a beirniadol, arbenigwyr yn y maes, ac awduron sydd wedi cyhoeddi.
Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Studio Theatre Project TP11120 20
Theatre in Context 1 TP11020 20
Theatre in Context 2 TP11320 20
Ancestral Voices EN10220 20
Critical Practice EN11320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Body, Voice, Expression. TP10220 20
Body, Voice, Perception TP10120 20
Contemporary Writing EN10520 20
Greek and Roman Epic and Drama CL10120 20
Literature And The Sea WL11420 20
Re-imagining Nineteenth-Century Literature WL10120 20
Writing Continuing TV Drama FM17320 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Literary Theory: Debates and Dialogues EN20120 20
Theatre Production Project TP24940 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Classical Drama and Myth CL20320 20
Shakespeare in Performance TP23220 20
Shaping Plots WR21720 20
Theatre and Contemporary Society TP20820 20
Writing Women for the Public Stage, 1670-1780 EN28720 20
Acting: Process and Performance TP21220 20
Directors' Theatre TP21820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Independent Research Project TP36040 40
Playwriting TP33340 40
Undergraduate Dissertation EN30040 40
Ali Smith and 21st Century fiction(s) EN33620 20
Haunting Texts EN30820 20
Musical Theatre Dramaturgies TP39020 20
Performance and Architecture TP33420 20
The Mark of the Beast: Animals in Literature from the 1780s to the 1920s EN31320 20
Victorian Childhoods EN30320 20
Writing in the Margins: Twentieth-Century Welsh Poetry in English EN30420 20

Gyrfaoedd

Pa gyfleoedd fydd ar gael i mi?

Bydd y radd BA mewn Drama a Saesneg yn eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach neu yrfa mewn amrywiaeth o sectorau, gam gynnwys:

  • theatr a’r celfyddydau perfformio
  • cyhoeddi
  • marchnata a chysylltiadau cyhoeddus
  • gohebu
  • newyddiaduraeth
  • hysbysebu
  • addysg
  • y gwasanaeth sifil
  • busnes
  • cyllid
  • y cyfryngau newydd.

Beth fydda i'n ei elwa o astudio'r radd hon?

Byddwch yn meithrin ystod o sgiliau trosglwyddadwy a werthfawrogir yn fawr gan gyflogwyr, gan gynnwys:

  • asesu'n feirniadol
  • cyfathrebu'n effeithiol
  • meddwl yn annibynnol a datrys problemau
  • gwaith tîm wrth greu perfformiadau grŵp
  • gweithio'n dda o dan bwysau a chwrdd â therfynau amser, wrth ddysgu llinellau a chynhyrchu perfformiad byw
  • sgiliau meddwl yn greadigol ac yn feirniadol, er mwyn dehongli testun a dod â'r sgript yn fyw
  • cyflwyno a chyfathrebu ar lafar, trwy berfformio'n rheolaidd
  • cyfathrebu wrth ysgrifennu, trwy gynhyrchu gwaith academaidd a sgriptiau o bosib
  • sgiliau meddwl yn gyflym a chreu'n fyrfyfyr, er mwyn sicrhau bod perfformiadau byw ac asesiadau'n rhedeg yn esmwyth
  • negodi a rheoli gwrthdaro, er mwyn creu cysyniad ar y cyd o fewn grwpiau.

Pa gyfleoedd am brofiad gwaith fydd ar gael yn ystod y cwrs?

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Yn y flwyddyn gyntaf byddwch yn:

  • ymchwilio i brif gyfnodau hanes y theatr gan ganolbwyntio ar theatr gyfoes a'i gyd-destun hanesyddol cyn yr 20fed ganrif
  • datblygu cysyniadau dadansoddol allweddol drama, cymeriad, y corff, gofod ac amser
  • ymchwilio i'r dadansoddiad o ddigwyddiadau theatr/perfformiad byw
  • ymchwilio i arferion perfformio a dylanwadau newydd sy'n dod i'r amlwg
  • dod i ddeall arfer beirniadol trwy astudio pedwar testun llenyddol ar draws nifer o genres, cyfnodau hanesyddol a phynciau athronyddol
  • datblygu sgiliau ymarferol craidd mewn creu theatr a chymryd rhan mewn prosiect theatr stiwdio
  • ehangu'ch gwybodaeth am lenyddiaeth cyn y 18fed ganrif ac ymchwilio i'r heriau penodol a osodir i'r darllenwr modern gan y testunau rhyddiaith hyn
  • ymchwilio i ddrama adnabyddus Shakespeare, 'Othello', o amrywiaeth o safbwyntiau hanesyddol a damcaniaethol
  • dadansoddi chores o gerddi yn ymestyn o'r 16eg i'r 19eg ganrif
  • astudio cyfres o destunau o ddechrau'r 18fed ganrif am brofiadau menywod.

Byddwch hefyd yn dethol o blith rhestr o fodiwlau dewisol sy'n cynnwys ‘Writing Continuing TV Drama’ a ‘Literature and the Sea’.

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn:

  • ymchwilio i ffyrdd o edrych ar destun llenyddol ac ystyried y rhagdybiaethau sylfaenol
  • deall sut i ddefnyddio, datblygu a herio theori trwy astudio enghreifftiau llenyddol penodol
  • cymryd rhan mewn prosiect cynhyrchu theatr yn cynnwys datblygu, ymarfer a llwyfannu perfformiad ar gyfer cynulleidfa gyhoeddus.

Byddwch hefyd yn dethol o blith rhestr o fodiwlau dewisol sy'n cynnwys ‘Acting: Process and Performance’, ‘Theatre and Contemporary Society’ a ‘Shaping Plots’.

Yn y drydedd flwyddyn byddwch yn:

  • gweithio ar y prosiect Shakespeare i ysgolion ac yn creu cynhyrchiad Shakespeare 60-90 munud o hyd yn cynnwys datblygu, ymarfer a llwyfannu perfformiad a gweithdy addysgol cysylltiedig ar gyfer cynulleidfa gyhoeddus o blant ysgolion cynradd ac uwchradd
  • dewis dau allan o dri modiwl y gellir eu gwneud ochr yn ochr â'r prosiect Shakespeare i ysgolion: ysgrifennu eich drama eich hun, traethawd hir, neu ymgymryd â darn o ymchwil annibynnol (un yn Semester 1 a'r llall yn Semester 2)
  • dethol o blith rhestr o fodiwlau dewisol sy'n cynnwys ‘Playwriting’, ‘Theatre, Gender and Sexuality’ a ‘Haunting Texts’ (yn Semester 2).

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Byddwch yn cael profiad o ystod eang o weithgareddau dysgu ac addysgu sy'n cydbwyso cyfarwyddyd uniongyrchol, astudio ar y cyd ac yn annibynnol, gwaith ymarferol, a chwestiynu a thrafod uniongyrchol gyda chyfoedion a thiwtoriaid.

Bydd gweithgareddau sy'n rhan o'r amserlen yn cynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau, gweithdai, sesiynau ymarferol, ymarferion, perfformiadau, gweithdai dysgu ar sail problemau, a goruchwyliaeth un-i-un.

Sut bydda i'n cael fy asesu?

Byddwch yn cael eich asesu ar sail:

  • traethodau wedi'u hysgrifennu a'u perfformio
  • portffolios beirniadol a chreadigol
  • arholiadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • cyflwyniad ar y cyd a thasgau perfformio
  • cynyrchiadau ymarferol.

Gwybodaeth bellach:

Mae sgiliau trosglwyddadwy yn rhan annatod o'r holl weithgareddau dysgu ac addysgu ac yn rhan benodol o'r dysgu craidd yn ystod y flwyddyn gyntaf.

Bydd tasgau asesu yn eich annog i roi sylw manwl i destunau, arferion a pherfformiadau, i fynd ar drywydd gwreiddioldeb meddwl, i gwestiynu'r farn gyffredin ac i ddatblygu eich creadigrwydd.

Bydd astudio annibynnol ac ar y cyd yn gofyn am ddefnydd helaeth o lyfrgelloedd ac adnoddau digidol, ystafelloedd gweithdy a chyfarpar technegol, ac adnoddau dysgu strwythuredig ar-lein. Caiff y dysgu sy’n rhan o’r amserlen a’r astudio o dan arweiniad ei gyfoethogi gan sesiynau y tu allan i’r ystafell ddosbarth, yn cynnwys perfformiadau, teithiau maes, siaradwyr gwadd, grwpiau darllen, a dangos ffilmiau.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|