BA

Ffilm a Theledu / Celfyddyd Gain

BA Ffilm a Theledu / Celfyddyd Gain Cod WW16 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Bydd Ffilm a Theledu a Chelfyddyd Gain yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau newydd, neu ehangu a dyfnhau'r sgiliau sydd gennych, ym maes paentio, creu printiau, arlunio, ffotograffiaeth, darlunio ar gyfer lluniau, ffilm arbrofol, gosodwaith a pherfformio penodol i safle. Mae'r rhaglen hon yn cynnig hyfforddiant sy'n cysylltu sgiliau traddodiadol gyda damcaniaeth ac arfer gyfoes, gyda chysylltiadau â'r diwydiant fel Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, y BBC, S4C, a Boomerang+ Plc. Ar ôl gorffen y radd hon, byddwch yn gadael gyda sgiliau ar gyfer y byd go iawn, a fydd yn eich galluogi i gael gyrfa yn y diwydiant creadigol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Ffilm a Theledu gyda Chelfyddyd Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Byddwch yn elwa drwy gaffael arbenigedd technegol mewn ffordd ddisgybledig, drwy ddatblygu deallusrwydd creadigol, ac ymwybyddiaeth hanesyddol, feirniadol, ddamcaniaethol a chyfoes o arfer Celfyddyd Gain.
  • Mae'r Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn adran fywiog a chreadigol, lle mae drama a theatr, ffilm a'r cyfryngau, a senograffeg a dylunio theatr yn dod ynghyd.
  • Byddwch yn gwneud cyfraniad i gymuned glòs o fyfyrwyr a staff mewn Ysgol Gelf uchel ei pharch, a sefydlwyd ym 1917.
  • Bydd myfyrwyr yn elwa ar ein cyfleusterau ac adnoddau rhagorol ar gyfer gwaith ymarferol ffilm a theledu: Oriel a stiwdio deledu tri chamera diffiniad uchel gydag allwedd croma a chyfleusterau ciwio awtomatig; 30 system olygu - meddalwedd Avid Media Composer, Adobe Premiere Pro a Final Cut Pro; 50 camera diffiniad uchel o safon y diwydiant – fformatau P2 ac AVCHD; camerâu DSLR a GoPro ar gael.
  • Mynediad at gyfleusterau addysgu ardderchog, sy'n cynnwys stiwdios â goleuo da ar gyfer paentio, ystafelloedd tywyll, gweithdai printio, ystafell MAC, ystafelloedd seminar, darlithfa, orielau ac amgueddfa, oll mewn adeilad rhestredig godidog Gradd II*.
  • Rydyn ni wedi cael Statws Amgueddfa Achrededig gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. Mae hyn yn dangos bod ein gwaith yn gofalu a rheoli'r casgliadau o'r safon uchaf. 
  • Mae ein myfyrwyr yn elwa ar gysylltiadau gyda phartneriaid allweddol yn y diwydiant, fel y BBC, Gŵyl Ffilmiau Tribeca, S4C, Fiction Factory, Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Caeredin, Gŵyl Ffilmiau Ffresh, BAFTA, Avid ac Arad Goch.
  • Byddwch yn dysgu gan staff profiadol, sy'n artistiaid, curaduron a haneswyr celf sydd ag enwau da yn rhyngwladol.
  • Cewch gysylltiad agos gyda Chanolfan y Celfyddydau y brifysgol, sef un o'r rhai mwyaf yng ngwledydd Prydain, a safle nodedig ar gyfer arddangosiadau gan artistiaid a dylunwyr cyfoes.
  • Gallwch gymryd rhan mewn ymweliadau astudio ym Mhrydain neu dramor (ymhlith y lleoliadau blaenorol mae Madrid, Paris, Rhufain, Amsterdam, Efrog Newydd, Fiena, Barcelona, Fenis, Moscow, St Petersburg, Fflorens, Bwdapest a Lisbon).
  • Gallwch ddechrau'r cynllun gradd yn syth o'r ysgol neu ar ôl cwrs sylfaen.
Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Drwy ymwneud yn weithredol ag ymarfer, hanes a churadu celf, mae staff yr Ysgol Gelf yn ceisio darparu amgylchedd dysgu cyfoethog i'r myfyrwyr. Mae eu profiad fel artistiaid sy'n arddangos eu gwaith, haneswyr celf sy'n cyhoeddi eu gwaith, a churaduriaid gweithredol yn llywio eu gwaith dysgu.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Gyrfaoedd

Beth alla i wneud gyda gradd mewn Celfyddyd Gain / Ffilm a Theledu?

Mae llawer o'n graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn cael swyddi yn y meysydd canlynol:

  • Ymchwilwyr, golygyddion, rheolwyr llawr, gweithredwyr camera, dylunwyr neu gyfarwyddwyr ar gyfer cwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu;
  • Dosbarthu ffilmiau
  • Creu ffilmiau yn llawrydd
  • Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus
  • Rhaglenni gwyliau ffilmiau
  • Hysbysebu
  • Gweinyddu yn y celfyddydau
  • Addysg.

Ynghyd a sefydlu gyrfaoedd fel artistiaid sy'n ymarfer ac sydd â phroffiliau arddangos sylweddol, mae ein graddedigion wedi cael eu cyflogi gan y canlynol:

  • Y Cyngor Dylunio
  • Cyngor y Celfyddydau
  • Oriel Tate
  • Amgueddfa Fictoria ac Albert
  • Academi Frenhinol y Celfyddydau
  • Cwmni Teledu Carlton
  • The Observer
  • Oriel Saachi
  • Damien Hirst
  • BBC
  • Cylchgrawn Viz
  • Yr Ymddiriedolaeth Casgliadau Brenhinol.

Pa sgiliau bydda i'n eu cael o'r radd?

Mae myfyrwyr yn ein hadran yn meithrin y sgiliau trosglwyddadwy canlynol y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • cymhwyso sgiliau creadigol, dychmygus a datrys problemau mewn ystod o sefyllfaoedd
  • ymchwilio, gwerthuso a threfnu gwybodaeth
  • strwythuro a chyfathrebu syniadau yn effeithiol mewn ystod o sefyllfaoedd gan ddefnyddio ystod o ddulliau
  • gweithio'n annibynnol a gydag eraill
  • trefnu amser a defnyddio sgiliau yn effeithiol
  • gwrando a gwneud defnydd o gyngor beirniadol
  • ysgogi a disgyblu eu hunain
  • defnyddio ystod o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth
  • bod yn entrepreneuraidd wrth ddatblygu prosiectau diwylliannol.

Oes unrhyw gyfleoedd am brofiad gwaith wrth astudio?

  • Mae gan yr adran bartneriaethau a chysylltiadau cryf gyda llawer o sefydliadau e.e. y BBC, Fiction Factory a Boom, sydd wedi cynnig lleoliadau gwaith i'n myfyrwyr.
  • Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 
  • Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn eich blwyddyn gyntaf, drwy gaffael sgiliau technegol hanfodol mewn ffordd ddisgybledig, byddwch yn archwilio:

  • Arlunio a Phaentio
  • Darlunio llyfrau
  • Creu Printiau
  • Ffotograffiaeth
  • Meddwl ac arfer rhyngddisgyblaethol
  • Modiwlau ymarferol sy'n datblygu sgiliau ym mhob cam o'r broses gynhyrchu: sgriptio, saethu, cyfarwyddo a golygu terfynol
  • Astudiaethau Ystafell Fywyd
  • Hanes Celf
  • Sgiliau ysgrifennu academaidd
  • Dewis o fodiwlau Sinema Prydain, Sinema Glasurol Hollywood ac Astudio'r Cyfryngau
  • Cyflwyniad i ddealltwriaeth hanfodol o Gelfyddyd Gain.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn gwneud y canlynol:

  • Arbenigo yn eich dewis ddisgyblaeth/ddisgyblaethau
  • Dyfnhau eich archwiliad o syniadau a dangos hyfedredd technegol
  • Datblygu sgiliau cynhyrchu mewn stiwdio, creu ffilmiau dogfennol, ac ysgrifennu ar gyfer ffilm a theledu
  • Meithrin dealltwriaeth a sgiliau beirniadol allweddol mewn ystod o fodiwlau damcaniaethol sy'n cydweddu ac sy'n cwmpasu sinema Hollywood, creu ffilmiau dogfennol, sinema gelf a materion cyfoes mewn diwylliant digidol
  • Datblygu rhaglen o ymchwil ac arfer hunangyfeiriedig dan arweiniad tiwtor, sy'n dangos ymagwedd arbrofol ac sy'n rhoi mynegiant i lais personol fel artist
  • Magu ymagwedd hunan-feirniadol tuag at waith creadigol a dulliau proffesiynol
  • Gosod eich arfer celf o fewn cyd-destunau cyfoes a thraddodiadau hanesyddol.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, bydd disgwyl i chi wneud y canlynol:

  • Cynhyrchu corff o waith sy'n dangos cydlyniant cysyniadol a thechnegol
  • Cyfleu dimensiynau cyd-destunol a beirniadol eang eich disgyblaeth
  • Astudio meysydd pwnc arbenigol sy'n ymdrin â hanes technoleg, ffilm arbrofol, sinema gwlt, teledu a chymdeithas yn yr ugeinfed ganrif, ac enwogrwydd
  • Dangos dealltwriaeth o arferion hanesyddol, cyfoes a newydd sy'n berthnasol i'ch maes astudio
  • Ymrwymo i bwnc am gyfnod hir
  • Dechrau prosiect ymchwil annibynnol, gan arwain at draethawd hir ar bwnc o'ch dewis yn ymwneud â ffilm a theledu
  • Cynhyrchu syniadau yn annibynnol neu ar y cyd, mewn ymateb i aseiniadau a osodwyd neu mewn arfer ar eich menter eich hun
  • Datblygu ymateb personol, unigol a dychmygus i bwnc o'ch dewis
  • Cyfnerthu sylfeini o ran sgil, pwnc a chysyniad a gafwyd yn ystod y tair blynedd i gynhyrchu corff o waith ansoddol i'w arddangos i'r cyhoedd
  • Datblygu hunaniaeth neu broffil proffesiynol fel artist.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

  • Darperir ein rhaglen drwy weithdai, tiwtorialau, dangosiadau, sesiynau ymarferol, darlithoedd, sesiynau rhannu beirniadaeth a theithiau maes.
  • Asesir drwy waith cwrs – arddangos portffolio, cyflwyniad.
  • Bydd tiwtor personol hefyd yn cael ei neilltuo i chi, a gallwch ofyn iddyn nhw am arweiniad a chymorth, boed hynny'n academaidd neu fugeiliol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Yr hyn dw i'n ei hoffi fwyaf am Ffilm a Theledu yw'r staff addysgu. Maen nhw'n weithwyr proffesiynol profiadol sy'n ddynamig, yn frwdfrydig, ac yn bwysicaf oll, yn hawdd mynd atyn nhw; mae'n golygu bod y profiad dysgu yn hwyliog, ac mae fy hyder wedi cynyddu o ganlyniad. Dw i hefyd yn mwynhau'r modiwlau amrywiol sydd ar gael. Mae'r sesiynau ymarferol yn wych gan eu bod yn caniatáu i fi arbrofi gyda fy syniadau fy hun, ond gan ddysgu sgiliau gwerthfawr i fi ar yr un pryd. Fy hoff fodiwlau hyd yma yw Ysgrifennu Sgript; Imagining the Short; ac Ysgrifennu ar gyfer Ffilm a Theledu. Dw i wrth fy modd yn ysgrifennu'n greadigol, ac mae'r modiwlau yma yn fy ngalluogi i ddatblygu fy nychymyg. 

Angela Wendy Rumble

Mae Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn anhygoel. Mae gan y cwrs awyrgylch gwych, sy'n dangos mor dda yw'r cysylltiad rhwng y myfyrwyr a'r darlithwyr. Mae ochr academaidd y cwrs yn ddadlennol; mae'n cyffwrdd ag ystod eang o bynciau ac yn ymdrin â phob un o'r rhain yn fanwl, ac mae hyn yn gweithio'n dda hyd yn oed ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n dymuno canolbwyntio mwy ar y modiwlau ymarferol. Yn ogystal, mae'r adran yn cynnig digonedd o gyfleoedd ar gyfer profiad gwaith, ynghyd â chyfleoedd i fyfyrwyr fireinio'u sgiliau y tu allan i'r ystafell ddosbarth gydag offer yr adran. Mae yna hefyd gymdeithas ffilm boblogaidd. 

Joe Williams

Yr hyn dw i'n ei fwynhau ynghylch Ffilm a Theledu yw'r amrywiaeth o feysydd dw i wedi cael cyfle i fod yn rhan ohonyn nhw. Llynedd, fydden i byth wedi bod â'r hyder na'r ddealltwriaeth i drefnu tîm cynhyrchu, i greu a marchnata ffilmiau byrion ac i weithio mewn stiwdio tri chamera. Yr hyn ro'n i'n chwilio amdano gan Brifysgol Aberystwyth oedd y sgiliau i ddod yn wneuthurwr ffilm; a'r hyn ges i oedd sgiliau ymarferol, dealltwriaeth o drafodaethau academaidd, a chysylltiadau sydd wedi rhoi dealltwriaeth o'r diwydiant ffilm a theledu i fi. 

Peter Gosiewski

Mae'r darlithwyr yn angerddol iawn ac yn ddeallus am gelf a'u disgyblaethau nhw eu hunain. Rwy'n teimlo fel petawn i bob amser yn tyfu ac yn gwella fel artist, ac mae fy nhiwtoriaid yn rhoi amser i roi adborth adeiladol da i fi. 

Amelia Jenkinson

Dw i wrth fy modd gyda'r amrywiaeth rydych chi'n ei chael gan Gelfyddyd Gain - does dim rheolau sefydlog o ran y gwaith y gallwch ei gynhyrchu, ac mae modd i chi fynegi eich syniadau'n llawn, ym mha bynnag ffordd hoffech chi. Mae'r tiwtoriaid yn barod i helpu ac i annog, ac mae rhywun wrth law bob amser i roi arweiniad i chi, boed hynny'n staff neu'n gyd-fyfyrwyr. 

Jamie Carpenter-White

Y peth cynta sylwais i arno wrth astudio Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth oedd yr awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar. Dw i wir yn gwerthfawrogi'r ffaith bod fy nghwrs yn cael ei gynnal mewn adeilad mor hardd yn bensaernïol, wedi'i amgylchynu gan y morlun syfrdanol. Ro'n i'n teimlo mor dawel fy meddwl yn Aberystwyth, a bydden i'n ei argymell i unrhyw un sydd am wneud gradd mewn Celf. 

Laura Beryl Eileen Bosley

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Celf neu bwnc perthnasol, a phortffolio boddhaol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM, plus satisfactory portfolio

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28, plus satisfactory portfolio

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall, plus satisfactory portfolio

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|