BA

Astudiaethau Ffilm a Theledu / Celfyddyd Gain

BA Astudiaethau Ffilm a Theledu / Celfyddyd Gain Cod WW16 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Bydd Astudiaethau Ffilm a Theledu a Chelfyddyd Gain yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau newydd, neu ehangu a dyfnhau'r sgiliau sydd gennych, ym maes paentio, creu printiau, arlunio, ffotograffiaeth, darlunio ar gyfer lluniau, ffilm arbrofol, gosodwaith a pherfformio penodol i safle. Mae'r rhaglen hon yn cynnig hyfforddiant sy'n cysylltu sgiliau traddodiadol gyda damcaniaeth ac arfer gyfoes, gyda chysylltiadau â'r diwydiant fel Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, y BBC, S4C, a Boomerang+ Plc. Ar ôl gorffen y radd hon, byddwch yn gadael gyda sgiliau ar gyfer y byd go iawn, a fydd yn eich galluogi i gael gyrfa yn y diwydiant creadigol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Astudiaethau Ffilm a Theledu gyda Chelfyddyd Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

  • Byddwch yn elwa drwy gaffael arbenigedd technegol mewn ffordd ddisgybledig, drwy ddatblygu deallusrwydd creadigol, ac ymwybyddiaeth hanesyddol, feirniadol, ddamcaniaethol a chyfoes o arfer Celfyddyd Gain.
  • Mae'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn adran fywiog a chreadigol, lle mae drama a theatr, ffilm a'r cyfryngau, a senograffeg a dylunio theatr yn dod ynghyd.
  • Byddwch yn gwneud cyfraniad i gymuned glòs o fyfyrwyr a staff mewn Ysgol Gelf uchel ei pharch, a sefydlwyd ym 1917.
  • Bydd myfyrwyr yn elwa ar ein cyfleusterau ac adnoddau rhagorol ar gyfer gwaith ymarferol ffilm a theledu: Oriel a stiwdio deledu tri chamera diffiniad uchel gydag allwedd croma a chyfleusterau ciwio awtomatig; 30 system olygu - meddalwedd Avid Media Composer, Adobe Premiere Pro a Final Cut Pro; 50 camera diffiniad uchel o safon y diwydiant – fformatau P2 ac AVCHD; camerâu DSLR a GoPro ar gael.
  • Mynediad at gyfleusterau addysgu ardderchog, sy'n cynnwys stiwdios â goleuo da ar gyfer paentio, ystafelloedd tywyll, gweithdai printio, ystafell MAC, ystafelloedd seminar, darlithfa, orielau ac amgueddfa, oll mewn adeilad rhestredig godidog Gradd II*.
  • Rydyn ni wedi cael Statws Amgueddfa Achrededig gan Gyngor Celfyddydau Lloegr. Mae hyn yn dangos bod ein gwaith yn gofalu a rheoli'r casgliadau o'r safon uchaf. 
  • Mae ein myfyrwyr yn elwa ar gysylltiadau gyda phartneriaid allweddol yn y diwydiant, fel y BBC, Gŵyl Ffilmiau Tribeca, S4C, Fiction Factory, Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Caeredin, Gŵyl Ffilmiau Ffresh, BAFTA, Avid ac Arad Goch.
  • Byddwch yn dysgu gan staff profiadol, sy'n artistiaid, curaduron a haneswyr celf sydd ag enwau da yn rhyngwladol.
  • Cewch gysylltiad agos gyda Chanolfan y Celfyddydau y brifysgol, sef un o'r rhai mwyaf yng ngwledydd Prydain, a safle nodedig ar gyfer arddangosiadau gan artistiaid a dylunwyr cyfoes.
  • Gallwch gymryd rhan mewn ymweliadau astudio ym Mhrydain neu dramor (ymhlith y lleoliadau blaenorol mae Madrid, Paris, Rhufain, Amsterdam, Efrog Newydd, Fiena, Barcelona, Fenis, Moscow, St Petersburg, Fflorens, Bwdapest a Lisbon).
  • Gallwch ddechrau'r cynllun gradd yn syth o'r ysgol neu ar ôl cwrs sylfaen.
Ein Staff

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Drwy ymwneud yn weithredol ag ymarfer, hanes a churadu celf, mae staff yr Ysgol Gelf yn ceisio darparu amgylchedd dysgu cyfoethog i'r myfyrwyr. Mae eu profiad fel artistiaid sy'n arddangos eu gwaith, haneswyr celf sy'n cyhoeddi eu gwaith, a churaduriaid gweithredol yn llywio eu gwaith dysgu.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Book Illustration 1 AR21820 20
Book Illustration 2 AR21930 30
Interdisciplinary Practice 3 AR25320 20
Interdisciplinary Practice 4 AR25420 20
Life Studies 1 AR22110 10
Life Studies 2 AR22210 10
Painting 1 AR20120 20
Painting 2 AR20230 30
Painting 3 AR20920 20
Painting 4 AR21030 30
Photography 1 AR20720 20
Photography 2 AR20830 30
Photography 3 AR21620 20
Photography 4 AR21730 30
Printmaking 1: Etching and Relief Printing AR22320 20
Printmaking 2: Etching and Relief Printing AR22430 30
Printmaking 3: Screenprinting, lithography & hybrid printing AR22520 20
Printmaking 4: Screenprinting, lithography & hybrid printing AR22630 30
Professional Practice for Students of Art AR23210 10
Art Cinema FM24420 20
Creative Documentary FM26520 20
Creative Fiction: Horror FM20920 20
Creative Studio FM25420 20
Digital Culture FM25520 20
LGBT Screens FM20120 20
Media, Politics and Power FM22620 20
Stardom and Celebrity FM21520 20
Television Genre FM20620 20
Work in the Media Industries FM23820 20
Writing for Film and Television FM21620 20
Youth Cultures FM22320 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Contemporary Film and the Break-Up of Britain FM30020 20
Contemporary TV Drama FM30320 20
Cult Cinema: Texts, Histories and Audiences FM38220 20
Experimental Cinema FM34520 20
Gender and the Media FM38320 20
Independent Research Project FM36040 40
Media Law FM36720 20
Videogame Theories FM38420 20
Documentary Production FM33740 40
Experimental Media Production FM33540 40
Fiction Film Production FM34240 40
Scriptwriting 1 FM37020 20
Scriptwriting 2 FM37120 20
Book Illustration 3 AR32330 30
Exhibition 1: Graduation Show AR30130 30
Interdisciplinary Practice 5 AR35320 20
Interdisciplinary Practice 6 AR35420 20
Life Studies 3 AR31610 10
Painting 5 - Paint Directed Practice AR31730 30
Photography 5 - Photo Directed Practice AR32130 30
Printmaking 5 - Print Directed Practice AR31930 30

Gyrfaoedd

Beth alla i wneud gyda gradd mewn Celfyddyd Gain / Astudiaethau Ffilm a Theledu?

Mae llawer o'n graddedigion wedi bod yn llwyddiannus yn cael swyddi yn y meysydd canlynol:

  • Ymchwilwyr, golygyddion, rheolwyr llawr, gweithredwyr camera, dylunwyr neu gyfarwyddwyr ar gyfer cwmnïau cynhyrchu ffilm a theledu;
  • Dosbarthu ffilmiau
  • Creu ffilmiau yn llawrydd
  • Marchnata a Chysylltiadau Cyhoeddus
  • Rhaglenni gwyliau ffilmiau
  • Hysbysebu
  • Gweinyddu yn y celfyddydau
  • Addysg.

Ynghyd a sefydlu gyrfaoedd fel artistiaid sy'n ymarfer ac sydd â phroffiliau arddangos sylweddol, mae ein graddedigion wedi cael eu cyflogi gan y canlynol:

  • Y Cyngor Dylunio
  • Cyngor y Celfyddydau
  • Oriel Tate
  • Amgueddfa Fictoria ac Albert
  • Academi Frenhinol y Celfyddydau
  • Cwmni Teledu Carlton
  • The Observer
  • Oriel Saachi
  • Damien Hirst
  • BBC
  • Cylchgrawn Viz
  • Yr Ymddiriedolaeth Casgliadau Brenhinol.

Pa sgiliau bydda i'n eu cael o'r radd?

Mae myfyrwyr yn ein hadran yn meithrin y sgiliau trosglwyddadwy canlynol y mae galw mawr amdanynt ymhlith cyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • cymhwyso sgiliau creadigol, dychmygus a datrys problemau mewn ystod o sefyllfaoedd
  • ymchwilio, gwerthuso a threfnu gwybodaeth
  • strwythuro a chyfathrebu syniadau yn effeithiol mewn ystod o sefyllfaoedd gan ddefnyddio ystod o ddulliau
  • gweithio'n annibynnol a gydag eraill
  • trefnu amser a defnyddio sgiliau yn effeithiol
  • gwrando a gwneud defnydd o gyngor beirniadol
  • ysgogi a disgyblu eu hunain
  • defnyddio ystod o sgiliau ac adnoddau technoleg gwybodaeth
  • bod yn entrepreneuraidd wrth ddatblygu prosiectau diwylliannol.

Oes unrhyw gyfleoedd am brofiad gwaith wrth astudio?

  • Mae gan yr adran bartneriaethau a chysylltiadau cryf gyda llawer o sefydliadau e.e. y BBC, Fiction Factory a Boom, sydd wedi cynnig lleoliadau gwaith i'n myfyrwyr.
  • Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 
  • Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn eich blwyddyn gyntaf, drwy gaffael sgiliau technegol hanfodol mewn ffordd ddisgybledig, byddwch yn archwilio:

  • Arlunio a Phaentio
  • Darlunio llyfrau
  • Creu Printiau
  • Ffotograffiaeth
  • Meddwl ac arfer rhyngddisgyblaethol
  • Modiwlau ymarferol sy'n datblygu sgiliau ym mhob cam o'r broses gynhyrchu: sgriptio, saethu, cyfarwyddo a golygu terfynol
  • Astudiaethau Ystafell Fywyd
  • Hanes Celf
  • Sgiliau ysgrifennu academaidd
  • Dewis o fodiwlau Sinema Prydain, Sinema Glasurol Hollywood ac Astudio'r Cyfryngau
  • Cyflwyniad i ddealltwriaeth hanfodol o Gelfyddyd Gain.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn gwneud y canlynol:

  • Arbenigo yn eich dewis ddisgyblaeth/ddisgyblaethau
  • Dyfnhau eich archwiliad o syniadau a dangos hyfedredd technegol
  • Datblygu sgiliau cynhyrchu mewn stiwdio, creu ffilmiau dogfennol, ac ysgrifennu ar gyfer ffilm a theledu
  • Meithrin dealltwriaeth a sgiliau beirniadol allweddol mewn ystod o fodiwlau damcaniaethol sy'n cydweddu ac sy'n cwmpasu sinema Hollywood, creu ffilmiau dogfennol, sinema gelf a materion cyfoes mewn diwylliant digidol
  • Datblygu rhaglen o ymchwil ac arfer hunangyfeiriedig dan arweiniad tiwtor, sy'n dangos ymagwedd arbrofol ac sy'n rhoi mynegiant i lais personol fel artist
  • Magu ymagwedd hunan-feirniadol tuag at waith creadigol a dulliau proffesiynol
  • Gosod eich arfer celf o fewn cyd-destunau cyfoes a thraddodiadau hanesyddol.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, bydd disgwyl i chi wneud y canlynol:

  • Cynhyrchu corff o waith sy'n dangos cydlyniant cysyniadol a thechnegol
  • Cyfleu dimensiynau cyd-destunol a beirniadol eang eich disgyblaeth
  • Astudio meysydd pwnc arbenigol sy'n ymdrin â hanes technoleg, ffilm arbrofol, sinema gwlt, teledu a chymdeithas yn yr ugeinfed ganrif, ac enwogrwydd
  • Dangos dealltwriaeth o arferion hanesyddol, cyfoes a newydd sy'n berthnasol i'ch maes astudio
  • Ymrwymo i bwnc am gyfnod hir
  • Dechrau prosiect ymchwil annibynnol, gan arwain at draethawd hir ar bwnc o'ch dewis yn ymwneud â ffilm a theledu
  • Cynhyrchu syniadau yn annibynnol neu ar y cyd, mewn ymateb i aseiniadau a osodwyd neu mewn arfer ar eich menter eich hun
  • Datblygu ymateb personol, unigol a dychmygus i bwnc o'ch dewis
  • Cyfnerthu sylfeini o ran sgil, pwnc a chysyniad a gafwyd yn ystod y tair blynedd i gynhyrchu corff o waith ansoddol i'w arddangos i'r cyhoedd
  • Datblygu hunaniaeth neu broffil proffesiynol fel artist.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

  • Darperir ein rhaglen drwy weithdai, tiwtorialau, dangosiadau, sesiynau ymarferol, darlithoedd, sesiynau rhannu beirniadaeth a theithiau maes.
  • Asesir drwy waith cwrs – arddangos portffolio, cyflwyniad.
  • Bydd tiwtor personol hefyd yn cael ei neilltuo i chi, a gallwch ofyn iddyn nhw am arweiniad a chymorth, boed hynny'n academaidd neu fugeiliol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Yr hyn dw i'n ei hoffi fwyaf am Astudiaethau Ffilm a Theledu yw'r staff addysgu. Maen nhw'n weithwyr proffesiynol profiadol sy'n ddynamig, yn frwdfrydig, ac yn bwysicaf oll, yn hawdd mynd atyn nhw; mae'n golygu bod y profiad dysgu yn hwyliog, ac mae fy hyder wedi cynyddu o ganlyniad. Dw i hefyd yn mwynhau'r modiwlau amrywiol sydd ar gael. Mae'r sesiynau ymarferol yn wych gan eu bod yn caniatáu i fi arbrofi gyda fy syniadau fy hun, ond gan ddysgu sgiliau gwerthfawr i fi ar yr un pryd. Fy hoff fodiwlau hyd yma yw Ysgrifennu Sgript; Imagining the Short; ac Ysgrifennu ar gyfer Ffilm a Theledu. Dw i wrth fy modd yn ysgrifennu'n greadigol, ac mae'r modiwlau yma yn fy ngalluogi i ddatblygu fy nychymyg. 

Angela Wendy Rumble

Mae Astudiaethau Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth yn anhygoel. Mae gan y cwrs awyrgylch gwych, sy'n dangos mor dda yw'r cysylltiad rhwng y myfyrwyr a'r darlithwyr. Mae ochr academaidd y cwrs yn ddadlennol; mae'n cyffwrdd ag ystod eang o bynciau ac yn ymdrin â phob un o'r rhain yn fanwl, ac mae hyn yn gweithio'n dda hyd yn oed ar gyfer y myfyrwyr hynny sy'n dymuno canolbwyntio mwy ar y modiwlau ymarferol. Yn ogystal, mae'r adran yn cynnig digonedd o gyfleoedd ar gyfer profiad gwaith, ynghyd â chyfleoedd i fyfyrwyr fireinio'u sgiliau y tu allan i'r ystafell ddosbarth gydag offer yr adran. Mae yna hefyd gymdeithas ffilm boblogaidd. 

Joe Williams

Yr hyn dw i'n ei fwynhau ynghylch Astudiaethau Ffilm a Theledu yw'r amrywiaeth o feysydd dw i wedi cael cyfle i fod yn rhan ohonyn nhw. Llynedd, fydden i byth wedi bod â'r hyder na'r ddealltwriaeth i drefnu tîm cynhyrchu, i greu a marchnata ffilmiau byrion ac i weithio mewn stiwdio tri chamera. Yr hyn ro'n i'n chwilio amdano gan Brifysgol Aberystwyth oedd y sgiliau i ddod yn wneuthurwr ffilm; a'r hyn ges i oedd sgiliau ymarferol, dealltwriaeth o drafodaethau academaidd, a chysylltiadau sydd wedi rhoi dealltwriaeth o'r diwydiant ffilm a theledu i fi. 

Peter Gosiewski

Mae'r darlithwyr yn angerddol iawn ac yn ddeallus am gelf a'u disgyblaethau nhw eu hunain. Rwy'n teimlo fel petawn i bob amser yn tyfu ac yn gwella fel artist, ac mae fy nhiwtoriaid yn rhoi amser i roi adborth adeiladol da i fi. 

Amelia Jenkinson

Dw i wrth fy modd gyda'r amrywiaeth rydych chi'n ei chael gan Gelfyddyd Gain - does dim rheolau sefydlog o ran y gwaith y gallwch ei gynhyrchu, ac mae modd i chi fynegi eich syniadau'n llawn, ym mha bynnag ffordd hoffech chi. Mae'r tiwtoriaid yn barod i helpu ac i annog, ac mae rhywun wrth law bob amser i roi arweiniad i chi, boed hynny'n staff neu'n gyd-fyfyrwyr. 

Jamie Carpenter-White

Y peth cynta sylwais i arno wrth astudio Celfyddyd Gain ym Mhrifysgol Aberystwyth oedd yr awyrgylch cyfeillgar a chroesawgar. Dw i wir yn gwerthfawrogi'r ffaith bod fy nghwrs yn cael ei gynnal mewn adeilad mor hardd yn bensaernïol, wedi'i amgylchynu gan y morlun syfrdanol. Ro'n i'n teimlo mor dawel fy meddwl yn Aberystwyth, a bydden i'n ei argymell i unrhyw un sydd am wneud gradd mewn Celf. 

Laura Beryl Eileen Bosley

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Celf neu bwnc perthnasol, a phortffolio boddhaol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM, plus satisfactory portfolio

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28, plus satisfactory portfolio

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall, plus satisfactory portfolio

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|