BA

Celfyddydau Creadigol

BA Celfyddydau Creadigol Cod WW48 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Mae'r profiad dysgu unigryw hwn ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich galluogi i ddilyn llwybr o'ch dewis drwy ac ar draws pedair disgyblaeth greadigol ar y cyd; Celfyddyd Gain, Ysgrifennu Creadigol, Theatr, Perfformio a Senograffeg, a Ffilm a Theledu.

Byddwch yn dewis ystod o fodiwlau o bob disgyblaeth, a fydd yn cynnwys un modiwl cyd-destunau diwylliannol yn ystod y tair blynedd.Ynghyd â chyfres o fodiwlau o'ch dewis, byddwch yn dilyn y gyfres o fodiwlau craidd rhyngddisgyblaethol; Arfer Rhyngddisgyblaethol 1-6. Yn y modiwlau hyn, byddwch yn cydweithio fel grŵp trwy gyfres o weithdai wythnosol yn seiliedig ar arfer a phroses, tuag at ganlyniad ar y cyd dan arweiniad y myfyrwyr. Byddwch hefyd yn creu ac yn datblygu cyfres o brosiectau arfer ac ymchwil rhyngddisgyblaethol annibynnol a hunangyfeiriedig, gan gyfrannu at broffil o chwe phrosiect a ddatblygwyd yn ystod y cwrs tair blynedd. Bydd gennych gyfle i arddangos eich chwe phrosiect mewn dwy arddangosfa gyhoeddus bob blwyddyn. Bydd y gyntaf yn yr Ysgol Gelf, a'r ail yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, lle byddwch yn llwyfannu'ch prosiectau safle-benodol y tu mewn ac o gwmpas un o Ganolfannau Celfyddydau mwyaf gwledydd Prydain, sydd wedi cael gwobr RIBA ac sy'n cael dros 70,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Byddwch yn datblygu sgiliau allweddol mewn arfer proffesiynol drwy weithdai grŵp, arfer hunangyfeiriedig, cyfleoedd rheoli digwyddiadau sydd ar gael i fyfyrwyr y drydedd flwyddyn, ac arddangosiadau cyhoeddus, gan roi'r sgiliau sydd eu hangen arnoch i fynd yn uniongyrchol i'r diwydiant creadigol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Celfyddydau Creadigol ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Elwa ar un o Ganolfannau Celfyddydau mwyaf gwledydd Prydain, sef Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
  • Dysgu gan artistiaid, awduron, gweinyddwyr y celfyddydau a pherfformwyr sy'n ymarfer.
  • Cyfle i ragori drwy eich cysylltiadau gyda'r diwydiannau creadigol yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
  • Profi diwylliant gwahanol ac astudio yn un o'n Prifysgolion partner yn Ewrop neu'r tu hwnt gyda rhaglen Erasmus+ neu Raglen Cyfnewid Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth. 
  •  Gradd gan adran sefydledig; mae gan yr Ysgol Gelf hanes sy'n dyddio'n ôl i 1917, sy'n golygu ein bod ymhlith nifer fach o Brifysgolion Prydain oedd yn ymwneud â'r Mudiad Celf a Chrefft.
  • Creu a dysgu gyda chyfleusterau addysgu o'r radd flaenaf; stiwdios â goleuo da ar gyfer paentio, ystafelloedd tywyll, gweithdai print, ystafell MAC, ynghyd â theatrau darlithio ac ystafelloedd seminar.


Ein Staff

Drwy ymwneud yn weithredol ag ymarfer, hanes a churadu celf, mae staff yr Ysgol Gelf yn ceisio darparu amgylchedd dysgu cyfoethog i'r myfyrwyr. Mae eu profiad fel artistiaid sy'n arddangos eu gwaith, haneswyr celf sy'n cyhoeddi eu gwaith, a churaduriaid gweithredol yn llywio eu gwaith dysgu.

Gyrfaoedd

Pa gyfleoedd gyrfa fydd ar gael i mi ar ôl i mi gwblhau fy ngradd?

Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen i weithio i'r canlynol:

  • Y Cyngor Dylunio
  • Cyngor y Celfyddydau
  • Oriel Tate
  • Yr Academi Frenhinol
  • Cwmni Teledu Carlton
  • The Observer
  • Oriel Saatchi
  • Damien Hirst
  • BBC.

Mae rhai o'n graddedigion yn:

  • athrawon ysgol uwchradd
  • rheolwyr a churaduron orielau celf
  • arlunwyr llyfrau plant
  • ffotograffwyr
  • dylunwyr graffig
  • cyfarwyddwyr celf ym maes cyhoeddi
  • arlunwyr meddygol.

Sut mae'r radd yn fy mharatoi ar gyfer fy ngyrfa?

Byddwch yn meithrin sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi, er enghraifft:

  • datblygu datrysiadau creadigol i broblemau penodol
  • ymchwilio, gwerthuso a threfnu gwybodaeth
  • cyfathrebu clir yn llafar ac yn ysgrifenedig
  • gweithio'n annibynnol a gydag eraill
  • rheoli amser
  • hunanddibyniaeth a disgyblaeth.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun o'r hyn y mae'n bosibl y byddwch yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, gallech ddarganfod:

  • arfer celf
  • theatr
  • senograffeg
  • ysgrifennu creadigol a ffuglen
  • antholeg.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn archwilio:

  • celfyddyd gain
  • cynhyrchu ffilm a theledu
  • cynhyrchu theatr
  • ysgrifennu creadigol
  • cyd-destunau diwylliannol celf.

Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn astudio:

  • print, ffoto a phaent
  • cynhyrchu ffilm neu ddogfen
  • arfer stiwdio uwch
  • sgriptio
  • creu testunau mewn gwahanol genres
  • hanes celf
  • eich prosiect ymchwil annibynnol.

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Darperir ein rhaglen drwy weithdai, dangosiadau, sesiynau ymarferol, darlithoedd, sesiynau rhannu beirniadaeth, tiwtorialau, a theithiau maes.

Bydd yr asesu drwy waith cwrs – portffolio, ffilm, perfformio.

Bydd tiwtor personol hefyd yn cael ei ddynodi i chi, a gallwch droi atyn nhw am arweiniad a chymorth, boed hynny'n academaidd neu'n fugeiliol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC, plus satisfactory portfolio

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM, plus satisfactory portfolio

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28, plus satisfactory portfolio

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall, plus satisfactory portfolio

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|