BA

Addysg / Drama a Theatr

BA Addysg / Drama a Theatr Cod WX43 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Ein cwrs Cyd-anrhydedd mewn Addysg a Drama a Theatr yw eich cyfle i wella eich cyneddfau beirniadol drwy astudio testunau llenyddol a dramatig, cael profiad ymarferol o greu theatr, a datblygu dealltwriaeth feirniadol a myfyriol o ddysgu ac Addysg. Ar ôl cwblhau'r radd hon yn llwyddiannus, bydd y myfyrwyr yn gymwys i wneud cais i gwrs hyfforddiant athrawon ôl-raddedig (TAR) mewn addysg Gynradd neu Uwchradd.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio'r radd BA Addysg / Drama a Theatr ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Cewch gyfle i archwilio modiwlau craidd Addysg, a chyfuno damcaniaeth ac elfennau ymarferol Drama a Theatr.
  • Fe'i haddysgir gan weithwyr proffesiynol, gan gynnwys gwneuthurwyr theatr a chyn-athrawon, ynghyd ag ymchwilwyr blaengar yn y maes.
  • Cewch gyfle i wella eich gallu i weithio gydag eraill.
  • Cewch ddysgu mewn amgylchedd rhagorol sydd â chyfleusterau o'r radd flaenaf.
  • Mae stiwdios lleol BBC Cymru yn rhan o'r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.
  • Cewch elwa o gysylltiadau cadarn yr adran gyda Chwmni Brenhinol Shakespeare, Theatr Genedlaethol Cymru, Music Theatre Wales, Quarantine, Imitating the Dog a Phrosiect Magdalena.
  • Mae un o ganolfannau celfyddydau mwyaf y Deyrnas Unedig wedi'i lleoli ar gampws y brifysgol, sef Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
  • Cewch gymryd mantais o gyfleoedd cyfnewid cyffrous yn Ewrop a ledled y byd.
Ein Staff

Mae gan ddarlithwyr cyrsiau israddedig yr Ysgol Addysg naill ai gymwysterau hyd at safon PhD neu maent yn ymarferwyr profiadol yn eu maes. Mae gan bob un o'r staff dysgu gymhwyster dysgu cydnabyddedig, neu maent yn gweithio tuag at gymhwyster o'r fath.

Mae holl staff academaidd yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu yn gwneud gwaith ymchwil a/neu'n ymwneud â phrosiectau Trosglwyddo Gwybodaeth, ac mae ganddynt naill ai gymwysterau academaidd perthnasol ar lefel doethuriaeth neu brofiad proffesiynol ac arbenigedd cyfatebol.

Gyrfaoedd

Pa ragolygon gyrfa sydd ar gyfer graddedigyn Addysg gyda Drama a Theatr?

Ar ôl cwblhau'r radd hon, byddwch yn ymgeisydd cryf ar gyfer y sectorau canlynol:

  • darlledu
  • addysgu ac addysg (gan gynnwys anghenion addysgol arbennig)
  • gofal cymdeithasol
  • nyrsio
  • therapi lleferydd
  • gwaith cymdeithasol
  • addysg celfyddydau perfformio
  • newyddiaduraeth
  • marchnata a chyfathrebu
  • llywodraeth leol
  • gweinyddu yn y celfyddydau.

Mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio yn ein haddysgu, a byddwch yn dysgu'r sgiliau hanfodol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt drwy gydol eich gradd.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd mewn Addysg a Drama ac Astudiaethau Theatr yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hunan
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • sgiliau ymchwil.

Pa gyfleoedd sydd ar gael i wneud profiad gwaith wrth astudio? 

Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig. 

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Cydlynydd Cyflogadwyedd Academaidd 

O'r flwyddyn gyntaf ymlaen, eich cyflogadwyedd yw ein blaenoriaeth, ac er mwyn sicrhau ein bod yn cynnig y gwasanaethau cywir mae gennym gydlynydd cyflogadwyedd academaidd pwrpasol, sy'n cydweithio gyda'n hymgynghorydd gyrfaoedd cyswllt er mwyn teilwra pecyn o addysg yrfaol, cysylltiad â chyflogwyr a chefnogaeth adrannol unigol. Mae'r unigolyn hwn yn cydweithio gyda'r gwasanaeth gyrfaoedd a sefydliadau allanol i greu cysylltiadau, a gaiff eu bwydo i'n myfyrwyr yn rheolaidd. Mae'r rhain yn cynnwys cyfleoedd am waith gwirfoddol a swyddi cyflogedig, yn ystod eich astudiaethau ac ar eu hôl. Yn yr Adran, bydd gennych gyfle i gymryd rhan yn ein cynhadledd gyflogadwyedd flynyddol i fyfyrwyr.

Cynllun Mentora Myfyrwyr

Mae ein cynllun mentora myfyrwyr yn cynnig cyfleoedd i gael cefnogaeth gan gyfoedion, ond hefyd datblygu sgiliau mentora a hyfforddi wrth gefnogi cydfyfyrwyr. Cydnabyddir y cynllun hwn gan y Brifysgol am ei werth o ran sgiliau uwch, ac mae'r rhai sy'n gweithredu fel mentoriaid yn cael cydnabyddiaeth ar eu hadysgrif raddio.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y rhaglen tair blynedd.

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, gallech archwilio:

  • polisïau a materion cyfredol mewn Addysg
  • datblygiad plant
  • dysgu mewn plant ifanc
  • astudio theatr.

Byddwch hefyd yn cymryd rhan mewn prosiectau theatr.

Yn ystod yr ail flwyddyn, mae'r pynciau'n cynnwys:

  • seicoleg dysgu a meddwl
  • drama Ewropeaidd fodern
  • cydberthynas theatr gyda chymdeithas gyfoes.

Yn ystod y drydedd flwyddyn, gallech astudio:

  • sut caiff dysgu a sgiliau eu gwerthuso a'u hasesu
  • theatr, rhywedd a rhywioldeb
  • gwleidyddiaeth mewn perthynas â theatr a drama
  • sgriptio.

Byddwch hefyd yn gweithio ar brosiect ymchwil annibynnol.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir y radd hon drwy gyfrwng darlithoedd, seminarau, a gweithdai, sydd oll wedi'u dylunio i ysgogi eich diddordebau academaidd.

Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau, arholiadau, cyflwyniadau llafar, gwaith ymarferol a chreadigol. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Rydw i wrth fy modd gyda fy nghwrs gan fod y pynciau rydyn ni'n eu trafod yn ddiddorol ac yn berthnasol i fyd plentyndod. Mae'r darlithwyr yn angerddol iawn am y pwnc, sy'n cael ei adlewyrchu yn y ffyrdd amrywiol rydyn ni'n cael ein hasesu - fe gawson ni hyd yn oed gyfle i ddylunio ein gêm ein hunain! Cymaint yn fwy ymarferol a realistig cael gweithio gyda phlant yn hytrach nag arholiad sych! Ar y cyfan, mae fy hyder mewn amrywiaeth o bynciau a fy ngallu fy hunan wedi cael eu cryfhau, sydd bob amser yn beth da mewn unrhyw yrfa. Byddwn yn sicr yn argymell y cwrs a Phrifysgol Aberystwyth i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gweithio gyda phlant, a gallaf sicrhau y byddwch yn cael cefnogaeth dda iawn gan staff mewn unrhyw fath o sefyllfa academaidd!

Caroline Korell

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|