BSc

Cyfrifeg a Chyllid

Bydd y radd BSc mewn Cyllid a Chyfrifeg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eich paratoi ar gyfer gyrfa broffesiynol ym maes cyfrifeg neu gyllid, drwy ganolbwyntio yn bennaf ar gyfrifeg ariannol a chyfrifeg rheoli, gyda chyfraith busnes, moeseg busnes a threthiant wedi’u plethu drwy’r rhaglen gyfan.

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys blwyddyn sylfaen integredig.

Trosolwg o'r Cwrs

  • ACCA (the Association of Chartered Certified Accountants)
  • The Chartered Institute of Public Finance and Accountancy (CIPFA)
  • CIMA - Chartered Institute of Management Accountants
  • The Institute of Chartered Accountants in England and Wales

Pam astudio Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Mae ein staff dysgu yn cynnwys ymchwilwyr ac ymarferwyr yn y diwydiant, a fydd yn eich cynorthwyo i ddatblygu dealltwriaeth eang o’r cyd-destun gweithredol ac effaith mesur a datgelu gwybodaeth ariannol ar lif arian, polisïau mewnol a systemau ariannol.

Bydd hyn yn eich galluogi i fagu dealltwriaeth o sut y gellir defnyddio data ariannol er mwyn dylanwadu ar reolwyr, buddsoddwyr a’r sawl sy’n gwneud penderfyniadau; a sut y gall y modd y caiff gwybodaeth ariannol ei chyflwyno effeithio ar hyd bywyd (a phroffidioldeb cynaliadwyedd) cwmnïau neu sefydliadau yn y sector cyhoeddus.

Byddwch yn elwa o:

  • astudio am radd sy’n cael ei hachredu gan brif gyrff cyfrifeg y byd
  • cael eich addysgu a’ch mentora gan ddarlithwyr sy’n gyfrifwyr cymwysedig ac yn ymarferwyr, ac sydd â llawer o brofiad yn y diwydiant yn ogystal â phrofiad academaidd
  • cael eich cyflwyno i faterion cyfreithiol sy’n berthnasol i’r amgylchedd busnes
  • gweithio gyda Refinitiv Workspace sy’n rhoi cyfle i fanteisio ar ddata
  • ariannol a dangosyddion economaidd cwmnïau, yn ogystal â newyddion a dadansoddi, i roi ichi brofiad dysgu mwy cyfoethog a rhyngweithiol
  • cael eich eithrio o arholiadau proffesiynol prif gyrff arholi cyfrifeg y DU sy'n cynnwys:
  • ACCA
  • CIMA
  • ICAEW
  • CIPFA
  • CII
  • ICAS
Ein Staff

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Fundamentals of Accounting and Finance AB11120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Understanding the Economy AB13120 20
Accounting and Finance for Specialists AB11220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Business Law LC21220 20
Corporate Finance and Financial Markets AB21420 20
Corporate Governance, Risk and Ethics AB21320 20
Intermediate Financial Accounting AB21120 20
Intermediate Management Accounting AB21220 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Accounting and Finance: Analysis and Application AB31420 20
Advanced Financial Accounting AB31120 20
Advanced Management Accounting AB31220 20
Investments and Financial Instruments AB31320 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Taxation AB31520 20

Gyrfaoedd

Mae cwmnïau cyfrifeg, banciau buddsoddi a sefydliadau ariannol yn cynnig amrywiaeth eang o gyfleoedd gyrfa i gyd-fynd â phob diddordeb gan gynnwys gwaith archwilio a sicrwydd traddodiadol, ymgynghori rheoli, cyllid corfforaethol, ymgynghori TG, cynllunio treth a methdalu. Rydym wedi ffurfio cysylltiadau â’r holl brif gyflogwyr Cyfrifeg a Chyllid. Yn ogystal â gosod ein myfyrwyr mewn cwmnïau cyfrifeg traddodiadol gan gynnwys Deloitte, PwC, E&Y, a KPMG, mae ein graddedigion mwyaf diweddar wedi dod o hyd i gyflogaeth gyda sefydliadau adnabyddus eraill fel y BBC, Barclays, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Lidl.

Cyrchfannau Graddedigion

  • Cyfrifydd Siartredig
  • Cyfrifydd Ardystiedig Siartredig
  • Cyfrifydd Rheoli Siartredig
  • Cyfrifydd Cyllid Cyhoeddus Siartredig
  • Technegydd Cyfrifydd.

Mae rhai o'n graddedigion hefyd wedi archwilio llwybrau eraill:

  • Cynghorydd Treth
  • Archwiliwr
  • Dadansoddwr Buddsoddi
  • Masnachwr Ariannol
  • Banciwr Manwerthu
  • Economegydd
  • Actiwari.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Sylfaen Sgiliau Academaidd 1 a 2
  • Economics, Finance and Accounting for Business 
  • Foundations of Management and Marketing 
  • Information Technology for University Students 
  • Introduction to Statistics 
  • The Mathematics Driving Licence.

Yr ail flwyddyn:

  • Hanfodion Cyfrifeg a Chyllid
  • Accounting and Finance for Specialists
  • Understanding the Economy
  • Hanfodion Rheolaeth a Busnes
  • Data Analytics.

Y drydedd flwyddyn:

  • Intermediate Financial Accounting
  • Intermediate Management Accounting
  • Corporate Governance, Risk and Ethics
  • Corporate Finance and Financial Markets
  • Business Law for Managers
  • Taxation.

Y flwyddyn olaf:

  • Advanced Financial Accounting
  • Advanced Management Accounting Investments and Financial Instruments
  • Accounting and Finance: Analysis and Application
  • Theory and Practice of Auditing.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Mathematics (grade 4, new grading system in England)

Diploma Cenedlaethol BTEC:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ryngwladol:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Bagloriaeth Ewropeaidd:
Ar gael i'r rhai sy'n astudio am gymwysterau Lefel 3, neu sydd wedi eu cwblhau yn barod (ee, Safon Uwch neu Ddiploma BTEC) a hefyd i ymgeiswyr aeddfed heb gymwysterau ffurfiol sydd â chefndir addysgol, profiad a chymhelliant priodol.

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|