BSc

Cyfrifeg a Chyllid / Sbaeneg

Cyfrifeg a Chyllid / Sbaeneg Cod NR44 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae'r radd Cyfrifo a Chyllid gyda Sbaeneg yn rhaglen prif bwnc/is-bwnc, sy'n golygu y byddwch yn treulio dau draean o'ch amser yn astudio Cyfrifo a Chyllid gydag Ysgol Fusnes Aberystwyth, a thraean ohono yn astudio Sbaeneg yn yr Adran Ieithoedd Modern.

Mae Cyfrifo a Chyllid yn ymwneud â mesur a datgelu gwybodaeth ariannol. Fel arbenigwyr mewn maes hynod gymhleth a rheoledig, fel rhan o gwmni ac fel unigolion proffesiynol allanol, mae gan gyfrifwyr rôl bwysig yn sicrhau cywirdeb y wybodaeth ariannol a roddir i unigolion preifat, rheolwyr, buddsoddwyr, rheoleiddwyr, penderfynwyr a'r cyhoedd. Bydd gradd mewn Cyfrifo a Chyllid o Brifysgol Aberystwyth yn eich galluogi i ddatblygu'r sgiliau a'r feirniadaeth arbenigol sydd ei hangen er mwyn cyflwyno a mesur cyllid gyda dealltwriaeth o'r fframwaith cyfreithiol sy'n rheoleiddio arferion gweithredol. 

Bydd cyfuno eich astudiaethau gyda Sbaeneg yn gwella eich cyflogadwyedd. Mae'r cwrs hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr Sbaeneg a siaradwyr lefel uwch, ac mae'n cynnwys treulio blwyddyn dramor yn Sbaen neu mewn gwlad arall lle siaredir Sbaeneg yn ystod eich trydedd flwyddyn er mwyn annog a datblygu eich sgiliau iaith ymhellach.

Trosolwg o'r Cwrs

  • The Chartered Institute of Public Finance and Accountancy (CIPFA)
  • CIMA - Chartered Institute of Management Accountants
  • The Institute of Chartered Accountants in England and Wales

Pam astudio Cyfrifo a Chyllid ym Mhrifysgol Aberystwyth?

Mae ein rhaglenni Cyfrifo a Chyllid amrywiol wedi'u hachredu gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA), Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA), Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW), Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA), y Sefydliad Yswiriant Siartredig (CII), a Sefydliad yr Ysgrifenyddion a'r Gweinyddwyr Siartredig (ICSA). Mae hyn yn golygu, ar ôl i chi gwblhau eich gradd Cyfrifo a Chyllid yn llwyddiannus, y bydd modd i chi gael eich eithrio rhag sefyll arholiadau penodol ac felly cyflawni cymhwyster proffesiynol ar gam cynharach. I gyd-fynd â'ch modiwlau cyfrifo bydd modiwlau ieithyddol a diwylliannol, gan gynnwys Gwareiddiad Sbaenaidd, Sbaeneg, a Iaith mewn Cymdeithas.

Mae gan Ysgol Fusnes Aberystwyth enw ardderchog am ansawdd ei chyrsiau ac am lwyddiant ei graddedigion ar draws ystod eang o yrfaoedd a chyd-destunau. Rydym yn credu mewn model addysgu sy'n gofyn am gyfraniad y myfyriwr – yn hytrach na chasglu gwybodaeth mewn modd goddefol – sy'n sicrhau y byddwch yn gallu bodloni gofynion darpar gyflogwyr ar ôl graddio. Mae ffigurau diweddaraf yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr yn dangos cyfradd boddhad uchel gyda'r cwrs, felly gallwch fod yn sicr y byddwch yn cael profiad dysgu o ansawdd uchel iawn.

Caiff addysgu yn Ysgol Fusnes Aberystwyth ei seilio ar ymchwil. Mae ein staff academaidd yn cyhoeddi eu gwaith mewn cyfnodolion academaidd blaenllaw ac yn gweithredu'n rheolaidd fel ymgynghorwyr i ystod o sefydliadau. Mae gennym gryfderau nodedig mewn meysydd fel entrepreneuriaeth, rheoli adnoddau dynol, gweithrediadau a busnes rhyngwladol, a rheoli cadwyni cyflenwi. Yn asesiad diweddaraf y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (2014), cafodd y brifysgol ei chynnwys ymhlith yr hanner cant sefydliad gorau ar gyfer grym a dwysedd ymchwil. Cyflwynwyd 77% o'r staff cymwys i'r Fframwaith, a nodwyd bod 95% o ymchwil y brifysgol o safon a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Mae ein darlithwyr yn weithgar ym meysydd ymgynghori ac ymchwil academaidd a pholisi. Mae gan lawer ohonynt gefndir proffesiynol ym maes busnes ynghyd â chefndir academaidd, sy'n ein galluogi i'ch hysbysu am y datblygiadau diweddaraf yn eich pwnc, a rhannu ymwybyddiaeth ymarferol o'r amgylchedd busnes cyfoes gyda chi. Drwy gymhwyso eu gwybodaeth o'r byd go iawn i gysyniadau damcaniaethol, bydd eich profiad dysgu wedi'i wreiddio'n gadarn yng nghyd-destun arfer proffesiynol cywir. Cefnogir ein rhaglenni gan siaradwyr gwadd, sydd hefyd yn dod â'u profiad proffesiynol i'r dosbarth.

Mae gennym drefniant gyda llawer o brifysgolion partner dramor i ddarparu rhaglenni academaidd byrion (pythefnos) i grwpiau bach o fyfyrwyr busnes a rheolaeth (ar sail hunan-ariannu), er mwyn eich galluogi i brofi effaith yr amgylchedd diwylliannol wrth gynnal busnes dramor. Ar hyn o bryd mae gennym brifysgolion partner yn India, Tsieina, Rwsia, Japan, yr Emiraethau Arabaidd Unedig a Brasil, ac mae ein portffolio o wledydd yn ehangu'n gyflym.

Ein Staff

Mae gan bob un o ddarlithwyr yr Adran Ieithoedd Modern gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn gwneud gwaith ymchwil. Rydym hefyd yn cyflogi tiwtoriaid iaith, rhai ohonynt â gradd PhD, a phob un yn addysgwyr profiadol. O bryd i'w gilydd, cyflogwn siaradwyr brodorol o brifysgolion sy'n bartneriaid i ni dramor (lectoriaid), sy'n dod atom â chymeradwyaeth uchel ar sail eu llwyddiant academaidd yn eu prifysgolion eu hunain, ac mae sawl un ohonynt wedi hyfforddi fel addysgwyr. 

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Accounting and Finance for Specialists AB11220 20
Data Analytics AB15220 20
Fundamentals of Accounting and Finance * AB11120 20
Beginners Spanish 1 SP10820 20
Beginners Spanish 2 SP11020 20
Spanish Language Advanced SP19930 30

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Brazilian Portuguese (Basic) EL10720 20
Introduction to European Film EL10520 20
Language, Culture, and Identity in Europe EL10820 20
Study and Research Skills in Spanish and Latin American Studies SP11120 20
Hispanic Civilization SP10610 10

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Financial Accounting AB31120 20
Advanced Management Accounting AB31220 20
Investments and Financial Instruments AB31320 20
Spanish Language SP30130 30

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Cuba in Revolution SP36020 20
Cuban Cinema of the Revolution: Crisis, National Identity and the Critique of Contemporary Society SP37020 20
Dissertation EL30120 20
Extended Essay Module EL30510 10
Reading Late 19th Century Literature SP35120 20
Seeing Spain Through Cinema SP35020 20
Traducción al español SP39910 10

Gyrfaoedd

Rhagolygon gyrfa

Bydd gradd mewn Cyfrifo a Chyllid gyda Sbaeneg yn eich paratoi ar gyfer gyrfa arbenigol fel cyfrifydd Siartredig, cyfrifydd ardystiedig Siartredig, cyfrifydd rheoli Siartredig, cyfrifydd arian cyhoeddus Siartredig, neu dechnegydd Cyfrifo. Mae llwybrau gyrfa eraill yn cynnwys ymgynghorydd treth, archwilydd, dadansoddwr buddsoddiadau, masnachwr ariannol, banciwr masnachu, economegydd ac actwari. Bydd ein hyfforddiant iaith yn eich cynorthwyo mewn gwaith yn ymwneud â geiriaduraeth, therapi lleferydd ac iaith, cyhoeddi, cyfieithu a dysgu.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd Cyfrifo a Chyllid gyda Sbaeneg yn rhoi ystod o sgiliau trosglwyddadwy i chi sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • sgiliau rhifiadol uwch
  • y gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio data busnes ac ariannol
  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau effeithiol
  • sgiliau dadansoddi a meddwl yn greadigol
  • y gallu i wneud penderfyniadau
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • y gallu i weithio mewn amgylcheddau amlieithog.

Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG)

Mae'r Brifysgol yn gweithredu Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG), sy'n cynnig cyfle anhygoel i chi gymryd blwyddyn allan rhwng eich ail a'ch trydedd flwyddyn i weithio mewn sefydliad yng ngwledydd Prydain neu dramor. Mae'r cynllun yn darparu profiad gwerthfawr a buddiol, yn bersonol ac yn broffesiynol, a gall helpu i'ch amlygu mewn marchnad swyddi gystadleuol iawn. Bydd Gwasanaeth Gyrfaoedd y Brifysgol yn eich helpu i archwilio eich opsiynau a sicrhau lleoliad gwaith addas.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch chi'n gosod y sylfeini ar gyfer eich astudiaethau yn y dyfodol drwy dri phrif faes – Cyfrifo Ariannol, Cyfrifon Rheoli, a Rheoli Ariannol. Byddwch yn cael eich cyflwyno hefyd i dechnegau ansoddol a'r defnydd o feddalwedd cyfrifiadur ystadegol arbenigol, a byddwch yn dod yn gyfarwydd â'r amgylchedd busnes. Bydd eich addysg Sbaeneg yn ysgogi eich diddordeb academaidd mewn ieithoedd. Drwy gyfuno'r ddwy ddisgyblaeth hyn, bydd y cwrs hwn yn helpu i ddyfnhau eich cymhwysedd ieithyddol, a'ch paratoi gyda sgiliau hanfodol ar gyfer gweithio yn y maes.

Yn ystod yr ail flwyddyn, byddwch yn adeiladu ar feysydd allweddol cyfrifon rheoli a chyfrifo ariannol, a byddwch yn edrych yn fanylach ar ddadansoddi buddsoddiadau, dethol portffolios a rheoli risg. Bydd modd i chi ddewis o blith ystod o fodiwlau Sbaeneg opsiynol, gan eich galluogi i deilwra'ch cwrs i weddu i'ch diddordebau.

Byddwch yn treulio'ch trydedd flwyddyn mewn gwlad lle siaredir Sbaeneg er mwyn mireinio eich cymhwysedd iaith.

Yn ystod y drydedd flwyddyn, byddwch yn datblygu eich gallu ymhellach o ran cyfrifon rheoli a chyfrifo ariannol, a byddwch yn canolbwyntio ar gyllid corfforaethol hefyd. Bydd modd i chi arbenigo ymhellach mewn Sbaeneg drwy ddetholiad o fodiwlau dewisol.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Darperir deunydd craidd drwy ddarlithoedd, a chânt eu hatgyfnerthu gan diwtorialau a seminarau mewn grwpiau bach. Bydd y rhain yn eich helpu i ddwysáu eich dealltwriaeth o'r maes a datblygu ystod o sgiliau hanfodol a throsglwyddadwy. Bydd gweithio mewn grŵp a rhoi cyflwyniadau yn eich helpu i wella eich sgiliau cyfathrebu ac arwain. Cefnogir yr holl fodiwlau gydag adnoddau electronig er mwyn eich helpu i astudio y tu hwnt i'r ystafell ddosbarth, ac mae cyfoeth o destunau argraffedig ar gael yn llyfrgell y Brifysgol a'r Llyfrgell Genedlaethol, sydd wedi'i lleoli drws nesaf i'r prif gampws.

Byddwch yn cael eich asesu drwy amrywiaeth o ddulliau, gan gynnwys arholiadau, gwaith cwrs, adroddiadau, prosiectau, cyflwyniadau a thraethodau a asesir. Bydd gwaith cwrs yn datblygu eich gallu i ymchwilio, dadansoddi a chyflwyno data yn glir ac yn rhesymegol, a bydd seminarau yn eich helpu i fireinio eich sgiliau cyflwyno a chyfathrebu.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Sbaeneg (onibai yr astudir y pwnc fel dechreuwr)

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-DMM to include B in A level Spanish (unless to be studied as a beginner)

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Spanish at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Spanish

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|