BSc

Cyfrifeg a Chyllid a Chyfrifiadura

Cyfrifeg a Chyllid a Chyfrifiadura Cod NG34 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae'r BSc Cyfrifeg a Chyllid a Chyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth yn radd anrhydedd cyfun sy'n dod â hanfodion cyllid a chyfrifeg at ei gilydd ac ar yr un pryd yn rhoi cyfle i chi edrych ar sut mae  sefydliadau, gweithwyr a rhanddeiliaid eraill yn rhyngweithio yn ddigidol â’i gilydd.  Yn ogystal ag ymdrin â meddalwedd, caledwedd a thechnegau cyfrifiadurol, ceir pwyslais ar brosesau rhesymegol a'u datblygu a'u rheoli yn effeithiol; gan sicrhau bod eich dealltwriaeth o Gyfrifeg a Chyllid yn cyd-fynd â chymorth technolegol gweithrediadau busnes. 

Mae’r rhyngweithio rhwng cyfrifeg a chyllid a chyfrifiadura yn creu amgylchedd hynod ddeinamig ac arloesol ac mae’r radd hon yn canolbwyntio ar ehangu eich gwybodaeth gyfoes o ddatblygiadau mewn diwydiant a’r cyfleoedd a ddaw yn eu sgil.  Byddwch yn trafod cysyniadau a damcaniaethau mewn cyfrifeg a rheoli risg ariannol. Byddwch hefyd yn ymdrin â chynnwys a chysyniadau a fydd yn eich galluogi i ddeall sut y gall technoleg ddatrys ystod eang o broblemau megis creu a gweithredu algorithmau; cyfrifeg ariannol; dylunio, gweithredu a chloriannu systemau meddalwedd, ddadansoddi portffolios stoc a gweithredu marchnadoedd ariannol. 

Trosolwg o'r Cwrs

  • The Chartered Institute of Public Finance and Accountancy (CIPFA)
  • CIMA - Chartered Institute of Management Accountants
  • The Institute of Chartered Accountants in England and Wales

Pam astudio Cyfrifeg a Chyllid a Chyfrifiadureg?  

Mae elfen Cyfrifeg a Chyllid y radd wedi'i hachredu gan Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA), Sefydliad Siartredig y Cyfrifwyr Rheoli (CIMA), Sefydliad yCyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr (ICAEW), Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA), Sefydliad Yswiriant Siartredig (CII), Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban (ICAS).   

Ar ben hynny, mae elfen gyfrifiadurol y cwrs hwn wedi'i hachredu gan y Sefydliad Siartredig TG (BCS) ar ran y Cyngor Peirianneg, sy'n golygu y gallwch ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ddatrys problemau cymhleth sy'n cynnwys dadansoddi, dylunio, dod o hyd i atebion i ddatrys problemau, a’u gweithredu.  

Mae'r gydnabyddiaeth gan y gwahanol gyrff proffesiynol yn dangos ansawdd dysgu’r ddwy adran academaidd, gan sicrhau eich bod yn graddio gyda'r radd orau bosibl, ac sy’n elfen allweddol o gydnabyddiaeth ddi-dor y diwydiant ohonom fel arweinwyr sy’n darparu dysgu o safon ragorol yn y DU.  

Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn cael y cyfle i gael profiad o labordai pwrpasol ar gyfer Linux, Mac OS X ac o weinyddwyr canolog, yn ogystal ag offer roboteg gan gynnwys Arduinos, robotiaid symudol a robotiaid hwylio.  

O ystyried natur ymarferol y radd hon, cewch eich dysgu gan ymarferwyr yn academia ac ym myd diwydiant, sy’n sicrhau y cewch gyfle i ymdrwytho yn y pwnc ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol a'u rhwydweithiau cysylltiedig.  

Ein Staff

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Mae gan bron bob un o ddarlithwyr yr Adran Cyfrifiadureg gymwysterau hyd at safon PhD, ac mae gan y gweddill brofiad helaeth ym maes ymchwil neu ddiwydiant. Mae'n rhaid i bob darlithydd newydd ennill cymhwyster TUAAU, ac felly maent yn Gymrodyr Uwch neu'n Gymrodyr o'r Academi Addysg Uwch. Mae'r adran hefyd yn cyflogi nifer o staff arddangos a thiwtoriaid rhan amser a rhai arddangoswyr sy'n fyfyrwyr, wedi’u dewis o blith ein hisraddedigion a'n huwchraddedigion. Mae ein cymrodyr ymchwil a'n cynorthwywyr ymchwil (y rhan fwyaf ohonynt â gradd PhD) hefyd yn gwneud rhywfaint o waith dysgu o bryd i'w gilydd pan fo hynny'n briodol.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Accounting and Finance for Specialists AB11220 20
Data Analytics AB15220 20
Fundamentals of Accounting and Finance AB11120 20
Fundamentals of Web Development CS11010 10
Diogelwch Gwybodaeth CC11110 10
Introduction to Computer Infrastructure CS10220 20
Cyflwyniad i Raglennu CC12020 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Programming for the Web CS25320 20
Software Engineering for the Web CS22220 20
Corporate Finance and Financial Markets AB21420 20
Intermediate Financial Accounting AB21120 20
Intermediate Management Accounting AB21220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Modelling Persistent Data CS27020 20
Modelu Data Parhaus CC27020 20
Python Gwyddonol CC24520 20
Scientific Python CS24520 20
Web Design and the User Experience CS22620 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Prosiect Byr CC39620 20
Advanced Financial Accounting AB31120 20
Advanced Management Accounting AB31220 20
Investments and Financial Instruments AB31320 20
Web-Based Major Project CS39930 30

Gyrfaoedd

Bydd y BSc Cyfrifeg a Chyllid a Chyfrifiadureg yn darparu sylfaen ardderchog ar gyfer gyrfa broffesiynol mewn cyfrifeg, yn y diwydiannau ariannol neu gyfrifiadurol.  

Mae Ysgol Fusnes Aberystwyth yn cynnig modiwl cyflogadwyedd penodol ar ymgynghoriaeth lle mae myfyrwyr yn gwneud cais am waith ymgynghori ym myd diwydiant.  Yn ystod y semester pan fo’r myfyrwyr yn gwneud gwaith ymgynghoriaeth ar gyfer diwydiant byddant yn cael profiad ymarferol o waith datblygu cyfleoedd.  

Mae llawer o'n graddedigion wedi ystyried gyrfa yn y diwydiannau allweddol sy'n cynnwys cyfrifeg a chyllid, bancio buddsoddi, rheoli risg, yswiriant a gwarantu.   Yn yr un modd, mae galw mawr am ein graddedigion mewn swyddi rheoli mwy cyffredinol, gan gynnwys rheoli manwerthu, y sector cyhoeddus, y GIG, dosbarthu a rheoli logisteg.  

Byddwch yn graddio gydag ystod eang o sgiliau cyfrifeg/cyllid a chyfrifiadura a fydd yn golygu y gallwch weithio mewn amryw swyddi, gan gynnwys dadansoddwr systemau, yswiriant a gwarantu, peiriannydd prosesau, rheolwr neu ymgynghorydd TG.  Gallech ddewis gweithio mewn busnes, y sector cyhoeddus neu'r sector nid-er-elw ac mae graddedigion diweddar wedi mynd ymlaen i weithio i BAE Systems, Barclays, Experian, Microsoft a'r Weinyddiaeth Amddiffyn.  

Bydd astudio ein cwrs gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid a Chyfrifiadureg yn rhoi’r sgiliau canlynol i chi:   

  • Deall ymddygiad a strwythur sefydliadol o fewn arbenigeddau Cyfrifeg a Chyllid  
  • Gallu defnyddio sgiliau dadansoddi a meddwl creadigol ar gyfer gwneud penderfyniadau lefel uchel a datrys problemau  
  • Sgiliau rhifedd gwell a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio data busnes ac ariannol   
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar i hwyluso gwaith tîm a gwaith annibynnol llwyddiannus.  

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech fod yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.  

Cymerir agwedd gyfannol mewn cyfrifeg a chyllid yn eich blwyddyn gyntaf, yn edrych ar y tri maes allweddol sef cyfrifeg ariannol, cyfrifeg rheoli a rheoli ariannol.  Mae tri maes allweddol cyfrifeg a chyllid yn eich galluogi i ddarganfod a deall egwyddorion sylfaenol yr elfennau busnes hyn. O fewn Cyfrifiadureg byddwch yn astudio themâu megis y seilwaith cyfrifiadurol, sut i’w reoli a'i optimeiddio, datblygu cymwysiadau ar y we a rhaglennu a dysgu trwy gymhwyso problemau a gweithio mewn timau i ddod o hyd i atebion iddynt.   

Yn eich ail a'ch trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â chysyniadau cyfrifeg a chyllid craidd sy'n cynnwys cyfrifeg ariannol a rheoli, y rheolau ac arferion penodol sy’n berthnasol i gyfrifeg mewn meysydd fel archwilio a threthu, dewis portffolio a rheoli risg, dadansoddi buddsoddiadau a chyfraith busnes gyffredinol sy'n llywodraethu gweithredoedd gweithwyr proffesiynol yn y diwydiannau cyfrifeg ac ariannol.  Yn yr elfennau sy’n ymdrin â chyfrifiadureg fe astudiwch strwythurau data a sut mae algorithmau’n cael eu ffurfio a’u defnyddio, y broses o ddatblygu a dosbarthu meddalwedd weithredol newydd, yn ogystal ag edrych am atebion i ddatrys yr heriau i fusnesau sy'n dod i'r amlwg o ran integreiddio meddalwedd â phrosesau busnes yn y modd mwyaf effeithiol.  

Sut fydda i'n cael fy nysgu? 

Bydd ein staff brwd yn eich dysgu trwy ddarlithoedd, seminarau, tiwtorialau, sesiynau ymarferol, a gwaith prosiect unigol ac mewn grwpiau.  

Cewch eich asesu drwy gyfuniad o waith cwrs, sesiynau ymarferol, prosiectau, gweithdai ac arholiadau.  

Er mwyn sicrhau eich bod yn perfformio'n gyson ac er mwyn i chi allu manteisio i’r eithaf ar eich profiad yn y brifysgol, bydd tiwtor personol yn cael ei glustnodi i chi.  Bydd rôl y tiwtor personol yn hanfodol i'ch profiad myfyriwr cyffredinol wrth astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth a bydd eich tiwtor personol yn eich cynorthwyo â phob mater, yn rhai academaidd ac anacademaidd fel ei gilydd.  

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg, Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|