BSc

Cyfrifeg a Chyllid / Economeg

Cyfrifeg a Chyllid / Economeg Cod N4L1 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae Cyfrifeg a Chyllid gydag Economeg yn canolbwyntio ar sut mae dewis yn effeithio ar gynhyrchu, dosbarthu a prynu adnoddau, trwy ficro-economeg a macro-economeg, sy'n dadansoddi dewis ar lefelau’r unigolyn neu'r economi. Yn Aberystwyth, rydym yn canolbwyntio ar gymhwyso syniadau, gwybodaeth a dulliau economaidd yn ymarferol yng nghyd-destun sefyllfaoedd penderfynu proffesiynol. Bydd astudio Cyfrifeg a Chyllid gydag Economeg yn eich galluogi i elwa ar fanteision y ddau bwnc, gan roi i chi hyblygrwydd ar gyfer eich dyfodol. 

Trosolwg o'r Cwrs

  • The Chartered Institute of Public Finance and Accountancy (CIPFA)
  • CIMA - Chartered Institute of Management Accountants
  • The Institute of Chartered Accountants in England and Wales

Pam astudio Cyfrifeg a Chyllid gydag Economeg? 

  • Mae'n graddau ni wedi'u hachredu gan: ACCA, CIMA, ICAEW, CIPFA, CII, ICAS. 
  • Bydd y rhaglen hon yn helpu i roi i chi lwybr cyflym i yrfa fel cyfrifydd, gan y bydd yn rhoi eithriad i chi rhag gorfod sefyll arholiadau proffesiynol allweddol.
  • Wrth astudio’r cwrs hwn fe gewch y cyfle i graffu ar Economeg Busnesau ac ar themâu Economeg megis creu swyddi, pwysau chwyddiant, materion masnach ryngwladol, proses cystadleuaeth mewn busnes, arloesi a thwf, datblygiad gwledydd y trydydd byd, diogelu adnoddau naturiol, a llunio polisi llywodraethau. 
  • Bydd elfen ariannol y cwrs hwn yn rhoi i chi’r set o sgiliau i allu cyflawni a chyfleu, yn llwyddiannus ac effeithiol, agweddau technegol a meintiol ar Economeg. 
  • Byddwch yn cael eich dysgu a'ch mentora gan gyfrifwyr cymwysedig a chydnabyddedig sydd â chyfoeth o brofiad o’r diwydiant ac o academia. 
  • Mae ein BSc mewn Cyfrifeg a Chyllid yn cynhyrchu graddedigion llwyddiannus o safon uchel sy’n mynd i gyflogaeth neu hyfforddiant pellach erbyn 6 mis ar ôl graddio (HESA 2018). 
Ein Staff

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Accounting and Finance for Specialists AB11220 20
Data Analytics AB15220 20
Fundamentals of Accounting and Finance AB11120 20
Economic Theory and Policy AB13220 20
Understanding the Economy AB13120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Macroeconomics: Theory and Policy Applications AB23220 20
Microeconomics Theory and Policy Applications AB23120 20
Corporate Finance and Financial Markets AB21420 20
Intermediate Financial Accounting AB21120 20
Intermediate Management Accounting AB21220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Econometrics AB23420 20
Managerial Economics AB23320 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Financial Accounting AB31120 20
Advanced Management Accounting AB31220 20
Investments and Financial Instruments AB31320 20
Contemporary Issues in Economics and Policy AB33120 20
Growth, Development and Sustainability AB33420 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Environmental Economics AB33220 20
History of Economic Thought AB33320 20

Gyrfaoedd

Rhagolygon Gyrfaol: O'r Campws i'ch Gyrfa

Mae ein graddedigion wedi ymuno’n llwyddiannus â nifer o sectorau: 

  • Cyfrifeg Siartedig
  • Bancio Buddsoddi;
  • Yswiriant;
  • Gwarantu;
  • Rheoli Risg;
  • Rheoli Marchnata;
  • Rheoli Manwerthu;
  • Rheoli Logisteg a Dosbarthu;
  • Gweithredydd Gwerthiannau.

Pa sgiliau fydd y radd hon yn eu rhoi i fi?

  • O astudio am ein gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid/ Economeg Busnes fe gewch y sgiliau canlynol:
  • Deall ymddygiad a strwythur sefydliadau; 
  • Gwell sgiliau rhifedd a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio data busnes ac ariannol;
  • Dealltwriaeth ddofn o’r hyn sy’n achosi newidiadau economaidd a newidiadau allanol eraill, ac o’u heffeithiau;
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar;
  • Datrys problemau’n effeithiol;
  • Sgiliau dadansoddi a meddwl yn greadigol;
  • Gwneud penderfyniadau;
  • Gallu gweithio'n annibynnol ac yn aelod o dîm; 
  • Sgiliau rheoli amser a threfnu;
  • Hunanddibyniaeth a'r gallu i’ch ysgogi eich hun.

Pa gyfleoedd profiad gwaith a geir ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

Dysgwch fwy am y gwahanol gyfleoedd am gyflogaeth y mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.

Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech fod yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Yn eich blwyddyn gyntaf, efallai y byddwch yn dysgu am:

  • Egwyddorion economaidd;
  • Tri maes allweddol, sef Cyfrifeg Ariannol, Cyfrifeg Rheoli a Rheoli Ariannol; 
  • Technegau meintiol a meddalwedd ystadegol arbenigol. 
  • Mathemateg ac ystadegaeth economaidd;
  • A detholiad o fodiwlau dewisol.

Yn eich ail flwyddyn, efallai y byddwch yn edrych ar:

  • Goblygiadau damcaniaeth economaidd o ran polisi;
  • Dehongli economaidd;
  • Dadansoddi buddsoddi;
  • Dewis portffolio a rheoli risg; 
  • Llywodraethu Corfforaethol; 
  • Cyfrifeg ariannol a chyfrifeg rheoli; 
  • Macro-economeg;
  • Micro-economeg;
  • Econometreg.

Yn eich trydedd flwyddyn, efallai y byddwch yn astudio:

  • Dealltwriaeth greiddiol am ficro-economeg a macro-economeg;
  • Trefniadaeth a pholisi diwydiannol;
  • Tueddiadau mewn cyfrifeg rheoli; 
  • Cyfrifeg ariannol a chyllid corfforaethol; 
  • Opsiynau yn canolbwyntio ar archwilio, trethu neu ddadansoddi datganiadau ariannol;
  • Ymddygiad sefydliadol;
  • Buddsoddiadau ac Offerynnau Ariannol;
  • Treth;
  • Datblygiad Economeg;
  • Economeg Llafur a Chysylltiadau Diwydiannol;
  • Polisi Masnach a Masnach Ryngwladol.

Sut fydda i'n cael fy nysgu?

Byddwch yn cael eich dysgu drwy ddarlithoedd, seminarau a sesiynau tiwtora mewn grwpiau bach. Ar rai modiwlau bydd gofyn i chi roi cyflwyniadau, gweithio'n effeithiol yn rhan o grŵp a gwneud unrhyw draethodau sy'n ofynnol.

Ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae ein holl fodiwlau yn cael eu rhoi ar-lein fel y gallwch eu hastudio ymhellach yng nghysur eich ystafell eich hun. Mae gennym hefyd gyfoeth o destunau printiedig sydd ar gael yn ein llyfrgell a Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae'r cwrs yn cael ei asesu trwy:

  • Arholiadau;
  • Traethodau wedi'u hasesu;
  • Prosiectau;
  • Cyflwyniadau;
  • Traethawd Hir (rhai modiwlau).

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi ar gyfer eich holl gyfnod yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
30-26

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|