BSc

Cyfrifeg a Chyllid / Rheolaeth a Busnes

Cyfrifeg a Chyllid / Rheolaeth a Busnes Cod N4N1 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae’r radd BSc Cyfrifeg a Chyllid gyda Rheoli Busnes, sydd wedi cael sawl achrediad, yn rhoi’r cyfle i chi drafod a datblygu eich gwybodaeth yn seiliedig ar egwyddorion Cyfrifeg a Rheoli Busnes. Byddwch hefyd yn ennill cydnabyddiaeth broffesiynol y cyrff cyfrifeg mwyaf blaenllaw yn y byd megis yr ACCA, CIMA, CIPFA, CII and ICSA. Y cwrs gradd hwn yw’r dewis perffaith os ydych yn edrych am yrfa mewn cyfrifeg, rheoli ac arweinyddiaeth yn y dyfodol.   Yn ystod y tair blynedd, bydd pynciau ychwanegol ar gael i chi ddysgu amdanynt. Bydd y rhain yn cynnwys adroddiadau ariannol, cyfrifeg reoli, cyllid corfforaethol, trethu, archwilio, a systemau cyfrifo cyfrifiadurol

Trosolwg o'r Cwrs

  • The Chartered Institute of Public Finance and Accountancy (CIPFA)
  • CIMA - Chartered Institute of Management Accountants
  • The Institute of Chartered Accountants in England and Wales

Pam astudio Cyfrifeg a Chyllid gyda Rheoli Busnes yn Aberystwyth?  

  • Mae'n graddau ni wedi'u hachredu gan: 
  • ACCA 
  • CIMA 
  • ICAEW 
  • CIPFA 
  • CII 
  • ICAS 
  • Bydd y rhaglen hon yn eich rhoi ar lwybr cyflym i yrfa fel cyfrifydd trwy roi eithriadau rhag gorfod sefyll arholiadau proffesiynol allweddol.   
  • Byddwch yn gwella eich cyfleoedd gyrfa drwy ein partneriaethau â busnes, diwydiant a masnach.  
  • Mae ein gradd yn cynhyrchu graddedigion llwyddiannus o safon uchel sy’n mynd i gyflogaeth neu hyfforddiant pellach erbyn 6 mis ar ôl graddio .  
  • Mae gennym drefniadau â llawer brifysgolion partneriaethol dramor i ddarparu rhaglenni academaidd byr (2 wythnos) i grwpiau bach o fyfyrwyr rheolaeth a busnes (ar sail hunan-ariannu), i chi gael profiad o effaith yr amgylchedd diwylliannol wrth gynnal busnes dramor. Ar hyn o bryd mae gennym brifysgolion partneriaethol yn India, Tsieina, Rwsia, Japan, yr Emiradau Arabaidd Unedig a Brasil ac mae ein portffolio o wledydd yn ehangu'n gyflym. 
Ein Staff

Caiff myfyrwyr Ysgol Fusnes Aberystwyth eu dysgu gan ddarlithwyr a staff dysgu eraill sy'n weithgar mewn gwaith ymchwil ac yn ymarferwyr arbenigol yn eu dewis maes. 

Mae gan dros 75% o’r aelodau o staff sy’n dysgu’n llawn amser gymhwyster hyd at lefel PhD. Ar hyn o bryd mae'r rhan fwyaf ohonynt yn weithgar mewn gwaith ymchwil, sy'n golygu bod myfyrwyr yn elwa o gael dysgu gwybodaeth 'newydd' yn eu dewis maes yn ogystal ag astudio testunau cydnabyddedig. Mae'r Ysgol hefyd yn cyflogi staff rhan-amser a llawn amser sydd wedi'u neilltuo ar gyfer dysgu yn unig.  Mae llawer o’r staff rhan-amser yn cyfuno dyletswyddau dysgu gyda gwaith ymgynghori a gweithgareddau busnes, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gallu cael gafael nid yn unig ar yr ymchwil ddiweddaraf ond hefyd yr wybodaeth gymhwysol ddiweddaraf.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Accounting and Finance for Specialists AB11220 20
Data Analytics AB15220 20
Fundamentals of Accounting and Finance AB11120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes CB17120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Human Resource Management * AB25420 20
Operations and Supply Chain Management * AB25120 20
Corporate Finance and Financial Markets AB21420 20
Intermediate Financial Accounting AB21120 20
Intermediate Management Accounting AB21220 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Entrepreneurship and New Venture Creation AB25220 20
Entreprenwriaeth a Chreu Menter Newydd CB25220 20
Marketing Management * AB27120 20
Rheolaeth Marchnata CB27120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advanced Financial Accounting AB31120 20
Advanced Management Accounting AB31220 20
Investments and Financial Instruments AB31320 20
Financial Strategy AB31720 20
Strategic Leadership AB35120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Digital Business: Leadership and Management AB35220 20
Global Logistics AB35320 20
Organizational Psychology AB35420 20

Gyrfaoedd

Rhagolygon o ran Gyrfa  

  • Cyfrifydd Siartredig; 
  • Cyfrifydd Ardystiedig Siartredig; 
  • Cyfrifydd Rheoli Siartredig;  
  • Cyfrifydd Cyllid Cyhoeddus Siartredig; 
  • Dadansoddi buddsoddi;  
  • Dadansoddwr Risg Ariannol;  
  • Actiwari; 
  • y Gwasanaeth Sifil; 
  • y Gwasanaeth Diplomyddol; 
  • Llywodraeth Leol. 

Pa sgiliau fydd y radd hon yn eu rhoi i fi? 

Bydd astudio gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid gyda Rheoli Busnes yn rhoi'r sgiliau canlynol i chi:  

  • Deall ymddygiad a strwythur sefydliadol;  
  • Sgiliau rhifedd gwell a'r gallu i ymchwilio, dehongli a defnyddio data busnes ac ariannol;  
  • Dealltwriaeth ddofn o’r hyn sy’n achosi newidiadau economaidd a newidiadau allanol eraill, ac o’u heffeithiau;  
  • Y gallu i gyfathrebu'n glir yn ysgrifenedig ac ar lafar;  
  • Datrys problemau’n effeithiol;  
  • Sgiliau dadansoddi a meddwl yn greadigol;  
  • Gwneud penderfyniadau;  
  • Gallu gweithio'n annibynnol ac yn aelod o dîm;  
  • Sgiliau rheoli amser a threfnu;  
  • Hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun.  

Pa gyfleoedd profiad gwaith a geir wrth astudio? 

Dysgwch fwy am y gwahanol gyfleoedd am waith y mae Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.  

Gallwch wella'ch rhagolygon am swydd gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.  

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech fod yn ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.  

Yn eich blwyddyn gyntaf, efallai y byddwch yn dysgu am:  

  • Y tri maes allweddol, sef Cyfrifeg Ariannol, Cyfrifeg Rheoli a Rheoli Ariannol;  
  • Egwyddorion sylfaenol rheoli;   
  • Dynameg yr amgylchedd busnes modern;   
  • Defnyddio gwybodaeth ariannol a chyfrifeg mewn penderfyniadau rheoli ar y lefelau gweithredol a strategol;   
  • Dulliau meintiol;  
  • Yr amgylchedd busnes a rolau rheoli.  

Yn eich ail flwyddyn, efallai y byddwch yn edrych ar:  

  • Gyfrifeg ariannol a chyfrifeg rheoli ymhellach;  
  • Dadansoddi buddsoddi; 
  • Damcaniaethau a thechnegau rheoli gweithrediadau;   
  • Portffolio a rheoli risg; 
  • Rheoli Adnoddau Dynol; 
  • Ymddygiad sefydliadol;  
  • Y materion cyfreithiol sy'n berthnasol i'r amgylchedd busnes;  
  • Y sgiliau, yr offer dadansoddol a'r technegau i adnabod a mynd i'r afael â phroblemau a chyfleoedd ym maes rheoli a marchnata busnes. 

Yn eich trydedd flwyddyn, efallai y byddwch yn astudio:  

  • Sefydlu strategaeth fusnes;  
  • Y strategaeth fusnes a sut mae’n gweithredu y tu mewn a’r tu allan i'r amgylchedd busnes;   
  • Rheoli Adnoddau Dynol;  
  • Dealltwriaeth am y syniadaeth bresennol am reoli, o safbwyntiau ymarferol a damcaniaethol fel ei gilydd;   
  • Pwysigrwydd rheoli a gwneud penderfyniadau strategol o fewn sefydliadau;  
  • Prosiect ymchwil annibynnol gorfodol a fydd yn rhoi cyfle i chi arbenigo ar agwedd benodol ar reoli busnes a marchnata;  
  • A datblygu eich cymwyseddau mewn rheoli a chyfrifeg ariannol ymhellach a chanolbwyntio ar gyllid corfforaethol.  

Sut fydda i'n cael fy nysgu? 

Dysgir ein cwrs trwy gyfrwng darlithoedd, seminarau mewn grwpiau bach a dosbarthiadau tiwtora.   Mae ein holl fodiwlau ar gael ar-lein i chi eu gwylio yng nghyfforddusrwydd eich ystafell eich hun ar ôl y ddarlith neu'r seminar.  

Cewch eich asesu drwy:  

  • ⁠Arholiadau; 
  • Traethodau wedi'u hasesu; 
  • Adroddiadau;  
  • Prosiectau; 
  • Cyflwyniadau; 
  • Gwaith cwrs. 

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo ar eich cyfer trwy gydol eich cwrs gradd, a fydd yn eich helpu ag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed yn academaidd neu’n faterion personol.  Mae croeso i chi gysylltu â nhw ar unrhyw adeg am gymorth a chyngor. 

Byddwch hefyd yn cael cyfle i wneud Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth.  Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn golygu y gallwch olrhain trywydd eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol.   Drwy gofnodi’ch perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych eisoes a'r rhai y bydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r medrau y bydd eu hangen i allu cynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau astudio llwyddiannus, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau ar gyfer y dyfodol. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg, Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|