Nyrsio (Oedolion)
Nyrsio (Oedolion) Cod B74P Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored
Ymgeisio NawrRydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Mehefin 2025
Prif Ffeithiau
B74P-
Hyd y cwrs
3 blynedd (rhan amser)
-
Cyfrwng Cymraeg
50%
Manylion pellach ynglŷn â'r gofynion mynediad
Ymgeisio NawrCynlluniwyd ein cwrs gradd Nyrsio Oedolion rhan-amser, a achredir gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreidigiaeth (CNB), ar gyfer gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd sy’n gwneud gwaith gofal / gofal iechyd yn y sector gofal iechyd yng Nghanolbarth Cymru, a bydd y cwrs yn darparu'r sgiliau a’r profiad sy’n angenrheidiol i gychwyn gyrfa gwerth chweil yn y proffesiwn hanfodol ac amrywiol hwn. Mae’r cwrs Nyrsio Oedolion yn Aberystwyth yn datblygu nyrsys oedolion sy’n darparu gwasanaeth rhagorol yn seiliedig ar dystiolaeth mewn amrywiaeth o leoliadau gofal ac sy’n canolbwyntio ar y claf wrth wneud penderfyniadau, gan hyrwyddo urddas, gofal a thosturi. Wrth i chi wneud cynnydd, byddwch yn datblygu’r sgiliau i asesu, cynllunio, cyflenwi a gwerthuso gofal sy’n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn hybu iechyd a lles oedolion sydd â chyflyrau dwys a hirbarhaus.
Hyd y cwrs rhan-amser yw 2 flynedd a 7 mis, dros 3 blynedd academaidd. Byddwch yn astudio 37.5 awr yr wythnos yn ystod modiwlau theori a 22.5 awr yr wythnos yn ystod modiwlau lleoliad practis.
Ar hyn o bryd, nid yw’r cwrs hwn ar gael i ymgeiswyr rhyngwladol sy’n byw y tu allan i’r DU fel arfer.
Trosolwg o'r Cwrs
Gyrfaoedd
Dysgu ac Addysgu
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Gofynion Eraill For entry requirements see: https://www.aber.ac.uk/en/hec/courses/entry-requirements/#typical-entry-requirements
Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.
|