BSc

Rheoli Twristiaeth Antur

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae Twristiaeth Antur yn un o sectorau’r diwydiant twristiaeth sy’n tyfu gyflymaf. Bydd y radd BSc mewn Rheoli Twristiaeth Antur yn caniatáu ichi ryddhau a datblygu’ch sgiliau ym maes busnes, marchnata a rheoli twristiaeth antur ac atyniadau ymwelwyr. Mae’r rhaglen hon yn denu myfyrwyr o bob rhan o’r byd, sy’n arwydd o bwysigrwydd maes Rheoli Twristiaeth Antur ledled holl economïau’r byd - yn rhai datblygedig ac annatblygedig.


Trosolwg o'r Cwrs

Wrth astudio’r cwrs gradd Rheoli Twristiaeth Antur, byddwch yn archwilio astudiaethau achos byw ac yn ystyried strategaethau marchnata effeithiol a pholisïau ar gyfer twristiaeth antur. Byddwch hefyd yn dysgu sut mae egwyddorion marchnata yn cael eu cymhwyso yn y diwydiant twristiaeth. Elfen unigryw o’r cwrs hwn yw’r sgiliau y byddwch yn eu datlygu, a achredir gan ddarparwyr allanol, a fydd yn gyfle ichi feithrin sgiliau awyr-agored a/neu ennill gymhwyster arweinydd awyr-agored a gydnabyddir yn genedlaethol. Ar ben hynny, gallwch fanteisio ar y cyfle i astudio’r modiwl dewisol profiad gwaith i wella’ch rhagolygon gyrfaol.

Dyma rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i fyfyrwyr Rheoli Twristiaeth Antur yn Aberystwyth:

  • dilyn gradd a achredir gan y Sefydliad Rheoli Twristiaeth (TMI)
  • ennill tystysgrif allanol ychwanegol gan ddarparwyr achrededig ym maes gweithgareddau awyr-agored ee cerdded, dringo, caiacio, plymio, beicio mynydd a sgïo
  • teithiau astudio estynedig, yn dibynnu ar y modiwl a ddewisir
  • gweithgareddau wythnos gyfan i gyrchfan yn y DU neu dramor.


Ein Staff

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Data Analytics AB15220 20
Fundamentals of Accounting and Finance * AB11120 20
Hanfodion Rheolaeth a Busnes CB15120 20
Understanding the Economy AB13120 20
Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes CB17120 20
Principles of Tourism Management AB19120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Activity Certification 1 AB29420 20
Adventure Tourism AB29220 20
Destination and Attraction Management * AB29120 20
International Tourism in Practice AB29320 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Activity Certification 2 AB39420 20
Sustainable Tourism AB39120 20
Tourism Development and Planning AB39320 20
Tourism Marketing AB39220 20

Gyrfaoedd

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch chi wedi datblygu’r sgiliau fydd eu hangen arnoch i sefydlu a rhedeg menter ym maes twristiaeth sy’n canolbwyntio ar gynnig gwyliau wedi’u seilio ar weithgareddau antur awyr-agored. Mae ein graddedigion wedi dod o hyd i gyflogaeth gyda;

  • Chyfoeth Naturiol Cymru
  • Advnture Tours UK
  • Enterprise Cars
  • Marella Cruises
  • TUI
  • Click Travel
  • Sykes Holiday Cottages.


Dysgu ac Addysgu

Dyma’r modiwlau y mae’n bosibl y byddwch yn eu hastudio ar y cwrs hwn.

Y flwyddyn gyntaf:

  • Principles of Tourism Management
  • Egwyddorion Marchnata ac Ymarfer Cyfoes/Marketing Principles and Contemporary Practice
  • Hanfodion Cyfrifeg a Chyllid/Fundamentals of Accounting and Finance
  • Understanding the Economy
  • Hanfodion Rheolaeth a Busnes/Fundamentals of Management and Business
  • Data Analytics.

Yr ail flwyddyn:

  • Rheoli Cyrchfannau ac Atyniadau/Destination and Attraction Management
  • Adventure Tourism
  • International Tourism in Practice
  • Dulliau Ymchwil/Research Methods
  • Activity Certification.

Y drydedd flwyddyn:

  • Sustainable Tourism
  • Tourism Development and Planning
  • Traethawd Hir/Dissertation
  • Activity Certification.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
Cymraeg neu Saesneg a Mathemateg

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDM-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|