BSc

Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid

Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid Cod 53C8 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Mae'r diwydiant amaethyddol yn dod yn gynyddol gymhleth. Mae newidiadau mewn mecanweithiau cefnogi a phwysau i arallgyfeirio ac i reoli'r amgylchedd yn golygu bod llwyddo yn y sector ffermio yn fwyfwy dibynnol ar ansawdd. Byddwch hefyd yn

astudio systemau cynhyrchu amaethyddol a gwyddor anifeiliaid fel pynciau craidd. Mae'r radd hon yn bodloni'r galw uchel am raddedigion sydd am ddatblygu dealltwriaeth gadarn o amaethyddiaeth a gwyddor anifeiliaid.

Dyma pam rydym o'r farn mai Aberystwyth yw'r lle i chi:

  • Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn datblygu ac yn elwa ar y cyfleusterau dysgu modern sy'n darparu'r sgiliau ymarferol a'r sail wybodaeth wyddonol i chi i fod yn sail i'ch gyrfa yn y dyfodol;
  • Yn ystod y cwrs, byddwch yn cael eich gwahodd i ymweld â ffermydd a busnesau sy'n arweinwyr arloesol ac sy'n meddu ar y ddealltwriaeth dechnegol.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Darperir y radd hon gan Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), athrofa sydd wedi ennill gwobrau ac sy'n gartref i'r Arolwg Busnes Fferm; 
  • Mae Prifysgol Aberystwyth wedi hen sefydlu enw rhagorol ledled y byd am ei haddysg a'i hymchwil ym maes amaethyddiaeth a gwyddorau gwledig, ac Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yw'r adran brifysgol fwyaf o'i bath gyda'r adnoddau gorau yng ngwledydd Prydain;
  • Byddwch yn cael eich dysgu gan arbenigwyr blaenllaw y mae'n bosib y byddwch eisoes wedi'u gweld ar raglenni dogfen ar y teledu neu wedi'u clywed ar y radio;
  • Mae'r Brifysgol yn cynnig dros 1000 hectar o dir amaeth i fyfyrwyr, gan gynnwys ffermydd defaid iseldir ac ucheldir; buches laeth â 500 o wartheg; systemau cynhyrchu cig eidion dwys ac eang; canolfan geffylau a haid o ieir dodwy;
  • Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn rhoi llawer o bwyslais ar ddarparu profiad myfyrwyr cofiadwy i chi sy'n eich galluogi i lwyddo yn eich gradd.

Hoffech chi astudio yn Gymraeg?

Caiff rhai o'n modiwlau eu haddysgu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Os byddwch yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, mae'n bosib y byddwch yn gymwys am fwrsariaeth hael.

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Breeding: Genetics and Reproduction BR25220 20
Maeth Anifeiliaid Fferm, Ceffylau ac Anifeiliaid Anwes BG20720 20
Livestock Production Systems BR20420 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Agronomeg a Gwelliant Cnydau BG27620 20
Agronomeg a Gwelliant Cnydau BG27620 20
Bwyd, Ffermio a'r Amgylchedd BG21920 20
Farm Business Management and Appraisal BR21020 20
Food, Farming and the Environment BR21920 20
Immunology BR22220 20
Veterinary Health BR27120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advances in Agriculture BR34820 20
Livestock Production Science BR30820 20
Adolygiad critigol BG36320 20
Critical Review BR36320 20
Traethawd Estynedig BG36440 40
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Behaviour and Welfare of Domesticated Animals BR35120 20
Crop and Grassland Production Science BR37220 20
Farm Planning and Advanced Farm Management BR31620 20
Veterinary Infectious Diseases BR34120 20
Veterinary Pharmacology and Disease Control BR36820 20

Gyrfaoedd

Pa gyfleoedd sydd ar gael ar ôl astudio?

Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen ac wedi llwyddo yn y meysydd canlynol:

  • Ymgynghori amaethyddol;
  • Maetheg anifeiliaid;
  • Llesiant Anifeiliaid;
  • Rheoli Ffermydd;
  • Syrfewyr arferion gwledig;
  • Gwyddonwyr pridd;
  • Maetheg Anifeiliaid.

Oes gennych ddiddordeb mewn gwneud lleoliad gwaith?

Mae myfyrwyr sydd am wneud profiad gwaith gwerthfawr yn gymwys i drosglwyddo i'r cwrs D4D3. Yr un radd yw hon, ond gyda Blwyddyn mewn Diwydiant yn ychwanegol.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd mewn Amaethyddiaeth yn eich paratoi drwy ddarparu ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar;
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol;
  • y gallu i weithio'n annibynnol;
  • sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser;
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain;
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb;
  • sgiliau ymchwil.

Dysgu ac Addysgu

Darperir y cwrs hwn drwy raglen o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai ac ymweliadau maes. Bydd gennych ddigonedd o gyfleoedd i gymhwyso eich addysg academaidd mewn gweithgareddau ymarferol a gweithdai. Byddwch yn edrych hefyd ar y cysylltiad rhwng ymchwil ac ymarferion dadansoddi a'u hallbynnau yn y byd go iawn ar ffurf technoleg well a llesiant anifeiliaid gwell. Ymhlith llawer o sgiliau, byddwch yn dysgu sut mae: adolygu a dewis y wybodaeth berthnasol o gyfoeth o lenyddiaeth wyddonol a thechnegol; deall ac egluro goblygiadau datblygiadau mewn pynciau megis maetheg a systemau cynhyrchu; cyflwyno gwelliannau i fodelau busnes amaethyddol; a chynllunio prosiectau a'u rheoli mewn efelychiadau ac ymarferion ymarferol.

Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau, ymarferion ymarferol, cyflwyniadau llafar ac arholiadau. Bydd gofyn i chi hefyd gwblhau aseiniadau ychwanegol a gwaith gydag eraill ar dasgau penodol. Yn yr holl feysydd hyn, bydd angen i chi ddangos

manwl gywirdeb gwyddonol a defnyddio dull systematig o ymdrin â'r problemau a ddaw i'r amlwg.

Bydd diwylliant dysgu bywiog y brifysgol yn eich cefnogi yn eich hyfforddiant amaethyddol ac yn eich annog i fanteisio ar yr holl gyfleoedd yn yr adran a'r brifysgol, er mwyn datblygu eich arbenigedd damcaniaethol ac ymarferol fel y byddwch, pan

fyddwch yn graddio, yn y sefyllfa berffaith ar gyfer cam nesaf eich gyrfa.

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer

angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau yn y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Beth ydw i'n ei hoffi fwyaf am Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth? Y bobl - myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd, oll yn dod at ei gilydd, yn rhannu profiadau ac yn dysgu gyda'i gilydd. Darlithwyr sy'n angerddol am eu pwnc, sy'n agos-atoch chi. Y lle - y bryniau gwyrdd, coedwigoedd tawel, golygfeydd syfrdanol, a'r môr. Y cwrs - dysgu am bwnc sy'n sylfaenol i gymdeithas; ehangu fy meddwl gyda gwybodaeth newydd, a rhynnu ar glosydd fferm rhewllyd (wir, roedd boddhad yn hynny hyd yn oed!). Dyna'r pethau gorau am amaethyddiaeth yma. Benjamin David Latham

Rydw i wrth fy modd ag agwedd ymarferol y cwrs Gwyddor Anifeiliaid, a'r darlithoedd diddorol. Mae gallu dewis llwybr yn golygu bod modd i ni arbenigo ac astudio'r hyn sydd fwyaf o ddiddordeb i ni. Mae bod yn Aberystwyth yn golygu bod digon o gyfle ar

gyfer wyna a gwneud gwaith fferm ochr yn ochr â fy astudiaethau. Lewis Wescott

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|