Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Mae'r diwydiant amaethyddol yn dod yn gynyddol gymhleth. Mae newidiadau mewn mecanweithiau cefnogi a phwysau i arallgyfeirio ac i reoli'r amgylchedd yn golygu bod llwyddo yn y sector ffermio yn fwyfwy dibynnol ar ansawdd. Byddwch hefyd yn
astudio systemau cynhyrchu amaethyddol a gwyddor anifeiliaid fel pynciau craidd. Mae'r radd hon yn bodloni'r galw uchel am raddedigion sydd am ddatblygu dealltwriaeth gadarn o amaethyddiaeth a gwyddor anifeiliaid.
Dyma pam rydym o'r farn mai Aberystwyth yw'r lle i chi:
Bydd myfyrwyr ar y cwrs hwn yn datblygu ac yn elwa ar y cyfleusterau dysgu modern sy'n darparu'r sgiliau ymarferol a'r sail wybodaeth wyddonol i chi i fod yn sail i'ch gyrfa yn y dyfodol;
Yn ystod y cwrs, byddwch yn cael eich gwahodd i ymweld â ffermydd a busnesau sy'n arweinwyr arloesol ac sy'n meddu ar y ddealltwriaeth dechnegol.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Biolegol yn genedlaethol, (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Darperir y radd hon gan Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), athrofa sydd wedi ennill gwobrau ac sy'n gartref i'r Arolwg Busnes Fferm;
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi hen sefydlu enw rhagorol ledled y byd am ei haddysg a'i hymchwil ym maes amaethyddiaeth a gwyddorau gwledig, ac Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yw'r adran brifysgol fwyaf o'i bath gyda'r adnoddau gorau yng ngwledydd Prydain;
Byddwch yn cael eich dysgu gan arbenigwyr blaenllaw y mae'n bosib y byddwch eisoes wedi'u gweld ar raglenni dogfen ar y teledu neu wedi'u clywed ar y radio;
Mae'r Brifysgol yn cynnig dros 1000 hectar o dir amaeth i fyfyrwyr, gan gynnwys ffermydd defaid iseldir ac ucheldir; buches laeth â 500 o wartheg; systemau cynhyrchu cig eidion dwys ac eang; canolfan geffylau a haid o ieir dodwy;
Ym Mhrifysgol Aberystwyth, rydym yn rhoi llawer o bwyslais ar ddarparu profiad myfyrwyr cofiadwy i chi sy'n eich galluogi i lwyddo yn eich gradd.
Hoffech chi astudio yn Gymraeg?
Caiff rhai o'n modiwlau eu haddysgu yn Gymraeg ac yn Saesneg. Os byddwch yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, mae'n bosib y byddwch yn gymwys am fwrsariaeth hael.
Ein Staff
Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Athrofa nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen ac wedi llwyddo yn y meysydd canlynol:
Ymgynghori amaethyddol;
Maetheg anifeiliaid;
Llesiant Anifeiliaid;
Rheoli Ffermydd;
Syrfewyr arferion gwledig;
Gwyddonwyr pridd;
Maetheg Anifeiliaid.
Oes gennych ddiddordeb mewn gwneud lleoliad gwaith?
Mae myfyrwyr sydd am wneud profiad gwaith gwerthfawr yn gymwys i drosglwyddo i'r cwrs D4D3. Yr un radd yw hon, ond gyda Blwyddyn mewn Diwydiant yn ychwanegol.
Sgiliau Trosglwyddadwy
Bydd astudio am radd mewn Amaethyddiaeth yn eich paratoi drwy ddarparu ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:
y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar;
sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol;
y gallu i weithio'n annibynnol;
sgiliau rheoli amser a threfnu, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser;
hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eu hunain;
y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb;
sgiliau ymchwil.
Dysgu ac Addysgu
Darperir y cwrs hwn drwy raglen o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai ac ymweliadau maes. Bydd gennych ddigonedd o gyfleoedd i gymhwyso eich addysg academaidd mewn gweithgareddau ymarferol a gweithdai. Byddwch yn edrych hefyd ar y cysylltiad rhwng ymchwil ac ymarferion dadansoddi a'u hallbynnau yn y byd go iawn ar ffurf technoleg well a llesiant anifeiliaid gwell. Ymhlith llawer o sgiliau, byddwch yn dysgu sut mae: adolygu a dewis y wybodaeth berthnasol o gyfoeth o lenyddiaeth wyddonol a thechnegol; deall ac egluro goblygiadau datblygiadau mewn pynciau megis maetheg a systemau cynhyrchu; cyflwyno gwelliannau i fodelau busnes amaethyddol; a chynllunio prosiectau a'u rheoli mewn efelychiadau ac ymarferion ymarferol.
Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf traethodau, ymarferion ymarferol, cyflwyniadau llafar ac arholiadau. Bydd gofyn i chi hefyd gwblhau aseiniadau ychwanegol a gwaith gydag eraill ar dasgau penodol. Yn yr holl feysydd hyn, bydd angen i chi ddangos
manwl gywirdeb gwyddonol a defnyddio dull systematig o ymdrin â'r problemau a ddaw i'r amlwg.
Bydd diwylliant dysgu bywiog y brifysgol yn eich cefnogi yn eich hyfforddiant amaethyddol ac yn eich annog i fanteisio ar yr holl gyfleoedd yn yr adran a'r brifysgol, er mwyn datblygu eich arbenigedd damcaniaethol ac ymarferol fel y byddwch, pan
fyddwch yn graddio, yn y sefyllfa berffaith ar gyfer cam nesaf eich gyrfa.
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer
angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau yn y dyfodol.
Barn ein Myfyrwyr
Beth ydw i'n ei hoffi fwyaf am Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth? Y bobl - myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd, oll yn dod at ei gilydd, yn rhannu profiadau ac yn dysgu gyda'i gilydd. Darlithwyr sy'n angerddol am eu pwnc, sy'n agos-atoch chi. Y lle - y bryniau gwyrdd, coedwigoedd tawel, golygfeydd syfrdanol, a'r môr. Y cwrs - dysgu am bwnc sy'n sylfaenol i gymdeithas; ehangu fy meddwl gyda gwybodaeth newydd, a rhynnu ar glosydd fferm rhewllyd (wir, roedd boddhad yn hynny hyd yn oed!). Dyna'r pethau gorau am amaethyddiaeth yma. Benjamin David Latham
Rydw i wrth fy modd ag agwedd ymarferol y cwrs Gwyddor Anifeiliaid, a'r darlithoedd diddorol. Mae gallu dewis llwybr yn golygu bod modd i ni arbenigo ac astudio'r hyn sydd fwyaf o ddiddordeb i ni. Mae bod yn Aberystwyth yn golygu bod digon o gyfle ar
gyfer wyna a gwneud gwaith fferm ochr yn ochr â fy astudiaethau. Lewis Wescott