FDSc

Amaethyddiaeth

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2024

Galwedigaeth a ffordd o fyw yw amaethyddiaeth. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn anifeiliaid neu gnydau, ucheldir neu iseldir, systemau ffermio dwys neu lai dwys, bydd ehangder a dyfnder yr addysgu yn y Radd Sylfaen Amaethyddiaeth hynod boblogaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn darparu ar gyfer eich anghenion.

Mae'r cwrs dwy flynedd yn cael ei ddysgu yn Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, athorfa hynod nodedig mewn ardal sy'n enwog am ei harddwch a'i harloesedd, ei chynhyrchiant a'i hamrywiaeth amaethyddol.

Dyma pam mae Aberystwyth yn lle gwych i chi yn ein barn ni:

  • Addysgu o'r radd flaenaf sy'n rhoi'r sgiliau ymarferol a'r sylfaen wybodaeth wyddonol i chi fel sail i'ch gyrfa yn y dyfodol;
  • Ymweliadau â ffermydd a busnesau sy'n arweinwyr y diwydiant am arloesi ac sydd â gwybodaeth dechnegol arbennig;
  • Profiad gwaith fel rhan o'r cwrs;
  • Llwybr dilyniant at lefel gradd anrhydedd;
  • Gallwch astudio drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg.

Trosolwg o'r Cwrs

Pam astudio Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth?

  • Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr brwdfrydig y mae'n bosib y byddwch eisoes wedi'u gweld ar raglenni dogfen ar y teledu neu eu clywed ar y radio.
  • Dros 1000 hectar o dir fferm, gan gynnwys ffermydd defaid ar isledir ac ucheldir, buches odro â 500 o wartheg, systemau cynhyrchu cig eidion dwys ac eang.
  • O'r holl geirch a gaiff ei dyfu ym Mhrydain, cafodd 65% o'r mathau o geirch eu bridio a'u datblygu gan IBERS yn Aberystwyth. Mae gennym hefyd raglen fridio biodanwydd Miscanthus fawr.
  • Cyflwyniad Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), ar y cyd â Phrifysgol Bangor, oedd y pumed cyflwyniad cryfaf yng ngwledydd Prydain ar gyfer asesiad y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (2014).

Alla i fynd ymlaen i astudio'r radd BSc?

  • Bydd myfyrwyr sy'n cwblhau'r radd sylfaen yn llwyddiannus yn cael cynnig mynediad yn awtomatig i'r ail flwyddyn o raglen radd addas.
  • Bydd myfyrwyr sy'n dangos perfformiad da a chyson yn cael cynnig mynediad i flwyddyn olaf rhaglen radd addas.

Hoffech chi astudio yn Gymraeg?

  • Caiff rhai o'n modiwlau eu haddysgu yn Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg. Os byddwch yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg efallai y byddwch yn gymwys i gael bwrsariaeth hael.
Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2024

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Agronomeg a Gwelliant Cnydau RG27620 20
Business Budgeting and Appraisal RD22520 20
Food, Farming and the Environment RD20420 20
Livestock Production Systems RD23420 20
Dulliau Ymchwil RG27520 20
Science and Technology in Agriculture RD20720 20

Gyrfaoedd

Cyflogadwyedd

Pa gyfleoedd sydd ar gael ar ôl astudio?

Mae ein graddedigion wedi mynd ymlaen ac wedi llwyddo yn y swyddi canlynol:

  • Ffermwyr
  • Rheolwyr Fferm
  • Agronomegwyr
  • Ymgynghorwyr busnes amaethyddol
  • Arbenigwyr polisi amaethyddol
  • Maethegyddion anifeiliaid
  • Rheolwyr mentrau amaethyddol technegol.

Ar ôl dilyn gradd sylfaen lwyddiannus, byddwch yn cael eich annog i symud ymlaen i un o'n cyrsiau gradd anrhydedd, a byddwch yn cael gwybod am eich opsiynau wrth i'r cwrs fynd yn ei flaen.

Sgiliau Trosglwyddadwy

Bydd astudio am radd Amaethyddiaeth yn eich paratoi gydag ystod o sgiliau trosglwyddadwy sy'n werthfawr iawn i gyflogwyr. Mae'r rhain yn cynnwys:

  • y gallu i fynegi syniadau a chyfleu gwybodaeth mewn modd clir a threfnus, yn ysgrifenedig ac ar lafar
  • sgiliau datrys problemau a meddwl creadigol effeithiol
  • y gallu i weithio'n annibynnol
  • sgiliau trefnu a rheoli amser, gan gynnwys y gallu i weithio i derfynau amser
  • hunanddibyniaeth a'r gallu i ysgogi eich hun
  • y gallu i weithio mewn tîm a thrafod cysyniadau mewn grwpiau, a rhoi lle i syniadau gwahanol a dod i gytundeb
  • sgiliau ymchwil

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y rhaglen ddwy flynedd. 

Yn ystod y flwyddyn gyntaf, gallech archwilio: 

  • Technolegau sy'n cael eu datblygu'n gynyddol ar gyfer y diwydiant amaethyddol ac sy'n cael eu defnyddio ganddynt;
  • Ffactorau sy'n dylanwadu ar ddefnydd o dir;
  • Y prif adnoddau sydd eu hangen i weithredu busnes gwledig;
  • Gofynion rheoli glaswelltir amaethyddol a chnydau grawnfwyd; 
  • Yr egwyddorion gwyddonol sy'n rheoli prosesau tyfu planhigion a chnydau yn y maes; 
  • Systemau cynhyrchu da byw a'u pwysigrwydd o ran cynhyrchu bwyd yn y byd;
  • Ystyried rôl biotechnoleg mewn ffisioleg a gwyddor maeth gwell. 

Cewch gyfle i gymryd rhan mewn lleoliad profiad gwaith o wyth wythnos rhwng eich blwyddyn gyntaf a'ch ail flwyddyn ar fferm neu mewn busnes sy'n gysylltiedig ag amaeth.

Yn ystod eich ail flwyddyn, gallech astudio'r pynciau hyn ymhellach:

  • Diwydiannau da byw gwledydd Prydain;
  • Systemau a strategaethau cynhyrchu cnydau;
  • Sut i ddadansoddi, cyllidebu ac arfarnu busnes fferm; 
  • Effeithiau ecolegol methodolegau cynhyrchu bwyd modern; 
  • Cyfleoedd i gael sgiliau ymarferol ardystiedig a phrofiad mewn meysydd megis defnyddio llif gadwyn a defnyddio plaladdwyr. 

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Byddwch yn cael eich addysgu drwy raglen gytbwys o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau, gweithdai, gwaith ymarferol, teithiau astudio a dangosiadau.

Mae ein dulliau asesu yn amrywio, ac yn cynnwys traethodau, adroddiadau a gwaith ymarferol, cyflwyniadau llafar, arholiadau, cynlluniau, taflenni gwaith, llyfrau nodiadau maes ac astudiaethau achos.

Rhagor o wybodaeth:

Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.

Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau yn y dyfodol.

Tystiolaeth Myfyrwyr

Mae gan y cwrs Amaethyddiaeth gymysgedd gwych o fodiwlau sydd wedi agor fy llygaid i sawl agwedd arall ar amaethyddiaeth. Mae'r wybodaeth a roddir mewn darlithoedd ar bynciau pwysig fel arfer yn syml ond yn drylwyr, sy'n gwneud y gwaith yn hawdd ei ddeall a'i gofio. Mae'r ymweliadau â'r ffermydd yn brofiad da hefyd, gan eu bod yn rhoi cyfle i chi gael arsylwi a deall gwahanol systemau. Mae hefyd yn ddiddorol clywed barn ffermwyr a'r gwahanol ffyrdd maen nhw'n gweithredu systemau sy'n gweddu i'w busnes. Aled Rhys Lewis

Beth ydw i'n ei hoffi fwyaf am Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth? Y bobl - myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd, i gyd yn dod at ei gilydd, yn rhannu profiadau ac yn dysgu gyda'i gilydd; darlithwyr sy'n angerddol am eu pwnc, sy'n agos-atoch chi. Y lle - y bryniau gwyrdd, coetiroedd tawel, golygfeydd trawiadol, a'r môr. Y cwrs - dysgu am bwnc sy'n sylfaenol i gymdeithas; ehangu fy meddwl gyda gwybodaeth newydd, a rhynnu ar glosydd fferm rhewllyd (wir, roedd boddhad yn hynny hyd yn oed!). Dyna dw i'n ei hoffi am astudio amaethyddiaeth yma. Benjamin David Latham

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 96 - 72

Safon Uwch CCC-DDD

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Mathematics or a Science subject

Diploma Cenedlaethol BTEC:
MMP-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
24-26 points

Bagloriaeth Ewropeaidd:
60% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|