FDSc

Amaethyddiaeth (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Amaethyddiaeth (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod D403 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Galwedigaeth a ffordd o fyw yw amaethyddiaeth. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn anifeiliaid neu gnydau, ucheldir neu iseldir, systemau ffermio dwys neu lai dwys, bydd ehangder a dyfnder yr addysgu yn y Radd Sylfaen Amaethyddiaeth hynod boblogaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn darparu ar gyfer eich anghenion. 

Ar y cwrs hwn byddwch yn cael eich herio gyda senarios bywyd go iawn fel y gallwch astudio cyfuniad o wyddoniaeth, technoleg a rheoli ffermydd i ystyried a deall y ffordd y mae dulliau amaethyddol modern yn cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy ac yn darparu elw ar gyfer y busnes fferm. Byddwch yn ymdrin â phob agwedd ar systemau cynhyrchu amaethyddol, ac ar yr un pryd yn datblygu dealltwriaeth fanwl o'r dirwedd ffermio newidiol, a'r sgiliau a'r wybodaeth ddamcaniaethol sydd eu hangen i reoli busnes cynaliadwy.  

Trosolwg o'r Cwrs

Addysgir y radd sylfaen tair blynedd hon gan arbenigwyr ac ymchwilwyr blaenllaw yn eu maes, a hynny mewn adran sy'n enwog am arloesi amaethyddol. Gyda chyfleoedd i ennill profiad gwaith yn y DU a thramor, mae'r cwrs yn opsiwn gwych i'r rhai sy'n dymuno hyfforddi i fod yn rheolwyr ar fentrau amaethyddol, neu ailhyfforddi a dilyn gyrfa ym maes amaethyddiaeth. Gall myfyrwyr sy'n llwyddo i gwblhau'r cwrs hwn i'r safon ofynnol symud ymlaen i'n gradd BSc Amaethyddiaeth. 

Mae’r elfen a addysgir o’r radd Sylfaen mewn Amaethyddiaeth gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant (D403) yn union yr un fath â'i chwaer-gwrs dwy flynedd FdSc mewn Amaethyddiaeth (D402). Mae’r ail flwyddyn yn cael ei threulio yn gweithio ym myd diwydiant; caiff ei goruchwylio a’i hasesu, a bydd yn cyfrif tuag at eich gradd derfynol. Yn ystod eich blwyddyn mewn diwydiant, byddwch yn talu ffi ddysgu ostyngedig.    

Mae Aberystwyth wedi'i hamgylchynu gan amrywiaeth fawr o dir fferm a thir amaethyddol. Bydd eich dysgu ymarferol yn cael ei leoli yn yr 800 hectar o ffermydd prifysgol a reolir yn fasnachol. Mae hyn yn cael ei ategu gan ymweliadau maes i ffermydd a busnesau amaethyddol a bwyd sy’n arweinwyr diwydiant ledled y DU ym maes arloesi ac arbenigedd technegol, a bydd hyn yn atgyfnerthu eich dysgu academaidd. 

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Agronomeg a Gwelliant Cnydau RG27620 20
Maeth Cymhwysol Da Byw RG20920 20
Business Budgeting and Appraisal RD22520 20
Bwyd, Ffermio, Technoleg a'r Amgylchedd RG29020 20
Cynhyrchu a Rheoli Da Byw RG28020 20
Dulliau Ymchwil RG27520 20

Gyrfaoedd

Mae myfyrwyr sy'n graddio â Gradd Sylfaen mewn Amaethyddiaeth yn mynd ymlaen i weithio mewn amrywiaeth o rolau technegol a rheoli ar lefel menter a fferm. Byddwch yn gallu mabwysiadu’r arferion gorau sy'n ymgorffori'r elfennau gorau o ymchwil gyfredol, ac arferion hwsmonaeth sy'n eich galluogi i fynd i'r afael â heriau’n ymwneud â rheoli da byw a chnydau mewn amgylchedd ffisegol ac ariannol heriol a newidiol.  

Bydd eich blwyddyn mewn diwydiant yn rhoi gwell dealltwriaeth, gwybodaeth a phrofiad ymarferol i chi o weithio yn y sector amaethyddol modern, a fydd yn rhoi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad swyddi.  

Ar ôl cwblhau blwyddyn mewn diwydiant byddwch yn gallu:  

  • defnyddio’r hyn a ddysgwch ar eich cwrs ym myd gwaith  
  • gwneud cysylltiadau gwerthfawr yn y diwydiant  
  • datblygu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â'ch maes astudio  
  • cyfoethogi blwyddyn olaf eich astudiaethau am eich bod yn sylweddoli’n well sut i’w chymhwyso i'ch gyrfa  
  • cyfoethogi eich CV yn sylweddol a chynyddu eich rhagolygon o lwyddiant yn y farchnad swyddi.  

Sylwch nad yw lleoliadau gwaith ar gael yn awtomatig i bob ymgeisydd. Byddwch yn gyfrifol am sicrhau eich lleoliad profiad gwaith eich hun, gyda chefnogaeth ein Cydlynydd Blwyddyn mewn Diwydiant a’r cynghorydd gyrfaoedd i gynyddu eich siawns o lwyddo. Os nad ydych yn llwyddo i sicrhau profiad gwaith, byddwch yn gallu trosi eich cwrs i'r cwrs gradd Sylfaen Amaethyddiaeth (D402). 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu? 

Yn y flwyddyn gyntaf cewch eich cyflwyno i'r technolegau sy'n cael eu datblygu fwyfwy ar gyfer y diwydiant amaethyddol a'u mabwysiadu ganddo. Byddwch yn ymchwilio i'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ddefnydd tir ac yn ystyried y prif adnoddau sydd eu hangen i weithredu busnes gwledig. Byddwch yn ennill sgiliau rheoli busnes defnyddiol, gan gynnwys paratoi cyllidebau ar gyfer y fferm a dadansoddi marchnadoedd nwyddau.  

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn mynd ar brofiad gwaith mewn diwydiant sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth.  

Yn eich blwyddyn olaf byddwch yn astudio effaith amaethyddiaeth a systemau cyflenwi bwyd ar yr amgylchedd. Byddwch yn edrych ar y diwydiannau da byw ym Mhrydain, systemau cynhyrchu cnydau a’u strategaethau, a byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi, creu cyllideb ac arfarnu busnes fferm.  

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Byddwch yn cael eich addysgu drwy raglen gytbwys o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau, gweithdai, gwaith ymarferol, teithiau astudio a dangosiadau. 

Asesu 

Mae ein dulliau asesu yn amrywio, ac yn cynnwys traethodau, adroddiadau a gwaith ymarferol, cyflwyniadau llafar, arholiadau, cynlluniau, taflenni gwaith, llyfrau nodiadau maes ac astudiaethau achos. 

Tiwtor Personol 

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi, a’r person hwn fydd eich prif gyswllt trwy gydol eich astudiaethau. Bydd eich tiwtor personol yno i’ch helpu i ymgartrefu pan fyddwch yn cyrraedd gyntaf, a bydd wrth law i’ch helpu gyda materion academaidd neu faterion personol. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 96 - 72

Safon Uwch CCC-DDD

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Mathematics or a Science subject

Diploma Cenedlaethol BTEC:
MMP-MMM

Bagloriaeth Ryngwladol:
24-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
60% overall

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|