BSc

Amaethyddiaeth (gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor)

Amaethyddiaeth (gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor) Cod H23Y Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored Llefydd ar gael trwy Clirio0800 121 40 80

Ymgeisio Nawr

Rydych chi'n edrych ar y cwrs hwn ar gyfer Dechrau Medi 2025

Her fyd-eang sy’n wynebu Amaethyddiaeth yw bwydo poblogaeth gynyddol yn erbyn cefndir o adnoddau sy’n lleihau, ynghyd â’r angen i ddiogelu’r amgylchedd, ac i ymdopi â newid yn yr hinsawdd a’i liniaru. Mae amaethyddiaeth yn wynebu blaenoriaethau newydd yn agosach i gartref hefyd, wrth i’r Deyrnas Unedig ailddiffinio ei pherthynas ag Ewrop. Ar y radd hon byddwch yn cwmpasu pob agwedd ar amaethyddiaeth, a hefyd yn datblygu dealltwriaeth fanwl o’r modd y mae byd amaeth yn newid.

Trosolwg o'r Cwrs

BSc Agriculture offers you detailed coverage of agriculture and agricultural production systems, alongside a range of vitally important subjects such as sustainability, environmental management and technology. It will provide you with the practical and theoretical understanding needed to manage a sustainable business, and will be ready to adopt best practices, informed by current research, to tackle the challenges of livestock and crop management and get the best from your agricultural business. 

You will study a fascinating blend of science, technology and management with a firm grounding in animal and crop physiology and husbandry as well as business, economics and land use. You will move on to cover current and projected production systems from a production, financial and environmental perspective, be exposed to best practice and become familiar with the most current research. 

You will also become familiar with the role of the Farm Business Survey in comparative analysis and benchmarking - a tool which will be invaluable in your future employment situation, allowing you to compare your farm’s performance and profitability to other farms in the UK and EU.   

Aberystwyth is surrounded by a great diversity of farmland and agricultural terrain. The 800 hectare commercially managed university farms provide the setting for your practical learning. This is supplemented by field visits to farms and agricultural and food businesses throughout the UK that are industry leaders in innovation and technical expertise, which will reinforce your academic learning.

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Datblygiadau mewn Amaethyddiaeth BG39920 20
Farm Planning and Advanced Farm Management BR31620 20
Prosiect Ymchwil Amaethyddiaeth BG32620 20
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advances in Crop and Grassland Production BR37220 20
Gwyddor Cynhyrchu Da Byw BG30820 20
Livestock Production Science BR30820 20
Marketing and Small Business Management BR34720 20
Sustainable Land Management BR30420 20

Gyrfaoedd

Bydd eich BSc mewn Amaethyddiaeth yn cynnig ystod o gyfleoedd cyffrous ar gyfer cyflogaeth a hyfforddiant pellach. Mae ein graddedigion yn dilyn gyrfaoedd llwyddiannus mewn sawl maes ym myd amaeth a’r diwydiannau cysylltiedig, gan gynnwys rheoli mentrau amaethyddol a ffermydd, iechyd a maeth anifeiliaid, gweinyddu a gwleidyddiaeth amaethyddol, agronomeg cnydau a glaswelltir, yn ogystal â gyrfaoedd gweinyddol, ymgynghori a gwerthu gyda chwmnïau cyflenwadau amaethyddol, ac ystod eang o swyddi yn y diwydiannau ategol. Drwy gydol eich hyfforddiant byddwch yn datblygu cyfoeth o sgiliau y gellir eu trosglwyddo'n hawdd i bron unrhyw sefyllfa cyflogaeth raddedig neu broffesiynol.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG).

Dysgu ac Addysgu

Mae’r flwyddyn gyntaf yn gyffredin ar draws pob cwrs amaethyddiaeth ac mae hyn yn eich galluogi i newid yn rhwydd rhwng amrywiadau ar ddiwedd eich blwyddyn gyntaf o astudio.

Beth fydda i'n ei ddysgu?

Yn y flwyddyn gyntaf cewch eich cyflwyno i'r technolegau sy'n cael eu datblygu fwyfwy ar gyfer y diwydiant amaethyddol a'u mabwysiadu ganddo. Byddwch yn ymchwilio i'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ddefnydd tir ac yn ystyried y prif adnoddau sydd eu hangen i weithredu busnes gwledig. Byddwch yn ennill sgiliau rheoli busnes defnyddiol, gan gynnwys paratoi cyllidebau ar gyfer y fferm a dadansoddi marchnadoedd nwyddau. 

Yn yr ail flwyddyn byddwch yn astudio effaith amaethyddiaeth a systemau cyflenwi bwyd ar yr amgylchedd. Byddwch yn edrych ar y diwydiannau da byw ym Mhrydain, systemau cynhyrchu cnydau a’u strategaethau, a byddwch yn dysgu sut i ddadansoddi, creu cyllideb ac arfarnu busnes fferm. 

Yn ystod eich trydedd flwyddyn byddwch yn ymgymryd â blwyddyn o astudio dramor.

Yn ystod eich blwyddyn olaf byddwch yn edrych ar y ffordd y defnyddir ymchwil i ddatblygu systemau mwy effeithlon o gynhyrchu anifeiliaid. Byddwch yn ystyried amaethyddiaeth a materion amaethyddol ar draws ystod o safbwyntiau penodol, amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol ac yn ennill dealltwriaeth o'r berthynas rhwng polisi, ffactorau economaidd-gymdeithasol, arferion amaethyddol a'r economi wledig.

Bydd prosiect ymchwil yn eich blwyddyn olaf yn eich galluogi i wneud ymchwil fanwl o dan arweiniad arolygydd. Gall eich prosiect fod yn seiliedig ar arbrofion labordy neu ymarferion gwaith maes, yn cynnwys ymarfer modelu cyfrifiadurol neu gynnwys dadansoddi data.

Bydd ymweliadau â ffermydd, canolfannau ymchwil, busnesau gwledig a sefydliadau sy’n ymwneud â rheoleiddio a rheoli cefn gwlad yn ran annatod o’r cwrs gan amlygu’r materion allweddol dan sylw a’ch galluogi i weld sut mae cymhwyso eich addysg ddamcaniaethol ac academaidd i fusnes ymarferol. 

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno drwy raglen o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai ac ymweliadau maes. Byddwch yn cael nifer o gyfleoedd i ddefnyddio eich dysgu academaidd mewn gweithgareddau ymarferol a gweithdai. 

Asesu

Cewch eich asesu drwy nifer o ddulliau gan gynnwys traethodau, gweithgareddau ymarferol, cyflwyniadau llafar, taflenni gwaith, adroddiadau, ymarferion ystadegol, cynlluniau busnes, adolygiadau o destunau academaidd, llyfr nodiadau maes ac arholiadau. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|