BSc

Amaethyddiaeth

Bydd y radd BSc Amaethyddiaeth (Ategol) un flwyddyn o hyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cynnig llwybr uniongyrchol at radd BSc Anrhydedd os oes gennych FdSc neu HND mewn Amaethyddiaeth eisoes (yn amodol ar y graddau) neu gymhwyster cyfatebol arall. Mae Aberystwyth wedi’i hamgylchynu gan amrywiaeth eang o ffermdir a thir amaeth, a byddwch yn derbyn addysg academaidd o safon uchel ochr yn ochr â hyfforddiant galwedigaethol ar ein ffermydd a reolir yn fasnachol. 

Trosolwg o'r Cwrs

Wrth ymgymryd â’r radd BSc Amaethyddiaeth (Ategol), byddwch yn meithrin dealltwriaeth gadarn o dechnegau cynllunio ar gyfer busnesau ffermio, gan gynnwys sut i lunio cynllun busnes ffermio cynhwysfawr a manwl. Byddwch hefyd yn ennill profiad ymarferol o fod yn ymgynghorydd i reolwr neu berchennog menter neu fusnes amaeth, gan ganfod datrysiadau i’r heriau go iawn sy’n eu hwynebu. Yn ogystal, fe gewch y cyfle i arbenigo ym maes cynhyrchu da byw, cynhyrchu cnydau a glaswelltir neu’r amaeth-amgylchedd trwy amrywiaeth o fodiwlau dewisol. 

Bydd ymweliadau â ffermydd, busnesau gwledig a sefydliadau sy’n ymwneud â rheoleiddio a rheoli cefn gwlad yn amlygu’r materion allweddol dan sylw ac yn eich galluogi i weld sut mae cymhwyso eich addysg ddamcaniaethol ac academaidd i fusnes ymarferol.

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Datblygiadau mewn Amaethyddiaeth BG39920 20
Farm Planning and Advanced Farm Management BR31620 20
Adolygiad critigol BG36320 20
Critical Review BR36320 20
Traethawd Estynedig BG36440 40
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advances in Crop and Grassland Production BR37220 20
Gwyddor Cynhyrchu Da Byw BG30820 20
Livestock Production Science BR30820 20
Marketing and Small Business Management BR34720 20
Sustainable Land Management BR30420 20

Gyrfaoedd

Mae ein graddedigion yn dilyn gyrfaoedd llwyddiannus mewn sawl maes ym myd amaeth a’r diwydiannau cysylltiedig, gan gynnwys rheoli ffermydd a mentrau, maeth ac iechyd anifeiliaid, gweinyddu a gwleidyddiaeth amaethyddol, agronomeg cnydau a glaswelltir, yn ogystal â gyrfaoedd gweinyddol, ymgynghori a gwerthu gyda chwmnïau cyflenwadau amaethyddol. 

Pa gyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael i mi wrth i mi astudio?

Dysgwch fwy am yr amrywiaeth o gyfleoedd y mae ein Gwasanaeth Gyrfaoedd yn eu cynnig.

Gallwch wella eich rhagolygon am swydd gyda GO Wales a thrwy ein Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?

Ar y cwrs hwn byddwch yn gweld y cysylltiad rhwng ymchwil a dadansoddi ym myd amaeth a’r effeithiau a gânt ar y byd go iawn ar ffurf gwell technoleg, cnydau a lles anifeiliaid. 

Byddwch yn meithrin dealltwriaeth gadarn o dechnegau cynllunio busnes ac arfarnu buddsoddiadau a fydd yn eich galluogi i lunio cynlluniau busnes ffermio cynhwysfawr a manwl (gan gynnwys datganiadau ariannol). Yn ogystal, byddwch yn dod yn gyfarwydd â rôl yr Arolwg o Fusnesau Ffermio o ran dadansoddi a meincnodi cymharol - offeryn a fydd yn amhrisiadwy yn eich gwaith yn y dyfodol, gan eich galluogi i gymharu perfformiad a phroffidioldeb eich fferm â ffermydd eraill yn y DU a’r UE.   

Sut fydda i’n cael fy addysgu?

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno drwy raglen o ddarlithoedd, seminarau a dosbarthiadau tiwtorial. Fodd bynnag, ni fydd eich holl ddysgu yn digwydd yn yr ystafell ddosbarth, gan y bydd ymweliadau â ffermydd, sefydliadau ymchwil a busnesau amaeth ledled y DU yn rhan annatod o’r cwrs.

Asesu

Cewch eich asesu drwy nifer o ddulliau gan gynnwys traethodau, cyflwyniadau llafar, adroddiadau, cynlluniau busnes, adolygiadau o destunau academaidd ac arholiadau.

Tiwtor Personol

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi, a’r person hwn fydd eich prif gyswllt trwy gydol eich astudiaethau. Bydd eich tiwtor personol yno i’ch helpu i ymgartrefu pan fyddwch yn cyrraedd gyntaf, a bydd wrth law i’ch helpu gyda materion academaidd neu faterion personol.

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS

Safon Uwch Fel rheol, rhaid pasio Gradd Sylfaen neu HND mewn Amaethyddiaeth neu faes pwnc priodol arall, gyda Theilyngdod neu'n uwch.

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:

Bagloriaeth Ryngwladol:

Bagloriaeth Ewropeaidd:

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|