BSc

Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod D4D3 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae'r cwrs BSc mewn Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid yn cynnig sylfaen gadarn i chi mewn amaethyddiaeth gydag arbenigedd cryf mewn gwyddor anifeiliaid. Yn ystod y cwrs pedair blynedd hwn, byddwch yn edrych ar bob agwedd ar y diwydiant amaeth yn ogystal â datblygu dealltwriaeth gadarn o faeth, ffisioleg atgenhedlu, iechyd anifeiliaid, bridio anifeiliaid a biotechnoleg anifeiliaid newydd. Mae'r rhaglen bedair blynedd hon yn cynnwys lleoliad gwaith naw mis yn eich trydedd flwyddyn lle gallwch ddefnyddio eich gwybodaeth academaidd a galwedigaethol a chael profiad gwerthfawr o amaethyddiaeth ar waith.

Trosolwg o'r Cwrs

Tra’n astudio Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid, byddwch yn elwa o gael eich dysgu gan ymchwilwyr sy’n weithgar ym maes clefydau, maeth, atgenhedlu ac ymddygiad anifeiliaid, ymhlith meysydd eraill, ac yn elwa hefyd o’n hamrywiaeth o labordai addysgu ac ymchwil. O safbwynt gwyddor anifeiliaid, byddwch yn astudio agweddau ar faeth, ffisioleg atgenhedlu, iechyd a bridio anifeiliaid, yn ogystal â biodechnolegau anifeiliaid newydd.

Mae Aberystwyth wedi'i hamgylchynu gan amrywiaeth fawr o dir fferm a thir amaethyddol. Bydd eich dysgu ymarferol yn cael ei leoli yn yr 800 hectar o ffermydd prifysgol a reolir yn fasnachol. Mae hyn yn cael ei ategu gan ymweliadau maes i ffermydd a busnesau amaethyddol a bwyd sy’n arweinwyr diwydiant ledled y DU ym maes arloesi ac arbenigedd technegol, a bydd hyn yn atgyfnerthu eich dysgu academaidd. 

Mae'r elfen a addysgir o’r cwrs Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) (D4D3) yn union yr un fath â'i chwaer-gwrs tair blynedd BSc Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid (53C8). Mae’r drydedd flwyddyn yn cael ei threulio yn gweithio ym myd diwydiant; caiff ei goruchwylio a’i hasesu, a bydd yn cyfrif tuag at eich gradd derfynol. Yn ystod eich blwyddyn mewn diwydiant, byddwch yn talu ffi ddysgu ostyngedig.   

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Breeding: Genetics and Reproduction BR25220 20
Maeth Anifeiliaid Fferm, Ceffylau ac Anifeiliaid Anwes BG20720 20
Cynhyrchu a Rheoli Da Byw BG28020 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Agronomeg a Gwelliant Cnydau BG27620 20
Agronomeg a Gwelliant Cnydau BG27620 20
Bwyd, Ffermio, Technoleg a'r Amgylchedd BG29020 20
Farm Business Management and Appraisal BR21020 20
Bwyd, Ffermio, Technoleg a'r Amgylchedd BG29020 20
Immunology BR22220 20
Veterinary Health BR27120 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Integrated Year in Industry BRS0060 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Datblygiadau mewn Amaethyddiaeth BG39920 20
Livestock Production Science BR30820 20
Adolygiad critigol BG36320 20
Prosiect Ymchwil Amaethyddiaeth BG32620 20
Critical Review BR36320 20
Prosiect Ymchwil Amaethyddiaeth BG32620 20
Traethawd Estynedig BG36440 40
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Advances in Crop and Grassland Production BR37220 20
Behaviour and Welfare of Domesticated Animals BR35120 20
Farm Planning and Advanced Farm Management BR31620 20
Veterinary Infectious Diseases BR34120 20
Veterinary Pharmacology and Disease Control BR36820 20

Gyrfaoedd

Mae ein graddedigion yn dilyn gyrfaoedd llwyddiannus ym maes amaethyddiaeth a diwydiannau’n gysylltiedig ag amaethyddiaeth, gan gynnwys rheoli mentrau da byw, ymgynghori, iechyd, lles a maeth anifeiliaid a gyrfaoedd gweinyddol, ymgynghori a gwerthu gydag amrywiaeth eang o gwmnïau cyflenwi amaethyddol. 

Ar ôl cwblhau blwyddyn mewn diwydiant byddwch yn gallu:  

  • defnyddio’r hyn a ddysgwch ar eich cwrs ym myd gwaith  
  • gwneud cysylltiadau gwerthfawr yn y diwydiant  
  • datblygu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â'ch maes astudio  
  • cyfoethogi blwyddyn olaf eich astudiaethau am eich bod yn sylweddoli’n well sut i’w chymhwyso i'ch gyrfa  
  • cyfoethogi eich CV yn sylweddol a chynyddu eich rhagolygon o lwyddiant yn y farchnad swyddi.  

Sylwch nad yw lleoliadau gwaith ar gael yn awtomatig i bob ymgeisydd. Byddwch yn gyfrifol am sicrhau eich lleoliad profiad gwaith eich hun, gyda chefnogaeth ein Cydlynydd Blwyddyn mewn Diwydiant a’r cynghorydd gyrfaoedd i gynyddu eich siawns o lwyddo. Os nad ydych yn llwyddo i sicrhau profiad gwaith, byddwch yn gallu trosi eich cwrs i'r cwrs tair blynedd  BSc Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid (53C8). 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i'n ei ddysgu? 

Yn y flwyddyn gyntaf, cewch gyflwyniad i'r technolegau sy'n cael eu datblygu’n fwyfwy ar gyfer y diwydiant amaethyddol ac yn cael eu mabwysiadu yn y diwydiant. Byddwch yn astudio’r prif systemau cynhyrchu anifeiliaid fferm, glaswelltir amaethyddol a chnydau grawnfwyd yn ogystal â'r ffactorau sy'n sylfaen i amryw strategaethau tyfu cnydau. Byddwch yn edrych ar y ffactorau sy’n dylanwadu ar sut y defnyddir y tir ac yn datblygu sgiliau rheoli busnes defnyddiol, gan gynnwys paratoi cyllidebau ffermydd a dadansoddi marchnadoedd nwyddau.  

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn ystyried y ffactorau sy'n dylanwadu ar gynhyrchiant anifeiliaid, iechyd a lles, defnyddio adnoddau’n effeithlon, perfformiad ariannol ac ansawdd cynnyrch. Byddwch yn canolbwyntio ar faeth, anatomeg a ffisioleg anifeiliaid.  

Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn mynd ar brofiad gwaith mewn diwydiant sy'n gysylltiedig ag amaethyddiaeth.  

Yn ystod eich blwyddyn olaf, byddwch yn edrych ar sut y defnyddir ymchwil i ddatblygu systemau mwy effeithlon i gynhyrchu anifeiliaid. Byddwch yn ystyried amaethyddiaeth a materion amaethyddol ar draws ystod o safbwyntiau penodol, yn amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol, ac yn meithrin dealltwriaeth o'r berthynas rhwng polisi, ffactorau economaidd-gymdeithasol, arferion amaethyddol a'r economi wledig. Bydd prosiect ymchwil yn rhoi cyfle i chi i wneud ymchwil fanwl o dan arweiniad arolygydd.  Gall eich prosiect fod yn seiliedig ar arbrofion yn y labordy neu ymarferion gwaith maes, a chynnwys ymarfer modelu cyfrifiadurol neu ddadansoddi data. 

Bydd ymweliadau â ffermydd, canolfannau ymchwil, busnesau gwledig a sefydliadau sy’n ymwneud â rheoleiddio a rheoli cefn gwlad yn ran annatod o’r cwrs gan amlygu’r materion allweddol dan sylw a’ch galluogi i weld sut mae cymhwyso eich addysg ddamcaniaethol ac academaidd i fusnes ymarferol. 

Sut bydda i'n cael fy addysgu? 

Bydd y cwrs hwn yn cael ei gyflwyno drwy raglen o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai ac ymweliadau maes. Byddwch yn cael nifer o gyfleoedd i ddefnyddio eich dysgu academaidd mewn gweithgareddau ymarferol a gweithdai.  

Asesu

Cewch eich asesu drwy nifer o ddulliau gan gynnwys traethodau, gweithgareddau ymarferol, cyflwyniadau llafar, taflenni gwaith, adroddiadau, ymarferion ystadegol, cynlluniau busnes, adolygiadau o destunau academaidd, llyfr nodiadau maes ac arholiadau. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Beth ydw i'n ei hoffi fwyaf am Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth? Y bobl - myfyrwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd, yn dod at ei gilydd, yn rhannu profiadau ac yn dysgu gyda'i gilydd. Darlithwyr sy'n angerddol am eu pwnc, sydd â'u traed ar y ddaear ac sy'n hawdd mynd atynt. Y lle - y bryniau gwyrdd, coetiroedd tawel, golygfeydd trawiadol, a'r môr. Y cwrs - dysgu am bwnc sy'n sylfaenol i gymdeithas; ehangu fy meddwl gyda gwybodaeth newydd, a rhynnu ar glosydd fferm rhewllyd (wir, roedd boddhad yn hynny hyd yn oed!). Dyna dw i'n ei hoffi am astudio amaethyddiaeth yma. Benjamin David Latham

Dw i wrth fy modd gydag agwedd ymarferol y cwrs Gwyddor Anifeiliaid yn ogystal â'r darlithoedd diddorol. Mae gallu dewis llwybr yn golygu ein bod yn gallu arbenigo ac astudio'r hyn sydd o ddiddordeb i ni. Mae astudio yn Aberystwyth yn golygu bod digon o gyfle i wyna a gweithio ar y fferm ar yr un pryd ag astudio. Lewis Wescott

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 96

Safon Uwch BBB-CCC

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-26

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65%

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|