Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Mae'r cwrs BSc mewn Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid yn cynnig sylfaen gadarn i chi mewn amaethyddiaeth gydag arbenigedd cryf mewn gwyddor anifeiliaid. Yn ystod y cwrs pedair blynedd hwn, byddwch yn edrych ar bob agwedd ar y diwydiant amaeth yn ogystal â datblygu dealltwriaeth gadarn o faeth, ffisioleg atgenhedlu, iechyd anifeiliaid, bridio anifeiliaid a biotechnoleg anifeiliaid newydd. Mae'r rhaglen bedair blynedd hon yn cynnwys lleoliad gwaith naw mis yn eich trydedd flwyddyn lle gallwch ddefnyddio eich gwybodaeth academaidd a galwedigaethol a chael profiad gwerthfawr o amaethyddiaeth ar waith.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
95% o’r myfyrwyr yn cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda (ACF 2020).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Biolegol yn genedlaethol, (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid yn Aberystwyth?
Darperir y radd hon gan IBERS, sef ein Hathrofa arobryn ar gyfer y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, sydd hefyd yn gartref i'r Arolwg o Fusnesau Ffermio.
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi hen sefydlu enw rhagorol ledled y byd am ei haddysg a'i hymchwil ym maes amaethyddiaeth a gwyddorau gwledig, ac Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig yw'r adran prifysgol fwyaf gyda'r adnoddau gorau o'i math yng ngwledydd Prydain.
Mae Aberystwyth ei hun wedi'i hamgylchynu gan amrywiaeth eang o dir fferm a thir amaethyddol. Yn ogystal, cewch fynediad i'r ffermydd prifysgol 1,000 hectar, sy'n cael eu rheoli'n fasnachol gan yr Athrofa a'u defnyddio ar gyfer addysgu ac ymchwil.
Mae Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig wedi derbyn Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am Addysg Uwch ac Addysg Bellach. Mae'r wobr yn cydnabod gwaith o ragoriaeth eithriadol a chyflawniad o'r radd flaenaf, ac yn gydnabyddiaeth o waith gwyddonwyr yn yr Athrofa mewn disgyblaethau amrywiol.
Enillodd Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig gategori "Cyfraniad Eithriadol i Arloesedd a Thechnoleg" yng Ngwobrau Addysg Uwch 2013 y Times. Mewn cais ar y cyd â Phrifysgol Bangor yn 2014 ar gyfer asesiad y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil, roedd yr adran ymhlith y 10 uchaf yng ngwledydd Prydain am ddwyster ei hymchwil, a'r pumed cyflwyniad cryfaf yng ngwledydd Prydain!
Enillodd Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig un o'r Dyfarniadau Rhagoriaeth gydag Effaith cyntaf erioed gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol. Mae'r dyfarniad yn cydnabod yr adrannau prifysgol hynny sy'n fwyaf gweithgar o ran gwreiddio diwylliant sy'n hyrwyddo ac yn rhoi gwerth ar gyflawni effaith ynghyd ag ymchwil rhagorol.
Mae'r adran yn cynnig nifer o fodiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan y tab modiwlau!
Ein Staff
Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Athrofa nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae eich gradd BSc Amaethyddiaeth gyda Gwyddor Anifeiliaid yn agor drysau at ystod o gyfleoedd cyffrous ar gyfer swyddi a hyfforddiant pellach. Byddwch yn ymgeisydd cryf ar gyfer gwaith fel ymgynghorydd amaethyddol neu reolwr fferm, ac oherwydd eich arbenigedd mewn gwyddor anifeiliaid, byddwch chi hefyd yn llwyddo ym maes rheoli anifeiliaid, a maeth, cynhyrchiant a lles anifeiliaid.
Drwy gydol eich hyfforddiant, byddwch yn datblygu cyfoeth o sgiliau y gellir eu trosglwyddo'n hawdd, bron i unrhyw sefyllfa raddedig neu gyflogaeth broffesiynol. Bydd gennych wybodaeth dechnegol a biolegol o'r radd flaenaf, ynghyd â'r gallu i reoli fferm neu fusnes amaethyddol yn effeithlon, yn gynhyrchiol ac yn ddiogel. Byddwch yn hyderus wrth drin data a byddwch yn gyfathrebwr cryf ar lafar ac yn ysgrifenedig. Byddwch hefyd yn meddu ar sgiliau gwerthfawr wrth reoli pobl, anifeiliaid ac adnoddau, a byddwch yn meddu ar yr arbenigedd diweddaraf o ran yr arferion amaethyddol gorau.
Dysgu ac Addysgu
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys blwyddyn o leoliad diwydiannol mewn busnes sy'n gysylltiedig ag amaeth, sy'n eich galluogi i gael profiad ymarferol o reoli anifeiliaid a'r diwydiant amaeth. Gellir ei deilwra i ateb eich gofynion penodol a chwmpasu rheoli fferm, y sector cymorth amaethyddol neu ymchwil a datblygu.
Darperir y cwrs hwn drwy raglen o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai ac ymweliadau maes. Bydd gennych ddigon o gyfleoedd i gymhwyso eich dysgu academaidd mewn gweithgareddau ymarferol a gweithdai. Byddwch hefyd yn edrych ar y cysylltiad rhwng ymchwil a dadansoddi a'u hallbynnau yn y byd go iawn ar ffurf gwell technoleg, a lles anifeiliaid.
Ymhlith llawer o sgiliau eraill, byddwch yn dysgu'r canlynol: adolygu a dewis gwybodaeth berthnasol o gyfoeth o lenyddiaeth wyddonol a thechnegol; deall ac esbonio goblygiadau datblygiadau mewn pynciau fel maetheg a systemau cynhyrchu; gweithredu gwelliannau i fodelau busnes amaethyddol; a chynllunio prosiectau a'u rheoli mewn efelychiadau ac ymarferion ymarferol.
Byddwch yn cael eich asesu drwy draethodau, gwaith ymarferol, cyflwyniadau llafar ac arholiadau. Bydd gofyn i chi hefyd gwblhau aseiniadau ychwanegol a gwaith gydag eraill ar dasgau penodol. Ym mhob un o'r meysydd hyn, bydd angen i chi ddangos trylwyredd gwyddonol a defnyddio dull systematig o ymdrin â'r problemau a gyflwynir i chi.
Bydd diwylliant dysgu bywiog y brifysgol yn eich cynorthwyo yn eich hyfforddiant amaethyddol ac yn eich annog i fanteisio ar y cyfleoedd niferus yn yr adran a'r brifysgol i ddatblygu eich arbenigedd ymarferol a damcaniaethol i sicrhau y byddwch, wrth raddio, yn y sefyllfa berffaith ar gyfer y cam nesaf yn eich gyrfa.
Bydd tiwtor personol yn cael ei ddynodi i chi dros gyfnod eich cwrs gradd cyfan, a bydd yn gallu eich helpu gydag unrhyw broblemau neu ymholiadau, boed nhw'n faterion academaidd neu bersonol. Mae croeso i chi gysylltu â'ch tiwtor personol ar unrhyw adeg os bydd angen cymorth neu gyngor arnoch.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i gwblhau Cynllun Datblygu Personol (CDP) yn Aberystwyth. Mae hon yn broses strwythuredig o hunanwerthuso, myfyrio, a chynllunio, a fydd yn eich galluogi i olrhain eich datblygiad personol, academaidd a phroffesiynol drwy gydol eich cyfnod yn y brifysgol. Drwy gofnodi eich perfformiad academaidd, ac amlygu'r sgiliau sydd gennych yn barod a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch ar gyfer cyflogadwyedd yn y dyfodol, bydd y portffolio CDP yn rhoi'r offer angenrheidiol i chi gynllunio'n effeithiol, datblygu dulliau llwyddiannus o astudio, ac ystyried eich dewisiadau gyrfaol a'ch dyheadau yn y dyfodol.
Barn ein Myfyrwyr
Beth ydw i'n ei hoffi fwyaf am Amaethyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth? Y bobl - myfyrwyr o amrywiaeth eang o gefndiroedd, yn dod at ei gilydd, yn rhannu profiadau ac yn dysgu gyda'i gilydd. Darlithwyr sy'n angerddol am eu pwnc, sydd â'u traed ar y ddaear ac sy'n hawdd mynd atynt. Y lle - y bryniau gwyrdd, coetiroedd tawel, golygfeydd trawiadol, a'r môr. Y cwrs - dysgu am bwnc sy'n sylfaenol i gymdeithas; ehangu fy meddwl gyda gwybodaeth newydd, a rhynnu ar glosydd fferm rhewllyd (wir, roedd boddhad yn hynny hyd yn oed!). Dyna dw i'n ei hoffi am astudio amaethyddiaeth yma. Benjamin David Latham
Dw i wrth fy modd gydag agwedd ymarferol y cwrs Gwyddor Anifeiliaid yn ogystal â'r darlithoedd diddorol. Mae gallu dewis llwybr yn golygu ein bod yn gallu arbenigo ac astudio'r hyn sydd o ddiddordeb i ni. Mae astudio yn Aberystwyth yn golygu bod digon o gyfle i wyna a gweithio ar y fferm ar yr un pryd ag astudio. Lewis Wescott