BSc

Ymddygiad Anifeiliaid

Sut a pham mae anifeiliaid yn ymddwyn fel y maent? Mae gwyddonwyr sy'n astudio ymddygiad anifeiliaid yn defnyddio dulliau trwyadl, gwyddonol i ateb cwestiynau o'r fath, drwy hyfforddiant eang yn y gwyddorau biolegol cyn astudio ymddygiad anifeiliaid mewn dyfnder a manylder. Mae'r astudiaeth wyddonol o ymddygiad anifeiliaid yn darparu cipolwg gwych i'r ffyrdd y mae anifeiliaid yn goroesi ac yn atgenhedlu yn eu hamgylcheddau deinamig, mae'n hanfodol er mwyn gwarchod a rheoli rhywogaethau prin a rhai sydd mewn perygl yn llwyddiannus, ac mae'n hanfodol i wella lles anifeiliaid dof a domestig.

Trosolwg o'r Cwrs

Royal Society of Biology Accredited Degree

Staff addysgu angerddol sy'n arbenigo yn eu maes 

Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr ym maes ymddygiad, sy'n cyflawni ymchwil sy'n amrywio o batrymau ymddygiad anifeiliaid yn fyd-eang, i astudiaethau o ymddygiad mewn anifeiliaid unigol, i astudiaethau o sail foleciwlaidd ymddygiad. Mae ein darlithwyr ymddygiad yn athrawon brwdfrydig hefyd. Efallai eich bod eisoes wedi gweld rhai ohonynt ar raglenni dogfen ar y teledu, neu wedi gwrando arnyn nhw ar eich hoff sioe radio gwyddoniaeth.

Cyfleusterau gwych 

Fel un o wyddonwyr ymddygiad y dyfodol, bydd angen i chi gael mynediad at ymchwil a chyfleusterau addysgu rhagorol. Mae gennym labordai addysgu, darlithfeydd, ac ystafelloedd seminar modern a phwrpasol, yn ogystal â bywyd gwyllt a chefn gwlad heb ei ail. Byddwch hefyd yn gallu manteisio ar ein cyfleusterau eraill gan gynnwys: 

  • Acwariwm modern sydd â rhywogaethau dŵr oer a throfannol, morol a dŵr croyw;
  • Coetir prifysgol sydd â thros gant o flychau nythu a chartrefi ar gyfer natur; 
  • Cynefinoedd hardd ar garreg ein drws, gan gynnwys y môr, rhostir, mynyddoedd, glaswelltir a'r arfordir, sy'n darparu amrywiaeth o gyfleoedd gwych ar gyfer gwaith maes a hamdden i chi;
  • Rhywogaethau carismatig fel barcutiaid coch, dolffiniaid trwyn potel, a rhagor... 
  • Amgueddfa fendigedig sy'n llawn sbesimenau swolegol hanesyddol;  
  • Ac os oes gennych chi fwy o archwaeth am waith maes, gallwch ddilyn y cwrs maes preswyl mewn ymddygiad anifeiliaid hefyd.

Sefydliad sydd wedi ennill gwobrau a all eich helpu i gyflawni eich llawn botensial

  • Mae ein myfyrwyr wedi ennill gwobr "Myfyriwr Bioleg y Flwyddyn" yn y Gwobrau Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg Ewropeaidd (SET) a Gwobr Myfyriwr Undeb Adaregwyr Cymru!
  • Enillodd Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) wobr am ei "Gyfraniad Eithriadol i Arloesedd a Thechnoleg" yng Ngwobrau Addysg Uwch 2013 y Times. 
  • Cais Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), ar y cyd â Phrifysgol Bangor, oedd y pumed cyflwyniad cryfaf yng ngwledydd Prydain ar gyfer asesiad y Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (2014).

Cyfleoedd rhyngwladol 

Os ydych chi'n teimlo'n anturus, beth am fanteisio ar y cyfle i astudio dramor yn ystod eich gradd? Mae gennym gytundebau cyfnewid gyda phrifysgolion yn Ewrop, yr Unol Daleithiau, Canada a gwledydd eraill, felly gallwch wneud cais i dreulio'r cyfan neu ran o'ch ail flwyddyn yn astudio ymddygiad dramor. Byddwch yn siŵr o weld eisiau Aberystwyth, ond byddwch wrth eich bodd â'r persbectif newydd a ddaw wrth astudio dramor. 

Hoffech chi astudio yn Gymraeg? 

Gall myfyrwyr ddewis astudio nifer o fodiwlau IBERS drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan y tab modiwlau!

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Bioleg Celloedd BG17520 20
Comparative Animal Physiology BR16720 20
Disease Diagnosis and Control BR15420 20
Ecoleg a Chadwraeth BG19320 20
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Sgiliau ar gyfer Gwyddonwyr Bywyd Gwyllt BG15720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Behaviour BR21620 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Researching Behavioural Ecology BR27320 20
Vertebrate Zoology BR26820 20
Veterinary Health BR27120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
An Introduction to Landscape Ecology and Geographic Information Systems BR25520 20
Invertebrate Zoology BR25420 20
Tropical Zoology Field Course BR23820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Behaviour and Welfare of Domesticated Animals BR35120 20
Behavioural Neurobiology BR35320 20
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Behaviour Field Course BR34920 20
Global Biodiversity Conservation BR33420 20
Parasitology BR33820 20
Population and Community Ecology BR33920 20
Veterinary Pharmacology and Disease Control BR36820 20
Wildlife Conservation BR34520 20

Gyrfaoedd

Pa yrfaoedd mae ein myfyrwyr yn eu dilyn?

Mae llawer o'n myfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio graddau Meistr neu PhD, gan anelu at ddilyn gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth bur neu gymhwysol, neu gyfathrebu gwyddoniaeth. Mae eraill wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd fel technegwyr anifeiliaid gwyddonol a chynorthwywyr labordai meddygol. Yn ystod eu hastudiaethau, mae llawer o'n myfyrwyr wedi gwirfoddoli ar brosiectau cadwraeth fel Prosiect Adfer y Bele a rhaglen fridio Lyncs Iberaidd mewn caethiwed, neu ar gyfer sefydliadau fel yr RSPB.

Beth ydw i'n ei ennill o astudio Ymddygiad Anifeiliaid?

Bydd ein gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dysgu amrywiaeth eang o sgiliau i chi fel arsylwi, ymchwilio, dadansoddi a myfyrio. Byddwch hefyd yn astudio mewn adran sydd wedi buddsoddi dros £55 miliwn mewn seilwaith o gyfleusterau ar gyfer myfyrwyr. Mae'r adran wedi bod yn gartref i gynhadledd Pasg uwchraddedig y Gymdeithas Astudio Ymddygiad Anifeiliaid dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae rhai o'n myfyrwyr wedi bod i'r cyfarfodydd hyn, neu wedi helpu i'w trefnu.

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio? 

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG).

Dysgu ac Addysgu

Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.

Bydd eich blwyddyn gyntaf yn rhoi sylfaen eang i chi mewn bioleg, a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn eich astudiaethau. Bydd y meysydd pwnc yn cynnwys:

  • Esblygiad ac amrywiaeth bywyd;
  • Ffisioleg anifeiliaid;
  • Gwneud diagnosis o glefydau anifeiliaid a'u rheoli;
  • Fforenseg bywyd gwyllt;
  • Sgiliau astudio a chyfathrebu, a llawer mwy.

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio modiwlau arbenigol mewn ymddygiad anifeiliaid, ac yn ennill sgiliau gwyddonol hanfodol. Bydd y meysydd pwnc yn cynnwys:

  • Etholeg, sef astudiaeth wyddonol o ymddygiad anifeiliaid;
  • Gwyddor sw fodern;
  • Iechyd milfeddygaeth;
  • Gweithdrefnau meintiol ac ansoddol dadansoddi data;
  • Dylunio a chynllunio da ar gyfer ymchwil.

Yn eich trydedd flwyddyn, bydd y meysydd pwnc yn cynnwys:

  • Ymddygiad a lles anifeiliaid domestig;
  • Y mecanweithiau ffisiolegol y tu ôl i ymddygiad anifeiliaid;
  • Prosiect ymchwil traethawd hir gorfodol;
  • Modiwlau opsiynol wedi'u dewis o ddetholiad gan gynnwys cadwraeth bywyd gwyllt, pynciau uwch mewn ymddygiad anifeiliaid, a chwrs preswyl; cwrs maes ymddygiad anifeiliaid.

Rhagor o wybodaeth:

  • Cyfosod gwybodaeth o lenyddiaeth wyddonol;
  • Deall ac esbonio goblygiadau datblygiadau mewn pynciau fel parasitoleg;
  • Craffu ar ddata o ran ei ansawdd a'i faint;
  • Ymateb i ddata newydd drwy ymchwilio mewn labordy;
  • Datblygu eich sgiliau ymarferol mewn trin anifeiliaid sy'n ychwanegu at eich gwybodaeth ddamcaniaethol.

Sut bydda i'n cael fy addysgu?

Bydd eich cwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd, gweithdai, tiwtorialau ac ymarferion.

Byddwch yn cael hyfforddiant mewn cysyniadau, ymchwil a methodolegau sy'n ymwneud â gwyddor ymddygiad anifeiliaid. Gwneir hyn drwy ymchwil ac arbrofi mewn labordy, yn ogystal â gwaith ymarferol.

Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf:

  • Traethodau
  • Gwaith ymarferol
  • Cyflwyniadau llafar
  • Taflenni gwaith
  • Adroddiadau
  • Ymarferion ystadegol
  • Coflenni
  • Posteri
  • Portffolios
  • Wicis
  • Dyddiaduron myfyriol
  • Adolygiadau llenyddiaeth
  • Erthyglau cylchgrawn
  • Llyfrau nodiadau wedi'u ffeilio
  • Arholiadau

Tystiolaeth Myfyrwyr

Fe wnes i fwynhau'r cwrs yn fawr, a chael cyfle i astudio amrywiaeth o anifeiliaid ac archwilio llwybrau gyrfaol amrywiol, cyn penderfynu canolbwyntio ar ymddygiad cŵn a hyfforddiant. Mewn rhai modiwlau, roeddem yn gallu dewis y pwnc roedd yn rhaid i ni ei gyflwyno neu ysgrifennu amdano, gan roi cyfle i mi ganolbwyntio ar bwnc roedd gen i ddiddordeb arbennig ynddo. Roedd modiwlau a oedd yn canolbwyntio ar anifeiliaid sw ac anifeiliaid gwyllt yn caniatáu i mi archwilio gyrfaoedd posib yn y meysydd hyn, a helpodd modiwlau a oedd yn cynnwys gwaith grŵp a chyflwyniadau i wella fy hyder. Rebecca - Gofalwr Cŵn i'r Dogs Trust

Rwy'n cynorthwyo gyda chynnal amrywiaeth o arolygon fflora a ffawna, trawsleoli a goruchwylio gwaith adeiladu/dymchwel ar gyfer rhywogaethau a warchodir, gan gynnwys ystlumod, madfallod dŵr cribog, ymlusgiaid, pathewod, moch daear a gwaith ecolegol cysylltiedig arall ar safleoedd ledled Cymru a Lloegr. Fe wnes i fwynhau fy nghwrs yn fawr. Roedd yn amrywiol, yn heriol ac roedd wastad yn gwneud i mi ddymuno mynd i ddysgu mwy ar ôl y darlithoedd. Yn arbennig, roedd y modiwl cwrs maes ymddygiad anifeiliaid yn berffaith ar gyfer dysgu sut i astudio anifeiliaid yn y maes, gweithio fel tîm a chael canlyniadau'n brydlon. Mae'r rhain yn sgiliau hanfodol yn fy swydd bresennol a byddant yn parhau i fod yn berthnasol yn fy ngyrfa. Adam – Ecolegydd Maes, Aspect Ecology Ltd

Roeddwn wrth fy modd yn astudio Ymddygiad Anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roedd y staff bob amser yn gyfeillgar ac yn agos-atoch. Helpodd fy narlithwyr fi i gyflawni fy llawn botensial academaidd, ac roedd amrywiaeth y modiwlau yn fy mharatoi gyda sbectrwm eang o brofiadau. Felly diolch i Brifysgol Aberystwyth. Sarah – Hyfforddai Dysgu a Threftadaeth Cymunedol gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Roeddwn i'n mwynhau fy holl fodiwlau, ond roeddwn i'n mwynhau ymddygiad anifeiliaid ac ecoleg ymddygiad yn enwedig, ac roeddwn yn ddigon ffodus i gael yr hyblygrwydd i gynllunio fy mhrosiect traethawd hir fy hun yn y drydedd flwyddyn ar gyfoethogi'r amgylchedd i ddyfrgwn yn Sealife, Birmingham. Symudais i Fryste yn 2012 i astudio ar gyfer PhD ac rwyf wedi bod yn defnyddio trapiau camera mewn gerddi trefol i astudio ymddygiad gofodol a chymdeithasol llwynogod. Rhoddodd fy amser yn Aberystwyth sylfaen gadarn i mi mewn gwyddoniaeth a chefais fy nghyflwyno i ymchwil academaidd. Fe ges i fodd i fyw yn Aber! Jo – myfyriwr PhD, Prifysgol Bryste

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Bioleg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|