BSc

Ymddygiad Anifeiliaid (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Ymddygiad Anifeiliaid (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod C122 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys blwyddyn sylfaen integredig. 

Mae ymddygiadwyr anifeiliaid yn cymhwyso eu sgiliau gwyddonol i ddeall sut a pham mae anifeiliaid yn ymddwyn fel y maent, er mwyn gwella lles anifeiliaid, gwella cadwraeth, a chynyddu ein gwybodaeth am y byd naturiol. Ar y radd BSc Ymddygiad Anifeiliaid (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) ym Mhrifysgol Aberystwyth byddwch hefyd yn datblygu sylfaen gadarn o sgiliau gwyddonol trosglwyddadwy, ac mae’r achrediad a gawsom gan y Gymdeithas Fiolegol Frenhinol yn brawf o hynny. 

Wedi’ch arfogi â’r sgiliau hyn, byddwch yn ymchwilio i fecanweithiau, datblygiad, swyddogaethau ac esblygiad ymddygiad anifeiliaid mewn amrywiaeth o gyd-destunau pur a chymhwysol. Byddwch yn datblygu sgiliau uwch ar gyfer ymchwilio i ymddygiad anifeiliaid ac yn cynnal eich prosiect ymchwil annibynnol eich hun i ymddygiad yn y pen draw. 

Byddwch yn gwneud hyn i gyd yng nghefn gwlad gwyllt a hardd y gorllewin,  sy'n gartref i ddolffiniaid trwyn potel, morloi llwyd yr Iwerydd, y bele, dyfrgwn, gweilch y pysgod a barcudiaid coch. Ar ben hynny, cewch gyfle i gynnal astudiaethau dwys ar ymddygiad anifeiliaid mewn cyrsiau maes preswyl y tu allan i’r ardal. 

Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan y Gymdeithas Fioleg Frenhinol. 

Trosolwg o'r Cwrs

Royal Society of Biology Accredited Degree

Pam astudio Ymddygiad Anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth? 

Mae ein cwrs: 

  • yn darparu sylfaen gadarn o sgiliau a gwybodaeth yn y biowyddorau a fydd yn amhrisiadwy i chi ym maes ymddygiad anifeiliaid a’r tu hwnt 
  • wedi'i achredu gan y Gymdeithas Fiolegol Frenhinol, yn gydnabyddiaeth o’i ansawdd 
  • yn cynnwys llawer o ddeunydd arbenigol ar ymddygiad anifeiliaid a ddysgir gan staff sy'n cynnal ymchwil wyddonol i’r maes hwn  
  • yn cynnig cwrs maes preswyl opsiynol lle yr ymchwilir i ymddygiad anifeiliaid drwy waith prosiect mewn grwpiau bach 
  • yn gosod ymddygiad yn ei gyd-destun drwy fodiwlau sy'n ymdrin ag iechyd a lles anifeiliaid a ddysgir gan filfeddygon, a modiwlau dewisol sy'n datblygu gwybodaeth a sgiliau ym maes cadwraeth 
  • yn cynnwys prosiect ymchwil annibynnol sylweddol yn eich blwyddyn olaf, lle byddwch yn elwa o arolygiaeth academaidd unigol 
  • yn arbennig o addas i fyfyrwyr sy'n dymuno gwella eu cyflogadwyedd mewn meysydd fel cadwraeth anifeiliaid, gofal a lles anifeiliaid, neu ymchwil i ymddygiad anifeiliaid, ond mae hefyd yn datblygu sgiliau y mae galw amdanynt mewn ystod eang o broffesiynau eraill addas i raddedigion. 

Cyfleoedd 

  • Mae ein myfyrwyr yn elwa o gytundebau cyfnewid rhyngwladol â phrifysgolion yn Ewrop, Gogledd America, Asia ac Awstralia, felly gallwch wneud cais i dreulio eich ail flwyddyn, neu ran ohoni, yn astudio ymddygiad anifeiliaid dramor. 
  • Cewch ddewis gwneud eich blwyddyn mewn diwydiant ym Mhrydain neu dramor 
  • Gallwch ddewis astudio nifer o’n modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg. Edrychwch ar y tab modiwlau am fwy o wybodaeth. 

Mae gan Aberystwyth gyfleusterau ardderchog ar gyfer ymddygiadwyr anifeiliaid, gan gynnwys: 

  • acwariwm modern lle cedwir rhywogaethau dŵr oer a throfannol, morol a dŵr croyw.  
  • amrywiaeth o anifeiliaid dof bach a mawr ar gael i chi ar gyfer ymchwil ymddygiad anifeiliaid yn ein ffermydd, ein canolfan geffylau a’n canolfan addysg milfeddygaeth. 
  • coetiroedd helaeth ar gael i chi ger ein campws, lle y ceir mwy na 100 o flychau nythu pwrpasol - lle delfrydol i astudio adar a mathau eraill o fywyd gwyllt  
  • cynefinoedd gwyllt a phrydferth ar garreg ein drws, gan gynnwys cynefinoedd morol, gweundiroedd, mynyddoedd, glaswelltir a choedwigoedd, sy’n cynnig amrywiaeth aruthrol o gyfleoedd ar gyfer gwaith maes a hamddena.  
  • cyfleoedd i weld rhywogaethau anifeiliaid cyffredin a phrin ym Mhrydain megis dolffiniaid trwyn potel, morloi llwyd yr Iwerydd, y bele, dyfrgwn, gweilch y pysgod a barcudiaid coch. 
  • casgliad helaeth o sbesimenau swolegol yn ein hamgueddfa. 

Dysgu a arweinir gan ein hymchwil 

  • Cewch eich dysgu gan dîm angerddol o ymddygiadwyr anifeiliaid sydd hefyd yn wyddonwyr gweithgar ym maes ymchwil. Mae eu hymchwil yn rhoi sail i’n gwaith dysgu, ac yn darparu cyfleoedd rhagorol ar gyfer y prosiect ymchwil y byddwch yn ymgymryd ag ef yn eich blwyddyn olaf. Mae ein darlithwyr ymddygiad anifeiliaid hefyd yn athrawon brwdfrydig ac arloesol. 
Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Bioleg Celloedd BG17520 20
Comparative Animal Physiology BR16720 20
Disease Diagnosis and Control BR15420 20
Ecoleg a Chadwraeth BG19320 20
Genetics, Evolution and Diversity BR17120 20
Sgiliau ar gyfer Gwyddonwyr Bywyd Gwyllt BG15720 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Behaviour BR21620 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Researching Behavioural Ecology BR27320 20
Vertebrate Zoology BR26820 20
Veterinary Health BR27120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
An Introduction to Landscape Ecology and Geographic Information Systems BR25520 20
Invertebrate Zoology BR25420 20
Tropical Zoology Field Course BR23820 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Integrated Year in Industry BRS0060 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Behaviour and Welfare of Domesticated Animals BR35120 20
Behavioural Neurobiology BR35320 20
Traethawd Estynedig BG36440 40

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Behaviour Field Course BR34920 20
Global Biodiversity Conservation BR33420 20
Parasitology BR33820 20
Population and Community Ecology BR33920 20
Primatology BR38820 20
Veterinary Pharmacology and Disease Control BR36820 20
Wildlife Conservation BR34520 20

Gyrfaoedd

Beth fyddaf i’n ei gael o astudio am radd BSc Ymddygiad Anifeiliaid (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)? 

Mae graddedigion Ymddygiad Anifeiliaid (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Prifysgol Aberystwyth: 

  • yn wyddonwyr ymddygiad medrus, sydd â gwybodaeth gref am ymddygiad anifeiliaid, o safbwynt damcaniaethol ac yn ymarferol 
  • yn meddu ar ddealltwriaeth uniongyrchol am ymchwil ym maes ymddygiad anifeiliaid o ganlyniad i'w prosiectau ymchwil yn ystod eu blwyddyn olaf, a phwyslais ein gradd ar ddysgu a arweinir gan ymchwil 
  • efallai wedi cael profiad rhyngwladol, os ydynt wedi cymryd rhan mewn cynllun cyfnewid academaidd 
  • yn feddylwyr beirniadol hyderus a chraff, sy'n gallu gweithio'n annibynnol ac yn rhan o dîm. Mae ganddynt sgiliau cryf yn y gwyddorau a dadansoddi, sgiliau deniadol iawn ym maes ymddygiad anifeiliaid a’r tu hwnt 
  • yn aelodau o gymuned gefnogol o ymddygiadwyr sydd ym Mhrifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd neu a fu yma yn y gorffennol 
  • yn cael aelodaeth o’r Gymdeithas Fioleg Frenhinol am flwyddyn ar ôl graddio i'w helpu i sefydlu eu gyrfaoedd. 

Ym mha feysydd mae ein myfyrwyr yn mynd i weithio? 

Mae gan ein graddedigion sgiliau y mae galw amdanynt mewn ystod eang o yrfaoedd ym maes ymddygiad anifeiliaid a’r tu hwnt. Maent wedi: 

  • ymgymryd ag astudiaethau uwchraddedig ar lefel Meistr neu PhD, gan anelu at yrfaoedd ymchwil ym maes ymddygiad anifeiliaid 
  • mynd i faes ymgynghori ecolegol, neu swyddi gofal anifeiliaid ymarferol fel gofalwyr cŵn neu dechnegwyr anifeiliaid gwyddonol 
  • sefydlu gyrfaoedd ym maes cyfathrebu gwyddonol, addysg amgylcheddol ac addysgu  
  • ymgymryd â swyddi gwyddonol y tu hwnt i faes ymddygiad anifeiliaid, fel cynorthwywyr labordai meddygol, er enghraifft, oherwydd eu sylfaen eang o sgiliau gwyddonol trosglwyddadwy. 

Mae ein gradd Ymddygiad Anifeiliaid hefyd yn addas ar gyfer cael eich derbyn i amrywiaeth o raglenni hyfforddi i raddedigion.  

Beth ydw i’n ei gael o wneud Blwyddyn mewn Diwydiant? 

Ar ôl cwblhau blwyddyn mewn diwydiant byddwch yn gallu:  

  • defnyddio’r hyn a ddysgwch ar eich cwrs ym myd gwaith  
  • gwneud cysylltiadau gwerthfawr yn y diwydiant  
  • datblygu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â'ch maes astudio  
  • cyfoethogi blwyddyn olaf eich astudiaethau am eich bod yn sylweddoli’n well sut i’w chymhwyso i'ch gyrfa  
  • cyfoethogi eich CV yn sylweddol a chynyddu eich rhagolygon o lwyddiant yn y farchnad swyddi.  

Mae llawer o’n myfyrwyr yn gwneud y cyfan neu ran o’u Blwyddyn mewn Diwydiant dramor, felly gallwch gael profiadau newydd o ran diwylliannau, ieithoedd, bywyd gwyllt a chynefinoedd. 

Sylwch nad yw lleoliadau gwaith ar gael yn awtomatig i bob ymgeisydd. Byddwch yn gyfrifol am sicrhau eich lleoliad profiad gwaith eich hun, gyda chefnogaeth ein Cydlynydd Blwyddyn mewn Diwydiant a’r cynghorydd gyrfaoedd i gynyddu eich siawns o lwyddo. Os nad ydych yn llwyddo i sicrhau profiad gwaith, byddwch yn gallu trosi eich cwrs i fersiwn tair blynedd y radd BSc Ymddygiad Anifeiliaid.

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu? 

Bydd yr wybodaeth isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd. 

Yn ystod eich blwyddyn gyntaf, byddwch yn cael cyflwyniad i’r canlynol: 

  • esblygiad ac amrywiaeth bywyd anifeiliaid 
  • y fioleg sy’n hanfodol i ddeall ymddygiad anifeiliaid, gan gynnwys ffisioleg anifeiliaid, geneteg, bioleg celloedd ac ecoleg 
  • trin anifeiliaid, a chynnal archwiliadau a phrofion ar gyfer diagnosis a rheoli clefydau anifeiliaid 
  • dulliau ymarferol o weithredu’n wyddonol i fynd i'r afael â phroblemau ym maes fforenseg bywyd gwyllt 
  • sgiliau ysgrifennu testunau gwyddonol a chyflwyno, a ddysgir mewn dosbarthiadau tiwtora mewn grwpiau bach gyda'ch tiwtor 
  • sgiliau trosglwyddadwy mewn graffio, dadansoddi, dehongli a thrin data. 

Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn ymgymryd ag astudiaethau arbenigol ar y canlynol: 

  • ymddygiad anifeiliaid yn y maes a'r labordy, a ddatblygir trwy ddau fodiwl arbenigol 
  • y rhyngweithio rhwng iechyd ac ymddygiad mewn cyd-destun milfeddygol 
  • dylunio a chynllunio ymchwil sy'n ymchwilio i ymddygiad anifeiliaid 
  • dulliau meintiol ac ansoddol o weithio i ddadansoddi data a llywio dehongliadau gwyddonol 

Yn eich trydedd flwyddyn byddwch yn ymgymryd â’ch profiad gwaith a fydd yn berthnasol i faes ymddygiad anifeiliaid. 

Yn ystod blwyddyn olaf, byddwch yn ymgymryd ag astudiaeth uwch mewn: 

  • prosiect ymchwil annibynnol, dewis sydd ar gael i bob myfyriwr 
  • datblygiadau diweddar mewn ymddygiad anifeiliaid 
  • ymddygiad anifeiliaid dof yng nghyd-destun eu lles 
  • pynciau ychwanegol o'ch dewis, megis mecanweithiau ymddygiad niwrobiolegol, cadwraeth bywyd gwyllt, a chwrs maes preswyl i gynnal astudiaeth ddwys ar ymddygiad anifeiliaid. 

Sut fydda i'n cael fy nysgu? 

Dysgir y cwrs trwy ddarlithoedd, seminarau rhyngweithiol, gweithdai cyfrifiadurol, cyrsiau ac ymweliadau maes, sesiynau ymarferol yn y labordy, dosbarthiadau tiwtora mewn grwpiau bach ac arolygiaeth unigol ar gyfer eich prosiect ymchwil annibynnol. 

Sut y caf fy asesu? 

  • Byddwch yn cael eich asesu gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol ddulliau. Asesir rhai modiwlau’n rhannol drwy arholiadau traddodiadol, ond rydym hefyd yn defnyddio amrywiaeth eang o wahanol elfennau o waith cwrs gan gynnwys traethodau, posteri, cyflwyniadau llafar, fideos, wicis, tasgau dadansoddi data ymarferol, llyfrau nodiadau maes ac erthyglau gwyddoniaeth yn null erthygl cylchgrawn. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Bioleg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|