Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Sut a pham mae anifeiliaid yn ymddwyn fel y maent? Mae gwyddonwyr sy'n astudio ymddygiad anifeiliaid yn defnyddio dulliau trwyadl, gwyddonol i ateb cwestiynau o'r fath. Mae'r astudiaeth wyddonol o ymddygiad anifeiliaid yn darparu cipolwg gwych i'r ffyrdd y mae anifeiliaid yn goroesi ac yn atgenhedlu yn eu hamgylcheddau deinamig, mae'n hanfodol er mwyn gwarchod a rheoli rhywogaethau prin a rhai sydd mewn perygl yn llwyddiannus, ac mae'n hanfodol i wella lles anifeiliaid dof a domestig. Mae'r amrywiad hwn ar ein cynllun Ymddygiad Anifeiliaid yn cynnwys blwyddyn integredig mewn diwydiant rhwng yr ail a'r bedwaredd flwyddyn o astudio. Bydd blwyddyn o brofiad gwaith yn gwella eich rhagolygon cyflogaeth yn fawr, ac yn rhoi mantais i chi wrth ddilyn gyrfa mewn Ymddygiad Anifeiliaid!
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
95% o’r myfyrwyr yn cytuno bod y staff yn esbonio pethau'n dda (ACF 2020).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Biolegol yn genedlaethol, (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio BSc Ymddygiad Anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Byddwch yn cael eich addysgu a'ch mentora gan staff addysgu brwdfrydig sy'n cynnal ymchwil ar draws y sbectrwm o rywogaethau anifeiliaid ac ymatebion ymddygiadol.
Bydd gan bob myfyriwr fynediad i labordai ac offer gwych, gan gynnwys offer tracio radio, blychau nythu, labordai ac acwaria, yn ogystal â chasgliad o sbesimenau hanesyddol. Mae cynefinoedd lleol rhyfeddol gan gynnwys arfordiroedd, aberoedd, coetiroedd a bryniau, sy'n rhoi mynediad i rywogaethau megis barcutiaid coch, brain coesgoch, morloi llwyd, dolffiniaid trwyn potel a llamidyddion. Ac os oes gennych chi fwy o archwaeth am waith maes, gallwch ddilyn y cwrs maes preswyl mewn ymddygiad anifeiliaid hefyd.
Byddwch yn cyflawni blwyddyn integredig mewn diwydiant a fydd yn cael ei asesu ac yn cyfrif tuag at eich gradd derfynol. Rhaid i fyfyrwyr drefnu eu profiad gwaith eu hunain o dan arweiniad ein Cyfarwyddwr Cyflogadwyedd, a rhaid iddo fod yn berthnasol i Ymddygiad Anifeiliaid. Os na all myfyrwyr sicrhau lleoliad bydd angen iddynt drosglwyddo i gwrs BSc Ymddygiad Anifeiliaid C120 yn lle.
Er efallai na thelir am eich profiad gwaith, bydd myfyrwyr yn talu ffi ostyngol yn ystod eich blwyddyn mewn diwydiant. Mae'r manylion yn llawn ar gael yma.
Ein Staff
Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Athrofa nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Mae llawer o'n myfyrwyr yn mynd ymlaen i astudio graddau Meistr neu PhD, gan anelu i ddilyn gyrfaoedd mewn gwyddoniaeth bur neu gymhwysol, neu gyfathrebu gwyddoniaeth. Mae eraill wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd fel technegwyr anifeiliaid gwyddonol a chynorthwywyr labordai meddygol. Yn ystod eu hastudiaethau, mae llawer o'n myfyrwyr wedi gwirfoddoli ar brosiectau cadwraeth fel Prosiect Adfer y Bele a rhaglen fridio Lyncs Iberaidd mewn caethiwed, neu ar gyfer sefydliadau fel yr RSPB.
Eich blwyddyn mewn diwydiant:
Yn ddi-os, byddwch yn magu hyder, a bydd ennill profiad yn y diwydiant yn ysgogi eich brwdfrydedd am y pwnc.
Bydd cwblhau blwyddyn mewn diwydiant yn eich galluogi:
I gymhwyso'r dysg o'ch cwrs i'r amgylchedd gwaith;
I wneud cysylltiadau yn y diwydiant;
I ddatblygu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â'ch maes astudio;
I gymhwyso eich sgiliau ymarferol a'ch gwybodaeth dechnegol ar ôl dychwelyd i astudio;
I wella eich CV a pharatoi eich hun yn well am swydd ar ôl graddio.
Dylai myfyrwyr ar y cynllun hwn nodi nad oes gan yr athrofa leoliadau awtomatig ar gyfer pob ymgeisydd. Chi fydd yn gyfrifol am ddod o hyd i'r profiad gwaith. Fodd bynnag, bydd Cydlynydd Profiad Gwaith ein hathrofa yn gallu eich cynorthwyo, yn ogystal â'n cynghorydd gyrfaoedd penodedig (James Cuffe, jpc11@aber.ac.uk). Os na fyddwch yn dod o hyd i brofiad gwaith, bydd modd i chi drosi eich cwrs yn fersiwn tair blynedd o'r pwnc yn lle.
Dysgu ac Addysgu
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd pedair blynedd.
Bydd eich blwyddyn gyntaf yn rhoi sylfaen eang i chi mewn bioleg, a hyfforddiant yn y sgiliau sydd eu hangen arnoch i lwyddo yn eich astudiaethau. Bydd y meysydd pwnc yn cynnwys:
Esblygiad ac amrywiaeth bywyd
Ffisioleg anifeiliaid
Gwneud diagnosis o glefydau anifeiliaid a'u rheoli
Fforenseg bywyd gwyllt
Sgiliau astudio a chyfathrebu, a llawer mwy.
Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio modiwlau arbenigol mewn ymddygiad anifeiliaid, ac yn ennill sgiliau gwyddonol hanfodol. Bydd y meysydd pwnc yn cynnwys:
Etholeg, sef astudiaeth wyddonol o ymddygiad anifeiliaid
Gwyddor sw fodern
Iechyd milfeddygaeth
Gweithdrefnau meintiol ac ansoddol dadansoddi data
Dylunio a chynllunio da ar gyfer ymchwil
Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymgymryd â'ch profiad gwaith mewn diwydiant sy'n berthnasol i faes Ymddygiad Anifeiliaid.
Yn eich blwyddyn olaf, bydd y meysydd pwnc yn cynnwys:
Ymddygiad a lles anifeiliaid domestig
Y mecanweithiau ffisiolegol y tu ôl i ymddygiad anifeiliaid
Prosiect ymchwil traethawd hir gorfodol
Modiwlau opsiynol wedi'u dewis o ddetholiad gan gynnwys cadwraeth bywyd gwyllt, pynciau uwch mewn ymddygiad anifeiliaid, a chwrs preswyl; cwrs maes ymddygiad anifeiliaid
Rhagor o wybodaeth:
Cyfosod gwybodaeth o lenyddiaeth wyddonol
Deall ac esbonio goblygiadau datblygiadau mewn pynciau fel parasitoleg
Craffu ar ddata o ran ei ansawdd a'i faint
Ymateb i ddata newydd drwy ymchwilio mewn labordy
Datblygu eich sgiliau ymarferol mewn trin anifeiliaid sy'n ychwanegu at eich gwybodaeth ddamcaniaethol
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Bydd eich cwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd, gweithdai, tiwtorialau ac ymarferion.
Byddwch yn cael hyfforddiant mewn cysyniadau, ymchwil a methodolegau sy'n ymwneud â gwyddor ymddygiad anifeiliaid. Gwneir hyn drwy ymchwil ac arbrofi mewn labordy, yn ogystal â gwaith ymarferol.