BSc

Gwyddor Anifeiliaid

Ar ein gradd Gwyddor Anifeiliaid, byddwch yn astudio’r wyddoniaeth gymhwysol sy’n ymwneud ag anifeiliaid dof, gan gynnwys anifeiliaid fferm, ceffylau ac anifeiliaid anwes. A ninnau’n cynnal yr unig Ysgol Milfeddygaeth yng Nghymru (Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth), mae gennym gyfleusterau rhagorol i gefnogi eich astudiaethau, gan gynnwys ffermydd prifysgol sy’n cael eu rhedeg ar sail fasnachol, canolfan geffylau ar gyfer dysgu, ac amrywiaeth o labordai dysgu ac ymchwil. 

Trosolwg o'r Cwrs

Yn ystod eich astudiaethau byddwch yn datblygu dealltwriaeth o’r fioleg allweddol sy’n ymwneud ag iechyd anifeiliaid dof, gan gynnwys anatomi, ffisioleg, maeth, gwneud diagnosis o afiechydon, ac ymddygiad. Byddwch hefyd yn gallu datblygu diddordeb penodol mewn gwyddor da byw, gwyddor ceffylau, neu wyddor ymddygiadol, trwy ddewis un o dri llwybr y radd. 

Bydd gan eich dealltwriaeth academaidd sylfaen gref yng nghyd-destun ymarferol a chymwysedig gwyddor anifeiliaid, a chaiff ei datblygu ymhellach gan ddarlithwyr gwadd o wahanol feysydd o’r diwydiant gwyddor anifeiliaid. Mae ein staff dysgu hefyd yn weithgar wrth gynnal ymchwil i feysydd milfeddygol megis afiechydon heintus, maeth, ymddygiad atgenhedlu a mwy.  

Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan y Gymdeithas Fioleg Frenhinol. 

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Breeding: Genetics and Reproduction BR25220 20
Maeth Anifeiliaid Fferm, Ceffylau ac Anifeiliaid Anwes BG20720 20
Immunology BR22220 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Veterinary Health BR27120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Behaviour BR21620 20
Cynhyrchu a Rheoli Da Byw BG28020 20
Human, Equine and Canine Exercise Physiology and Locomotion BR25320 20
Cynhyrchu a Rheoli Da Byw BG28020 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Traethawd Estynedig BG36440 40
Veterinary Infectious Diseases BR34120 20
Veterinary Pharmacology and Disease Control BR36820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Behaviour and Welfare of Domesticated Animals BR35120 20
Behavioural Neurobiology BR35320 20
Equine Nutrition and Pasture Management BR35720 20
Equine Stud Management BR32520 20
Gwyddor Cynhyrchu Da Byw BG30820 20
International Animal Health Study Tour BR39220 20
Livestock Production Science BR30820 20

Gyrfaoedd

Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?  

Dysgwch am y gwahanol gyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan y Gwasanaeth Gyrfaoedd a sut y gallwch chi wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda Cynllun Blwyddyn mewn Gwaith (BMG)

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?  

Yn y flwyddyn gyntaf, fe ddysgwch am ffisioleg a bioleg gymhwysol o safbwynt gwyddor anifeiliaid, a fydd yn cael eu hategu gan fodiwlau mewn biocemeg, geneteg ac amrywiaeth microbau. Bydd modiwlau arbenigol yn canolbwyntio ar anatomeg a ffisioleg y ceffyl ac ar effeithiau ymarfer corff a hyfforddiant ar systemau penodol yn y corff ac ar reoli'r ceffyl yn llwyddiannus. Cewch hefyd gyflwyniad i'r prif systemau cynhyrchu anifeiliaid fferm (cig eidion, defaid, da godro, moch, ieir bwyta a dodwy) a chynlluniau’r systemau hynny yng nghyd-destun amaethyddiaeth ym Mhrydain a thrwy’r byd. Darperir sesiynau ymarferol, yn cyfuno sgiliau trin anifeiliaid â hyfforddiant ar gyfer yr arholiadau,  gan roi profiad uniongyrchol o'r technegau a ddefnyddir wrth wneud gwneud diagnosis, pennu triniaethau posib a rheoli'r amgylchedd.  

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn edrych ar gysyniadau allweddol geneteg feintiol a sut y’u defnyddir i gynllunio rhaglenni bridio ar gyfer gwelliannau genetig - o ran perfformiad, iechyd ac ymddygiad - mewn anifeiliaid dof. Byddwch yn edrych ar faeth anifeiliaid a rhinweddau cymharol gwahanol fwydydd a roddir i da byw ffermydd, ceffylau, neu anifeiliaid anwes. Byddwch yn magu dealltwriaeth o ymatebion imiwnedd mewn pobl ac mewn anifeiliaid a drinnir gan filfeddygon, a byddwch yn ymgyfarwyddo â therminoleg filfeddygol a chanllawiau lles ar gyfer gofalu am anifeiliaid sâl a rhai sydd wedi'u hanafu. Cynhelir sesiynau ymarferol ar archwilio anifeiliaid sâl ac ar ddulliau o wneud diagnosis ar glefydau.  

Yn ystod eich blwyddyn olaf byddwch yn astudio ffarmacoleg filfeddygol ac yn magu dealltwriaeth am gyffuriau milfeddygol a’r strategaethau triniaeth gysylltiedig o safbwynt eu biocemeg, eu darganfyddiad, sut y’u defnyddir yn ymarferol, a'r ddeddfwriaeth berthnasol. Byddwch yn dysgu am organebau heintus o safbwynt eu hagweddau biolegol uwch ac ymatebion imiwnedd yr anifeiliaid a heintir ganddynt, gan ganolbwyntio ar rywogaethau anifeiliaid fferm ac anwes. Bydd prosiect ymchwil gorfodol yn rhoi cyfle i chi i wneud ymchwil fanwl ar bwnc priodol o dan arweiniad arolygydd.  Gall eich prosiect fod yn seiliedig ar arbrofion yn y labordy neu ymarferion gwaith maes, ac fe all gynnwys elfen o fodelu cyfrifiadurol neu ddadansoddi data.    

Sut fydda i'n cael fy nysgu?  

Fe’ch dysgir trwy gyfuniad o ddosbarthiadau ymarferol, teithiau maes, grwpiau tiwtora bychain, a darlithoedd rhyngweithiol a fydd yn rhoi gafael cadarn i chi ar y pwnc.  

Asesu  

Cewch eich asesu drwy nifer o ddulliau gan gynnwys traethodau, gweithgareddau ymarferol, cyflwyniadau, adroddiadau labordy, arholiadau, posteri, dadansoddiadau ar borthiant a/neu ymarferion dogni.   

Tiwtor Personol 

  • Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi, a’r person hwn fydd eich prif gyswllt trwy gydol eich astudiaethau. Bydd eich tiwtor personol yno i’ch helpu i ymgartrefu pan fyddwch yn cyrraedd gyntaf, a bydd wrth law i’ch helpu gyda materion academaidd neu faterion personol. 

Tystiolaeth Myfyrwyr

Astudio Gwyddor Anifeiliaid yn Aberystwyth oedd y profiad gorau ges i erioed. Nid yn unig wnaeth y profiad roi cipolwg i fi o'r maes ro'n i am greu gyrfa ynddo, ond fe wnaeth hefyd fy mharatoi ar gyfer bywyd y tu allan i'r Brifysgol. Mae'r modiwlau maetheg, bridio anifeiliaid ac iechyd anifeiliaid, i enwi dim ond rhai, yn codi'n aml yn fy swydd bob dydd. O'r darlithwyr i gynnwys y cwrs, does dim rhan o'r Brifysgol na fy nghwrs nad ydw i'n gweld ei eisiau ac yn edrych yn ôl arno gyda gwên. Sarah - BSc Gwyddor Anifeiliaid. Fformiwleiddiwr Bwyd Anifeiliaid, ForFarmers

Rydw i wrth fy modd ag agwedd ymarferol y cwrs Gwyddor Anifeiliaid, a'r darlithoedd diddorol. Mae gallu dewis llwybr yn golygu bod modd i ni arbenigo ac astudio'r hyn sydd fwyaf o ddiddordeb i ni o'r ail flwyddyn ymlaen. Mae bod yn Aberystwyth yn golygu bod digon o gyfle ar gyfer wyna a gwneud gwaith fferm ochr yn ochr â fy astudiaethau. Lewis Wescott

Mae'r cwrs wedi cynyddu fy ngwybodaeth yn sylweddol. Mae wedi agor llawer o ddrysau ar gyfer rhagolygon fy ngyrfa neu ar gyfer astudio ymhellach. Caitlin Jenkins

Dewisais Brifysgol Aberystwyth oherwydd ei henw ardderchog, yr ystod eang o fodiwlau oedd ar gael, ac oherwydd y cyfleusterau marchogaeth. Rwy'n cofio'r Brifysgol fel cymysgedd wych o fywyd gyda cheffylau, cwrdd â ffrindiau gwych gyda diddordebau tebyg, ac astudio pynciau a oedd yn agos at fy nghalon. Barbara - Rheolwr Masnachol, Iechyd Anifeiliaid ar gyfer Labordai Charles River

Gwneud Gwyddor Anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth oedd penderfyniad gorau fy mywyd – mae wedi fy mowldio i'r person ydw i heddiw. Roedd pawb mor gyfeillgar, ac roedd y cwrs wedi'i osod ar yr union lefel gywir, gyda chyfleusterau gwych o astudio yn y llyfrgelloedd i'r sesiynau ymarferol yn y labordai a'r maes. Helpodd fy nghwrs drwy roi cipolwg i fi o'r diwydiant ffermio, ochr yn ochr â dealltwriaeth ddofn o anatomeg a ffisioleg yr anifeiliaid rydw i'n gweithio gyda nhw bob dydd.

Dawn - Arolygydd Marchnata Wyau ar gyfer Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol (AHVLA), sy'n rhan o DEFRA

A minnau wedi fy magu yn nwyrain Lloegr, doeddwn i erioed wedi bod i Gymru tan i fi ddod i ymweld â Phrifysgol Aberystwyth. Gwerthwyd 'Aber' i fi y diwrnod hwnnw. Nid yn unig roedd y lleoliad yn wirioneddol hardd, ond roedd y cwrs Gwyddor Anifeiliaid yn sefyll allan wrth ymyl prifysgolion eraill ro'n i wedi gwneud cais amdanynt, gan fy ngalluogi i arbenigo mewn meysydd pwnc penodol sy'n addas ar gyfer fy sgiliau a fy niddordebau.

Laura - Ymgynghorydd Maetheg, Dodson and Horrell Ltd

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Bioleg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|