Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan. I ddysgu mwy am y cwcis yr ydym yn eu defnyddio, gweler ein polisi cwcis. Gallwch reoli cwcis trwy osodiadau eich porwr. Trwy barhau i bori'r safle rydych yn cytuno i'n defnydd o gwcis.
Derbyn a Chau.
Gwyddoniaeth gymhwysol anifeiliaid dof, gan gynnwys anifeiliaid fferm, ceffylau ac anifeiliaid anwes, yw Gwyddor Anifeiliaid. Yn Aberystwyth, mae gwyddonwyr anifeiliaid yn astudio maetheg, bridio, ffrwythlondeb, iechyd, ymddygiad, ffisioleg ac anatomeg ystod eang o anifeiliaid dof. Mae ein myfyrwyr yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i gael gyrfa lwyddiannus yn defnyddio'r anifeiliaid hyn bob dydd.
Dyma pam ein bod yn meddwl bod Aberystwyth yn lle gwych i fod yn wyddonydd anifeiliaid!
Staff addysgu angerddol sy'n cynnal ymchwil ym mhob un o feysydd gwyddor anifeiliaid;
Detholiad gwych o fodiwlau yn rhan o'r cwrs, sy'n eich galluogi i ganolbwyntio ar y rhywogaethau sydd o ddiddordeb i chi;
Labordai, ffermydd, canolfan geffylau, acwariwm ac ystafelloedd microsgopeg gwych a modern;
Cyfleoedd i gymryd rhan mewn cyfnewidfeydd tramor;
Amgylchedd sefydliad sydd wedi ennill gwobrau.
Bodlonrwydd Myfyrwyr Cyffredinol a Chanlyniadau Cyflogadwyedd
2ail yn y DU am foddhad myfyrwyr ym maes pwnc Gwyddor Anifieliaid (ACF 2018).
98% o’n graddedigion mewn gwaith a/neu astudiaethau pellach o fewn chwe mis ar ôl graddio, 3% yn uwch na graddedigion y Gwyddorau Biolegol yn genedlaethol, (HESA 2018*)
Trosolwg
Pam astudio Gwyddor Anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth?
Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr brwdfrydig, y mae'n bosib y byddwch eisoes wedi'u gweld ar raglenni dogfen ar y teledu neu eu clywed ar eich hoff raglen radio.
Bydd gennych fynediad at gyfleusterau ceffylau modern sy'n darparu adnoddau addysgol, cystadlu a stablau hurio.
Mae gan gwrs y radd hon strwythur hyblyg, sy'n caniatáu i chi ganolbwyntio ar un o'r meysydd hyn yn yr ail a'r drydedd flwyddyn: Gwyddor Ymddygiadol; Gwyddor Anifeiliaid Fferm; neu Wyddor Ceffylau.
Mae'r Brifysgol yn cynnig dros 1000 hectar o dir amaeth, gan gynnwys ffermydd defaid iseldir ac ucheldir; buches laeth â 500 o wartheg; systemau cynhyrchu cig eidion dwys ac eang a chanolfan geffylau.
Yn amgylchynu campws y brifysgol, mae coetir lleol sydd â thros gant o flychau nythu a chartrefi ar gyfer natur.
O gwmpas Aberystwyth, gallwch archwilio cynefinoedd hardd ar garreg y drws, gan gynnwys y môr, rhostir, mynyddoedd, glaswelltir a'r arfordir, sy'n darparu amrywiaeth o gyfleoedd gwych i chi ar gyfer gwaith maes a hamdden.
Mae bywyd gwyllt lleol yn cynnwys barcutiaid coch a dolffiniaid trwyn potel i enwi ond rhai.
Mae gan yr Adran amgueddfa fendigedig hefyd, sy'n llawn sbesimenau swolegol hanesyddol.
Hoffech chi astudio yn Gymraeg?
Gall myfyrwyr ddewis astudio nifer o fodiwlau IBERS drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae rhagor o wybodaeth ar gael o dan y tab modiwlau!
Ein Staff
Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Athrofa nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.
Modiwlau
Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.
Bydd y radd hon yn caniatáu i chi archwilio gyrfa mewn:
Asesu llesiant anifeiliaid dof;
Defnyddio geneteg i gynyddu effeithlonrwydd rhaglenni bridio ar gyfer anifeiliaid dof;
Maetheg anifeiliaid;
Addysgu, gan gynnwys mewn addysg bellach neu addysg uwch;
Ymchwil ar draws sbectrwm Gwyddor Anifeiliaid;
Cyhoeddi gwyddonol;
Gwaith labordy yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus.
Pa gyfleoedd sydd ar gael am brofiad gwaith wrth astudio?
Cliciwch yma i ddysgu am y gwahanol gyfleoedd y mae tîm Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth yn eu cynnig.
Gallwch wella'ch cyfleoedd cyflogaeth gyda GO Wales a BMG (y cynllun Blwyddyn mewn Gwaith) sy'n cael eu rheoli gan ein hadran Gyrfaoedd.
Beth ydw i'n ei ennill o astudio Gwyddor Anifeiliaid?
Yn ogystal â'r cyrsiau sy'n benodol i yrfa, mae ein gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn dysgu ystod eang o sgiliau trosglwyddadwy i chi, megis arsylwi, ymchwilio, dadansoddi ac ôl-fyfyrio.
Byddwch hefyd yn astudio mewn adran sydd wedi buddsoddi dros £55 miliwn mewn seilwaith o gyfleusterau ar gyfer myfyrwyr.
Mae gan yr adran gysylltiadau agos gyda llawer o gymdeithasau dysgedig megis Cymdeithas Gwyddor Anifeiliaid Prydain, a sefydliadau ymchwil rhyngwladol, sy'n cynnig ffordd wych o rwydweithio gyda'r rhai yn eich maes.
Dysgu ac Addysgu
Beth fydda i'n ei ddysgu?
Bydd y crynodeb isod yn rhoi darlun i chi o'r hyn y gallech ei astudio yn ystod y cynllun gradd tair blynedd.
Yn ystod y flwyddyn gyntaf, byddwch yn archwilio:
Anatomeg a ffisioleg anifeiliaid dof
Systemau cynhyrchu prif anifeiliaid fferm (cig eidion, defaid, llaeth, moch, cywion brwylio ac wyau)
Strwythur celloedd
Biomoleciwlau
Geneteg
Metaboledd
A hyfforddiant mewn sgiliau cyfathrebu ac ymchwil
Yn ystod eich ail flwyddyn, byddwch yn astudio:
Ffisioleg ac anatomeg atgenhedlu mamolaidd yn ymwneud â da byw, ceffylau ac anifeiliaid anwes
Llesiant anifeiliaid
Y system imiwnedd
Bydd gennych opsiwn i ddilyn llwybr ceffylau, da byw neu ymddygiadol, gyda modiwlau sy'n benodol i'r llwybrau hyn
Y deunydd sydd ei angen ar gyfer y traethawd hir yn eich blwyddyn olaf
Cyfle i gynnal cyfnod o brofiad gwaith
Yn ystod eich trydedd flwyddyn, byddwch yn ymchwilio:
Biotechnoleg anifeiliaid
Bridio anifeiliaid
Parasitoleg
Clefydau heintus
Byddwch yn parhau i ddilyn y llwybr o'ch dewis, gyda'i fodiwlau penodol
Cyflawni traethawd hir gorfodol
Sut bydda i'n cael fy addysgu?
Bydd eich cwrs yn cael ei gyflwyno drwy ddarlithoedd, gweithdai, tiwtorialau ac ymarferion.
Byddwch yn cael hyfforddiant mewn cysyniadau, ymchwilio a methodoleg yn ymwneud â gwyddor anifeiliaid. Cyflawnir hyn drwy arbrofi ac ymchwil yn y labordy, ynghyd â gwaith ymarferol.
Byddwch yn cael eich asesu ar ffurf:
Traethodau
Gwaith ymarferol
Cyflwyniadau llafar
Taflenni gwaith
Adroddiadau
Ymarferion ystadegol
Coflenni
Posteri
Portffolios
Wicis
Dyddiaduron myfyriol
Adolygiadau llenyddiaeth
Erthyglau cylchgrawn
Ffeilio llyfrau nodiadau
Arholiadau
Barn ein Myfyrwyr
Astudio Gwyddor Anifeiliaid yn Aberystwyth oedd y profiad gorau ges i erioed. Nid yn unig wnaeth y profiad roi cipolwg i fi o'r maes ro'n i am greu gyrfa ynddo, ond fe wnaeth hefyd fy mharatoi ar gyfer bywyd y tu allan i'r Brifysgol. Mae'r modiwlau maetheg, bridio anifeiliaid ac iechyd anifeiliaid, i enwi dim ond rhai, yn codi'n aml yn fy swydd bob dydd. O'r darlithwyr i gynnwys y cwrs, does dim rhan o'r Brifysgol na fy nghwrs nad ydw i'n gweld ei eisiau ac yn edrych yn ôl arno gyda gwên. Sarah - BSc Gwyddor Anifeiliaid. Fformiwleiddiwr Bwyd Anifeiliaid, ForFarmers
Rydw i wrth fy modd ag agwedd ymarferol y cwrs Gwyddor Anifeiliaid, a'r darlithoedd diddorol. Mae gallu dewis llwybr yn golygu bod modd i ni arbenigo ac astudio'r hyn sydd fwyaf o ddiddordeb i ni o'r ail flwyddyn ymlaen. Mae bod yn Aberystwyth yn golygu bod digon o gyfle ar gyfer wyna a gwneud gwaith fferm ochr yn ochr â fy astudiaethau. Lewis Wescott
Mae'r cwrs wedi cynyddu fy ngwybodaeth yn sylweddol. Mae wedi agor llawer o ddrysau ar gyfer rhagolygon fy ngyrfa neu ar gyfer astudio ymhellach. Caitlin Jenkins
Dewisais Brifysgol Aberystwyth oherwydd ei henw ardderchog, yr ystod eang o fodiwlau oedd ar gael, ac oherwydd y cyfleusterau marchogaeth. Rwy'n cofio'r Brifysgol fel cymysgedd wych o fywyd gyda cheffylau, cwrdd â ffrindiau gwych gyda diddordebau tebyg, ac astudio pynciau a oedd yn agos at fy nghalon. Barbara - Rheolwr Masnachol, Iechyd Anifeiliaid ar gyfer Labordai Charles River
Gwneud Gwyddor Anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth oedd penderfyniad gorau fy mywyd – mae wedi fy mowldio i'r person ydw i heddiw. Roedd pawb mor gyfeillgar, ac roedd y cwrs wedi'i osod ar yr union lefel gywir, gyda chyfleusterau gwych o astudio yn y llyfrgelloedd i'r sesiynau ymarferol yn y labordai a'r maes. Helpodd fy nghwrs drwy roi cipolwg i fi o'r diwydiant ffermio, ochr yn ochr â dealltwriaeth ddofn o anatomeg a ffisioleg yr anifeiliaid rydw i'n gweithio gyda nhw bob dydd.
Dawn - Arolygydd Marchnata Wyau ar gyfer Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Labordai Milfeddygol (AHVLA), sy'n rhan o DEFRA
A minnau wedi fy magu yn nwyrain Lloegr, doeddwn i erioed wedi bod i Gymru tan i fi ddod i ymweld â Phrifysgol Aberystwyth. Gwerthwyd 'Aber' i fi y diwrnod hwnnw. Nid yn unig roedd y lleoliad yn wirioneddol hardd, ond roedd y cwrs Gwyddor Anifeiliaid yn sefyll allan wrth ymyl prifysgolion eraill ro'n i wedi gwneud cais amdanynt, gan fy ngalluogi i arbenigo mewn meysydd pwnc penodol sy'n addas ar gyfer fy sgiliau a fy niddordebau.
Laura - Ymgynghorydd Maetheg, Dodson and Horrell Ltd