BSc

Gwyddor Anifeiliaid (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant)

Gwyddor Anifeiliaid (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant) Cod D307 Dewch i Ddiwrnod Agored Dewch i Ddiwrnod Agored

Ymgeisio Nawr

Ar ein gradd Gwyddor Anifeiliaid (gyda Blwyddyn Integredig mewn Diwydiant), byddwch yn astudio’r wyddoniaeth gymhwysol sy’n ymwneud ag anifeiliaid dof, gan gynnwys anifeiliaid fferm, ceffylau ac anifeiliaid anwes. A ninnau’n cynnal yr unig Ysgol Milfeddygaeth yng Nghymru (Ysgol Gwyddor Filfeddygol Aberystwyth), mae gennym gyfleusterau rhagorol i gefnogi eich astudiaethau, gan gynnwys ffermydd prifysgol sy’n cael eu rhedeg ar sail fasnachol, canolfan geffylau ar gyfer dysgu, ac amrywiaeth o labordai dysgu ac ymchwil.  

Trosolwg o'r Cwrs

Bydd gan eich dealltwriaeth academaidd sylfaen gref yng nghyd-destun ymarferol a chymwysedig gwyddor anifeiliaid, a chaiff ei datblygu ymhellach gan ddarlithwyr gwadd o wahanol feysydd o’r diwydiant gwyddor anifeiliaid. Mae ein staff dysgu hefyd yn weithgar wrth gynnal ymchwil i feysydd milfeddygol megis afiechydon heintus, maeth, ymddygiad atgenhedlu a mwy.  

Mae’r elfen a ddysgir o’r radd Gwyddor Anifeiliaid gyda blwyddyn mewn diwydiant (D307) yn union yr un peth â’r cwrs cyfatebol tair-blynedd, BSc Gwyddor Anifeiliaid (D306). Byddwch yn gwneud eich blwyddyn mewn diwydiant yn eich trydedd flwyddyn, ym Mhrydain neu dramor. Byddwch yn cael arolygaeth ac asesiadau ac fe fydd yn cyfrif tuag at ddosbarth eich gradd. Yn ystod eich blwyddyn mewn diwydiant fe fyddwch yn talu ffi ddysgu lai.  

Mae’r cwrs hwn wedi’i achredu gan y Gymdeithas Fioleg Frenhinol. 

Ein Staff

Mae gan y rhan fwyaf o staff dysgu Adran Gwyddorau Bywyd gymwysterau hyd at safon PhD ac maent yn ymchwilwyr gweithgar. Hefyd, mae gan staff y cyrsiau galwedigaethol gefndir ym myd diwydiant. Mae yn yr Adran nifer fawr o staff sy'n gwneud ymchwil yn unig ac mae'n bosib y bydd y myfyrwyr yn dod i gysylltiad â hwy.

Modiwlau Dechrau Medi - 2025

Noder: Y modiwlau a restrir isod yw'r modiwlau y bwriedir eu cyflwyno ar hyn o bryd yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf ac mae'n bosibl y gallant newid. Maent wedi'u cynnwys yma i roi syniad o strwythur y cwrs.

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Breeding: Genetics and Reproduction BR25220 20
Maeth Anifeiliaid Fferm, Ceffylau ac Anifeiliaid Anwes BG20720 20
Immunology BR22220 20
Dulliau Ymchwil BG27520 20
Veterinary Health BR27120 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Animal Behaviour BR21620 20
Cynhyrchu a Rheoli Da Byw BG28020 20
Human, Equine and Canine Exercise Physiology and Locomotion BR25320 20
Cynhyrchu a Rheoli Da Byw BG28020 20

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Integrated Year in Industry BRS0060 60

Modiwlau Craidd

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Traethawd Estynedig BG36440 40
Veterinary Infectious Diseases BR34120 20
Veterinary Pharmacology and Disease Control BR36820 20

Opsiynau

Teitl y Modiwl Cod y Modiwl Gwerth Credyd
Behaviour and Welfare of Domesticated Animals BR35120 20
Behavioural Neurobiology BR35320 20
Equine Nutrition and Pasture Management BR35720 20
Equine Stud Management BR32520 20
Gwyddor Cynhyrchu Da Byw BG30820 20
International Animal Health Study Tour BR39220 20
Livestock Production Science BR30820 20

Gyrfaoedd

Ar ôl cwblhau blwyddyn mewn diwydiant byddwch yn gallu:  

  • defnyddio’r hyn a ddysgwch ar eich cwrs ym myd gwaith  
  • gwneud cysylltiadau gwerthfawr yn y diwydiant  
  • datblygu sgiliau ymarferol sy'n gysylltiedig â'ch maes astudio  
  • cyfoethogi blwyddyn olaf eich astudiaethau am eich bod yn sylweddoli’n well sut i’w chymhwyso i'ch gyrfa  
  • cyfoethogi eich CV yn sylweddol a chynyddu eich rhagolygon o lwyddiant yn y farchnad swyddi.  

Sylwch nad yw lleoliadau gwaith ar gael yn awtomatig i bob ymgeisydd. Byddwch yn gyfrifol am sicrhau eich lleoliad profiad gwaith eich hun, gyda chefnogaeth ein Cydlynydd Blwyddyn mewn Diwydiant a’r cynghorydd gyrfaoedd i gynyddu eich siawns o lwyddo. Os nad ydych yn llwyddo i sicrhau profiad gwaith, byddwch yn gallu trosi eich cwrs i fersiwn tair blynedd y radd BSc Gwyddor Anifeiliaid. 

Dysgu ac Addysgu

Beth fydda i’n ei ddysgu?  

Yn y flwyddyn gyntaf, fe ddysgwch am ffisioleg a bioleg gymhwysol o safbwynt gwyddor anifeiliaid, a fydd yn cael eu hategu gan fodiwlau mewn biocemeg, geneteg ac amrywiaeth microbau. Bydd modiwlau arbenigol yn canolbwyntio ar anatomeg a ffisioleg y ceffyl ac ar effeithiau ymarfer corff a hyfforddiant ar systemau penodol yn y corff ac ar reoli'r ceffyl yn llwyddiannus. Cewch hefyd gyflwyniad i'r prif systemau cynhyrchu anifeiliaid fferm (cig eidion, defaid, da godro, moch, ieir bwyta a dodwy) a chynlluniau’r systemau hynny yng nghyd-destun amaethyddiaeth ym Mhrydain a thrwy’r byd. Darperir sesiynau ymarferol, yn cyfuno sgiliau trin anifeiliaid â hyfforddiant ar gyfer yr arholiadau,  gan roi profiad uniongyrchol o'r technegau a ddefnyddir wrth wneud gwneud diagnosis, pennu triniaethau posib a rheoli'r amgylchedd.  

Yn yr ail flwyddyn, byddwch yn edrych ar gysyniadau allweddol geneteg feintiol a sut y’u defnyddir i gynllunio rhaglenni bridio ar gyfer gwelliannau genetig - o ran perfformiad, iechyd ac ymddygiad - mewn anifeiliaid dof. Byddwch yn edrych ar faeth anifeiliaid a rhinweddau cymharol gwahanol fwydydd a roddir i da byw ffermydd, ceffylau, neu anifeiliaid anwes. Byddwch yn magu dealltwriaeth o ymatebion imiwnedd mewn pobl ac mewn anifeiliaid a drinnir gan filfeddygon, a byddwch yn ymgyfarwyddo â therminoleg filfeddygol a chanllawiau lles ar gyfer gofalu am anifeiliaid sâl a rhai sydd wedi'u hanafu. Cynhelir sesiynau ymarferol ar archwilio anifeiliaid sâl ac ar ddulliau o wneud diagnosis ar glefydau.  

Yn eich trydedd flwyddyn byddwch yn ymgymryd â’ch profiad gwaith a fydd yn berthnasol i faes Gwyddor Anifeiliaid. 

Yn ystod eich blwyddyn olaf byddwch yn astudio ffarmacoleg filfeddygol ac yn magu dealltwriaeth am gyffuriau milfeddygol a’r strategaethau triniaeth gysylltiedig o safbwynt eu biocemeg, eu darganfyddiad, sut y’u defnyddir yn ymarferol, a'r ddeddfwriaeth berthnasol. Byddwch yn dysgu am organebau heintus o safbwynt eu hagweddau biolegol uwch ac ymatebion imiwnedd yr anifeiliaid a heintir ganddynt, gan ganolbwyntio ar rywogaethau anifeiliaid fferm ac anwes. Bydd prosiect ymchwil gorfodol yn rhoi cyfle i chi i wneud ymchwil fanwl ar bwnc priodol o dan arweiniad arolygydd.  Gall eich prosiect fod yn seiliedig ar arbrofion yn y labordy neu ymarferion gwaith maes, ac fe all gynnwys elfen o fodelu cyfrifiadurol neu ddadansoddi data.    

Sut fydda i'n cael fy nysgu?  

Fe’ch dysgir trwy gyfuniad o ddosbarthiadau ymarferol, teithiau maes, grwpiau tiwtora bychain, a darlithoedd rhyngweithiol a fydd yn rhoi gafael cadarn i chi ar y pwnc.  

Asesu  

Cewch eich asesu drwy nifer o ddulliau gan gynnwys traethodau, gweithgareddau ymarferol, cyflwyniadau, adroddiadau labordy, arholiadau, posteri, dadansoddiadau ar borthiant a/neu ymarferion dogni.   

Tiwtor Personol 

Bydd tiwtor personol yn cael ei neilltuo i chi, a’r person hwn fydd eich prif gyswllt trwy gydol eich astudiaethau. Bydd eich tiwtor personol yno i’ch helpu i ymgartrefu pan fyddwch yn cyrraedd gyntaf, a bydd wrth law i’ch helpu gyda materion academaidd neu faterion personol. 

Gofynion Mynediad Nodweddiadol

Tariff UCAS 120 - 104

Safon Uwch BBB-BCC gan gynnwys B mewn Bioleg

Gofynion TGAU (o leiaf gradd C/4):
English or Welsh, Science and Mathematics

Diploma Cenedlaethol BTEC:
DDD-DDM in a specified subject

Bagloriaeth Ryngwladol:
30-28 with 5 points in Biology at Higher Level

Bagloriaeth Ewropeaidd:
75%-65% overall with 7 in Biology

Mae'r Brifysgol yn croesawu ceisiadau israddedig gan fyfyrwyr sy'n astudio'r Diploma Mynediad i Addysg Uwch neu gymwysterau lefel T, ar yr amod eu bod yn cyflawni'r canlyniadau perthnasol o ran cynnwys y pwnc a'r dysgu. Ni allwn dderbyn Diplomâu Mynediad i Addysg Uwch na lefelau T fel cymhwyster cyffredinol ar gyfer pob cwrs gradd israddedig.
Mae ein polisi derbyn cynhwysol yn rhoi gwerth ar ehangder yn ogystal â dyfnder yr astudio. Dewisir ymgeiswyr ar sail eu teilyngdod eu hunain a gall cynigion amrywio. Os hoffech wirio a yw eich cymwysterau yn gymwys cyn cyflwyno cais, cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Israddedigion am gyngor ac arweiniad.

Yn ôl i'r brig

|